Mae pethau'n edrych yn agos ar gyfer y refferendwm Ewrop - ac mae hynny'n rhannol oherwydd nad ydi'r gefnogaeth i'r ochr Aros ddim yn edrych mor soled ymysg y grwpiau y byddai rhywun yn disgwyl y byddai'n pleidleisio iddynt.
Yn bersonol dwi ddim yn credu'r darogan gwae economaidd gan yr ochr Aros(na'r ochr Gadael). Mae'n ddigon posibl y bydd anhrefn yn y marchnadoedd stoc ac arian tros dro os bydd y DU yn gadael yr Undeb - ond mae marchnadoedd a busnesau yn addasu'n sydyn i 'r sefyllfaoedd sy'n eu hwynebu. Yr hyn sydd yn fy mhoeni fi mwy ydi'r math o wladwriaeth y bydd y DU ar ol cyfnod maith o lywodraethu Adain Dde. Gallai'n hawdd esblygu i fod yn wladwriaeth o fath tra gwahanol i'r hyn ydyw ar hyn o bryd.
Bydd y Dde oddi mewn i'r Blaid Geidwadol yn ennill goruwchafiaeth. Bydd rhaid i Cameron ymddiswyddo, ac os na wnaiff hynny bydd yn cael ei wthio. Bydd aelodaeth y Blaid Geidwadol yn dewis arweinydd sy'n erbyn Ewrop - a bydd hwnnw / honno ar asgell Dde ei blaid. Mae yna resymau pam y bydd y Blaid Geidwadol yn anodd i'w symud o lywodraeth am flynyddoedd lawer.
Dydi'r anhrefn oddi mewn i'r Blaid Lafur ddim yn debygol o leihau hyd yn oed os nad Corbyn fydd yn eu harwain i'r etholiad nesaf. Mae'n amlwg bod aelodaeth cyffredin y blaid Lafur a'u haelodau etholedig mewn dau le gwahanol - cwbl wahanol - ar hyn o bryd. Tra bod y sefyllfa yna'n parhau mae am fod yn hynod anodd i Lafur wneud argraff mewn etholiad cyffredinol.
Yn ychwanegol at hynny, bydd y ffiniau etholiadol wedi newid yn sylweddol erbyn 2020, newidiadau fydd yn dileu'r fantais strwythurol sydd gan Llafur yn y gyfundrefn etholiadol sydd ohoni. Bydd yn llawer, llawer anos i lywodraeth sy'n cael ei harwain gan Lafur ddod i rym eto yn y dyfodol canolig.
Byddai'r newid ffiniau, a'r gwrthdaro mewnol gan Lafur ac - o bosibl ymadawiad yr Alban a'r DU - wedi digwydd beth bynnag wrth gwrs. Mae'n ddigon posibl y byddai blynyddoedd maith o lywodraethau Adain Dde o'n blaenau beth bynnag. Mae'n ddigon posibl y byddai'n rhaid i'r Blaid Lafur symud i'r Dde ac i gyfeiriad y tir canol newydd beth bynnag.
Ond yr hyn fyddai'n gwahanol petai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropiaidd ydi y byddai llywodraeth felly yn cael rhwydd hynt i wneud yr hyn fyddai eisiau ei wneud. Fyddai yna ddim deddfwriaeth Ewropiaidd i atal i'r llywodraeth gymryd pa bynnag lwybr y byddai am ei gymryd. Petai eisiau cyfyngu ar hawliau gweithwyr - a'i alw'n ddeddfwriaeth busnes gyfeillgar - gallai wneud hynny. Petai eisiau cryfhau gallu'r wladwriaeth i gyfyngu ar hawliau sifil - gallai wneud hynny hefyd. Petai eisiau cael gwared o ddeddfau amddiffyn data gallai wneud hynny. Gallai hefyd gael gwared o ddeddfwriaeth cyflogaeth cyfartal, deddfwriaeth i atal discrimineiddio ar sail crefydd, hil, rhyw, oed ac ati, deddfwriaeth sicrhau hawliau sylfaenol i bobl sy'n dioddef yn sgil tor cyfraith,
Gallai'r DU mewn ugain mlynedd fod yn rhywbeth tra gwahanol i'r hyn ydyw heddiw.
Mae Plaid Cymru wastad yn dweud wrthon ni pa mor bwysig ydi Ewrop a pha mor drychinebus fydda hi i Gymru pe fydden ni yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
ReplyDeleteGa'i ofyn felly be mae'r Blaid yn ei wneud i mobilisio'r fot genedlaetholgar o blaid aros i mewn ar Fehefin 23?
Hyd yn oed yma yn y gogledd-orllewin, cadarnle Plaid Cymru, mae hi'n rhyfeddol o ddistaw. Dim cyfarfodydd, dim posteri, dim arwyddion, a dim canfasio fotwyr o gwbl.
Gyda'r polau piniwn yn dango bod hi'n eithaf cyfartal yma yng Nghymru rhwng aros a gadael, siawns y dylai Plaid Cymru fod yn gwneud mwy i sicrhau bod ei phleidleiswyr yn dod allan i fotio ar y diwrnod mawr?
Onibai wrth gwrs, bod yna deimlad ar droed bod Gadael am ennill a dydi PC ddim isio cael eu gweld ar yr ochr anghywir o'r ddadl fawr??
Ga'i ofyn pam na chafodd y cwestiwn am anweledigrwydd PC o ran mobilisio ei fot yn y gogledd orllewin o blaid aros yn yr UE ei gyhoeddi?
ReplyDeleteSdim sensoriaeth ar Flog Menai siawns?
Wedi bod allan o gysylltiad a chyfrifiadur..
ReplyDeleteMae'r Blaid yn Arfon o leiaf yn taflennu ei holl gefnogwyr. Byddwn yn cymryd bod yr un peth yn digwydd yng ngweddill y Gogledd Orllewin.