Thursday, June 30, 2016

Cyfle rhy dda i'w golli.

Felly mae'r Blaid Doriaidd yn wynebu etholiad mewnol chwerw gyda'r triciau budur, cynllwynio a bradychu arferol.  

Mae'r Blaid Lafur mewn cyflwr o ryfel cartref agored gyda phosibilrwydd gwirioneddol y gallai hollti'n ddwy  blaid fel y gwnaeth yn y gorffennol. 

Mae'r Dib Lems wedi diflanu i'r fath raddau nes bod gan Plaid Cymru fwy o wleidyddion proffesiynol, etholedig yng Nghymru na sydd gan y Dib Lems trwy'r Deyrnas Unedig.

Mae sicrwydd yr ychydig ddegawdau diwethaf wedi ei daflu i'r pedwar gwynt.  Mae'r ychydig flynyddoedd nesaf yn ymddangos yn rhyfeddol ansicr.  Mae'r drefn bleidiol sydd wedi goroesi am bron i ganrif ac ymhell wedi i'r tirwedd cymdeithasegol ac economaidd a roddodd fodolaeth iddi gilio i niwloedd hanes yn gwegian. Ac mae'n hynod debygol y bydd etholiad cyffredinol yn yr hydref - etholiad a gaiff ei chynnal gydag anhrefn a ffraeo mewnol y ddwy blaid fawr unoliaethol yn gefndir iddi.

Ni fu erioed well cyfle i dorri'r gyfundrefn etholiadol sydd gennym ar hyn o bryd - ac mae pleidiau sy'n ymddangos yn unedig, yn drefnus ac yn gytun mewn sefyllfa hynod gryf i wneud hynny.  


Monday, June 27, 2016

Ar fewnfudwyr o Loegr mae'r bai?

Dwi wedi clywed sawl un ers nos Iau yn beio mewnfudwyr o Loegr am ganlyniad refferendwm Ewrop yng Nghymru.  Rwan mae'n wir fy mod i mewn blogiad blaenorol wedi dangos bod peth perthynas rhwng lefelau mewnfudo o Loegr a thueddiad i bleidleisio i Adael yng Ngwynedd.  Ond fel y dywedais yn y blogiad hwnnw - Gwynedd ydi Gwynedd - mae'n gwneud ei pheth ei hun yn etholiadol.  

O edrychach yn ehangach mae yna stori wahanol.  Wrth ochr yr enwau siroedd isod mae dau ganran.  Y ganran o boblogaeth y sir a anwyd yn Lloegr ydi'r cyntaf, y ganran a bleidleisiodd tros adael yr Undeb Ewropiaidd ydi'r ail.  

Ynys Mon - 28.8% / 50.9%
Gwynedd - 27.4% / 41.9%
Conwy - 39.7% / 54%
Dinbych - 36.3% / 54%
Fflint - 44.3% /56.4%
Wrecsam - 23.4% / 59%
Powys - 44.7% / 53.7%
Ceredigion - 37.4% / 45.4%
Penfro -27% / 57.1%
Caerfyrddin 18.9% / 53.7%
Abertawe - 14.1% / 51.5%
Castell Nedd Port Talbot - 9.7% / 56.8%
Pen y Bont - 12.2% / 54.6%
Bro Morgannwg - 18.5% / 49.3%
Caerdydd - 16.9% / 40%
Rhondda Cynon Taf - 8.2% / 53.7%
Merthyr Tydfil - 6.4% / 56.4%
Caerffili - 8.4% /  57.6%
Blaenau Gwent - 7.1% / 62%
Torfaen - 11.3% / 59.8%
Mynwy - 33.5% / 49.6%
Casnewydd - 12.7% / 56%

Mae yna bump sir lle ganwyd llai na 10% yn Lloegr.  Pleidleisiodd 52.5% yng Nghymru tros adael y DU.  Mae'r ganran a bleidleisiodd i Adael yn uwch na'r cyfartaledd hwnnw ym mhob un o'r siroedd hynny - yn sylweddol felly mewn pedwar ohonynt.

