Yn y bon mae'n rhestru'r Cymry hynny sydd - yn ol ei dystiolaeth ei hun - wedi ei feirniadu fo yn bersonol oherwydd ei safbwynt gwrth Ewropiaidd, yn clochdar bod poblogaeth Cymru wedi cefnogi ei safbwynt o yn hytrach nag un 'gwleidyddion y Cynulliad a'r dosbarth canol sy'n ei swcro'. Ymddengys ei bod yn anarferol i Gwilym fod ar yr ochr fwyafrifol mewn pleidlais o'r fath - sy'n newyddion diddorol. Mae hefyd yn rhoi ei resymau pam ei fod mor wrth Ewropiaidd - biwrocratiaeth, gwrth ddemocratiaeth a'r ffaith ei fod yn credu y dylai'r arian strwythurol sydd wedi dod i Gymru o Ewrop gael ei roi i'r bybl hwnnw ym Mae Caerdydd sy'n cael ei swcro gan y dosbarth canol.
Wnawn ni ddim trafferthu son mwy am yr ystumio myfiol, ond efallai y dylid ymateb i'r 'rhesymau' mae Gwilym yn eu defnyddio tros wrthwynebu Ewrop - wedi'r cwbl ni lwyddodd yr ymgyrch Aros i wneud fawr o joban arni.
Y ffeithiau am fiwrocratiaeth Ewropiaidd ydi'r rhain. Mae'r Undeb Ewropiaidd yn cyflogi 33,000 o firocratiaid, gyda 12,000 o'r rheiny wedi eu lleoli ym Mrwsel. Mae hyn yn swnio'n nifer fawr o bobl - ond dydi o ddim. Mae 'r Deyrnas Unedig yn cyflogi 80,000 o weision sifil i hel trethi yn unig. Mae llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn cyflogi 1.8 miliwn o fiwrocratiaid, mae llywodraeth ffederal yr Almaen yn cyflogi 335,000 o fiwrocratiaid. Mae yna fwy o bobl yn byw yn yr UE nag yn y DU, yr Almaen ac UDA efo'i gilydd.
Mae Gwilym yn honni bod yr holl ddeddfu yn nwylo criw bach o bobl sydd wedi ei henwebu yn hytrach na'u hethol. Rwan - dydi hyn jyst ddim yn wir. Mae'r ffordd mae'r Undeb yn cael ei rheoli yn gymhleth, ond dydi o ddim yn anemocrataidd.
Mae Senedd Ewrop yn cael ei ethol mewn etholiadau sy'n defnyddio dulliau cyfrannol ym mhob gwlad yn Ewrop. Mae pob aelod wedi ei ethol yn ddemocrataidd. Mae yna 751 aelod efo 73 o'r rheiny yn dod o'r DU. Mae'r Senedd yn ethol ei Arlywydd, 14 is Arlywydd a 5 quaestor, a'r rheiny sy'n ffurfio'r corff sy'n llywio'r Senedd.
Mae Arlywydd Cyngor Ewrop yn cael ei ethol gan y 28 llywodraeth sy'n cynrychioli gwledydd yr UE. Mae pob un o'r rheiny wedi eu hethol yn ddemocrataidd. Mae gan pob gwlad yn yr UE sedd ar Gyngor Ewrop.
Mae Arlywydd y Comisiwn Ewropiaidd yn cael ei ethol gan Gyngor Ewrop, ond mae'n rhaid i'r rheiny gymryd i ystyriaeth ganlyniad yr etholiadau Ewrop blaenorol wrth wneud hynny. Mae'n rhaid i Senedd Ewrop wedyn gytuno i 'r Arlywyddiaeth. Jean-Claude Juncker ydi'r Arlywydd cyfredol, a'i blaid (EPP) ydi'r blaid fwyaf yn Senedd Ewrop. Mae'r 27 aelod arall yn cynrychioli pob un o wledydd y DU, ac yn cael eu dewis gan Gyngor Ewrop - mewn cytundeb efo'r Arlywydd.
Cymhleth - ond cwbl ddemocrataidd.
Bydd llawer o bwerau Ewrop mewn perthynas a Phrydain bellach yn dychwelyd i San Steffan. Mae yna lywodraeth fwyafrifol yn San Steffan sydd wedi ennill 36.9% o'r bleidlais, ac mae yna Dy'r Arglwyddi sydd a bron i 800 o aelodau - does yna'r un o'r rheiny wedi cael eu hethol gan neb, ac mae yna nifer ohonynt yn eistedd ar y seddi coch am eu bod yn perthyn i eglwys arbennig - hynny ydi am resymau secteraidd. Ac mae'r wladwriaeth wrth gwrs yn cael ei harwain gan ddynas na chafodd erioed bleidlais gan neb.
Ac wedyn dyna i ni'r pres Ewropiaidd mae Gwilym yn meddwl sydd ar y ffordd i'w annwyl fybl. Mae yna gwyno ymysg Toriaid bod Cymru yn cael ei gor ariannu o drysorlys y DU. Mae gwariant y pen yng Nghymru ymhell tros £1k y pen yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae'n anodd gweld pam y byddai llywodraeth asgell Dde sydd a thrwch ei chefnogaeth etholiadol yn Lloegr yn teimlo'r angen i gyfeirio mwy o bres i Fae Caerdydd ac ychwanegu at yr anghyfartaledd.
