Tuesday, November 01, 2016

Brexit a'r ymgyrch arlywyddol yn UDA

Gwleidyddiaeth Cymru sy'n cael sylw Blogmenai gan amlaf, ond gan fod gwleidyddiaeth yr UDA yn cael cymaint o sylw cyfryngol ar hyn o bryd dwi'n bwriadu 'sgwennu ychydig o flogiau byr ar y pwnc hwnnw - nid fy mod yn honni i fod yn arbenigwr wrth gwrs. Mi wnawn ni ddechrau efo un dipyn bach yn sensitif - y tebygrwydd rhwng cefnogwyr Trump a chefnogwyr Brexit.



Yn y bon yn y refferendwm Ewrop roedd yr addysgiedig, pobl o gefndiroedd ethnig, yr ifanc, a'r cymharol gefnog yn tueddu i bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropiaidd, tra bod pobl wyn sydd wedi cael llai o addysg - ac yn arbennig felly dynion - wedi tueddu'n weddol gryf i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropiaidd.  Mae'r hollt demograffig yma'n adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn America yn weddol agos.  Mae'r grwpiau demograffig sy'n pleidleisio i Clinton yn debyg i'r grwpiau demograffig a bleidleisiodd tros Aros, tra bod grwpiau demograffig Trump yn debyg i grwpiau demograffig Gadael. 

Rwan, dwi wedi clywed nifer o bobl - a phobl ddylai wybod yn well - yn honni mai mater o ddeallusrwydd ydi'r patrwm yma - bod y deallus yn pleidleisio i Clinton yn yr UDA ac i aros yn Ewrop yn y DU, tra bod yr aneallus yn pleidleisio tros Trump ac i adael Ewrop.  'Dydi'r canfyddiad yma ddim yn un arbennig o ddeallus mae gen i ofn.  

Yr hyn sy'n digwydd yn y bon ydi bod pobl sydd wedi dioddef yn sgil ail strwythuro economiau'r DU a'r UDA tros y degawdau diwethaf yn pleidleisio yn erbyn y newidiadau hynny.  Mae globaleiddio wedi symud diwydiannau cynhyrchu a mwyngloddio i'r Dwyrain, ac wedi gwneud economiau gorllewinol yn rhai sydd wedi eu hadeiladau o gwmpas diwydiannau sy'n gofyn am sgiliau 'meddal' yn hytrach na sgiliau traddodiadol.  Mae sgiliau meddal yn cael eu dysgu mewn coleg yn hytrach nag ar lawr ffatri.  Yn ychwanegol at hynny mae globaleiddio wedi tynnu niferoedd sylweddol o bobl i'r DU a'r UDA sy'n cystadlu am waith.  Gan bod y diwydiannau 'newydd' yn tyfu dydi hyn ddim effeithio'n ormodol ar y sawl sy'n gweithio yn y rheiny, ond mae cystadleuaeth ym marchnad gwaith diwydiannau traddodiadol sydd eisoes yn crebachu, yn cael effaith sylweddol ar y bobl oedd yn gweithio yn y sectorau hynny.

Rwan yn amlwg dydi Brexit ddim am fod yn llesol i'r DU, a ni fyddai arlywyddiaeth Trump ddim yn llesol i'r UDA nag yn wir i weddill y Byd.  Ond mae yna resymeg i bobl sydd wedi dioddef oherwydd agor marchnadoedd tramor bleidleisio yn erbyn endid gwleidyddol (yr UE) sy'n hyrwyddo hynny, neu tros ymgeisydd arlywyddol sydd eisiau lleihau masnach rhyngwladol (Trump).  

Mae cefnogwyr Trump - fel cefnogwyr Brexit - yn pleidleisio yn erbyn rhywbeth sydd wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau.  Yr hyn nad yw'n amlwg iddynt ydi y byddai lleihau masnach dramor yn crebachu economiau'r DU a'r UDA - ac mae gen i ofn petai hynny'n digwydd mai'r union grwpiau hynny fyddai'n dioddef unwaith eto.

