Mi fydd y sawl yn eich plith sy'n dilyn y pethau 'ma yn gwybod bod y blaid honno wedi bod mewn clymblaid efo'r blaid asgell dde, Fine Gael ers 2011. Mae'r glymblaid wedi dilyn polisi o lymder digon tebyg i un llywodraeth y DU ers hynny. Mae canlyniadau gwneud hynny i Lafur - y blaid leiaf yn y glymblaid - yn debygol o fod yn hynod negyddol - mor negyddol ag oedd i'r Dib Lems y llynedd.
Canlyniad pol piniwn yn etholaeth arweinydd y Blaid Lafur a'r dirprwy brif weinidog - Joan Burton - Dublin West a geir isod. Gan mai pedwar sedd sydd yn yr etholaeth, mae'n ymddangos y bydd yn colli ei sedd. Cafodd Llafur tua 29% yn yr etholaeth yn 2011.
Mae'r patrwm ehangach yn debyg, er nad yw'r gogwydd yn erbyn Llafur cyn gryfed ag yw yn Dublin West. Mae symudiadau etholiadol yn ninas Dulyn yn tueddu i fod yn fwy ffyrnig o lawer nag ydynt yng ngweddill y wlad. Yn ol y polau diweddaraf byddant yn cael tua 8% o gymharu a bron i 20% yn 2011. 'Dydi pob un o'r 37 sedd a enillwyd yn 2011 ddim am gael eu colli - ond bydd pob un sedd o dan bwysau. Byddant yn lwcus iawn o gael mwy na deg o seddi erbyn dechrau mis Mawrth. Gallai'r nifer fod gryn dipyn yn is na hynny.
Ac mae yna wers yn hyn oll wrth gwrs. Byddwch yn cofio'r hyn ddigwyddodd i'r Dib Lems druan y llynedd. Mae'n ymddangos bod y partneriaid llai mewn clymbleidiau yn tueddu i ddioddef mwy na'r partneriaid mawr pan mae polisiau amhoblogaidd yn cael eu gweithredu. Bydd y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd yn gorfod gweithredu polisiau amhoblogaidd. Bydd yna risg etholiadol sylweddol ynghlwm a bod yn bartner llai yn y llywodraeth nesaf. Dylai pob plaid gofio hynny yn ystod wythnosau cyntaf mis Mai pan bydd pob math o addewidion yn cael eu gwneud mewn ymdrech i ffurfio llywodraeth.
A oes yna unrhyw gysylltiad rhwng y Blaid Lafur yn Iwerddon a'r Blaid Lafur yn y Deyrnas Gyfunol?
ReplyDeleteNa dim. Mae'r Blaid Lafur Gwyddelig ei sefydlu gan James Conolly ychydig flynyddoedd cyn Gwrthryfel 1916.
ReplyDeleteDydi hi ddim yn bosib iddi hi ddal i fyny efo'u system nhw?
ReplyDeleteDdim o'r fan yna heb rywun o'r un plaid i roi trosglwyddiadau iddi.
ReplyDeleteDiolch Cai, y rheswm 'Roeddwn yn gofyn ydi fy mod yn teimlo y buasai yn beth da I bleidiau o wahanol wledydd Ewrop weithio gyda'i gilydd gyda egwyddorion tebyg. Buaswn yn Hapus iawn er enghraifft petasai y Blaid Lafur yng Nghymru yn wir Blaid Lafur Cymru, ond hefyd yn gweitthio gyda y Blaid Lafur yn Lloegr a gwledydd eraill. Mater dadleuol ar gyfer y dyfodol efallai?.
ReplyDeleteDwi'n meddwl bod roedd Plaid Lafur Iwerddon yn yr un grwp a Phlaid Lafur y DU yn senedd Ewrop - pan oedd ganddyn nhw sedd.
ReplyDelete