Mae nhw i gyd ag eithrio RCT gyda chanran uwch eisiau Gadael na Dinbych, Fflint a Chonwy - tair sir sydd a mwy na thraean eu poblogaeth wedi eu geni yn Lloegr.  Mae nhw i gyd - gan gynnwys RCT - efo canran uwch na Cheredigion, Mynwy a Phowys.  Mae mwy na thraean o bobl y siroedd hynny wedi eu geni yn Lloegr hefyd.  

Mae pedair o'r bum sir a bleidleisiodd i Aros efo canran llawer uwch o bobl sydd wedi eu geni yn Lloegr yn byw ynddynt na chymedr Cymru.  Caerdydd ydi'r eithriad.  

Mae trosglwyddo bai yn un o'r nodweddion cenedlaethol Cymreig lleiaf dymunol.  Dydi trosglwyddo bai  am ganlyniad Cymru ar Saeson o ddim cymorth i neb.  Ni fel Cymry bleidleisiodd tros adael ddydd Iau. Os ydym i symud ymlaen o'r smonach yma mae'n bwysig ein bod yn deall a derbyn hynny.

Sunday, June 26, 2016

Ymateb cynnes gan aelodau a chefnogwyr Llafur i ymddiswyddiad Chris Bryant















































Gwenwyn

Felly ymateb Llafur i'r argyfwng sydd wedi codi yn sgil canlyniad refferendwm ddydd Iau ydi cael rhyfel cartref.  Canlyniad hynny yn ei dro ydi gadael y DU heb wrthblaid sy'n gallu gweithredu mewn cyfnod lle mae'r llywodraeth ei hun mewn argyfwng a phrin yn weithredol.

Canlyniad hyn oll ydi nad ydi'r llywodraeth yn dangos unrhyw arwydd eu bod yn gwybod sut i ymateb i'r hyn sydd wedi digwydd, a dydi'r brif wrthblaid ddim mewn sefyllfa i ymateb chwaith.  Mae'n fwy na thebyg bod y coup wedi ei gynllunio ymhell cyn y refferendwm - a does yna ddim tystiolaeth uniongyrchol bod angen etholiadol i newid pethau - mae'r unig bol piniwn i'w gymryd wedi'r refferendwm yn awgrymu mai'r Toriaid ac nid Llafur oedd yn dioddef yn sgil canlyniad y refferendwm.  

Mae sefyllfa'r blaid bellach yn anobeithiol.  Os ydi Corbyn yn aros bydd yn wynebu etholiad cyffredinol yn yr hydref gyda'i awdurdod oddi mewn y blaid wedi ei ddryllio.  Os bydd yn gorfod mynd, yna bydd trwch actifyddion y blaid wedi eu pechu a'u dadrithio.

Mae'r Blaid Lafur yn wenwynig ar hyn o bryd - ac mae'n endid i'w osgoi'n llwyr.  Mae gwenwyn yn berygl i bawb sy'n dod i gysylltiad a fo.

Lle'r ydan ni hyd yn hyn

Friday, June 24, 2016

Patrymau pleidleisio Gwynedd ddydd Iau - a'r hyn maent yn eu dweud am weddill Cymru

UUn o'r ychydig bethau da i ddeillio o ganlyniad refferendwm Ewrop y diwrnod o'r blaen ydi ei fod am ddarparu  llwyth o ddeunydd blogio am gyfnod i ddod.  Mae'r tirwedd gwleidyddol wedi newid yn llwyr, a bydd pob math o oblygiadau i hynny - llawer ohonynt yn amhosibl i'w darogan ar hyn o bryd.  

Ond cyn gwneud hynny, efallai y byddai'n syniad cael cael golwg ar yr hyn ddigwyddodd y diwrnod o'r blaen yn y canolfannau cyfrif.  Fedra i ond gwneud hynny yn fanwl yng Ngwynedd - ond efallai bod patrymau ehangach i'w gweld o'r hyn ddigwyddodd yma.  

Mae'n arfer gan bleidiau gwleidyddol i fonitro'r pleidleisiau fel maent yn cael eu didoli yn y canolfannau pleidleisio.  Fel rheol dydi'r wybodaeth fanwl byth yn cael ei datgelu oherwydd bod gwybodaeth  yn rhoi mantais strategol i'r sawl sydd efo'r wybodaeth honno - gwybodaeth y gellir ei ddefnyddio yn yr  etholiad canlynol.  Fydd yna byth refferendwm Ewrop arall, felly does yna ddim rheswm i guddio'r wybodaeth.  Mae'r holl wybodaeth manwl y byddaf yn cyfeirio ato isod wedi ei gasglu a'i goledu gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru Gwynedd.

