Dwi wedi clywed sawl un ers nos Iau yn beio mewnfudwyr o Loegr am ganlyniad refferendwm Ewrop yng Nghymru. Rwan mae'n wir fy mod i mewn blogiad blaenorol wedi dangos bod peth perthynas rhwng lefelau mewnfudo o Loegr a thueddiad i bleidleisio i Adael yng Ngwynedd. Ond fel y dywedais yn y blogiad hwnnw - Gwynedd ydi Gwynedd - mae'n gwneud ei pheth ei hun yn etholiadol.
O edrychach yn ehangach mae yna stori wahanol. Wrth ochr yr enwau siroedd isod mae dau ganran. Y ganran o boblogaeth y sir a anwyd yn Lloegr ydi'r cyntaf, y ganran a bleidleisiodd tros adael yr Undeb Ewropiaidd ydi'r ail.
Gwynedd - 27.4% / 41.9%
Conwy - 39.7% / 54%
Dinbych - 36.3% / 54%
Fflint - 44.3% /56.4%
Wrecsam - 23.4% / 59%
Powys - 44.7% / 53.7%
Ceredigion - 37.4% / 45.4%
Penfro -27% / 57.1%
Caerfyrddin 18.9% / 53.7%
Abertawe - 14.1% / 51.5%
Castell Nedd Port Talbot - 9.7% / 56.8%
Pen y Bont - 12.2% / 54.6%
Bro Morgannwg - 18.5% / 49.3%
Caerdydd - 16.9% / 40%
Rhondda Cynon Taf - 8.2% / 53.7%
Merthyr Tydfil - 6.4% / 56.4%
Caerffili - 8.4% / 57.6%
Blaenau Gwent - 7.1% / 62%
Torfaen - 11.3% / 59.8%
Mynwy - 33.5% / 49.6%
Casnewydd - 12.7% / 56%
Mae yna bump sir lle ganwyd llai na 10% yn Lloegr. Pleidleisiodd 52.5% yng Nghymru tros adael y DU. Mae'r ganran a bleidleisiodd i Adael yn uwch na'r cyfartaledd hwnnw ym mhob un o'r siroedd hynny - yn sylweddol felly mewn pedwar ohonynt.
Mae nhw i gyd ag eithrio RCT gyda chanran uwch eisiau Gadael na Dinbych, Fflint a Chonwy - tair sir sydd a mwy na thraean eu poblogaeth wedi eu geni yn Lloegr. Mae nhw i gyd - gan gynnwys RCT - efo canran uwch na Cheredigion, Mynwy a Phowys. Mae mwy na thraean o bobl y siroedd hynny wedi eu geni yn Lloegr hefyd.
Mae pedair o'r bum sir a bleidleisiodd i Aros efo canran llawer uwch o bobl sydd wedi eu geni yn Lloegr yn byw ynddynt na chymedr Cymru. Caerdydd ydi'r eithriad.
Mae trosglwyddo bai yn un o'r nodweddion cenedlaethol Cymreig lleiaf dymunol. Dydi trosglwyddo bai am ganlyniad Cymru ar Saeson o ddim cymorth i neb. Ni fel Cymry bleidleisiodd tros adael ddydd Iau. Os ydym i symud ymlaen o'r smonach yma mae'n bwysig ein bod yn deall a derbyn hynny.
Yn blog 'Jac O'the North' (Llais werth gwrando arno er mwyn ein hatgoffa beth yw cenedlaetholdeb digyfaddawd), mae rhywun wedi postio fod sampl Ashcrof yn dangos fod mwyafrif pleidleiswyr Y Blaid wedi pleidleisio i adael. Mae'n ddiddorol nodi fod y cyfanswm 'Aros' yng Ngheredigion llawer llai na chyfanswm y pleidleisiau i PC a'r Lib Dems (A cofier fod llawer o fewnfudwyr Ceredigion yn raddedigion eithaf galluog a rhyddfrydol). Mae etholaethau Mon, Caerfyrddin a Rhondda wedi pleidleisio o blaid 'Gadael' , serch fod nifer enfawr o bleidlesiau diweddar i'r Blaid yno. Mae'n bosib felly fod y farn ranedig Blaid Lafur a geir yn Lloegr yn bodoli yng Nghymru hefyd o ran Plaid Cymru - gyda patrwm iaith wedi ei osod ar ben patrwm addysg a chyfoeth.
ReplyDeleteHyd yn oed petai'r sampl Ashcroft Cymreig Ashcroft wedi ei gydbwyso'n gymdeithasegol (a dydi o ddim) mae 72 yn sampl rhy fach i olygu fawr ddim. Mae Mon yn etholaeth - ond dydan ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd yn Dwyrain Caerfyrddin a Rhondda oherwydd na chawsant eu cyfri arwahan. Dwi'n deall bod Aros yn gryfach o lawer yn Dwyrain Caerfyrddin nag yn yr etholaethau eraill yng Nghaerfyrddin.
ReplyDeleteCai, mae'n hollol glir fod Cymry cynhenid wedi pleidleisio dros fynd yn y cymoedd ond rwy'n amau fod y rhai cynhenid wedi dewis aros yn y gogledd a'r gorllewin. Waeth i ni heb dreio beio'r Sais ond ni chredaf fod cefnogwyr PC wedi pleidleisio o blaid gadael. Mae taeru hynny yn fy atgoffa am y diweddar Elwyn Jôs oedd yn brïo'r blaid geidwadol (a fo ei hun wrth gwrs) yn etholaeth Sir Gaernarfon am godi'r bleidlais yn 1979 a 1983 pan oedd mewnfudo'n egluro'r rhan fwyaf o bleidleisiau "newydd". Parthed Môn: canran uchel o'r rhai a bleidleisiodd (i Rhun) yn hytrach na "nifer enfawr" o bleidleisiau PC dylai ein ffrind dienw uchod ddeud. Mewn etholiad cyffredinol a >70% yn troi allan, rhyw 35% ydi pleidlais gadarn PC ym Môn ynde?
ReplyDeleteO ble daeth mwyafrif Môn i'r BREXIT? O Gaergybi? Hwyrach fod yr un rhaniad yn bod ag eiddo Sir Ddinbych: Trefydd glan y mor hefo'u pensiynwyr o fewnfudwyr a'r rhai tlotaf ennillodd y dydd yng Ngogledd Cymru. Yr unig amheuaeth ydi ymddygiad pleidleiswyr Lerpwl a Manceinion lle roedd mwyafrif dros aros. Mae llawer o fewnfudwyr yn hannu o'r trefydd hynny wedi'r cwbl....
Cytunaf hefo ein cyfaill dienw fod Ceredigion yn fwy cymhleth. Ti'n cyfeirio at well canlyniad yn Nwyrain Caerfyrddin na Gorllewin Caerf. a Llanelli
Mae BREXIT yn drychinebus ond yn ddiddorol iawn. Fy nghamgymeriad oedd meddwl y byddai'r rhai difreintidig yn aros adre yn lle fotio...