Thursday, March 31, 2016

Hybu busnesau bach - postscript

Un pwt bach arall ynglyn a chynlluniau Plaid Cymru a chynlluniau Llafur Arfon i roi hwb i fusnesau bach.

Yn y bon cynllun Plaid Cymru i hybu busnesau bach ydi ail strwythuro'r gyfundrefn drethiannol mewn modd lle gellid cefnogi yn ariannol pob busnes efo gwerth ardrethol o hyd at £20,000.  Byddai hyn o gymorth 90,000 o fusnesau, gyda 70,000 ddim yn talu unrhyw drethi busnes o gwbl ac 20,000 yn talu llai o drethi.

Mae cynllun Llafur Arfon wedi ei seilio ar berswadio'r Cynulliad i orfodi trefi i gynnig parcio rhad ac am ddim am ddwy awr y dydd. Bu Llafur mewn grym ers 1999 wrth gwrs a dydyn nhw heb wneud hyn.  Efallai mai 'r rheswm am hynny ydi y byddai cymryd camau o'r fath yn creu twll mawr du yng nghyllidebau cynghorau - yn arbennig felly rhai dinesig fel Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.  Byddai'n rhaid llenwi'r twll trwy dorri gwasanaethau, sacio gweithwyr neu godi treth y cyngor.

Ta waeth, yr hyn sy'n rhyfedd am y stori ydi nad ydi ymgeisydd Llafur yn Arfon - hyd y gwn i - erioed wedi dadlau ar lawr y cyngor y dylid cynnig parcio rhad ac am ddim yn nhrefi Gwynedd.  Byddai'n llawer haws sicrhau parcio rhad ac am ddim yng Ngwynedd trwy gael y cyngor i wneud hynny na thrwy gael y Cynulliad i greu deddf fyddai'n eu rhoi ben ben a phob cyngor bron yng Nghymru.

Rwan, efallai fy mod yn anghywir - ac fel arfer dwi 'n mwy na bodlon cywiro camargraff os mai dyna'r sefyllfa - ond mae'n ymddangos bod Sion eisiau cynnig parcio rhad ac am ddim trwy'r Cynulliad - trywydd fyddai'n nesaf peth i amhosibl.  Serch hynny nid yw wedi ceisio gwneud hynny trwy drywydd haws o lawer - cael y cyngor sy'n uniongyrchol gyfrifol am godi am barcio yn Arfon i beidio a gwneud hynny.

Pam tybed?


Hybu busnesau bach

Cymharwch a chyferbynwch:

Gweledigaeth Llafur Arfon:


ON - mater i'r Cyngor Sir (corff mae ymgeisydd Llafur eisoes yn aelod ohono) ydi gosod prisiau parcio yng Nghaernarfon. 

Gweledigaeth Plaid Cymru:

PRESS RELEASE. DATGANIAD I'R WASG.

Plaid. www.plaid.cymru

Dydd Iau 31ain o Fawrth 2016. I'w ryddhau ar unwaith.

 

Cynllun trethi busnes Plaid Cymru yn ymestyn cymorth i 90,000 o fusnesau Cymreig

 

Bydd Cymru'n symud o gael y trethi busnesau bach uchaf i'r rhai isaf

 

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn torri trethi busnes i 80% o fusnesi Cymreig, dywedodd Leanne WoodArweinydd Plaid Cymru a Siân Gwenllian Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnesau Bach heddiw.

 

Cyn ymweld a busnesau bach ym Mangor, dywedodd Siân Gwenllian fod cynlluniau Plaid Cymru'n golygu y byddai pob busnes gyda gwerth ardrethol o hyd at £20,000 yn cael cynnig mwy o gefnogaeth. Byddai hyn yn helpu 90,000 o fusnesau, gyda 70,000 ddim yn talu unrhyw drethi busnes o gwbl ac 20,000 yn talu llai o drethi.

 

Dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Fusnesau ac ymgeisydd y Cynulliad dros Arfon Siân Gwenllian:

 

"Mae gan Gymru ysbryd menter cryf ac rydym eisiau gwneud y mwyaf o'r brwdfrydedd hyn. Dan gynlluniau Plaid Cymru, bydd Cymru'n symud o gael y trethi busnesau bach uchaf i'r rhai isaf, gan roi mantais gystadleuol newydd i ni wrth geisio dennu, cynnal a chymell sefydlwyr busnesau'r dyfodol.

 

"Byddai cynlluniau Plaid Cymru'n ymestyn toriadau trethi busnes i bob busnes gyda gwerth ardrethol o £20,000 gan olygu na fydd 70,000 o fusnesau yn talu unrhyw drethi o gwbl.

 

"Bydd Plaid Cymru yn helpu busnesau ym mhob cwr o'r wlad ac yn rhoi cymorth gwerthfawr iddynt yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn."

