Saturday, July 30, 2016
Friday, July 29, 2016
Ydi hi'n bosibl i Trump ennill?
Byddai llawer yn dweud ei bod yn anodd iawn i'r Blaid Weriniaethol ennill mewn etholiad arlywyddol (lle mae cyfraddau pleidleisio yn gymharol uchel) oherwydd demograffeg - mae'r grwpiau sy'n pleidleisio tros y Democratiaid yn tyfu tros amser tra bod y grwpiau sy 'n pleidleisio tros y Gweriniaethwyr yn lleihau. Fel y gellir gweld o'r graff mae'r boblogaeth croenwyn yn lleihau, tra bod grwpiau eraill - yn arbennig felly pobl sydd a'u gwreiddiau yn Asia a Chanolbarth a De America yn cynyddu.
Mae yna wahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae gwahanol bobl yn pleidleisio. Er enghraifft pleidleisiodd tua 93% o bobl groenddu i Obama yn 2012 - ac roedd y canrannau yn ddigon tebyg mewn etholiadau cyn hynny. Tua 71% o bobl o gefndir De / Canolbarth America bleidleisiodd tros y Democratiaid a 74% o bobl o gefndir Asiaidd.
Tra bod y twf yma yn helpu'r Democratiaid, mae yna newid demograffig pwysicach yn digwydd hefyd - ac mae hwnnw yn digwydd oddi mewn i'r boblogaeth croenwyn. Mae pobl gwyn sydd wedi cael addysg coleg yn llawer mwy tebygol na'r boblogaeth croenwyn sydd heb fod i goleg o bleidleisio i'r Democratiaid. Pleidleisiodd y bobl groenwyn addysgiedig i'r Democratiaid gyda mwyafrif o 6% yn 2012 - pleidleisiodd y bobl groenwyn anaddysgiedig i'r Gweriniaethwyr gyda mwyafrif o 26%. Mae'r boblogaeth wyn anaddysgiedig yn syrthio'n eithaf cyflym fel canran o'r boblogaeth yn gyffredinol - tua 0.75% y flwyddyn.
Ond dydi pethau ddim mor syml a hynny - gallai cwymp yng nghyfradd pleidleisio'r sawl sydd yn pleidleisio i'r Democratiaid sicrhau mai'r Gweriniaethwyr sy'n ennill - hyd yn oed os ydi maint y grwpiau hynny yn tyfu.
Esiampl da o hyn yn digwydd mewn cyd destun arall ydi Gogledd Iwerddon. Mae'r cysylltiad rhwng demograffeg a phatrymau pleidleisio hyd yn oed yn gliriach yno nag yw yn yr UDA gyda mwyafrif llethol y Pabyddion yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar a'r Protestaniaid yn pleidleisio i bleidiau unoliaethol.
Mae pob tystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod y boblogaeth Babyddol yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn - a bod tua'r un faint o Babyddion a Phrotestaniaid yn y boblogaeth bellach. Ond mae'r bleidlais genedlaetholgar yn is nag oedd yn 2001. Y rheswm sylfaenol am hynny ydi bod y boblogaeth Babyddol yn llai tebygol o lawer o bleidleisio nag oeddynt yn ystod y rhyfel maith, a'r blynyddoedd yn dilyn hynny - tra bod y Protestaniaid yr un mor debygol - neu'n fwy tebygol o wneud hynny.
Gallai'r un peth ddigwydd yn America, neu unrhyw le arall wrth gwrs - ond byddai angen rheswm neu resymau am gwymp felly. Byddai drwgdybiaeth tuag at Hillary Clinton yn reswm felly wrth gwrs. Ond yn fy marn i dydi hynny ddim yn debygol o ddigwydd yn yr UDA eleni, oherwydd rhethreg a natur ymgyrch Trump. Mae ofn yn gymhelliad cryf - cryfach na'r un arall tros fynd allan i bleidleisio - ac mae Trump wedi codi ofn ar lawer iawn o bobl sy'n perthyn i'r grwpiau sy'n tueddu i bleidleisio i'r Democratiaid.