Bydd rhaid i mi roi pwt o eglurhad i'r sawl ohonoch sydd ddim yn adnabod eich Gwynedd, fel rydan ni'n mynd yn ein blaenau, ond pwt bach cyffredinol ar y cychwyn.  

Mae'r sir wedi ei hadeiladu o dri hen gyngor dosbarth - Arfon yn y Dwyrain, Dwyfor yn y Gorllewin a Meirion yn y De.  Ag eithrio ardal Bangor, Arfon ydi'r ardal Gymreiciaf o ran iaith gyda llawer o'i chymunedau efo mwy nag 80% yn siarad y Gymraeg.  Mae'n ardal drefol a maestrefol yn bennaf.  

Mae Dwyfor i'r Gorllewin i Arfon, ac mae'n llawer mwy gwledig a rhywfaint yn llai Cymraeg o ran iaith nag Arfon - y norm ydi cymunedau gyda'r gyfradd siarad Cymraeg yn y 70%au - er bod cymunedau cryn dipyn llai Cymreig ar hyd arfordir deheuol y penrhyn. 

Mae Meirion hefyd yn wledig yn bennaf, er bod ardal Blaenau Ffestiniog yn ol ddiwydiannol ac yn fwy tebyg i ardaloedd chwarel Arfon yn gymdeithasegol nag i Feirion a Dwyfor.  Mae Gogledd A Dwyrain Meirion yn debyg i Ddwyfor yn ieithyddol, tra bod De Meirion yn llawer mwy Saesneg o ran iaith gyda niferoedd sylweddol o fewnfudwyr o Loegr yn ardaloedd y Tywyn a'r Bermo. 

Mi wnawn ni ddechrau yn Arfon ar lannau'r Fenai.  Ward Menai, Caernarfon oedd un o'r ardaloedd efo'r bleidlais Aros uchaf, gyda 75% eisiau gwneud hynny.  Un o'r canrannau uchaf yng Nghymru.  Dwi'n byw ym Menai fel mae'n digwydd.  Mae'n ardal cymharol gyfoethog, Gymraeg ei hiaith sydd efo llawer o bobl sydd wedi cael addysg prifysgol.  Mae'r boblogaeth hefyd yn un cymharol hen.  Mae Menai hefyd wedi bod yn gaer etholiadol i Blaid Cymru am ddegawdau. 

Caer etholiadol mwy diweddar i'r Blaid ydi Ogwen (pleidleisiodd 78% tros y Blaid yn etholiad Cynulliad 2016).  Pentre Bethesda ydi Ogwen - pentref mawr difreintiedig ac ol ddiwydiannol, Cymraeg ei iaith ar eithafion dwyreiniol y Wynedd Gymraeg.  Roedd 70% eisiau aros.  Roedd y canrannau yn uchel yng ngweddill Dyffryn Ogwen ac yn y pentrefi mawr maestrefol o gwmpas Caernarfon - Llanrug, Bethel, Bontnewydd ac ati.  Mae'r llefydd yma yn Gymraeg eu hiaith - ond roedd dwy ward Cymraeg eu hiaith yn Arfon lle'r oedd pethau'n agos iawn - Peblig (stad tai cymunedol sylweddol Sgubor Goch) a Phenygroes.  

Dydi Bangor ddim yn Gymraeg ei hiaith at ei gilydd, a phleidleisiodd un ward i adael - ond ddim o llawer - Marchog - stad tai cymunedol Maesgerchen yn bennaf.  Roedd yr wardiau eraill a gyfrwyd yn soled  o blaid Aros.

Yn y cyfamser ym mhellafion deheol y sir roedd pethau'n dra wahanol.  Yn y Friog 23% bleidleisiodd i aros a  34% yn Nhywyn.  Mae'r ardaloedd yma yn Ne Meirion, ac mae canran uchel o'u poblogaeth gyda'u gwreiddiau y tu allan i Gymru.  Roedd y bleidlais yn well mewn rhannau eraill o Dde Meirion, ond yr ochr Gadael oedd yn ennill.  