 

Ychwanegodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru:

 

"Mae 98% o fusnesau Cymreig yn fusnesau bach, ac mae Plaid Cymru o ddifri am roi cefnogaeth gref iddynt. Dyna pam fy mod wedi apwyntio  Siân Gwenllian yn Weinidog Cysgodol dros Fusnesau Bach, gan bwysleisio pwysigrwydd busnesau bach i'r economi Gymreig.

 

"Dan gynlluniau Plaid Cymru, bydd 80% o fusnesau yn cael cymorth gyda threthi busnes, gan roi hwb werthfawr iddynt.

 

"Plaid Cymru yw blaid y busnesau bach a dan ein cynlluniau ni byddwn yn ei gwneud hi'n haws i fusnesau bach geisio am gytundebau sector cyhoeddus, byddwn yn sicrhau gwell mynediad i fusnesau bach i gyllid drwy sefydlu banc benthyca i fusnesau, a bydd Plaid Cymru'n rhoi mwy o arian yn eu pocedi drwy dorri trethi busnes."





Llongyfarchiadau i Adam, Sian a Helen _ _

_ _ _ ar gael eu dyrchafu i gabinet cysgodol Plaid Cymru.

Mae Llafur Arfon wedi ymateb gydag aeddfedrwydd, grafitas a charedigrwydd wrth gwrs.


Wednesday, March 30, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 12

Bydd darllenwyr Blogmenai yn falch o wybod nad Plaid Lafur Arfon sydd dan sylw y tro hwn, ond Dib Lems Gorllewin Caerdydd.  Dyma'r pamffled o dan sylw.


A dyma berfformiad trychinebus eu hymgeisydd yn etholiad y Cynulliad, yn etholiadau San Steffan y llynedd:


A dyma eu canlyniad dim cweit mor drychinebus yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011.


A dyma'r ganran maent wedi ei gael mewn is etholiadau yng Ngorllewin Caerdydd ers 2011 - Glan yr Afon 2015 4%, Pentyrch 2015 1%, Treganna 2014.3%, Glan yr Afon 2013 3%.  Yr ymgeisydd yn yr etholiad yma a'r sawl sy'n gyfrifol am y pamffled oedd eu hymgeisydd ym Mhentyrch - a chafodd o bosibl y canlyniad gwaethaf i'r Dib Lems yn hanes llywodraeth leol yng Nghymru.

Felly am wn i y byddai unrhyw sylwebydd gwrthrychol yn dod i'r casgliad bod Cadan mor debygol o ennill yr etholiad fis nesaf yng Ngorllewin Caerdydd ag yw o godi'r meirw'n fyw neu droi dwr yn win.  Felly be goblyn ydi'r stwff Elections here are a close fight between the Dib Lems & Labour 'ma?  

Wel - ag ystyried mai yn Llandaf mae'r pamffled yn cael ei ddosbarthu, mae'n debyg mai cyfeirio at etholiad Cyngor Caerdydd yn y ward honno mae Cadan.  Wele'r canlyniad yno, bryd hynny:


Felly mae Cadan yn dweud rhyw hanner gwir mewn ffordd - pleidleisiodd rhywbeth tros fil o unigolion gwahanol i ymgeiswyr ei blaid yn y ward fach hon mewn etholiad cyngor yn 2012 ac roedd Llafur yn ail agos.  Felly nid y celwydd noeth, di addurn y byddwn yn ei gael weithiau gan Blaid Lafur Arfon yma - ond ymgais i gamarwain trwy ddefnyddio gobyldigwc ystadegol - arbenigedd y Dib Lems ym mhob man.  Ystyrier

1) Dyma'r unig ward yng Ngorllewin Caerdydd lle cafodd y Dib Lems bleidlais barchus yn 2012.  Mae yna wyth ward arall - a doedd y Dib Lems ddim yn agos at fod yn gystadleuol mewn unrhyw un ohonyn nhw.  

2). Dydi Llandaf ddim yn uned yn etholiadau'r Cynulliad - ward braidd yn fach mewn uned llawer mwy ydi hi.  Fydd gan fawr o neb efo syniad na diddordeb pwy enilliodd yn Llandaf erbyn Mai 6ed.

3). Gallwn fod yn weddol siwr nad oedd y Dib Lems yn gystadleuol hyd yn oed yn Llandaf yn etholiadau Cynulliad 2012 a San Steffan yn 2015.  Tua 2,000 o bleidleisiau gafodd y Dib Lems trwy Orllewin Caerdydd ar y ddau achlysur - go brin bod unrhyw beth yn agos at hanner y rheiny yn Llandaf.  Trydydd neu bedwerydd oeddynt hyd yn oed yno yn 2012 a 2015 yn ol pob tebyg.

