Ond 'tydi'r ymgyrch refferendwm Ewrop 'ma yn beth erchyll dywedwch?
Mewn un ffordd mae'n ymdebygu i refferendwm yr Alban efo'r llif di ddiwedd o negyddiaeth ac ymdrechion mwyfwy hysteraidd i ddychryn a chamarwain yr etholwyr gyda bygythiadau mwyfwy chwerthinllyd. Yr unig wahaniaeth ydi mai un ochr oedd wrthi yn refferendwm yr Alban - mae'r ddwy wrthi bymtheg y dwsin yn yr ymgyrch yma.
Mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu bod tebygolrwydd o tua 75% mai'r ochr 'Aros' fydd yn ennill. Mae'r polau wedi bod yn awgrymu hynny hyd yn ddiweddar hefyd - er bod dau bol sydd wedi eu rhyddhau heddiw yn awgrymu mai 'Gadael' fydd yn ennill.
Yn amlwg mi fyddaf i yn pleidleisio i aros - ond 'dydi 'r ochr 'Aros' heb wneud unrhyw ymdrech i greu delwedd bositif o ddyfodol yn Ewrop. Dwi ddim yn hoffi negyddiaeth, a dydw i ddim yn credu 'r darogan gwae sy 'n dod o 'r naill ochr na'r llall. Mewn geiriau eraill byddaf yn pleidleisio i aros er gwaethaf yr ymgyrch idiotaidd, nid oherwydd yr ymgyrch honno.
Rwan, dwi ddim eisiau swnio'n snob - ond mae yna wahaniaeth rhwng y rhan o 'r boblogaeth sy'n debygol o bleidleisio i adael a'r rhan sy 'n debygol o bleodleisio i aros. Mae'r sawl sydd am aros yn tueddu i fod yn ieuengach, yn fwy addysgiedig ac yn gyfoethocach. Mae ymgyrch sydd wedi ei seilio ar geisio dychryn pobl am weithio 'n well efo pobl sydd wedi cael llai o addysg, a sydd yn dlawd. Mae'n anos iddynt weld trwy'r celwydd, ac mae darogan gwae ariannol yn fwy o fygythiad iddynt. Mae pobl sydd a mwy o addysg a sy 'n gyfoethocach am edrych ar fygythiadau hysteraidd mewn ffordd wahanol.
Mae negyddiaeth a chodi bwganod yn fwy addas i 'r ovhr 'Gadael ' nag yw i'r ochr 'Aros'. Mae penderfyniad yr ochr 'Aros' i ymladd yr ymgyrch yn y ffordd yma yn gamgymeriad strategol sylfaenol - a gallai'n hawdd arwain yn uniongyrchol at ganlyniad trychinebus i'r refferendwm.
Fel cenedlaetholwr Cymraeg, mi fydda'i i yn pleidleisio o blaid aros yn Ewrop. Wedi dweud hynny, mae gen i lot o gydymdeimlad hefo'r ymgyrch i adael.
ReplyDeleteA fedra'i ddim dioddef yr agwedd nawddoglyd hyn tuag at bobl sy'n pryderu am lefelau mewnfudo i Brydain, agwedd sy'n cael ei rannu gan Blaid Cymru yn ol pob golwg. Mae'n swnio'n beth od i genedlaetholwr ddweud, ond dwi'n cytuno hefo Michael Gove mai cydsyniad cyhoeddus( public consent) sydd wrth wraidd yr holl anniddigrwydd am fewnfudo. Does yr un maniffesto gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys ymrywmiad i godi lefel mewnfudo i'r fath raddau, a does dim trafodaeth onest am y mater wedi digwydd hefo'r cyhoedd o gwbl. Yn hytrach, mae'r cwbl wedi digwydd megis fait accompli gan y dosbarth gwleidyddol, a dyna sydd wedi corddi'r cyhoedd i'r fath raddau. A dyna pam mae'r syniad o gyflwyno rhyw fath o reolaeth dros y broses, megis trefn bwyntiau ar gyfer mewnfudwyr, fel a welir yn Awstralia, yn debyg o fod mor boblogaidd. Symbol o anfodlonrwydd llawer, llawer dyfnach yw mewnfudo- rhywbeth y mae'r ochr Aros wedi methu a'i ddeall yn llwyr.
A phebai Gadael yn ennill, a system bwyntiau fel hyn yn cael ei gyflwyno, onid oes yna fanteision posib I Gymru i allu rheoli ein lefelau mewnfudo ein hunain yn y dyfodol. Byddai'n llawer haws dadlau dros system gyffelyb os oes un eisoes ar waith ym Mhrydain yn gyffredinol,a hwnnw wedi ei seilio i raddau healeth ar warchod hunaniaeth!