Jones yr ieuengaf eto fyth. Ei bamffled etholiadol diweddaraf sydd o dan sylw y tro yma. Gan bod bron i pob tudalen yn cam arwain mewn rhyw ffordd neu 'i gilydd, mae hon am fod yn un hir. Mae gen i ofn. Ymddiheuriadau o flaen llaw.
Dydw i ddim yn un da efo lliwiau, ond dwi'n deall nad lliwiau Llafur sydd wedi eu defnyddio. Mae yna logo Llafur gweddol fach ar waelod ambell i dudalen, ond dyna'r unig son am Lafur trwy'r pamffled. Mae'n debyg gen i bod Sion yn ddoeth i beidio a chysylltu ei hun efo'r blaid honno, peidio a cheisio amddiffyn eu record alaethus, na cheisio rhestru eu haddewidion ar gyfer yr etholiad yma. Beth bynnag, rhag ofn bod yna unrhyw un yn ansicr o'i bethau - ymgeisydd Llafur ydi Sion. Llafur ydi un o'r pleidiau a aeth trwy lobiau'r Ty Cyffredin fis Ebrill diwethaf i bleidleisio hyd at £15bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus, y blaid sydd a record drychinebus o lywodraethu Cymru ers 1999, y blaid sy'n gwario lwmp enfawr o bres cyfalaf Cymru ar ychydig filltiroedd o darmac ochrau Casnewydd a'r blaid sydd wedi rhoi setliad sobor o sal i Wynedd (a nifer o gynghorau eraill y Gogledd) a nifer o awdurdodau eraill y Gogledd a'r Gorllewin.
Mae'r teitl hefyd yn amheus iawn o safbwynt gramadegol, ac mae yna reswm am y teitl. Byddwn yn dychwelyd ar y rheswm hwnnw yn ddiweddarach.
Does yna ddim byd ofnadwy yma chwaith - ond nid vox pop ydi o. Mae'r gwr bonheddig ar y chwith yn gynghorwydd Llafur yng Nghaernarfon tra bod y foneddiges ar y dde yn actifydd Llafur o Fangor.
Mae hon fodd bynnag yn un eithaf hyll - heb son am hynod o wleidyddol anghywir. Mae Sion yn gwneud yn fawr o'i oed - mae'n ifanc iawn i wleidydd. Does yna ddim problem o gwbl efo hynny. Ond yr hyn sydd yn broblematig ydi'r datganiad na fyddai'n ymddeol wedi tymor oherwydd oed. Mae'n anodd gweld hyn fel unrhyw beth ond awgrymiad y byddai ei brif wrthwynebydd - Sian Gwenllian - yn ymddeol wedi tymor oherwydd oed. Rwan mae Sian gryn dipyn yn hyn na Sion - ond dydi hi ddim yn agos ddigon hen i orfod ystyried ymddeol ar ol tymor - a does ganddi hi ddim bwriad o gwbl i wneud hynny - ddim mwy na sydd gan ddau o weinidogion Llafur - Mark Drakeford sy'n hyn na hi a Leighton Andrews sydd tua'r un oed. Mae yna rhywbeth hynod anymunol mewn awgrymu y bydd rhywun yn rhoi'r gorau iddi pan nad oes ganddi fwriad o gwbl o wneud hynny, ac mae yna rhywbeth mwy anymunol yn yr awgrym bod gwrthwynebydd yn rhy hen i wleidydda. Ageism ydi'r term Saesneg dwi'n meddwl.
Mae yna ddau ychwanegiad bach rhyfedd i'r stori yma.
Pan mae'n ei siwtio mae Sion yn ystyried sefyll unwaith yn unig - os ydi'r trydariad isod yn dweud yr hyn mae'n ymddangos i fod yn ei ddweud.
Yn ail roedd Sion yn gefnogol o wleidydd arall gryn dipyn yn hyn na Sian tros yr haf yn ystod etholiad arweinyddol y Blaid Lafur:
Er, a bod yn deg - er gwaethaf yr ymdrech i gamarwain trwy ddweud ei fod wedi cefnogi Corbyn o 'r cychwyn - roedd o hefyd wedi cefnogi ymgeisydd arall ieuengach ar un adeg:
Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o'r holl anghysondeb 'ma - rhai gwleidyddion canol oed werth eu cefnogi, tra bod eraill am orfod rhoi'r gorau iddi oherwydd henaint, un tymor yn beth da weithiau ond yn beth drwg dro arall. Gallai rhywun yn hawdd feddwl nad gwleidyddion canol oed na gwleidyddion un tymor ydi'r broblem, ond merched o wleidyddion canol oed. Byddai hynny'n newid yr ageism yn sexism am wn i. Ond pwy a wyr? Efallai fy mod yn gwastraffu fy amser yn ceisio dod o hyd i gysondeb yma.
