Fy nghar i a char Eurig bore 'ma ar gyfer yr ail don o godi posteri ochrau G'narfon. Roedd gennym ni 8 ar ol erbyn canol y prynhawn. Roedd 'na griwiau eraill allan mewn rhannau eraill o'r etholaeth hefyd. Rydan ni eisoes wedi rhannu mwy o bosteri nag erioed o'r blaen, a rydan ni 'n dal i orfod archebu. Mae yna eitha sioe i'w gweld mewn rhannau helaeth o'r etholaeth erbyn hyn.
Digon o bres yn pot y blaid.
ReplyDeleteYn wahanol i'r pleidiau unoliaethol does yna fawr ddim pres yn dod o gwmniau mawr, undebau ac ati. Rydan ni'n codi ein pres ein hunain.
ReplyDelete