Roedd pethau'n well i Aros yng Ngogledd a Dwyrain Meirion - ond ddim yn agos cystal ag Arfon, er bod ambell i le efo canrannau Aros uchel iawn -Llanuwchllyn yn 78%, y Bala yn 6o%, Penrhyndeudraeth yn 63%, Tanygrisiau yn 61% er enghraifft.  Ond eithriadau oedd y rheiny - yn y 50au neu ychydig yn is oedd canran y rhan fwyaf o wardiau.  Does yna ddim llawer o amheuaeth i'r ochr gadael ennill y dydd ym Meirion - ond ddim  gyda mwyafrif mawr.

Roedd Dwyfor yn debyg i Ogledd a Dwyrain Meirion o ran patrymau pleidleisio.  Pethau'n agos iawn mewn trefi bychain fel Pwllheli a Phorthmadog, pethau'n well mewn llefydd mwy gwledig gan amlaf -  Llanor yn 74% er enghraifft a Botwnnog yn 71%. Ond y 50au oedd y norm - gydag ambell i le yn y 40au - Edern, Morfa Bychan, Rhiw er enghraifft.  Ond yn gyffredinol mae'n debyg i Dwyfor bleidleisio tros aros - ffigwr yn y 50au cynnar o bosibl.  Byddwn yn meddwl bod etholaeth Meirion / Dwyfor yn agos  - ond yn pleidleisio i Aros.

Rwan mae'r patrymau yma yn gymhleth - ac efallai nad ydi hi'n syniad gwych dod i gasgliadau ehangach o batrymau Gwynedd.  Mae gan Wynedd ei gwleidyddiaeth unigryw ei hun - ond mi geisiwn ni beth bynnag. 

Roedd y gefnogaeth i aros yn gryf ar hyd y Fenai o Gaernarfon i Fangor.  Mae llawer o bobl yn byw yn yr ardal yma, mae yna lawer o swyddi ac mae yna ddosbarth proffesiynol cymharol fawr.  Roedd hefyd yn gryf yn y pentrefi o gwmpas y Fenai sy'n darparu Caernarfon a Bangor efo llawer o'u gweithlu.  Oddi mewn i'r ardal yma roedd perthynas rhwng bod yn ddosbarth canol a phleidleisio tros Aros (Aros yn gryf ym Menai C/fon a Phenrhosgarnedd), efallai bod rhywfaint o berthynas rhwng iaith a phatrymau pleidleisio - ond dydi o ddim yn glir, ac mae'n rhaid dweud bod perthynas cymharol agos rhwng ardaloedd sy'n gefnogol i Blaid Cymru a thueddiad i fod eisiau Aros.

Fel rydym yn symud i'r Gorllewin rydym yn mynd i fyd mwy gwledig - ac i fyd sy'n  llai ffyniannus yn economaidd.  Mae llawer o bobl o Ddwyfor yn cymudo i 'r dwyrain i weithio - byddaf yn eu pasio yn y car pob bore a phrynhawn - fi ydi un o'r ychydig bobl sy'n  cymudo'r ffordd arall.   Mae'r gefnogaeth i Aros yn syrthio hefyd - ond ceir mwyafrif o hyd.  

Mae Dwyfor yn llawer mwy gwledig nag Arfon, mae yna llawer llai o wasanaethau a chyfleoedd gwaith yno, mae ei phentrefi'n tueddu i fod yn llai Cymraeg o ran iaith na phentrefi Arfon, ac mae yna fwy o fewnfudo o'r tu allan yno.  

Mae patrymau Gogledd Meirion yn debyg iawn i rai Dwyfor.  O symud i lawr ymhellach i Dde Meirion mae yna wahaniaethau mawr - mae'n llawer mwy Saesneg o ran iaith, mae yna lawer o fewnfudo o Loegr yno, ac mae rhai o'r cymunedau arfordirol yn teimlo mwy fel Clacton na Chaernarfon.  Mae'r ardal hefyd yn wledig iawn, ychydig o gyfleoedd gwaith sydd yna, mae'r boblogaeth yn hen ac mae gwasanaethau cyhoeddus yn brin.  Yn Ne Meirion oedd y bleidlais Aros ar ei hisaf - o ddigon.  Mae'n debyg i Dde Meirion sicrhau i'r rhanbarth yn ei gyfanrwydd bleidleisio i Adael.  

