Mae'r stori ynglyn a'r bygythiadau ar lein i LeanneWood wedi ennyn ymateb rhyfeddol gan Aelod Cynulliad Llafur Llanelli, Lee Waters.
Mewn esiampl eithriadol o whataboutery mae Lee yn cyhuddo Aelodau Cynulliad Plaid Cymru o wneud yr un peth. Bydd y sawl sydd wedi darllen y stori am Leanne yn ymwybodol iddi dderbyn bygythiadau o gael ei saethu a'i threisio. Yn anffodus mae Lee yn gwrthod ymhelaethu nag egluro yn lle yn union y gellir dod o hyd i'r negeseuon sarhaus gan aelodau Cynulliad Plaid Cymru. Tri eglurhad y gallaf feddwl amdanynt a bod yn onest.
1). Nad ydi'r negeseuon yn bodoli a bod Lee yn dweud celwydd.
2). Bod y negeseuon yn wir yn bodoli. Y broblem efo'r eglurhad yma ydi petai'n wir byddai'n sgandal wleidyddol o'r radd flaenaf, ac mae'n anhebygol iawn mai Lee yn unig fyddai wedi sylwi ar y negeseuon. Yn ychwanegol at hynny ni fyddai Lee'n cael unrhyw drafferth i gyfeirio'r sawl sy'n ei holi at y negeseuon sarhaus.
3). Bod Lee yn ceisio cyffelybu beirniadaeth wleidyddol ohono, neu gwestiynau ynglyn ag agweddau o'r hyn mae'n ddweud - ynglyn a lle mae'n byw er enghraifft - efo bygythiadau o drais a llofruddiaeth.
Dewisiwch chi pa un. Dwi 'n mynd am dewis 3 dwi'n meddwl.
Os dwi'n deall yn iawn, yn y Barri mae'r cyfaill hwn yn byw.
Llwyddodd i ennill Llanelli o 300 pleidlais yn yr Etholiad eleni.
Ei gyfeiriad ar gyfer yr etholiad hwn oedd Zealand Street, LLanelli.
Does dim terfyn ar ragrith Plaid Lafur Cymru......
Technical products for industry Brands
ReplyDelete