Mae pawb sy'n ymwneud a phlaid wleidyddol yn gwybod pam bod cynhadledd wanwyn yn bwysig. Dydi eu pwysigrwydd yn ddim oll i'w wneud efo llunio polisi ac ati. Fel rheol byddant yn cael eu cynnal yn fuan cyn ethloiad o rhyw fath, ac mae'r cyfryngau yn rhoi cymaint o sylw iddynt ag mae unrhyw beth sy'n ymwneud a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn ei gael ganddynt. O ganlyniad mae'n gyfle i werthu negeseuon etholiadol creiddiol y blaid. Felly mae'n bwysig cael pethau'n 'iawn'. Does yna ddim lle i gymhlethdod yma - negeseuon clir, syml, deniadol ydi'r nod gyda phawb yn gytun ac yn gwenu'n ddel. Os ydi'r negeseuon yn cael eu cyfleu yn glir, effeithiol a di wrthwynebiad mae'r gynhadledd wedi bod yn llwyddiant.
Nid dyma mae'r cyfryngau eisiau adrodd arno wrth gwrs - mae anghydfod, ffraeo, negeseuon yn gwrth ddweud ei gilydd a gwrthdaro yn fwy diddorol o lawer o'u safbwynt nhw. Felly mae'n dipyn o gem i ddod o hyd i rhyw faferic neu'i gilydd i ddweud pethau sy'n groes i'r negeseuon creiddiol. Gorau oll os ydi'r maferic wedi bod yn bwysig ar rhyw bwynt neu'i gilydd - a gore oll os ydi o'n dweud pethau mawr. Mae'r cyfryngau yn cael eu stori, mae'r maferic yn cael ymddangos ar y tudalenau blaen a meddwl ei fod yn bwysig am ddiwrnod neu ddau, ac mae rheolwyr y blaid dan sylw yn tynnu eu gwalltiau allan o'u pennau oherwydd bod buddsoddiad sylweddol o ran amser ac adnoddau wedi ei wastraffu ar naratif newyddiadurol negyddol.
Fel rheol mae'n rhaid i'r cyfryngau chwilio am faferic, ac fel rheol mae hwnnw efo'r rhan fwyaf o'i yrfa wleidyddol y tu cefn iddo. Y tro hwn doedd dim rhaid chwilio, ac arweinydd y blaid oedd yn defnyddio prif bwynt ffocws y gynhadledd i gicio yn erbyn y tresi - a hynny o'r prif lwyfan. Gallwn fod yn reit siwr bod y Blaid Geidwadol 'Gymreig' wedi gofyn i Cameron draddodi eu negeseuon etholiadol creiddiol a pheidio dweud gair am Ewrop. Mae'r rhan fwyaf o gefnogwyr potensial y Toriaid o blaid Brexit - a 'dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i'w pechu trwy gymysgu'r negeseuon etholiadol efo negeseuon nad ydynt yn eu hoffi.
Gwnaeth Cameron yn gwbl groes i'r hyn ofynwyd ohono. Roedd wyneb Andrew RT Davies werth ei weld wrth wrando ar Cameron yn mynd trwy'i bethau. Gallwn fod yn eithaf siwr mai'r rheswm am hyn oedd bod Cameron wedi cael y myll efo Andrew RT Davies oherwydd ei benderfyniad i wrthwynebu aelodaeth o'r Undeb Ewropiaidd yn gyhoeddus.
A'r gwersi? Yn gyntaf yr un amlwg - mae ffraeo am Ewrop yn rhan o DNA y Toriaid. Yn ail, dydi ffawd y Toriaid Cymreig ddim yn arbennig o bwysig i Cameron - a'r rheswm am hynny yn ei dro ydi nad yw Cymru yn bwysig i'r Blaid Geidwadol Brydeinig. Mater bach ydi Cymru i'r Toriaid yn y diwedd - yn union fel y pleidiau unoliaethol eraill.
No comments:
Post a Comment