Beth bynnag am yr oes sydd ohoni, o safbwynt gwleidyddol mae'n gyfnod diddorol a chyfnewidiol - llawer mwy felly nag a fu mewn unrhyw gyfnod yn ystod fy mywyd i - ac mae'n debyg y bydd y misoedd nesaf yn hynod ddifyr. Mae llu o gwestiynau yn codi am yr hyn sy'n debygol o ddigwydd - dyma'r rhai sy'n fyn nharo fi - yn ogystal ag ambell ymgais ar ateb.
1). A fydd y Blaid Lafur yn hollti?
Ychwanegwch y gwenwyn sydd wedi ei greu gan y gwrthryfel yn erbyn Corbyn, y ffaith y bydd rhaid i'r Chwith fynd ati i gryfhau eu gafael ar y blaid i osgoi i'r shambyls diweddar droi'n ddigwyddiad blynyddol, y gystadleuaeth am seddi yn sgil y newid ffiniau ac mae'n debyg bod hollt yn edrych yn debygol. Yr unig beth mewn gwirionedd sy'n milwrio yn erbyn hollt ydi bod y gyfundrefn etholiadol yn y DU yn ddi drugaredd tuag at bleidiau sy'n hollti. Yn fy marn i fodd bynnag mae hollt o rhyw fath yn llawer mwy tebygol nag i bethau aros fel y maent.
2). Os oes hollt yn y Blaid Lafur Brydeinig a fydd y fersiynau Cymreig ac Albanaidd yn dilyn?
Mae'n bosibl y gallai'r pleidiau pyped yng Nghymru a'r Alban osgoi cwymp - ond mae'n debyg y byddai hynny'n golygu datgan rhyw fath o UDI - neu o leiaf smalio cymryd cam oddi wrth y blaid Brydeinig. Mae Carwyn Jones wedi bod yn ofalus i gadw ei bowdr yn sych, a pheidio datgan cefnogaeth i Owen Smith. Serch hynny bydd yn anodd, mae'r aelodaeth yng Nghymru o blaid Corbyn tra bod yr Aelodau Seneddol - a mwyafrif llethol yr Aelodau Cynulliad - o blaid y gwrth ryfel. Mae'n bosibl y bydd CJ yn cadw pethau at ei gilydd - ond bydd yn anodd iawn - mae'r tensiynau sy'n tanseilio'r Blaid Lafur Brydeinig yn bresenol yng Nghymru hefyd. Mae'n ymddangos hefyd o newyddion heno nad ydi'r Blaid Lafur Brydeinig yn fodlon rhoi unrhyw beth tebyg i'r annibyniaeth y bydd y blaid yn yr Alban yn ei gael - ac felly'n cadarnhau ei record di feth o ddisgrimineiddio yn erbyn Cymru.
Serch hynny does gan Kezia Dugdale ddim llawer o obaith yn yr Alban - mae ei phlaid yn dal i gwympo fel carreg yn y polau piniwn, mae wedi datgan o blaid y gwrthryfel ac o ganlyniad mae'n dra thebygol y bydd her i'w harweinyddiaeth gan gefnogwyr Corbyn yn fuan wedi cyhoeddi canlyniad yr etholiad arweinyddol tros y DU. Mae yna wahaniaeth diddorol hefyd rhwng y sefyllfa yn yr Alban ag yng ngweddill y DU. Mae'r gwrthryfel wedi ei ganoli'n bennaf ar aelodau seneddol. Dim ond un aelod seneddol sydd gan Lafur yn yr Alban, ac mae cefnogaeth y blaid yn isel iawn - dydi hi ddim yn glir bod capasiti yno i greu plaid newydd wrth Corbyn.
3). A fydd UKIP yn hollti?
