Tuesday, February 16, 2016

Mwy o dystiolaeth nad ydi'r Gogledd yn cael chwarae teg gan Lafur

Dwi'n gwybod na fydd fawr neb yn y Gogledd angen tystiolaeth bod y rhanbarth yn cael triniaeth eilradd gan y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd - ond rhag ofn bod rhywun yn dal i amau hynny _ _ .


3 comments:

  1. Anonymous6:24 pm

    A oeddet yn dychmygu ysgrifennu pennawd fel hynny yn Medi 1997 ?. Credaf y bydd UKIP yn defnyddio dadl eithaf tebyg fis Mai. (Nid nad ydi hi'n ddadl deg iawn)

    ReplyDelete
  2. Na, mae'n debyg na fyddwn wedi meddwl am y peth bryd hynny.

    ReplyDelete
  3. Anonymous7:41 pm

    Mae'n beth rhyfedd meddwl ein bod bellach yn cwyno am yr union bethau yr oeddem yn wfftio gwrthwynebwyr datganoli am grybwyl. ond daeth yn amlwg fod y cydgyfeirio rhwng 'Wales a'r " Fro Gymraeg" a ddigwyddodd yn 1997 wedi hen chwalu. Ofnaf fod y Blaid Lafur bellach wedi mynd yn ol i'w hen arferiad o droi y dwr i'w melin eu hunain. Efallai fod ofn arnynt wneud hyn yn y dyddiau cynnar , neu efallai fod Alun Michael a Rhodri Morgan yn ddynion tecach na Carwyn Jones.
    Mae'n anodd meddwl am ffordd o oresgyn hyn, bellach.

    ReplyDelete