Felly yr hyn sydd gennym eto fyth ydi ymgais i dwyllo'r etholwyr.  Dydym ni ddim yn dweud celwydd wrth bobl yr ydym yn eu parchu, nag yn eu trin fel idiotiaid.  Beth bynnag arall y gellir ei ddweud am drigolion Llandaf, nid idiotiaid mohonynt - o bell, bell ffordd.  Daw'r cyfle i dalu'r pwyth i Cadan a'i blaid am eu sarhau ym mis Mai.  






Tuesday, March 29, 2016

Argraffiadau o ddathliadau Gwrthryfel 1916

Am rhyw reswm neu'i gilydd dydi'r wraig a finnau erioed wedi manteisio ar y cyfleoedd mynych sy'n codi yn y DU i fynychu dathliadau gwladwriaethol, felly dyma neidio ar y llong a chroesi i Ddulyn i ddathlu canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg.  Dyma un neu ddau o argraffiadau ychydig yn ddi strwythur.



Wedi cyrraedd Dulyn aethom am dro i Fynwent Arbour Hill - yno claddwyd arweinwyr y gwrthryfel mewn bedd torfol wedi iddynt gael eu saethu gan y fyddin Brydeinig yng Ngharchar Kilmainham.  Roedd yr hyn oedd yn ein haros yn - wel rhyfedd.  Roedd yna gryn weithgaredd o gwmpas y bedd gyda phobl yn penlinio neu'n sefyll wrth ei ochr, ac eraill yn edrych ar wal y tu cefn iddo oedd yn enwir'r sawl a laddwyd yn ystod yr ychydig ddyddiau o ymladd, ac yn pwyntio at wahanol enwau.  Ond roedd y swn yn y lle yn fyddarol - ac nid Gwyddelod oedd yn gwneud y swn ond Americanwyr.  Roedd y lle yn llawn o Americanwyr mewn cilts - bandiau chwythu o gwahanol ddinasoedd Americanaidd.






Yn y man ymddangosodd gorymdaith o rhywle a chasglodd yr ychydig gannoedd oedd yn gorymdeithio o gwmpas y bedd i wrando ar areithiau - er bod y bandiau yn ei gwneud yn anodd iawn clywed dim.  Ymddengys mai mudiad o'r enw'r Sean Heuston 1916 Dublin Society oedd yn gorymdeithio, a bod y digwyddiad yn un o gyfres faith o ddigwyddiadau oedd wedi eu trefnu yn Abour Hill gan wahanol fudiadau.  O'r hyn y gallwn gasglu ynghanol y swn roedd ganddynt dair thema - drwg dybiaeth o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, cred bod y wladwriaeth yn ceisio gwadu gwir hanes y Weriniaeth a chred bod cynlluniau i ail ddatblygu Moore Street yng nghanol Dulyn yn rhan o gynllwyn gan y wladwriaeth i lastwreiddio hanes y Weriniaeth.  Mae Moore Street yn faes brwydr - yr ardal olaf i syrthio i'r Prydeinwyr yn 1916.

O gerdded o gwmpas y dref wedyn roedd yn amlwg bod y digwyddiad yn un sylweddol - o safbwynt sific a masnaachol.  Mae pob tafarn a siop wedi eu haddurno - gyda chryn gystadleuaeth rhwng un sefydliad a'r llall i gael yr addurniadau gorau, mae pobl wedi addurno eu tai, mae crysau, baneri a phob math o baraffinalia sy'n ymwneud a'r digwyddiad ar werth mewn stondinau ar ochr y ffordd, ac mae adeiladau mwy swyddogol wedi eu haddurno hefyd.  



Wele pencadlys SIPTU - undeb llafur mwyaf Iwerddon.  Peidiwch a disgwyl gweld 1 Cathedral Road wedi ei addurno fel hyn yn y dyfodol agos.  



Roedd y cyfryngau torfol yn rhoi sylw sylweddol i'r digwyddiadau gyda chyfres hir o raglenni arbennig gan RTE a gelynion  chwyrn i'r traddodiad gweriniaethol yn y wasg - yr Irish Independent er enghraifft - yn ymuno yn brwdfrydedd. 

Gyda'r nos aethom am ddiod i'r Darkey Kelly's yn Christ Church.  O fynd i mewn roedd y lle'n llawn dop gyda band gwerin yn canu yn y gornel.  Er gwaetha'r nifer pobl roedd prynu diod yn weithred digon hawdd, gyda'r staff bar yn gweithio ar gyflymder rhyfeddol - roeddynt yn edrych tipyn bach fel rhywbeth o un o'r hen ffilmiau du a gwyn 'na lle mae pob dim yn digwydd ychydig yn rhy gyflym.  Caneuon rebel roedd y band yn eu canu.  