(Diweddariad - wedi ail edrych ar y data, dwi wedi newid fy meddwl am Feirion -dydi'r data ddim yn gyflawn, ond dwi'n meddwl bellach bod Meirion wedi pleidleisio i Aros  - ac nad oes llawer o wahaniaeth rhwng Dwyfor a Meirion yn ei gyfanrwydd - yn Tywyn, Bermo a'r Friog mae'r ffigyrau yn isel iawn - mae nhw'n well mewn lleoedd fel Y Ganllwyd ac Aberdyfi.  Mae data Meirion yn llai cyflawn na data'r ddau ranbarth arall gyda llaw). 

Reit, beth ydi'r patrymau cyffredinol?  Mae'n  debyg bod patrwm ieithyddol gwan.  Cymharol ychydig o ardaloedd sydd a chanrannau o fwy na 70% yn siarad Cymraeg sy'n pleidleisio i adael - er bod yna rhai.  

Ceir perthynas cryfach  rhwng bod yn gymharol gyfforddus yn ariannol a bod eisiau Aros -  mae yna fwy o fewnfudo i Borthygest na Phwllheli - ac roedd yna fwy eisiau Aros ym Morthygest.  Mae yna fwy o bobl di Gymraeg yn Abersoch nag i Edern, ond roedd mwy eisiau Aros ym Abersoch nag yn Edern.   Mae Abersoch a Borthygest yn Seisnig ac yn gyfoethog.  

Mae yna gysylltiad cryf hefyd efo lefelau mewnfudo (mae Bangor yn gymharol Saesneg o ran iaith, ond mae mwyafrif llethol ei thrigolion parhaol wedi eu geni a'u magu yng Nghymru - nid yw hynny 'n wir am y Dywyn Saesneg -  mae'n llawn mewnfudwyr o Loegr).  Ond eto, nid yw'n berthynas gwbl gyson -  does yna ddim llawer o bobl wedi eu geni y tu allan i Gymru ym Mhwllheli - ond roedd pethau'n agos iawn yno.

Fel dwi wedi nodi, mae yna berthynas cryf rhwng cefnogaeth i Blaid Cymru a thueddiad i fod eisiau Aros yn Arfon, ond dydi fy ngwybodaeth am union batrymau pleidleisio Meirion / Dwyfor ddim digon da i ddod i ddyfarniad ynglyn a hynny yno - ond ni fyddwn yn synnu petai perthynas felly - ond un gwanach nag yw yn Arfon.  

Ond dwi'n meddwl ei bod yn eithaf clir mai argaeledd gwasanaethau ac yn fwy arbennig cyflogaeth ydi'r ffactor pwysicaf sy 'n gyrru pobl i bleidleisio i Aros yng Ngwynedc, ac mae cyfoeth cymharol yn ffactor cryf hefyd - a thueddiad i bleidleisio i Blaid Cymru yn Arfon o leiaf.  

Ceir dylanwadau eraill - iaith, pam mor wledig ydi cymunedau - ond ffactorau economaidd ydi'r rhai pwysicaf - ac mae'n debyg bod gwleidyddiaeth creiddiol pobl yn cael dylanwad hefyd - cenedlaetholdeb Gwynedd sydd wedi ei gwneud yn wahanol i gynifer o siroedd eraill Cymru.

Ceir adlewyrchiad llawer mwy o'r hyn ddigwyddodd yng Ngwynedd yn Ne Ddwyrain Cymru.  Roedd Caerdydd yn soled tros Aros.  Ceir llawer o waith a gwasanaethau yng Nghaerdydd - yn ogystal ag ardaloedd cefnog iawn.  Roedd yr ardaloedd sydd gyda llawer llai o waith ond sy 'n darparu Caerdydd efo llawer o 'u gweithlu yn pleidleisio i Adael.  Fel rydym yn mynd yn bellach o Gaerdydd mae'r canrannau sydd am Aros yn syrthio.  Mae'r patrwm mewnfudo yn groes yn y De Ddwyrain i 'r hyn yw yng Ngwynedd - mae yna lawer o fewnfudo o'r tu allan i Gymru i Gaerdydd, does yna nemor ddim i Flaenau Gwent. 