Mae'r blaid wedi hollti i bob pwrpas yng Nghymru eisoes. Mae'n amlwg bod y blaid ar lefel atweinyddol yn gasgliad o bobl nad ydynt yn hoff o'i gilydd (a dweud y lleiaf), ond sydd wedi llwyddo i rwyfo fwy neu lai yn yr un cyfeiriad yn y blynyddoedd cyn y refferendwm Brexit er mwyn ennill y refferendwm. Dydi'r ddisgyblaeth yna ddim yn bodoli bellach, a gallai pethau syrthio'n ddarnau yn hawdd iawn. Maent yn ymddwyn fel ffuratiaid mewn sach ar hyn o bryd.
Un peth allai wneud pethau'n haws iddynt fyddai cyfaddawdu sylweddol gan lywodraeth y DU yn ystod y negydu i adael yr Undeb Ewropiaidd - yn arbennig felly os bydd cyfaddawdu ynglyn a mewnfudo. Gallant wedyn ddiffinio eu hunain fel y blaid sy'n sicrhau bod ewyllys yr etholwyr yn cael ei barchu. Ond bai bod hyn yn digwydd mae'n anodd eu gweld yn goroesi fel un plaid.
4). Pryd fydd refferendwm ynglyn a dyfodol yr Alban yn cael ei chynnal?
Mae'n sicr y bydd Nifola Sturgeon yn galw refferendwm bellach, ac mae'n sicr y bydd hynny yn digwydd cyn i Brydain adael yr UE, ond wedi i oblygiadau masnachol gwneud hynny ddod yn amlwg. Bydd y broses ffurfiol yn dechrau yn y geanwyn mae'n debyg, felly bydd y refferendwm yn ol pob tebyg yn cael ei chynnal rhwng Medi 2018 a Mai 2019.
5). A fydd llywodraeth y DU yn gwrthod caniatau refferendwm yn yr Alban?
Mae hyn yn bosibl, ond ddim yn debygol. Petai'n digwydd byddai refferendwm 'answyddogol' yn cael ei threfnu gan lywodraeth yr Alban - a byddai'r ochr 'Ia'n' siwr o ennill honno - hyd yn oed o dan amodau heddiw. Byddai hynny'n arwain at argyfwng cyfansoddiadol - a'r peth olaf y byddai llywodraeth Doriaidd ei eisiau ydi rhywbeth felly yn y misoedd anodd fydd yn dilyn ymadawiad y DU a'r UE.
6). A fydd arweinyddiaeth Teresa May yn dod o dan bwysau?
Y broblem fwyaf i Teresa May ydi bod y refferendwm wedi ei gwerthu i raddau helaeth ar yr addewid ei bod yn bosibl i Brydain barhau i fod yn aelod o'r farchnad sengl, ond bod a'r gallu hefyd i rwystro mewnfudo o Ewrop ar yr un pryd. Dydi hynny ddim yn bosibl (nid fy mod yn cwyno - roedd y ddwy ochr yn rhaffu celwydd yn ystod yr wythnosau cyn y refferendwm).
Roedd y sawl oedd am adael yn gwneud hynny am gwahanol resymau, ond waeth i ni fod yn onest ddim - roedd yna gydadran nid bychan o'r glymblaid Gadael yn pleidleisio yn y gobaith o gael gwared o dramorwyr. I'r bobl yma mae atal mewnfudo yn bwysicach na dim arall - ac os ydi gadael y farchnad sengl am arwain at atal mewnfudo, maent yn hapus i dalu'r pris hwnnw.
Ond dydi pawb o'r ochr 'Gadael' ac yn sicr dydi pawb yn y Blaid Geidwadol ddim yn fodlon talu'r pris oherwydd y niwed tymor byr i dymor canolig y bydd y newidiadau yn eu cael ar fasnach (mae'r dyddiau pan y gallai Prydain anfon llongau rhyfel i sicrhau amodau masnachu ffafriol wedi hen fynd i'r pedwar gwynt). Mae hyn yn arbennig o wir am noddwyr corfforaethol y Blaid Doriaidd. Bydd y tyndra rhwng yr adain xenoffobaidd a'r sawl sy'n rhoi ystyriaethau masnachol cyn dim arall yn brif nodwedd i'r llywodraeth yma tros y blynyddoedd nesaf. Gallai hynny arwain at bwysau ar arweinyddiaeth Teresa May - yn arbennig os ydi hi'n ymddangos ei bod yn cyfaddawdu ynglyn a mewnfudo i'r DU.