Mae yna gorff o gannoedd o ganeuon gwerin rebel yn Iwerddon sy'n ymdrin a'r gwrthdaro  sy'n dominyddu hanes y wlad - o'r gorffennol pell i lofruddiaeth Alan Ryan yn 2012.  Ceir nifer o ganeuon mae bron i bawb yn eu gwybod, a dyma'r caneuon mae Gwyddelod oddi cartref yn tueddu i'w canu pan maent yn dod at ei gilydd.  

Adref, fodd bynnag mae yna elfen o embaras yn ymwneud a nhw - a dydyn nhw ddim i'w clywed  mor aml a hynny mewn tafarnau ac ati.  Pan mae ambell un yn cael ei chanu y tueddiad ydi i'w claddu  rhywle rhwng Dublin City in the Rare Old Times a Buy Buy American Pie.  Byddai selogion Cymdeithas Sean Heuston yn dweud wrthych mai deugain mlynedd o naratif cyfryngol gwrth Wereniaethol sy'n gyfrifol am hynny.  Roedd y rhyfel hir yn y Gogledd yn gysylltiedig a'r naratif hwnnw wrth gwrs - ond roedd yn ffactor ynddo'i hun hefyd.

Doedd yna ddim llawer o embaras ar y noswaith arbennig yma, gydag un gan rebel yn dilyn y llall mewn cyfres ddi derfyn.  Yn ol pob golwg roedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa wedi bod allan trwy'r dydd, ac roeddynt yn cael eu hunain mewn tipyn o hwyl. O dipyn i beth dechreuodd rhyw ddeg o'r cleiantiaid gwffio am resymau nad oeddynt yn eglur i neb ond nhw eu hunain. Roedd sgiliau taflu allan y staff bar mor effeithiol ag oedd eu sgiliau tynnu peintiau, ac roedd y cwbl allan ar y stryd o fewn ychydig eiliadau.  Aeth pawb yn ol at y canu, a chyn diwedd y noson roedd pawb (oedd yn weddill) yn dyrnu'r awyr ac yn bloeddio I I IRA, I I IRA, I I IRA _ _ _ .  Byddai selogion y Sean Heuston yn gartrefol iawn, a byddai golygydd yr Irish Independent yn cael gwasgfa.

Roedd y seremoni goffau ei hun ychydig yn fwy sobor a phwyllog.  Doedd hi ddim yn bosibl mynd yn agos at ganolbwynt y seremoni - y GPO oherwydd bod yr holl ardal wedi ei chau i'r cyhoedd, felly roedd rhaid edrych ar sgrin fawr wrth ymyl Pont O'Connell.  Roedd y dyrfa yn anferth.  



Cafwyd darlleniadau o'r Proclemasiwn, barddoniaeth ac ati fel sy'n gyffredin mewn digwyddiadau fel hyn am wn i, plant yn gosod torch.  Roedd rhaid i elynion gwleidyddol chwyrn sefyll wrth ochrau ei gilydd i osod torch gydag Arglwydd Faer Dulyn, Críona Ní Dhálaigh (Sinn Fein) yn cael ei hun wrth yr Arlywydd, Michael D Higgins (Llafur) ac Enda Kenny (Fine Gael).  Aeth y faner uwchben y GPO i fyny ac i lawr ychydig o weithiau, a chafwyd un o'r pethau bach rhyfedd yna sy'n digwydd mewn seremoniau Gwyddelig, pan gafodd delwedd o filwr yn siarad ar ei ffon symudol fel roedd yr Arlywydd yn gosod ei dorch, ei darlledu i filiynau o bobl.  Prysurodd y fyddin i ryddhau datganiad i'r wasg oedd yn honni nad oedd y milwr yn gwneud unrhyw beth o'i le.




Ac wedyn cafwyd gorymdaith o filwyr a chaledwedd milwrol.  Rhaid cyfaddef nad oedd yr hyn a arddangoswyd yn ymddangos yn agos mor farwol a'r hyn sydd gan y DU i'w ddangos ar achlysuron tebyg.  Ond wedyn mae hynny'n ddigon dealladwy am wn i.  Mae'r naill wlad efo trefniadau pwrcasu caledwedd milwrol sy'n cael ei yrru gan bolisi tramor sydd wedi ei seilio ar y gred bod gan y wlad honno'r hawl i ymyryd yn filwrol yn lle bynnag mae rhywun yn gwneud rhywbeth nad ydyw yn ei hoffi.  Mae'r llall yn gweld rol amddiffyn neu gadw'r heddwch ar ran yr UN i'w lluoedd arfog.

O gerdded o gwmpas y ddinas wedyn roedd amrywiaeth dryslyd o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan gwahanol gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar hyd y mannau cyhoeddus - sesiynnau canu, darllen barddoniaeth, arddangosfeydd, sioeau crefft, ffeiriau i'r plant ac ati.  Roedd yna arddangosfa o stampiau sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer yr achlysur yng nghanolfan siopa drudfawr Powerscourt.  Roedd yna lawer o bobl yn gwisgo dilladau o'r cyfnod, a rhai'n gwisgo dillad milwrol o'r cyfnod.  Acenion Albanaidd i'w clywed yn y tafarnau, a nifer o Gymry o gwmpas hefyd.  