Thursday, July 28, 2016
Wednesday, July 27, 2016
Defaid, iobs a fawr ddim arall
Yn ol at Owen Smith mae gen i ofn - boring 'dwi'n gwybod, ond dyna fo - Owen ydi dyn y funud - yn ol y cyfryngau beth bynnag. Byddwch yn cofio i ni gael golwg ar ragrith rhyfeddol y dyn yn ddiweddar - ac yntau'n cwyno nad ydi Corbyn yn deall gwlatgarwch tra'n dilorni'r gwlatgar ei hun. Mae'r cyfryngau prif lif wedi bod yn nodi ei ddefnydd o drosiadau treisgar heddiw.
Beth bynnag, ac yntau'n cyflwyno ei hun fel sosialydd o argyhoeddiad a sylwedd, efallai y byddai'n ddiddorol edrych ar gychwyn ei yrfa wleidyddol a chwilio am dystiolaeth o'r sosialaeth, y sylwedd, a'r argyhoeddiad.
Safodd Owen tros Lafur mewn is etholiad San Steffan ym Mlaenau Gwent yn 2006 yn dilyn marwolaeth Peter Law. Cyhoeddodd lond trol o ddeunydd etholiadol - ac mae'r deunydd hwnnw dweud llawer am natur y boi. Roedd is etholiad Cynulliad ar yr un diwrnod gyda llaw - dyna'r rheswm am gyfeiriad at ddau ymgeisydd.
Cyfraith a threfn oedd prif thema Owen - yn arbennig mynd i'r afael efo iobs. Roedd Owen eisiau dwblu'r nifer o heddweision oedd yn troedio strydoedd Blaenau Gwent - nid bod hynny'n fater i Aelod Seneddol wrth gwrs - ond stori arall ydi honno.
Roedd ffermwyr a defaid hefyd yn dan ar ei groen - ac roedd cosbi ffermwyr am adael i'w defaid grwydro yn un o brif themau ei ymgyrch - o - ac mae yna gyfeiriad at yr holl swyddi oedd yn dod i Flaenau Gwent diolch i lywodraeth Lafur y Cynulliad.
Dydi Owen ddim yn son llawer am gyfraith a threfn, nag yn ymosod ar ddefaid a ffermwyr yn ei ymgyrch arweinyddol wrth gwrs - ond fel rwan, roedd yn awyddus iawn i bawb ddeall ei fod yn foi 'normal' - ac nad ydi o'n hoffi iobs wrth gwrs.
A mae'n ymddangos ei fod am i'w ddarpar etholwyr ddeall ei fod yn hamddena ym Mlaenau Gwent.
Ac wedyn mae yna fwy am yr iobs a cyfraith a threfn.
Mae'n hefyd am adael i ni wybod am yr holl bobl sy'n mynd i bleidleisio i Lafur eto, ar ol pleidleisio i Peter Law yn yr etholiad flaenorol - er mwyn cael gwared o'r iobs wrth gwrs.
A dyna ni'r horoscop - sy'n darogan pleidleisiau i Lafur - ac yn mynd ar ol yr holl iobs na sy'n byw ym Mlaenau Gwent. Ac wedyn y 'llythyrau' sy'n rhoi cyfle i Owen ddweud ei ddweud am ddefaid, yr holl lewyrch roedd Llafur yn ei gynnig i Flaenau Gwent, a beth mae o'n mynd i'w wneud - ia dyna chi - i'r iobs drwg 'na eto.
Ac wedyn - rhywbeth hollol wahanol - iobs, llenwi Blaenau Gwent efo plismyn, cardiau adnabod, zero tolerance _ _ _.
Hwre - dyma ni rhywbeth gwahanol o'r diwedd - Gordon Brown yn sicrhau trigolion Blaenau Gwent mai Owen a'i gyd ymgeisydd Llafur ydi'r bobl i ddod a swyddi iddyn nhw. Ac wrth gwrs mae yna gyfeiriad at bobl yn dod yn ol adref at Lafur am eu bod nhw'n mynd i ddelio efo'r iobs.
A dyna ni - dim gair, dim sill, dim byd am werthoedd Llafur. Zilch. Gallai'r pamffledi hyn fod wedi eu cynhyrchu gan y Toriaid, neu UKIP neu unrhyw blaid bopiwlistaidd Adain Dde. Sbwriel arwynebol, di weledigaeth, di glem o'r dechrau i'r diwedd. Dim gair am wlatgarwch chwelonol Owen chwaith yn rhyfedd iawn.
