Jones yr ieuengaf unwaith eto mae gen i ofn. Nid yn nhir y troelli, na chamarwain trwy beidio cyflwyno'r ffeithiau i gyd ydan ni y tro hwn, ond yn nhir y celwydd noeth di addurn.
Mae honiad bod y rhan fwyaf o gytundebau sero awr Cymru yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd yn gyfangwbl anghywir - a dydi hi ddim yn bosibl i neb ddod i'r casgliad hwnnw yn ddamweiniol.
Yn ol y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael mae yna 81 o weithwyr Cyngor Gwynedd ar gytundebau sero awr. Mae'r ffigwr hwnnw wedi gostwng o 477 yn 2014 - y rheswm am hynny ydi bod Cyngor Gwynedd yn dilyn polisi bwriadol o ddileu cytundebau sero awr.
Ond hyd yn oed yn 2014 byddai'n gwbl gelwyddog i ddweud mai Cyngor Gwynedd oedd yn cynnig y rhan fwyaf o gytundebau sero awr Cymru. Roedd yna 4,000 o gytundebau felly yn cael eu gweinyddu yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol - gyda thua hanner y rheiny i'w cael ym Mhowys - cyngor sydd (ac oedd) yn cael ei redeg gan grwp annibynnol. Roedd cannoedd lawer hefyd yn cael eu cynnig gan gynghorau Llafur gyda Chyngor Pen y Bont (sy'n cynnwys rhan o etholaeth Carwyn Jones) yn gyfrifol am 418 ac Abertawe yn gyfrifol am 482. Mae'n debygol gyda llaw bod gwir ffigyrau rhai cynghorau Llafur yn uwch o lawer na'r hyn sy'n wybyddus oherwydd arfer nifer ohonynt i gontractio gwaith cyngor i gwmniau a chorfforaethau annibynnol - does yna ddim ffigyrau ar gael ar gyfer cyrff felly. Tua 12% o gytundebau sero awr Cymru oedd yng Ngwynedd bryd hynny.
Fel y dywedais, mae Cyngor Gwynedd wedi cael gwared o tua 80% o'u cytundebau sero awr mewn cyfnod o tua blwyddyn a hanner oherwydd eu bod yn dilyn polisi bwriadol o wneud hynny. Does gen i ddim gwybodaeth am ffigyrau diweddaraf cynghorau eraill Cymru - ond mae'n anhebygol bod y cwyp wedi bod yn agos at yr hyn sydd wedi digwydd yng Ngwynedd oherwydd nad ydi'r rhan fwyaf o gynghorau yn dilyn polisi rhagweithiol o'u dileu. Yn wir - os ydi'r graffeg mae Jac Capon yn ei ddyfynu yn gywir, mae yna gynnydd wedi bod yng ngweddill Cymru.
Yn ol pob tebyg mae rhywbeth yn yr amrediad 1% - 2% o gytundebau sero awr awdurdodau lleol Cymru yng Ngwynedd ar hyn o bryd - er nad oes gen i ffordd o fod yn gyfangwbl siwr am hynny. Mae hyn ymhell, bell o'r 50%+ sy'n cael ei honni gan Sion. Mae'r honiad yn gyfangwbl gamarweiniol.
Mae hefyd yn hynod anffodus gweld cynghorydd yn dwyn anfri ar ei gyngor ei hun trwy ddweud celwydd amdano.
Mi fyddai sylwadau tebyg gan aelod am Gyngor Sir Conwy yn torri rheolau Cod Ymddygiad y Cyngor, siŵr bod gan Wynedd cod tebyg
ReplyDeleteSiwr o fod Alwyn.
ReplyDelete