A dyna ni - seremoni gofio genedlaethol oedd yn adlewyrchu'r wlad a'i phobl yn eithaf da - y brwdfrydedd, y dychymyg, y diffyg polish, yr anffurfioldeb ochr yn ochr a'r ymlyniad i seremoni, y cyfeillgarwch naturiol ochr yn ochr a'r gwylltineb, yr ymarferoldeb pragmataidd ochr yn ochr a'r anhyblygrwydd ideolegol.  

Ac wrth gwrs roedd yr holl ddigwyddiad yn codi cwestiynau.  Ydi'r Weriniaeth wedi cwrdd a'i photensial tros gyfnod o ganrif?  Ydi delfrydau gweriniaethol y gwrthryfelwyr wedi eu gwireddu?  Ydi sofraniaeth cenedlaethol wedi ei ddefnyddio'n llawn i wella bywydau holl drigolion y wlad?  Pryd y bydd y Weriniaeth yn mynd i'r afael yn onest a'i chefndir ac amodau ei chreu a thrwy hynny yn cael gwared o'r rhagrith a safonau dwbl sy'n nodweddu ei bywyd gwleidyddol?

Ond mae'r Weriniaeth - beth bynnag ei methianau - mewn llawer gwell lle na ni i gynnal disgwrs genedlaethol ystyrlon, i ddod i dermau efo'r hyn ydyw a'r hyn oedd, ac i lunio diffiniad clir o'r hyn y gall fod.  Mae ganddi ei sofraniaeth cenedlaethol sy'n caniatau iddi lunio ei dyfodol ei hun, ac mae wedi delio efo llawer o'r waddol wenwynig o fod yn gydadran bach o bwer ymerodraethol anferth.  

Rydym ni ymhell, bell o fod yn y fan yna.





Saturday, March 26, 2016

Chwarae'r cerdyn iaith

Mae'n siwr y byddai wedi bod yn ormod i ddisgwyl i'n cyfeillion Llafur adael i un etholiad fynd heb chwarae'r cerdyn iaith.

Dathliadau 1916 a'r sefydliad gwleidyddol Gwyddelig

Dwi ar y cwch i'r Iwerddon -a bydd y sawl yn eich plith sydd wedi bod yn dilyn triniaeth (anisgwyl o gytbwys) y Bib yn gwybod bod canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn cael ei ddathlu y penwythnos yma.  Er gwaetha'r holl ddathlu - gwladwriaethol ac answyddogol - mae yna chwithdod.  Mae'r darn yma gan Fergal Keane yn egluro'n ddigon effeithiol pam - er fy mod yn anghytuno efo un elfen o'r dadansoddiad.

Y broblem ydi bod gwreiddiau'r rhan fwyaf o bleidiau Gwyddelig yn mynd yn ol i 1916 mewn gwirionedd, a 'doedd gan y gwrthryfelwyr ddim mandad democrataidd o unrhyw fath.  Gallai'r IRA a ymladdodd yn erbyn Prydain yn nechrau'r dau ddegau hawlio mandad - roedd Dail 1918 wedi rhoi caniatad o fath iddynt ymladd - ac roedd y corff hwnnw wedi ei ethol gan etholwyr oedd wedi eu radicaleiddio gan ddigwyddiadau 1916. Ond chafodd gwrthryfelwyr 1916 ddim caniatad gan neb.

Mae yna ddau draddodiad cenedlaetholgar Gwyddelig - un cyfansoddiadol ac un anghyfansoddiadol.  Yr un cyfansoddiadol sy'n dominyddu gan amlaf, ond o bryd i'w gilydd bydd y traddodiad arall yn ffrwydro i'r wyneb.  Dyna ddigwyddodd yn 1916 a'r blynyddoedd a ddilynodd hynny.  Dewisodd y rhan fwyaf o genedlaetholwyr Gwyddelig y fersiwn anghyfansoddiadol yn 1918 oherwydd trawma 1916, methiant Prydain i gyflwyno datganoli, ac anfodlonrwydd oherwydd y Rhyfel Mawr a rhan cenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn y rhyfel hwnnw.  

Felly mae'r wladwriaeth Wyddelig wedi ei geni o drais gan genedlaetholwyr anghyfansoddiadol, ond mae ei phrif bleidiau bellach yn rhai cyfansoddiadol sy 'n ymwrthod a thrais i hyrwyddo undod cenedlaethol.  O safbwynt y pleidiau cyfansoddiadol Gwyddelig (Fianna Fail, Fine Gael a Llafur)  y broblem ydi eu bod yn cystadlu efo Sinn Fein am rym.  Nid y gwrthryfelwyr cyfoes yn y Gogledd fel mae Keane yn awgrymu sy'n gwneud pethau'n anodd, ond gelynion etholiadol y presenol.