Yng Ngwynedd a'r De Ddwyrain fel ei gilydd mae'r sawl sy 'n byw mewn cymunedau sy'n mynd yn llai hyfyw, sy'n colli eu gwasanaethau, sy'n colli ei raison d'etre yn aml - yn ymateb trwy bleidleisio yn erbyn y status quo.  Mae'r cymunedau sydd wedi sugno cyflogaeth ac amddiffyn eu gwasanaethau yn fwy tueddol i bleidleisio tros y status quo.  

Petaem eisiau defnyddio term technegol am y status quo hwnnw, efallai mai neo ryddfrydiaeth fyddai'r term priodol.  Neo ryddfrydiaeth sydd wedi arwain at erydiad economaidd llawer o gymunedau, a neo ryddfrydiaeth sydd wedi arwain at y llymder sydd wedi gwneud sefyllfaoedd drwg yn llawer, llawer gwaeth.  Rwan, ni fyddai 'n wir honni nad ydi'r Undeb Ewropiaidd yn ddim oll i'w wneud a neo ryddfrydiaeth na llymder - y gwrthwyneb sy'n wir.

Ond nid yr Undeb Ewropiaidd sy'n gyfrifol am neo ryddfrydiaeth na llymder ym Mlaenau Gwent nag yn Nhywyn chwaith.  Neo ryddfrydwyr Llafur a Thoriaidd yn San Steffan sy'n gyfrifol am hynny.  Bydd canlyniad y refferendwm - yn ogystal a grymoedd economaidd eraill sydd ar waith yn symud gwleidyddiaeth y DU i'r Dde am gyfnod sylweddol - a neo ryddfrywyr fydd yn rhedeg y sioe am gyfnod sylweddol.  

Yn wahanol i'r Undeb Ewropiaidd fydd gan Iain Duncan Smith, Boris Johnson a Michael Gove ddim llawer o ddiddordeb mewn deddfwriaeth sy 'n amddiffyn hawliau cyflogaeth a chymdeithasol, ac yn wahanol i neo ryddfrydwyr yr ochr arall i'r Iwerydd fydd ganddyn nhw ddim llawer o ddiddordeb mewn amddiffyn hawliau'r unigolyn chwaith.  

Nid Blaenau Gwent, nag yn wir Tywyn fydd yn elwa o benderfyniad dydd Iau - yn wir bydd gan eu trigolion gryn dipyn yn fwy diymgeledd mewn degawd nag ydynt ar hyn o bryd.

Diweddariad eto - Mae'n anodd rhoi ffigwr terfynol eto oherwydd na welwyd pob bocs, ac oherwydd nad ydym yn gwybod eto faint o bleidleisiau oedd ym mhob bocs -  ond byddwn yn tybio bod y ganran tros Aros yn Arfon yn y 60au canol, a bod y ganran ym Meirion Dwyfor yn y pumpdegau cynnar.

Sibrydion 7

Mon i bleidleisio i adael o drwch blewyn.

Sibrydion 6

Patrwm clir yng Ngwynedd o lefydd Cymraeg eu hiaith yn fwy tebygol o fotio i aros na rhai mwy Seisnig.

Sibrydion 5

Aros yn debygol o ennill yn Nwyfor - ond nid o gymaint.  Meirion yn agos iawn.

Diweddariad - Meirion yn debygol o bleidleisio i adael.

Sibrydion 4

Dwyfor am bleidleisio i aros - ond ddim o cymaint ag Arfon.

Thursday, June 23, 2016

Sibrydion 3

Arfon yn debygol o fod yn 2:1 tros Aros - ond yn Arfon mae'r bleidlais uchaf Aros yn debygol o fod yng Ngwynedd.

Sibrydion 2

Arfon yn drwm iawn tros aros - ddim ymhell o 70% hyd yn hyn.

Sibrydion

Gwynedd Aros ar y blaen 60/40 ar y pleidleisiau post.