Rydan ni wedi delio efo Pont yr Aber. Mae yna gamarwain pellach bellach fodd bynnag gyda'r cyhuddiad mai bygythiad Plaid Cymru oedd y bygythiad i Bont yr Aber. Mi awn ni tros y stori eto yn fras iawn, iawn.
Mae'n rhaid i Gyngor Gwynedd dorri ar wariant yn sylweddol oherwydd toriadau mewn gwariant cyhoeddus a gefnogwyd gan Lafur yn San Steffan a setliad sal a gafodd Gwynedd gan lywodraeth Llafur Caerdydd. O ganlyniad aethwyd ati i ymgynghori efo'r cyhoedd ynglyn a dwsinau o doriadau posibl - gan gynnwys cau Pont yr Aber. Llunwyd rhestr doriadau wedi ei seilio bron yn llwyr ar ddymuniadau'r cyhoedd. Cymerodd o leiaf 60 cynghorydd o pob plaid ran yn y broses yma ar rhyw bwynt neu'i gilydd. Nid oedd y cyhoedd a gymrodd ran yn yr ymgynghoriad am gau Pont yr Aber, ac felly ni chaewyd y bont. Nid bygythiad Plaid Cymru oedd yna i 'r bont, ac nid Sion achubodd y bont, y cyhoedd wnaeth.
Mae gennym ni ddau beth yma, cyfeiriad at amddiffyn yr iaith Gymraeg ynghyd ag honiad bod gwleidyddion lleol yn gwrthod buddsoddiadau. Mi gychwynwn ni efo'r ail.
Mae'n anodd iawn ymateb yn fanwl am bod yr honiad mor gyffredinol. Byddai'n hynod anarferol i wleidyddion lleol wrthod buddsoddiad lleol - byddai hynny'n niweidiol iawn iddynt yn etholiadol - a byddai'n anarferol iawn i wleidyddion lleol fod efo'r grym i wrthod buddsoddiad oni bai bod hynny trwy'r gyfundrefn gynllunio. 'Dydi cynllunio ddim yn fater lle mae hawl ymdrin a fo'n wleidyddol. Felly ceir honiad o wleidyddion yn gwrthod buddsoddiad heb enwi'r un gwleidydd, nag enwi 'r un buddsoddiad sydd wedi ei wrthod nag egluro sut mae wedi ei wrthod. Os ydi hyn yn wir, mae gen i ddiddordeb gwirioneddol i wybod beth a wrthodwyd a phwy oedd yn gyfrifol a sut y cafodd ei wrthod. Ond mae rhywbeth yn dweud wrthyf na chaiff y manylion byth eu darparu oherwydd nad oes manylion i'w darparu.
O ran y Gymraeg, un o gonglfeini'r iaith yng Ngwynedd ydi'r ffaith ei bod yn iaith gweinyddiaeth llywodraeth leol. I weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg mae'n rhaid wrth sgiliad Cymraeg. Ymddengys bod Sion (gan fod yn chwerthinllyd o wleidyddol gywir y tro hwn) yn ystyried gofyn am sgiliau Cymraeg gan weithwyr fyddai'n defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith pob dydd fel rhywbeth sy'n ymylu ar hiliaeth. Mi wnawn ni adael honna yn y fan yna dwi'n meddwl.
Dwi'n dechrau cael llond bol ar gywiro ymdrechion bwriadol Llafur i gam arwain, cawn olwg ar gamarwain Toriaidd yn y nesaf yn y gyfres cywiro datganiadau camarweiniol - myrllwch a dryswch ymenyddol sydd y tu hwnt i hynny gan amlaf yn hytrach nag ymgais i greu realiti cyfochrog.
Oni bai bod Siôn wedi clywed un o'i wrthwynebwyr yn datgan ei bod am ymddeol ar ôl un tymor, mae ei ddatganiad am oedran yn ymyly ar dorri y cyfraith etholiadol parthed dweud celwydd noeth am wrthwynebydd er mwyn effeithio ar ganlyniad etholiad.
ReplyDeletePwy ydi asiant Sion Jones?
ReplyDeleteNewydd weld mai Tecwyn Thomas ydi'r un y bydd y gyfraith yn ei gosbi os bydd Sion 'let's bomb Syria' Jones yn mynd yn rhy bell. Pob lwc Tecwyn!
ReplyDeleteDwi ddim yn meddwl bod yna gwestiwn o unrhyw beth felly bois. Does yna ddim datganiad uniongyrchol - dim ond awgrym cryf.
ReplyDeleteOnd be am record Plaid Cymru yng Ngwynedd. Yn 1974 aeth Dafydd Wigley (aka Yr arglwydd) I fewn fel AS, a tyda ni ddim wedi elw dim bron o gynrychiolaeth Plaid Cymru ers 1974. Do death Euro DPC I Lanberis gyda cymorth Dafydd (yn ol Dafydd) ond dim byd arall. Amser am newid I weld be all rhywyn arall wneud I ni yng Ngwynedd.
ReplyDelete