Mae Gwilym yn cwyno ar gychwyn ei erthygl bod Rhys Mwyn yn ei alw'n wleidyddol anllythrennog. Os ydi Rhys wedi gwneud y sylw hwnnw, mae'n gwbl gywir.
Cymhleth ond yr cwbl ddemocrataidd? Mae'r ymateb yr UE i sawl refferendwm genedlaethol a gynhaliwyd cyn i ddarpar gyfansoddiad Ewrob droi yn gytundeB LISBON (Pam hynny gyda llaw onid I wyro'r 'NA" I "IE" yn sgil pleidleisiau afreolus o genedlaethol yn hytrach na thraws genedlaethol gan Ffrainc ayb?..Neu.- fel y gwelwyd yn Iwerddon gyda phwyslais anferth mewn ymgyrch i.dddanod y Gwyddelod i fwrw'r bleidlais eto nes elo'r holl beth yn ol y drefn Frwssel yn gymen braf..GWILYM YN NES AT Y NOD AM UNWAITH?
ReplyDeleteO C'mon Cai! Cytuno bod rant Gwilym Owen yn hynod o fyfiol, ond wst ti be, gan y gwirion y ceir y gwir weithiau.
ReplyDeleteHanfod democratiaeth erioed yw bod pobl yn gallu ethol gwleidyddion i weithredu ar eu rhan, ac yna yn gallu eu disodli yn uniongyrchol mewn etholiad os nad ydyn nhw yn cyflawni eu haddewidion. Dydi hyn jest ddim yn bosib gyda'r Undeb Ewropeaidd! Dwi'n synnu bod ti ddim yn gallu gweld union natur y bwystfil, h.y mai nod yr UE yw cael mwy a mwy o rym iddo'i hun doed a ddelo, a gosod un model neo-ryddfrydol yn ei le ar gyfer cyfandir cyfan. Be sy'n ddemocrataidd am hynny?? Ac onid yw'n gwbl groes i'r hyn sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r Mudiad Cenedlaethol erioed, megis neges "Small is Beautiful" chwedl Leopard Kohr?
Dwi'n derbyn dy bwynt di am y wleidyddiaeth asgell-dde sy'n debyg o deyrnasu yn Lloegr bellach, ond mae'r adwaith i hynny yn siwr o gryfhau'r achos cenedlaethol yng Nghymru. Oes, wrth gwrs mae yna heriau mawr o'n blaenau o ran sicrhau arian cyfatebol o San Steffan tan 2020 ac ati. Mae'n rhaid i'r mudiad cenedlaethol godi ei gem yn sylweddol i ymateb i'r heriau hyn, does dim dwywaith am hynny. Ond onid yw'n well credu bod modd i hynny ddigwydd rhagor na pharhau i bregethu och a gwae am ganlyniad y bleidlais? Perig mawr hynny ydi gwireddu'r term Saeseg hwnnw, "Self-fulfilling prophecy" .........
Annodd ymladd yn erbyn blynyddoedd o bropaganda a gwleidyddion o bob lliw yn rhoi'r bai ar Ewrop am bob profediageth a ddaw i'n rhan.
ReplyDeleteAr ôl BREXIT mi geith y deyrnas sydd yn weddill gytundeb lle byddwn yn cael (fatha Norwy a'r Swisdir):
1. Mynediad i farchnad fewnol yr UE..
2. Talu mwy neu lai beth roeddem yn ei dalu cynt er mwyn cael y mynediad hwnnw
3. Symudiad rhydd pobl....
ond dim pleidlais yn sefydliadau'r UE
Democrataidd iawn wir...job Theresa May fydd gwerthu'r botes eildwym yma i bobl Prydain.....
Sgwn i bydd gan San Steffan stumog at hyn? os na fydd, ail referendwm amdani....ys dywed di Lampedusa "Se vogliamo che tutto rimanga come è, bisogna che tutto cambi" (os ydym am i bobeth aros fel mae, rhaid newid popeth)"
Cynllwyn dosbarth canol siwr o fod!!!
Annodd ymladd yn erbyn blynyddoedd o bropaganda a gwleidyddion o bob lliw yn rhoi'r bai ar Ewrop am bob profediageth a ddaw i'n rhan.
ReplyDeleteAr ôl BREXIT mi geith y deyrnas sydd yn weddill gytundeb lle byddwn yn cael (fatha Norwy a'r Swisdir):
1. Mynediad i farchnad fewnol yr UE..
2. Talu mwy neu lai beth roeddem yn ei dalu cynt er mwyn cael y mynediad hwnnw
3. Symudiad rhydd pobl....
ond dim pleidlais yn sefydliadau'r UE
Democrataidd iawn wir...job Theresa May fydd gwerthu'r botes eildwym yma i bobl Prydain.....
Sgwn i bydd gan San Steffan stumog at hyn? os na fydd, ail referendwm amdani....ys dywed di Lampedusa "Se vogliamo che tutto rimanga come è, bisogna che tutto cambi" (os ydym am i bobeth aros fel mae, rhaid newid popeth)"
Cynllwyn dosbarth canol siwr o fod!!!