7). Beth sydd am ddod o'r Dib Lems bach 'na?
Wel, mae'r Dib Lems wedi ennill cryn dipyn o seddi cyngor mewn is etholiadau tros y misoedd diwethaf. Ond wedi dweud hynny dydi eu polio cyffredinol heb wella rhyw lawer. Yn ychwanegol at hynny maen nhw wedi bod yn cael canlyniadau gwael iawn mewn is etholiadau lleol yn ogystal a'r rhai da iawn lle maent yn ennill seddi.
Ac mae hynny'n disgrifio lle mae'r Dib Lems yn eithaf cywir. Lle mae ganddynt is seiledd lleol maent wedi dechrau ail adeiladu a chael llwyddiant lleol. Ond y tu allan i'r ardaloedd hynny maen nhw'n dal a'u traed yn sownd yn y mwd. Ail adeiladu eu cynrychiolaeth mewn llywodraeth leol fyddan nhw am rai blynyddoedd - proses araf, ac un nad yw'n sicr o arwain at lwyddiant cenedlaethol. Ond mae'n rhoi rhywbeth iddyn nhw ei wneud debyg.
8). A fydd Plaid Cymru yn elwa o hyn oll?
Does yna ddim llawer o dystiolaeth eto - ond byddai rhywun yn disgwyl i bleidiau cymharol unedig o safbwynt y refferendwm diweddar elwa o'r anhrefn a'r rhyfela mewnol sydd o'u cwmpas. Mae'r polio diweddar yn eithaf cadarnhaol, ac mae'r is etholiadau cyngor wedi bod yn dda at ei gilydd - er bod y canlyniadau mwyaf trawiadol wedi bod ym mherfedd dir y Blaid. Bydd y polio tros y misoedd nesaf yn ddiddorol - ond y prawf mawr nesaf fydd etholiadau cyngor 2017. Mae gan etholiadau felly eu bywyd eu hunain - a dydyn nhw ddim pob amser yn adlewyrchu'r darlun ehangach - ond mae yna botensial i'r Blaid dorri tir newydd a pharatoi'r ffordd ar gyfer symudiadau sylweddol yn 2020 a 2021.
Dyddiau difyr.
O.N bu bron i mi ag anghofio - 9). Fydd Donald Trump yn ennill yr etholiad arlywyddol yn yr UDA?
Wel gobeithio ddim - rhag ofn y bydd pawb wedi marw o fewn y flwyddyn.
Serch hynny, byddai'n goblyn o hwyl mewn rhyw ffordd grotesg gweld yr uffar gwirion yn ceisio ymgodymu efo gwahanol argyfyngau ac ati. Tybed os ydi hi'n bosibl rhoi'r argraff iddo ar noson yr etholiad ei fod wedi ennill? Yna gallai rhyw gwmni teledu greu set enfawr (byddai'n rhaid cael Ty Gwyn ffug, Pentagon ffug ac ati) a gadael i Donald fynd trwy'r rigmarol o 'reoli'r' wlad. Gallai gwylwyr anfon awgrymiadau ynglyn a'r briff y bydd Donald yn ei gael bob bore - miliwn a hanner o Fecsicans wedi sleifio trwy dwnel o dan y 'wal', Putin wedi cael troedigaeth at Islam ac yn ystyried ymuno ag ISIS, y Ffrancwyr yn gwrthod allforio caws i America ac ati.
Dylai fod yn ymarferiad arloesol mewn Reality TV.
http://www2.politicalbetting.com/index.php/archives/2016/09/21/labours-local-by-election-woes-continue/
ReplyDeleteDruan o'r Lib Dems