BlogMenai.com

Thursday, November 24, 2016

Bendithion Brexit yn pentyru

Ond 'tydi bendithion ein penderfyniad doeth wedi bod yn pentyru tros y dyddiau diwethaf dywedwch?

Bygythiad i fodolaeth prifysgolion a ffioedd uwch.

Safonau byw yn syrthio.

Twll anferth yn y cyfrifon cenedlaethol.

Prisiau bwyd yn dechrau cynyddu yn y siopau.

Arlywydd tebygol nesaf Ffrainc yn dweud y dylai Prydain adael yn gyflym a cholli ei phasbort gwasanaethau ariannol.

Posibilrwydd gwirioneddol na fydd awyrennau'n gallu hedfan allan o Brydain y diwrnod wedi i ni adael yr Undeb.

Sefydliadau ariannol yn dechrau codi pac a mynd.



Ond mae yna un pwt bach o newyddion da.

  Ymddengys bod Farage am ei heglu hi am America a'n gadael ni oll yn y cawl mae wedi gwneud mwy na neb i'w baratoi ar ein cyfer.












Cai Larsen

No comments:

Post a Comment

‹
›
Home
View web version
Powered by Blogger.