Mae'r blaid honno yn cyfiawnhau rhyfel hir yr IRA yng Ngogledd Iwerddon o ddiwedd chwe degau'r ganrif ddiwethaf i ganol y naw degau.  Yn wir cymrodd llawer o arweinwyr SF ran gweithredol yn y rhyfel hwnnw.  Mae SF yn fygythiad enfawr i'r sefydliad Gwyddelig sydd wedi sefydlu a chadarnhau ei afael ar strwythurau grym y Weriniaeth tros hanes y wladwriaeth.  Mae'n naturiol felly bod rhan SF yn rhyfel y ganrif ddiwethaf yn cael ei ddefnyddio fel gordd gwleidyddol i'w waldio yn ystod pob ymgyrch etholiadol.  

Daeth yn draddodiad gwleidyddol diweddar i'r cyfryngau Gwyddelig chwifio amdo, rhywun neu 'i gilydd a laddwyd gan yr IRA yn y ganrif ddiwethaf, i'r pedwar gwynt am wythnosau pan mae yna gymaint ag awgrym o etholiad.  Mae codi cyrff y ganrif ddiwethaf yn fwy effeithiol ac yn haws nag ateb am wendidau presenol y gyfundrefn wleidyddol.  Ond - fel yr awgrymwyd  - fyddai'r wladwriaeth Wyddelig erioed wedi dod i fodolaeth oni bai am Wrthryfel anghyfansoddiadol 1916, ac am y rheswm hwnnw mae'n ddigwyddiad arwyddocaol a phwysig i lawer o Wyddelod o pob plaid (ag eithrio unoliaethwyr y Gogledd).  

Mae natur y dathlu yn adlewyrchu'r ddeuoliaeth yma - ac mae'n nodweddiadol o sut mae'r sefydliad gwleidyddol Gwyddelig yn delio efo cymlethdodau anodd y gorffennol - cymylu ffiniau, cymysgu elfennau gwahanol, gwneud llinellau eglur yn aneglur.  

Mae'r ddelwedd uchod yn dangos baner a godwyd gan Gyngor Dulyn.  Mae'n dathlu Gwrthryfel 1916, ond roedd y  pedwar arweinydd cenedlaethol a ddangosir yn wleidyddion cyfansoddiadol o gyfnodau gwahanol yn hanes Iwerddon.  Roedd tri ohonynt wedi marw cyn 1916, ac arweiniodd y Gwrthryfel at ddifa plaid y pedwerydd - John Redmond.  Byddai'r pedwar wedi casau'r hyn ddigwyddodd yn 1916 gyda chasineb perffaith - ond maen nhw ar y faner beth bynnag.




Friday, March 25, 2016

Crowdfunder lleiaf llwyddiannus Cymru?

Mae gallu cyfathrebu ar y We wedi newid y ffordd rydym yn gwneud llawer iawn o bethau.  Enghraifft dda ydi codi pres.  Ers talwm os oedd rhywun eisiau codi pres roedd rhaid mynd ati i drefnu boreuau coffi ac ati.  Ond erbyn heddiw mae gennym Crowdfunders - gwefannau sy'n caniatau i bobl neu gymdeithasau ofyn am arian gan gynulleidfa fyd eang ar y We.  Mae rhai o'r rhain yn hynod lwyddiannus.  Er enghraifft mae perchenog y blog Wings Over Scotland, Stuart Campell yn llwyddo i godi digon o bres i gadw blog yn broffesiynol am flynyddoedd trwy'r dull hwn.




Ac wedyn mae yna gynlluniau llai llwyddiannus - un Dib Lems, Ceredigion er enghraifft.  Targed o £3,000 a £170 wedi ei godi efo diwrnod i fynd.





Os oes rhywun yn dod ar draws ymderch llai llwyddiannus i godi pres gadewch i mi wybod.  

Wednesday, March 23, 2016

Gelynion arwyneiddiaeth y Blaid Lafur

Ymddengys bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi llunio rhestr o'u gelynion.  Maent i'w gweld yn y ddwy golofn ar y dde.  Nid Toriaid, UKIPwyr nag yn wir cenedlaetholwyr ydyn nhw - ond yn hytrach aelodau seneddol Llafur.  Rhyfedd o fyd.