Tybed os oes yna erioed gymaint o bres wedi ei wario ar gynhyrchu cymaint o ddeunydd etholiadol sydd efo dim o unrhyw werth i'w ddweud ag eithrio negyddiaeth popiwlistaidd ail adroddus?
Rhag ofn nad ydych yn gwybod beth ddigwyddodd - wele:
Tuesday, July 26, 2016
Ond tydi'r Owen Smith na'n un rhyfedd dywedwch?
Ddoe ar Newsnight roedd o'n cyhuddo Jeremy Corbyn o ddiffyg gwlatgarwch ac o fethu deall hunaniaeth genedlaethol.
Internationalism oedd y gair mawr bryd hynny.
Mae Owen Smith yn cyhuddo Corbyn o beidio deall rhywbeth nad yw yn ei ddeall ac nad oes ganddo fewath o ddiddordeb ynddo ei hun.
O.N - newydd sylwi bod @ifanmj wedi fy nghuro fi i'r stori yma.
Sunday, July 24, 2016
Gogledd Gwynedd a'r Gymraeg
Os oes gennych ddiddordeb yn hynt a helynt yr iaith Gymraeg, ac mewn ystadegau mae'n debyg nad oes yna fawr o wefannau mwy addas i chi na statiaith - mae'n dtysorfa o wybodaeth ystadegol am yr iaith Gymraeg.
Un gymhariaeth ddiddorol i ddod o'r wefan ydi un rhwng map arferol o Wynedd sy 'n dangos dosbarthiad siaradwyr Cymraeg yn ol canran, a chartogram sy'n dangos y dosbarthiad yn ol canran a niferoedd. Mae'r ddau fap yn rhai tra gwahanol. Mae Gogledd y sir yn llawer, llawer mwy yn y cartogram nag ydyw yn y map cyffredin.
Roedd yna amser pan roedd yn cael ei derbyn yn gyffredinol bron bod dwysedd siaradwyr Cymraeg mewn cymuned yn llawer pwysicach na'r niferoedd. Mae'n debyg bod llawer yn parhau i gredu hynny - ac mae yna sylwedd i'r gred. Ond mae iddi hefyd ei chyfyngiadau. O gymharu Caerdydd a Cheredigion, dydi niferoedd y siaradwyr Cymraeg ddim yn anhebyg, ac yn ddi amau mae yna fwy o siaradwyr rhugl yng Ngheredigion na sydd yng Nghaerdydd. Mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg hefyd yn llawer uwch yng Ngheredigion. Ond dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod yr iaith yn fwy bregus yn Sir Geredigion nag yw yng Nghaerdydd.
Mae'r rheswm am hynny'n eithaf syml mewn gwirionedd - mae siaradwyr Cymraeg Caerdydd yn byw yn agos at ei gilydd, tra bod siaradwyr Cymraeg Ceredigion wedi eu gwasgaru tros ardal llawer ehangach. Mae felly'n haws o lawer sefydlu rhwydweithiau o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd nag yw mewn ardaloedd gwledig yng Ngheredigion. Mae cymunedau isel eu poblogaeth hefyd mwy ar drugaredd mewnfudo hefyd wrth gwrs.
Mae Gogledd Gwynedd - ac yn arbennig y cymdogaethau sydd yn agos at Afon Menai gyda'r ddwy nodwedd - canrannau uchel iawn o siaradwyr Cymraeg yn ogystal a niferoedd cymharol uchel o siaradwyr hefyd.
Dydw i ddim yn un am wahaniaethu rhwng siaradwyr Cymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru - mae pob siaradwr Cymraeg yn gyfwerth. Ond mae'r ardal yma o Ogledd Gwynedd yn bwysig iawn i ddyfodol y Gymraeg yn ehangach - a dylai'r rhai ohonom sy 'n ddigon ffodus i fyw yn yr ardal gymryd amser i fod yn ddiolchgar weithiau. Mae'n hawdd cymryd pethau'n ganiataol weithiau.
