Thursday, December 15, 2016

Pam bod Llafur yn parhau i reoli er gwaetha'r holl fethiant?

Mae'n gwestiwn diddorol pam bod y Blaid Lafur yn dal mewn llywodraeth yng Nghymru er gwaethaf methiant parhaus i symud economi Cymru yn ei blaen mewn termau cymharol.  Bydd llywodraethau yn aros mewn grym am gyfnodau hir iawn weithiau (ond ddim yn aml) - ond fel rheol bydd hynny'n digwydd mewn cyd destun o dwf economaidd cyson yn hytrach na'r twf malwen mewn tar sy'n nodweddu Cymru.

Mae sawl rheswm am hyn mae'n debyg, ac un ohonynt ydi nad ar y llywodraeth Lafur mae'r bai i gyd - yn uniongyrchol o leiaf. Yr hyn sydd wrth wraidd tlodi Cymru yn y pen draw ydi'r ffaith nad oes ganddi afael ar y lefrau ariannol allweddol - mewn geiriau eraill oherwydd nad yw'n wlad annibynnol.  Rydym wedi llafurio o dan yr argraff ers canrifoedd mai 'r ffordd orau o symud yn ein blaen yn economaidd ydi trwy adael i wlad arall redeg ein economi - ac mae'n ymddangos nad ydi mynyddoedd di ddiwedd o dystiolaeth nad ydi hyn yn syniad da yn debygol o'n argyhoeddi i ddod i'r casgliad amlwg.

Ond mae Cymru'n tan berfformio o gymharu a phob man arall - Lloegr sydd mewn sefyllfa i droi'r dwr i'w melin ei hun (neu i felin De Ddwyrain eu gwlad o leiaf), yr Alban sydd efo economi bywiog a chyflenwadau sylweddol o olew, ond hyd yn oed Gogledd Iwerddon sydd wedi treulio degawdau yn edrych ar ei strydoedd yn cael eu rhwygo gan ryfel.  Hyd yn oed ag anwybyddu'r gwall creiddiol o gredu bod gwaredigaeth i'w gael gan rhywun arall, mae'n amlwg bod rhaid i lywodraeth sydd wedi bod mewn grym ers 1999 gymryd cyfrifoldeb - ond dydi'r etholwyr heb eu dal nhw'n gyfrifol hyd yn hyn.  Mae yna sawl rheswm am hyn:

1). Yn wahanol i lywodraethau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon dydi'r cyfryngau ddim yn dal y llywodraeth i gyfri.  Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael eu newyddion i gyd bron o Loegr, mae'r wasg Gymreig yn wan iawn ac mae'r cyfryngau teledu a radio yn ofn y Blaid Lafur Gymreig.  Mae Llafur yn cael methu, methu a methu eto, ond dydi'r etholwyr prin hyd yn oed yn cael gwybod hynny.

2). Mae hegemoni hir y Blaid Lafur yng Nghymru wedi arwain at sefyllfa lle mae cyrff cyhoeddus wedi cael eu stwffio efo'u cefnogwyr.  Felly mae cyrff a allai fod yn feirniadol o fetjiannau'r llywodraeth yn tueddu i aros yn ddistaw.  Maen nhw'n rhan o'r un is ddiwylliant methiannus.

3). Mae'r system etholiadol yng Nghymru yn garedig iawn tuag at y Blaid Lafur.  Ym mis Mai cawsant lai na 35% o'r bleidlais, ond 29 o'r 60 sedd.  Gallant lithro'n hawdd o dan 30% a pharhau i fod yn blaid fwyaf.  

4). Mae'r gwrthwynebiad i Lafur wedi rhannu yn weddol gyfartal - yn arbennig felly Plaid Cymru a'r Toriaid ar lefel Cynulliad.  Hyd eleni - pan ddaeth Llafur yn drydydd - roedd gwleidyddiaeth yr Alban yn eithaf binari.  O ganlyniad yn y dyddiau pan roedd Llafur yn rheoli (hyd at 2007) roedd yr SNP yn gallu denu'r bobl hynny nad oeddynt yn arbennig o wleidyddol, ond nad oedd yn hoff o Lafur.  Mae'r bleidlais honno'n mynd i pob cyfeiriad yng Nghymru.

1 comment:

  1. Anonymous3:56 am


    I think the main reason is the failure of Plaid to provide a real alternative. This is my experience over many, many years on the doorstep. While we, probably, mostly agree with the plight of those at Standing Rock, Syrian refugees etc and believe Wales should show solidarity with worthy movements throughout the world, to see the leader of the party banging on about these issues when, without real self-government, her opinions have no weight, is injurious. The ONLY way we can get what we want is to convince Welsh people that they will have a better life in a fully self-governing Wales. This can be done, McEvoy is showing this, but making declarations about global warming to people who cant afford a house in their hometown is not only irrelevant but counterproductive. I am not blaming Leanne.

    ReplyDelete