Tuesday, March 22, 2016

Y pol piniwn Cymreig diweddaraf

Fydda i ddim yn blogio ar bolau piniwn yn aml iawn, ond mi gawn ni gip sydyn ar y diweddaraf o bolau gan Brifysgol Caerdydd.  Wele'r canfyddiadau:
Etholaethau:
Llafur: 34% (-)
Toriaid: 22% (-)
Plaid Cymru: 21% (+2)
UKIP: 15% (-3)
Dib Lems: 6% (+1)
Eraill : 3% (+1)
Rhestr:
Llafur: 31% (-)
Toriaid: 22% (-)
Plaid Cymru: 22% (+3)
UKIP: 14% (-4)
Dib Lems: 5% (+1)
Gwyrddion: 4% (+1)
Eraill: 3% (-)
Petai'r polau yn cael eu gwireddu, yn ol dadansoddiad Roger Scully, byddai Llafur yn ennill 27 sedd, Plaid Cymru 13, y Toriaid 11, UKIP 7 a'r Dib Lems 2.
Rwan, dydi hi ddim yn syniad gwych i gymryd gormod o sylw o union ganrannau pol piniwn chwech wythnos cyn etholiad - gall llawer ddigwydd yn ystod ymgyrch etholiadol.  Yn ychwanegol at hynny dydi effaith refferendwm Ewrop sydd i'w gynnal ym mis Mehefin ddim yn amlwg eto.  Ond mae yna dri pheth sy'n rhoi lle i obeithio y gallai'r etholiad yma fod yn un dda i'r Blaid.
1.  Mae'n bosibl y bydd y nifer sy'n pleidleisio  yn anarferol o isel oherwydd bod naratifau ymgyrchoedd y Cynulliad yn cael eu boddi gan naratif ymgyrch Ewrop.  Mae Plaid Cymru 'n tueddu i wneud yn well pan mae'r cyfraddau pleidleisio yn isel gan bod ei chefnogwyr yn fwy parod na chefnogwyr pleidiau eraill (ag eithrio'r Toriaid o bosibl) i fynd allan i bleidleisio.  Mae hyn yn arbennig o wir am etholiad Cynulliad.
2.  Mae cyfeiriad patrymau cefnogaeth yn tueddu i fod yn bwysicach na'r union ganrannau fel mae etholiad yn dynesu.  Mae'r cyfeiriad yma yn galonogol i'r Blaid ac yn negyddol i UKIP.
3.  Mae hwn yn gysylltiedig ag 1.  Bydd Llafur yn tueddu i wneud yn salach na mae'r polau yn awgrymu mewn etholiadau Cymreig ac Ewropiaidd.  Mae'n debyg mai'r ffaith eu bod yn tueddu i ddioddef mwy na neb arall pan mae cyfraddau pleidleisio yn isel sy'n gyfrifol am hyn.
Ac mae yna rhywbeth arall hefyd - sy'n newyddion da i bob plaid ag eithrio'r Toriaid.  Mae'r pol wedi ei gymryd cyn y llanast a'r ffraeo diweddar ymysg Toriaid San Steffan.  Dim ond drwg all hynny ei wneud i'r blaid honno.  
Felly - ag edrych ar bethau o safbwynt y Blaid - mae'r pol yn addawol ac mae'n awgrymu bod canlyniad gwirioneddol dda yn bosibl ym mis Mai.  Ond mae angen ymgyrch dda i hynny ddigwydd, ac ni all hynny ddigwydd yn ei dro oni bai bod niferoedd sylweddol o bobl yn cymryd rhan yn yr ymgyrch.  
Felly os ydych  eisiau gweld newid go iawn rydych chi'n gwybod beth i 'w wneud _ _ 



Monday, March 21, 2016

Plaid Cymru ar y blaen - yn Planet Swans o leiaf

Peidiwch byth, byth a chymryd pol piniwn sy'n cael ei gynnal ar wefan gyhoeddus gormod o ddifri.  Mae pol 'go iawn' yn dewis yn ofalus eu sampl i wneud yn siwr ei fod yn debyg i'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.  Maent hefyd yn polio llawer o bobl gan amlaf.    Dydi polau gwefannau ddim yn gwneud hynny - felly does gennym ni ddim syniad os ydi'r sawl sy'n pleidleisio yn cynrychioli'r etholwyr yn gyffredinol.

Serch hynny mae fforwm Planet Swans yn lle anisgwyl i ddod o hyd i bol gwefan sy'n rhoi Plaid Cymru ar y blaen.  

Sunday, March 20, 2016

Y Toriaid - o ddrwg i waeth

Cliciwch ar y llun i ddarllen y stori.

Y Toriaid yn 2011

Gan bod y Toriaid yn San Steffan wedi penderfynu dad berfeddu ei gilydd yn gyhoeddus, a gan fod yr etholwyr efo hanes hir o gosbi pleidiau sy'n ffraeo'n gyhoeddus, a gan fod ffigyrau'r Toriaid yn y polau piniwn Prydeinig yn dangos arwyddion o syrthio'n weddol gyflym a gan ein bod o fewn ychydig wythnosau i etholiadau'r Cynulliad, waeth i ni edrych ar eu perfformiad yn  etholiadau'r Cynulliad 2011.  













