Mae yna lywodraeth amlwg wedi ymddangos o'r canlyniad cwbl anisgwyl yma - clymblaid FG / FF - gyda chymorth rhai o'r elfennau annibynnol gene pool - pobl sydd a'i gwreiddiau yn y ddwy brif blaid - os oes angen hynny. Ond 'dydi FG a FF ddim yn debygol o wneud hynny. Y rheswm am hynny ydi bod y Chwith yn y Weriniaeth yn wasgaredig iawn - gyda Sin Fein a nifer o grwpiau llai - a mwy asgell chwith - am yddfau ei gilydd. Petai'r ddwy blaid fawr yn clymbleidio SF fyddai'n arwain y yr wrthblaid. Byddai hynny'n eu darparu efo cyfle i uno'r Chwith Gwyddelig o gwmpas eu baner. Dewis go iawn i'r etholwyr ydi'r peth diwethaf mae'r prif bleidiau a'r sefydliad Gwyddelig ei eisiau. Felly maen nhw'n anhebygol o ddilyn y trywydd hwn.
Y Brodyr Healy-Rae, Danny a Michael - Annibynnol. Cafodd y ddau eu hethol yn Kerry - gyda Michael yn cael y bleidlais uchaf yn y wladwriaeth.
Y canlyniad mwyaf tebygol i hyn oll ydi ymgais gan un blaid - gyda chymorth grwp o annibynwyr o bosibl - i lywodraethu fel llywodraeth leiafrifol yn ogystal a chydsyniad distaw bach y brif blaid arall. Rhywbeth tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn yr Alban rhwng 2007 a 2011, ond mewn amgylchiadau llawer mwy cymhleth. Byddai hynny'n gadael y blaid fyddai'n arwain yr wrthblaid mewn lle anodd - byddai'n rhaid iddi ymddwyn fel gwrthblaid tra'n gwneud yn siwr nad yw'n dod a'r llywodraeth i lawr. Ni fydd hynny'n hawdd i'w gynnal - yn arbennig mewn diwylliant gwleidyddol sydd wedi arfer efo gwrthdaro chwyrn.
Y canlyniad mwyaf tebygol ydi etholiad arall o fewn ychydig fisoedd mae gen i ofn.
No comments:
Post a Comment