8 comments:

  1. Anonymous10:40 pm

    Dadansoddiad treiddgar a deallus - cytuno'n llwyr, ond pe bai rhywun yn mentro dweud y fath beth mewn fforwm mwy cyhoeddus fe fyddai `na grochlefain ein bod yn elitaidd a rhag ein cywilydd ni yn dilorni dealltwriaeth y "dyn cyffredin"

    ReplyDelete
  2. Anonymous3:02 am

    PEIDIWCH A CHYMLETHLU PETHA'N ORMODOL..CAFWYD CANOEDD O FILOEDD EU GWARIO YN ERBYN NPRYDAELBRExIT GANGOLDMANNSACHS..XLINTON NID TRUMP SY'N DERBYN HAELIONI GOLDMANNSACHS..ystyriwch..

    ReplyDelete
  3. Ah, yr Iddewon. Mae yna rhai damcaniaethau cynllwyn sydd byth yn marw.

    ReplyDelete
  4. Anonymous10:38 am

    Nid cenedl mo Goldmann Sachs GS ond corfforaeth..Nhw er enghraifft..gydag eraill.. ddaru sefydlu'r gyfundrefn bondiau benthyg ar gyfer y Groegwyr. (Telerau afreal o ystyried gwariant y Groegwyr)Nhw a hyrwyddodd gwerthu mortgeisiau.fel.cyfrandaliadau tra'n betio ar yr un pryd yn y farchnad ddyfodol yn eu herbyn nhw ar draul y buddsoddwyr a'u prynasant.Cafodd.GS

    Serch hynny cafodd GSachs iawndal aruthrol gan lywodraeth yr UDA ar ol y gyflafan sub.prime. Rhan o fodel busnes GS yw noddi gwleiddyddion a sefydliadau i wladoli a digolledu eu colledion risg ar i lawr.

    ReplyDelete
  5. Mae corfforaethau yn noddi yn unol a'r hyn sydd o fudd iddyn nhw eu hunain. Dyna pam bod y Blaid Geidwadol yn y DU yn derbyn cymaint o bres corfforaethol. Fel yna mae hi wedi bod erioed.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Anonymous9:31 am

      Gwell neu waeth,
      HRClinton sy'n derbyn mwy o arian ymgyrchu gan yr arianwyr y tro'ma. Fe dderbyniodd hi er enghraifft ganoedd o filoedd (man newid o gyfrif swmp a sylwedd eu hymgyrch

      )gan GS i draddodi areithiau. Edrychwch ar gysylltiadau GS mewn penodiadau llywodraethol pwysig gan Clinton Bush ac Obama. Fe gyfrannodd GSgannoedd o filoedd i'r ymgyrch yn erbyn Brexit..Edrychwch at.hen CV Draghi pennaeth banc Ewrob yr E C B. I le aeth Barroso hefyd? Hunan fudd..ie..ond dylanwadau eang ar fwy nag cyfandir..plaid.. ac sefydliad..Mae nhw yn colli o bryd i'w gilydd..ond ddim yn aml..

      Delete
  6. o leiaf mae yna synnwyr cyffredin yn nwr Cwmgiedd! wedi fy mhlesio'n arw gan ddyfarniad yr Uchel Lys bore'ma...ond bydd aelodau seneddol yn dryw i'w hegwyddorion er gwaetha ac yn nannedd barn pleidleiswyr eu hetholaeth a holl sen y wasg boblogaidd?

    Cai, dwi heb fod yn talu sylw'n ddiweddar i'r newyddion. Wyt wedi gweld pôl piniwn yn gofyn i bobl beth a fuasent yn fotio pe taent yn cael ail gyfle?

    ReplyDelete
  7. Dwi'n credu bod y polio sydd wedi bod yn gymysg Wiliam.

    ReplyDelete