Bore cynhyrchiol yn Nyffryn Nantlle

4,500 o bamffledi etholiadol Sian Gwenllian ac Arfon Jones wedi eu dosbarthu yn Nyffryn Nantlle a thu hwnt y bore 'ma.  Job done.












Noson diolch i Alun Ffred

Roedd Clwb Rygbi yn llawn neithiwr ar gyfer noson wedi ei threfnu i ddiolch i Alun Ffred am ei wasanaeth tros y dair ar ddeg mlynedd diwethaf.  Felly dyma ychydig o luniau o'r noson ac ystadegau tair etholiad Ffred.  Dwi'n meddwl bod y rheini yn dweud y cyfan.  






Caernarfon


Arfon






Thursday, March 17, 2016

Is etholiad Cyngor Tref Caerffili

Roger Bidgood Plaid Cymru 451
Llafur/ Labour 277

Ond 'tydi'r Toriaid 'ma'n rhai rhyfedd dywedwch?

Aelod seneddol a chyn weinidog Toriaidd yn rhoi'r gorau i drydar tros y Grawys, yna'n mynd ati i agor cyfri anhysbys, a defnyddio hwnnw i ymosod ar ei lywodraeth ei hun.



O diar

Oherwydd y drefn etholiadol a geir yng Nghymru, patrymau cefnogaeth wleidyddol a mathemateg y Cynulliad mae bron yn sicr y bydd Llafur yn ceisio dod o hyd i rhywun sy'n fodlon clymbleidio efo nhw ym mis Mai.  Dydi hyn ddim am fod yn hawdd - ar y gorau.  Un o'r rhesymau am hynny ydi canfyddiad bod y blaid honno yn hunan fodlon a thrahaus.  A dyma ni - ar ddiwrnod olaf y pedwerydd Cynulliad - Leighton Andrews yn ein hatgoffa ni i gyd o hynny - efo gwen drahaus ar ei wyneb.

Os bydd trafodaethau ar ol yr etholiad efallai y byddai'n ddoethach i Carwyn Jones anfon Leighton ar ei wyliau i Indonesia, Singapore, Seland Newydd neu rywle felly am ychydig wythnosau - os bydd yn llwyddo i gael ei ethol.



Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 11

Dydan ni ddim yn nhir y celwydd noeth y tro hwn - ond rydan ni yn edrych ar gam arwain bwriadol - a digon anymunol.  

Ymddengys bod yr Aelod Seneddol Llafur Jack Dromey yn ymgyrchu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru heddiw - yn rhannol i hyrwyddo ymgyrch ymgeisydd Llafur am swydd Comiwsiynydd yr Heddlu yn y Gogledd.  Mae'n honni bod tor cyfraith treisgar wedi cynyddu 17%.  Dydi o ddim yn egluro'r ffigwr - ond mae'n debyg ei fod yn cyfeirio at ganfyddiad yr ONS (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol) bod tor cyfraith treisgar wedi cynyddu 17% yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2015.  



Y problemau ydi bod y cynnydd mewn tor cyfraith treisgar yn uwch ar hyd gweddill y DU nag yng Ngogledd Cymru a bod yr ONS ei hun yn dweud mai'r prif resymau am hynny ydi oherwydd gwelliannau yn y ffordd mae ymysodiadau rhywiol yn cael eu cofnodi a mwy o barodrwydd gan bobl i riportio ymysodiadau felly i'r heddlu.

Mae tor cyfraith yng Nghymru a Lloegr yn cael ei ddadansoddi mewn ffordd arall - trwy ganfyddiadau'r Crime Survey of England and Wales.  Nid edrych ar ystadegau heddlu mae'r CSEW, ond holi'r cyhoedd ynglyn a'u profiad nhw o dor cyfraith.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ystyried canfyddiadau'r CSEW yn fwy dibenadwy na rhai'r ONS.  Mae astudiaeth y CSEW yn awgrymu nad oedd yna fawr o newid wedi bod mewn lefelau tor cyfraith treisgar tros y cyfnod tan sylw.

Rwan mae ffigyrau fel hyn yn cael eu taflu o gwmpas mewn etholiad - ond mae'n anghyfrifol i daflu ffigyrau na ellir dibynnu arnynt o gwmpas mewn perthynas a thor cyfraith.  Mae llawer o bobl yn meddwl eu bod yn byw mewn Byd mwy peryglus na maent yn byw ynddo go iawn - ac mae hynny yn arwain at boeni di angen, ac mewn rhai achosion bobl yn ofn gadael eu tai.  

Mae'n gwbl anghyfrifol i greu canfyddiad ffug o don o dor cyfraith treisgar.  

Sunday, March 13, 2016