Tuesday, June 21, 2016

Os ydych chi'n cael eich temtio i bleidleisio i adael Ewrop ddydd Iau _ _

_ _ cofiwch pwy fydd yn gwenu fore Gwener os bydd Gadael yn ennill.





























Monday, June 20, 2016

Pam bod poster Farage mor anffodus i'r ochr Gadael?

Mae'r diwrnod yn anffodus wrth gwrs - roedd llofruddiaeth Jo Cox yn cysylltu'r ochr Gadael efo eithafiaeth Adain Dde - ac roedd y poster efo'i adleisiau Natsiaidd yn adgyfnerthu hynny.



Ond mae yna rhywbeth arall hefyd - rhywbeth nad ydym am rhyw reswm yn ei ddarllen yn y cyfryngau prif lif.  

Mae yna leiafrif nid bychan o fewnfudwyr o is gyfandir Asia sy'n ystyried pleidleisio i adael oherwydd nad ydynt yn ystyried ei bod yn deg  bod cyfyngiadau caeth ar fewnfudo o'u gwledydd nhw, tra nad oes cyfyngiad o gwbl ar fewnfudo o'r Undeb Ewropiaidd.  

Mae'r ffaith bod wynebau pawb yn y poster yn dywyll yn dangos yn glir pwy nad ydi'r ochr Gadael yn eu hoffi go iawn.  Mae'n  dangos yr hiliaeth sydd wrth wraidd yr ochr Gadael yn boenus o glir. 

Saturday, June 18, 2016

Pam bod y marchnadoedd betio yn anghytuno efo'r polau?

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod fy mod wedi bod yn gymharol besimistaidd ynglyn a refferendwm dydd Iau.  Un o'r rhesymau am hynny ydi methiant yr ymgyrch Aros i greu dadl gadarnhaol o pam y dylid aros yn yr Undeb, ac un arall ydi symudiad y polau piniwn tuag at yr ochr Gadael.  Mae yna resymau eraill hefyd.

Serch hynny mae'r marchnadoedd betio wedi parhau i awgrymu mai'r ochr Aros fydd yn ennill y dydd. Ar hyn o bryd maen nhw'n awgrymu bod y tebygolrwydd o bleidlais aros tua 70%.  Rwan gall marchnadoedd betio fod yn anghywir - ac maen nhw weithiau.  Ond maen nhw'n fwy tebygol na pholau piniwn o fod yn gywir.  Y rheswm am hynny ydi bod marchnadoedd betio yn ystyried y polau, ond maen nhw'n ystyried amrediad o ffactorau eraill hefyd - ffactorau na all y polau eu hystyried.  Er enghraifft, pan lofruddwyd Jo Cox yn gynharach yr wythnos yma, ymatebodd y marchnadoedd betio yn syth fwy neu lai gan awgrymu tebygrwydd uwch y byddai'r ochr Aros yn ennill.  Mae hynny'n amlwg yn ganfyddiad synhwyrol - ond dydi'r polau cyfredol ddim yn adlewyrchu'r digwyddiad trist hwnnw eto.

Mi fyddwn i'n awgrymu bod y canlynol ymysg y ffactorau ychwanegol i'r polau mae'r marchnadoedd yn eu hystyried.  

1). Roedd y polau ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2015 yn enwog o anghywir.  Does yna neb wedi egluro'r  gwahaniaeth yn llawn - ond y prif reswm mae'n debyg oedd bod gormod o bobl  ieuengach yn y sampl.  Mae pobl ieuengach yn llai tebygol o bleidleisio na phobl hyn mewn etholiadau arferol.  Mae'r cwmniau polau wedi mynd i'r afael a hyn trwy leihau'r nifer o bobl ieuengach yn eu samplau - ond does yna ddim ffordd o wybod i sicrwydd os bydd pobl ieuengach yn llai tebygol na phobl hyn o bleidleisio mewn refferendwm Ewrop.  

