Ymddengys bod un o'r paneli o 'arbenigwyr' a benodwyd gan Edwina Hart i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion economaidd - wedi cryn drafod a doethinebu - wedi dod i'r un casgliad a bron i bawb arall y tu hwnt i Gaerfyrddin a datgan bod y syniad o glwstwr creadigol ar safle Coleg y Drindod yn - wel - gwbl ddiwerth.
Pwysigrwydd ehangach hyn ydi bod y casgliad yn effeithio ar benderfyniad rhyfedd S4C i adleoli ar y safle. Chwi gofiwch i'r sianel ystyried aros ymhle mae hi yng Nghaerdydd, mynd i'r Egin ar safle Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin neu ddod i safle'r Galeri yng Nghaernarfon. Llunwyd ceisiadau gan Gyngor Gwynedd a Choleg y Drindod a phenderfynodd S4C ar safle'r Drindod. Roedd hyn yn ymddangos yn rhyfedd i lawer ohonom ar y pryd - mae Caernarfon yn brif ddinas answyddogol i'r Gymru Cymraeg gyda degau o filoedd o Gymry Cymraeg naturiol - gwylwyr S4C yn byw oddi fewn i radiws o ddeg milltir, ac mae hefyd yn ganolfan i'r diwydiant teledu. Roedd cais Cyngor Gwynedd hefyd yn mynd cryn dipyn ymhellach na'r amod o fod yn 'gost niwtral' i S4C - neu mewn geiriau eraill roedd y sianel yn cael uffern o fargen dda.
Ta waeth - symud i fyny'r M4 i Gaerfyrddin oedd penderfyniad y sianel - a chafwyd cryn dipyn o sbloets a dathlu yn y Drindod. Beth bynnag, dechreuodd pethau syrthio'n ddarnau yn weddol sydyn. Ymddengys bod cynllun ariannol cais y Drindod yn cymryd bod grantiau ar y ffordd o Ewrop - ond dydyn nhw ddim. Chwythwyd twll gwerth £4m i £6m yn y cynllun - ond mae'n ymddangos bod y Drindod wedi addo dod o hyd i'r pres ychwanegol hyd yn oed os nad oedd y grant o Ewrop ar gael. Dydyn nhw heb wneud hynny eto - ond maen nhw wedi gofyn ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i lenwi'r twll. Mae'n amhosibl gweld y cais hwnnw'n cael ei ganiatau yn wyneb adroddiad heddiw.
Gwnaed cais hefyd i S4C dalu rhent o flaen llaw - £3m o rhent a bod yn fanwl gywir - ac yn rhyfeddol cytunodd y sianel i wneud hynny. Rwan dydan ni ddim yn gwybod os bydd y Drindod yn llenwi'r twll du ariannol o'i adnoddau ei hun, ond os ydi hi mi fydd S4C wedi dod i delerau talu rhent unigryw ac anhygoel er mwyn adleoli i glwstr sy'n cael ei ystyried i fod ag unrhyw fudd ieithyddol, addysgol na chymdeithasegol ynghlwm gan banel sy'n cynghori Llywodraeth Cymru.
Fedra i ddim meddwl am gymaint ag un rheswm pam y dylai S4C wahanu a £3m o dan yr amgylchiadau hyn. Mae'r holl beth yn hollol boncyrs.
Trist gweld Blog Menai yn debyn sylwadau 'di-duedd' Ron Jones Tinopolis fel efengyl.
ReplyDeleteWrth gwrs does gan Tinopolis ddim oll i'w golli o greu adnoddau teledu yn yr Egin. Falle fod Adam Price yn deall y sefyllfa'n well na Cai bach plwyfol?