Saturday, July 23, 2016
Mynediad i safleoedd hanesyddol
Bryngaed tua dwy erw o faint yn Llanddeiniolen, Arfon ydi Dinas Dinorwig a cafodd ei chodi - fel gweddill y bryngeiri sydd i 'w gweld yma ac acw ar hyd gorllewin Ynysoedd Prydain - yn ystod Oes yr Haearn. Mae 'n debyg mai ei phrif nodweddion sydd o ddiddordeb heddiw ydi ei maint - mae 'n fwy na'r rhan fwyaf o geiri tebyg a'r ffaith bod y muriau a'r ffosydd amddiffynol o'i chwmpas yn anisgwyl o eglur, cywrain a chyflawn.
Fel mae'n digwydd dwi'n 'nabod y safle yn dda iawn oherwydd i mi gael fy magu o fewn rhyw filltir a hanner iddi, ac arferem fynd yno i chwarae pan oeddym yn blant. I'r rhai ohonoch sydd heb fod i'r gaer, gellir cael syniad o sut safle ydi hi trwy edrych ar y fideo arbennig yma mae Gareth Roberts wedi ei wneud o'r safle.
Nid gwefan sy'n ymwneud a llefydd hanesyddol ydi Blogmenai, a'r rheswm dwi'n son am y lle ydi oherwydd i rhywun gysylltu a mi'r diwrnod o'r blaen i ddweud nad oedd perchenog y tir yn caniatau mynediad iddo i'r safle. Rwan mae'n rhaid i mi ddweud yma fy mod wedi bod i'r safle gyda chaniatad rai blynyddoedd yn ol. Yn amlwg, fel plant doeddem ni ddim yn trafferthu chwilio am ganiatad. Mae hefyd yn deg nodi ei bod yn rhesymol bod deiliaid tir eisiau edrych ar ol eu heiddo.
Ond wedi dweud hynny, mae'n drist bod llawer o safleoedd hanesyddol yng Nghymru - sydd yn etifeddiaeth i ni oll - y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o'r cyhoedd. Mae yna ddwy safle arall o fewn ychydig filltiroedd i Ddinas Dinorwig yn y sefyllfa yma.
Mae yna lawer o safleoedd yng Nghymru o dan ofal Cadw neu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - ac mae'r rheiny ar gael i bawb. Mae yna lawer o safleoedd eraill nad ydynt ar gael oherwydd nad ydi'r perchnogion tir yn fodlon caniatau mynediant iddynt. Nid oes angen iddynt boeni. Dydi ceiri Oes Haearn ddim yn debygol o ddenu miloedd y bobl - mae ymweld a llefydd fel hyn yn ddiddordeb eithaf anarferol. Mae safleoedd enwog iawn megis Dun Aengus ar Inis Mor neu Dre'r Ceiri ar gopa'r Eifl yn llefydd distaw iawn hyd yn oed yng nghanol haf.
Un o'r camau y gallai Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y Senedd ei gymryd i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael ydi gweithio efo perchnogion tir i'w hannog i agor eu safleoedd hanesyddol am rannau o'r flwyddyn o leiaf - ac ystyried y posibilrwydd o dalu'r perchnogion unrhyw gostau sy'n deillio o wneud hynny - a rhoi cydnabyddiaeth ariannol bychan yn ychwanegol i hynny bosibl.
Thursday, July 21, 2016
Wednesday, July 20, 2016
Perlau Felix - rhan 2
Ac mae hon yn berl hefyd.
Ymddengys bod Nicola Sturgeon yn geg fawr.
Bydd gwylwyr cyson Pawb a'i Farn S4C yn gyfarwydd a Felix wrth gwrs. Pan gaiff ei hun ar y panel bydd yn bloeddio ei atebion mewn llediaith - ond llediaith digon dealladwy. Pan mae'r panelwyr eraill yn ceisio ateb eu cwestiynau nhw, mae'n aml yn sgrechian ar eu traws mewn llediaith rhannol ddealladwy - sy'n ei gwneud yn anodd, ac weithiau'n amhosibl deall beth maent yn geisio ei ddweud. Pan mae'n rhan o'r gynulleidfa yn hytrach na'n rhan o'r panel bydd yn sgrechian ar draws y panelwyr mewn llediaith cwbl anealladwy. Bydd felly yn difetha'r rhaglenni i'r panelwyr eraill, ac yn bwysicach i'r gwylwyr. Duw yn unig a wyr pam bod y Bib yn dioddef yr ymddygiad gwrth gymdeithasol, ail adroddus yma.
