_ _ felly rydan ni yn eu cael nhw.
Mae'r drefn etholiadol yn sicrhau y byddan nhw yn cael eu hethol. Does gan y naill na'r llall ddim mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad 'na sydd gen i yng Nghynulliad Llundain neu Gyngor Lerpwl - ac mi fyddan nhw'n ei heglu hi am borfeydd brasach y cyfle cyntaf y byddant yn ei gael.
Ta waeth - i ddathlu'r achlysur mi ail gyhoeddwn dudalen flaen enwog y Guardian o 1996 wedi i Hamilton golli achos enllib yn erbyn y papur.
Mae Hamilton yn enwog yn bennaf oherwydd iddo dderbyn taliadau am ofyn cwestiynau seneddol am bres pan oedd yn aelod seneddol Ceidwadol - ac eto daeth ar ben y rhestr yn etholiadau mewnol UKIP yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Dweud pob dim sydd angen ei ddweud am aelodau UKIP yn y rhan hwnnw o 'r wlad mae gen i ofn.
Gwerth atgoffa'n hunain am hyn hefyd: https://youtu.be/fHcwa33I8UY
ReplyDelete