Wednesday, February 24, 2016

Pwy sy'n rhy hen i wleidydda yn ol Llafur Arfon?


Rydym eisoes wedi edrych ar yr esiampl bach rhyfeddol yma o
ageism gan Blaid Lafur Arfon.  Beth bynnag am hynny, dwi'n rhyw feddwl bod y bennod yn cynnig cyfle da i gynnal cystadleuaeth fach.



Ar ol gwneud ychydig o syms bach elfennol i weld pwy mae Llafur Arfon yn eu hystyried eisoes yn rhy hen a musgrall i wleidydda, dwi wedi mynd ati i gywain lluniau nifer o hen begoriaid.  Mae rhan fwyaf yn hawdd, un neu ddau yn anodd iawn - ond mae'r cwbl yn dal i wleidydda.




                                  





































8 comments:

  1. Anonymous7:17 am

    Mae o'n adrodd cyfrolau am ragfarnau'r cyfryngau nad oes dim yn cael ei wneud o'r stori yma. Petai wedi dweud yn ei bamffled bod pobl hoyw yn anaddas neu bobl o India mi fyddai'r BBC, y Faily Post a Golwg tros y stori i gyd. Ond pan mae Llafur yn pigo ar grwpiau llawer mwy, y canol oed a'r hen does yna ddim gair. Mae bod efo rhagfarnau yn erbyn rhai grwpiau yn iawn, ond dim eraill.

    ReplyDelete
  2. Anonymous7:27 am

    Ond nath o ddim dweud hynny naddo ! Mond deud nath o y bysa fo yn sefyll mwy nag un tymor. Neu ydw'i wedi methu rhywbeth ??????

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:33 am

    Swn ni ddim yn cwyno am y peth Cai bach, mae'r pamffled yn pechu lot o bobl hen. Nhw ydi'r bobl sy'n fotio wrth gwrs. Mi gafodd mam wasgfa pan welodd hi y sylwadau. Dwi'n siwr y bydd llwyth o bobl eraill hefyd.

    ReplyDelete
  4. Anonymous2:07 pm

    Yma yng Ngheredigion mae'r Blaid Lafur newydd ddewis ei ymgeisydd. Crwt ifanc 21 oed o Arfon sy'n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Does neb for' hyn yn nabod e. Pwy yw e?

    ReplyDelete
  5. Anon7:27 Ti wedi colli rhywbeth. Pam ti'n meddwl bod boi 25 oed yn teimlo 'r angen i sicrhau pawb na fyddai'n rhoi'r gorau iddi ar ol tymor oherwydd 'hensint'?.

    Dwi ddim yn gwybod pwy ydi 'r boi Ceredigion mae gen i ofn.

    ReplyDelete
  6. Anonymous8:04 pm

    Tria hwn

    https://twitter.com/iwan4ceredigion

    ReplyDelete
  7. Sori, dal ddim callach.

    ReplyDelete
  8. Oni'n meddwl ei fod o'n hŷn na fi deu gwir. A dwi'n 30.

    ReplyDelete