Mae Felix ei hun yn ymgorfforiaddi lychwyn geg fawr. Beth ydi'r term Cymraeg am self awareness dywedwch?
Tuesday, July 19, 2016
Ynglyn a Thrident
Dod ar draws rhywun dwi'n ei adnabod wnes i neithiwr mewn tafarn neithiwr. Roedd yn darllen rhyw bapur newydd neu'i gilydd, ac roedd yn awyddus i rannu yr hyn roedd wedi ei ddysgu am fanylion technegol y system Trident newydd mae cymaint o'n haelodau seneddol eisiau 'buddsoddi' ynddi. Fydd o ddim yn gwbl anisgwyl i ddarllenwyr Blogmenai am wn i, ond dywedais bod yr holl beth yn wastraff arian llwyr. Doedd o ddim yn cytuno - roedd angen y taflegrau 'i'n cadw ni'n saff'. Holais oddi wrth pwy oedd angen ein hamddiffyn - a chael mai Putin oedd yr ateb - ymddengys bod hwnnw'n ddyn drwg iawn. Wnes i ddim holi pam y byddai 'r dywydedig Putin eisiau cynnal ymysodiad niwclear ar wlad yr ochr arall i Ewrop (sy'n perthyn i NATO, ac a fyddai felly'n gwahodd ymysodiad niwclear gan yr UDA beth bynnag), a wnes i ddim holi pam nad ydi cymdogion agos Rwsia yn dangos unrhyw ddiddordeb mewn ymuno efo'r clwb o 9 sydd yn cadw'r WMDs yma chwaith.
Ta waeth - un neu ddwy o ffeithiau.
1). Naw gwlad sydd a systemau niwclear - er bod un neu ddwy o rai eraill wedi ceisio datblygu rhai. Gwaddol y Rhyfel Oer ydi systemau, China, Rwsia, yr UDA, Prydain a Ffrainc. Adlewyrchiad o elyniaeth ffyrnig rhwng y ddwy wlad ydi systemau Pacistan ac India, y ffaith eu bod ar dermau sobor o wael efo'u holl gymdogion sy'n gyfrifol am system Israel, a does yna fawr o bwynt ceisio egluro pam bod Gogledd Corea eisiau taflegrau niwclear.
2). Piso dryw yn y mor ydi'r hyn sydd gan y DU - a'r hyn fydd gan y DU - tua 1.3% o'r job lot. A dweud y gwir mae o'n llai na mae'r ffigyrau moel yn awgrymu - yn wahanol i'r gwledydd eraill mae taflegrau'r DU yn cael eu cadw mewn llongau tanfor - a dydi'r rheiny byth o dan y dwr ac yn barod i danio efo'i gilydd. Maen nhw'n ddigon pwerus i wneud niwed i rhywun neu 'i gilydd - Rwsia er enghraifft - ond mae 8,000 taflegr Rwsia yn fwy o fygythiad o lawer i wlad lle mae pawb yn byw ar ben ei gilydd nag ydi 225 taflegr yn fygythiad i'r wlad fwyaf - ac ymysg yr isaf o ran dwysedd ei phoblogaeth - yn y Byd. Mae'r gymhariaeth yn ogleisiol o anghyfartal.
3). Mae'r DU yn perthyn i NATO. Does gan 25 o 28 aelod y gynghrair honno ddim arfau niwclear - ond maent yn gwybod bod ymysodiad arnynt yn ymosodiad ar y cwbl - gan gynnwys America - gwlad sydd ag arfau niwclear yn dod allan o'i chlustiau.
