Mae'r honiad o doriadau yn y gwasanaeth iechyd ym maniffesto'r Blaid wedi ei gymryd o'r baragraff yma yn y maniffesto.
Does yna ddim gair am dorri'r gyllideb iechyd yno - dim ond am arbed £300m i'r Gwasanaeth Iechyd trwy ddillyn Arolygiad Carter a gynhalwyd yn Lloegr. Bydda'r £300m yn cael ei wario yn y Gwasanaeth Iechyd yn union yr un peth - ond yn fwy effeithiol.
Yn wir petai Sion a Leighton wedi trafferthu darllen y maniffesto byddant wedi gweld bod y cynlluniau gwariant am arwain at £935m o gynnydd mewn gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd erbyn 2020. Mae Sion wedi derbyn yr wybodaeth yma gan bobl sydd ddim yn yr arfer o ddelio mewn celwydd - ac eto mae o'r tu allan i Ysbyty Gwynedd yn hel enwau i ddeiseb yn erbyn toriadau sy'n bodoli'n unig yn ei ddychymyg o a Leighton Andrews.
Gwirioneddol warthus. Dwi ddim yn aelod o unrhyw blaid ond gobeithio wir na fydd hwn fydd yn aelod o'r cynulliad, mae'n cenedl yn haeddu gwell. Rhywbeth annymunol iawn yn y llun gyda'r gwr tu allan i'r ysbyty, yn amlwg wedi dweud celwydd wrtho i'w gael i arwyddo ei "ddeiseb". Cywilydd arno a'r blaid mae'n ei chynrychioli.
ReplyDeleteI bwy mae o'n meddwl cyflwyno'r deiseb digri 'ma beth bynnag? Hel llofnodion, enwau a chyfeiriadau pobl a dim yn gwneud unrhyw beth efo nhw yn edrych fel casglu gwybodaeth bersonol drwy dwyll, yntydi?
ReplyDeleteYn gweld bod Jones Snr wedi sleifio mewn i Fangor ddoe hefyd, a diflannu o 'na cyn i unrhyw un sylwi. Ydi hynny'n dweud rhywbeth am statws yr ymgeisydd lleol ym marn y Blaid Lafur?
Mae' hel gwybodaeth bersonol i un pwrpas a'i ddefnyddio i bwrpas arall yn amlwg yn codi cwestiynau o dan y Ddeddf Amddiffyn Data.
ReplyDeleteMae hi wrth gwrs yn hynod o anarferol i gynrychiolwyr un plaid hel deiseb ynglyn a rhywbeth sydd ym maniffesto etholiadol plaid arall, ac mae'n fwy anarferol i hel yr enwau (cyfeiriadau, rhif ffon ac ati ar sail gwybodaeth ffug am gynnwys y maniffesto hwnnw. Mae'n ddigon posibl bod hon yn fater i'r heddlu mewn gwirionedd.
Mae yna gwestiwn hefyd ynglyn a defnyddio tir y GI i ymgyrchu - yn arbennig y math yma o ymgyrchu.
Mae yna rhywbeth ofnadwy o drist am y llun o hen ddyn yn cael ei gamarwain a'i iwsio gan wleidydd di egwyddor. Tybed os fysa'n well peidio defnyddio'r llun?
ReplyDeleteDwi'n gweld beth sydd gen ti - ond dwi'n credu ei fod yn ddarlun pwerus o wleidyddiaeth etholiadol ar ei fwyaf llwgr a di egwyddor. Caiff aros am y tro.
ReplyDeleteTydi record papur ddim yn dod o dan ddeddf amddiffyn data. mae'n rhaid i hwnnw fod yn eletroneg.
ReplyDeleteAnon 3:19 - un gair - nonsens!
ReplyDelete