2). Mae digwyddiadau cymharol fach yn fwy tebygol o gael effaith ar batrymau pleidleisio mewn refferendwm na mewn Etholiad Cyffredinol.  Mewn Etholiad Cyffredinol mae'r rhan fwyaf o bobl o lawer - mwy na 70% mae'n debyg - yn pleidleisio yn union fel y gwnaethant yn yr Etholiad Cyffredinol blaenorol.  Does yna ddim 'y tro o'r blaen' yn y refferendwm yma.  Dydi'r balast o batrymau pleidleisio blaenorol ddim yn bresenol - ac mae hyn yn gwneud pethau yn fwy anwadal.  Ar ben hynny mae rhai cwmniau polio yn cymryd patrymau blaenorol i ystyriaeth cyn dod i gasgliadau blaenorol.  Dydi hynny ddim yn bosibl y tro hwn.  

3). Mae'r polau eu hunain yn anghyson.  Mae polau ar lein yn tueddu i roi pleidlais uwch i'r ochr Gadael na'r rhai ffon.   Dydi hi ddim yn glir pam bod hyn yn digwydd - ond yn amlwg mae'r polau ar lein, y polau ffon neu'r ddau yn anghywir.

4). Dydi'r polau ddim yn 'gweld' y sawl sydd newydd gofrestru - ac mae yna lawer iawn o bobl felly.  Mae'n debyg i 1.65 miliwn o bobl gofrestru fis diwethaf.  Mae'n debyg i hanner miliwn o bobl gofrestru ar y diwrnod cofrestru swyddogol olaf.  Cofrestrodd tua chwarter miliwn y diwrnod wedyn - wedi i estyniad gael ei ganiatau.  Roedd mwyafrif llethol y bobl hyn yn ifanc - ac mae'r ifanc yn fwy tebygol o lawer i bleidleisio i aros na'u rhieni.

5). Dydi'r polau ddim yn 'gweld' Prydeinwyr sy'n byw mewn gwledydd tramor chwaith.  Caiff Prydeinwyr sydd wedi byw yn y DU yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf bleidlais.  Am resymau amlwg mae'r rhan fwyaf o'r bobl hyn yn debygol o bleidleisio i aros yn Ewrop.  Mae yna tua 5.6m o Brydeinwyr yn byw y tu allan i'r DU.

6). Mae yna hen hanes o ogwydd tuag at y status quo yn nyddiau olaf refferenda.  Mae hyn yn digwydd ym mhob refferendwm bron.

Wednesday, June 15, 2016

Dwy fet ddiddorol

Y ddwy gan Ladbrokes.




Dwi'n meddwl y byddwn i'n mynd am Gaeredin a Stoke on Trent.

Tuesday, June 14, 2016

Ymhle yng Nghymru fydd y bleidlais Aros a Gadael uchaf?

Diolch i Mabon am dynnu fy sylw at y tabl isod - sydd wedi ei gymryd o dabl Prydain gyfan sydd yn ei dro wedi ei goledu o ddata sydd wedi ei goledu o bolau Prydain gyfan.  Mae'r polau wedi symud tuag at yr ochr Gadael ers i'r ffigyrau gael eu casglu - ond maent yn parhau i ddarparu gwybodaeth ddiddorol ynglyn a lle mae'r gefnogaeth i Aros yng Nghymru ar ei gryfaf - ac ar ei wanaf.  

Mae'r patrymau yn weddol amlwg - pedair sir sydd a phrifysgolion mawr ynddynt sydd fwyaf tebygol o aros.  Mae'r siroedd sydd a chanran uchel o Gymru Cymraeg yn byw ynddynt hefyd yn uchel ar y rhestr.  Mae'r Cymoedd dwyreiniol yn isel ar y rhestr - Blaenau Gwent, Merthyr a Thorfaen.  Mae'r dair sir wedi derbyn symiau sylweddol o arian o Ewrop. Mae cefnogaeth i aros yn Ewrop yn gyffredinol gryfach yng ngorllewin y wlad.  Ceir perthynas rhwng cefnogaeth uchel i aros a sector amaethyddol fawr.




Ceir mwy o wybodaeth yma - 

https://medium.com/@chrishanretty/the-eu-referendum-what-to-expect-on-the-night-521792dd3eef#.5ua3dqfak

Dwi ddim yn ddyn Facebook, ond deallaf bod ymdriniaeth ar dudalen Llyr ap Gareth.

Ymddiheuriadau am flerwch y lincs - dwi'n gweithio ar dablet sydd ddim yn cynnig llawer o hyblygrwydd ar Blogger.