4). Yn hanesyddol mae'r DU yn llawer mwy tebygol o ymosod ar wledydd eraill nag ydi'r gwledydd hynny o ymosod arni hi. Mae'r DU (neu Loegr cyn creu'r DU) wedi ymosod rhywbryd neu'i gilydd ar tua 90% o'r gwledydd sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae Iran i fod yn fygythiad sylweddol i ni - dydi'r wlad honno heb ymosod ar wlad arall am ddwy ganrif. Petai rhesymeg yn unrhyw beth i wneud efo'r ffordd mae'r pethau 'ma'n gweithio, byddai rhai o'r gwledydd mae'r DU wedi ymosod arnyn nhw yn y gorffennol yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gael arfau niwclear er mwyn bod yn 'saff rhag y DU.
Beth bynnag, mae'r criw isod yn anghytuno ac maen nhw wedi pleidleisio ddoe i barhau a'r cynllun dw lali. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw hefyd wedi pleidleisio tros lymder.
Perlau Felix - rhan 1
Rydan ni wedi rhedeg ambell i stori ar ddatganiadau, doethinebu a thrydar ein cyfaill Felix Aubel. Ond efallai y byddai'n syniad cael cyfres fach fel sydd gennym ar Gwilym Owen. Mae'r gyntaf yn berl fach.
Yma mae Felix yn dangos nifer o'i nodweddion mwy anymunol a chredoau rhyfedd ar yr un pryd - mewn pymtheg gair cwta mae'n llwyddo i ddangos dirmyg at y deddfwrfeydd datganoledig, ei dueddiadau Little Englander, ei ddiffyg cwrteisi, a'i eilyn addoliaeth naif o wleidyddion adain Dde Seisnig - i gyd ar yr un pryd.
Monday, July 18, 2016
Delfrydol ar gyfer y job
Un o brif rinweddau gweinidog llywodraethol llwyddiannus ydi ei fox yn gwneud y joban yn effeithiol, yn mynd ymlaen efo pethau'n ddistaw, yn canolbwyntio ar ei ddyletswyddau ac yn osgoi hunan hyrwyddo. Mae hynny'n arbennig o wir os yw'n un o'r gweinidogion pwysicaf, ac os yw ei swydd yn un sensitif.
Rhoddaf i chi Boris Johnson.
Sunday, July 17, 2016
A diolch i Chris Bryant _ _
_ _ am egluro i ni beth oedd y rheswm am y coup yn Nhwrci. Ar ymgyrchwyr Brexit mae'r bai!
Roedd Mr Bryant yn Arweinydd Cysgodol Ty'r Cyffredin hyd ei ymddiswyddiad diweddar.
Ym myd rhyfedd Chris mae swyddogion byddin Twrci yn dilyn ymgyrch refferendwm Ewrop yn glos, yn clywed sylwadau gwrth Dwrcaidd, yn gwylltio'n gacwn, ac yn gwylltio i'r fath raddau nes penderfynu cynnal coup i gael gwared o llywodraeth eu gwlad eu hunain.
Diolch byth nad oes gan Chris swydd gyfrifol na dim byd felly.
Diolch i Paul Flynn _ _
_ _ _ am egluro pam nad oedd Aelodau Seneddol y Blaid Lafur wedi trafferthu mynychu'r ddadl ar Fesur Cymru y diwrnod o'r blaen. Roeddynt yn bwyta neu'n mynychu cyfarfodydd pwysicach.
Rwan, dwi 'n deall y bydd mwyafrif llethol darllenwyr Blogmenai ar eu cefnau yn chwerthin wrth ddarllen esgys mor dila a diwerth. Ond o dan yr amgylchiadau sydd ohonynt 'dwi'n meddwl ei bod yn bwysig dangos ychydig gydymdeimlad.
Mae'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn treulio eu hamser yn cynllwynio yn erbyn bos Paul Flynn, Jeremy Corbyn. Yn amlwg mae'r holl gynllwynio a bradychu yn cymryd cryn dipyn o drafod - ac felly mae'n rhaid wrth gyfarfodydd yng nghorneli tywyll San Steffan - ac mae gwaith fel hyn yn waith caled a gall wneud y cynllwynwyr yn llwglyd iawn.
Felly mae'n naturiol ddigon nad ydynt yn talu sylw i faterion sy'n isel iawn ar eu rhestr blaenoriaethau - megis Cymru, pan mae ganddynt faterion pwysig megis cynllwynio yn erbyn eu harweinydd a bwyta i fynd i'r afael a nhw.