Yn ol y stori 'dydi'r Theatr Genedlaethol - sydd wedi ei leoli ar hyn o bryd mewn adeilad cyfagos - ddim yn bwriadu symud i'r Egin oherwydd 'diffyg lle addas'.
Rwan, ar yr olwg gyntaf 'dydi hon ddim yn edrych fel fawr o stori, ond o ail ystyried efallai ei bod hi. Y syniad efo 'r Egin ydi creu clwstwr o ddiwydiannau 'creadigol' ar safle Coleg y Drindod. Ond hyd y gwyddom, unig denant y datblygiad arfaethedig hyd yn hyn ydi S4C - ond ymddengys nad oes lle i denant newydd - hyd yn oed un sy'n sicr yn 'greadigol' a sydd ddim angen llawer iawn o le. 'Dydw i erioed wedi clywed am glwstwr sydd ond ag un cydadran o'r blaen.
Dwi'n siwr bod yna eglurhad rhesymegol - ond fedra i ddim yn fy myw a meddwl am un. Oes gan unrhyw un awgrym?
No comments:
Post a Comment