Roeddwn wedi rhyw addo cael golwg ar y rhagolygon ar gyfer y ddwy etholiad cyffredinol yn yr Iwerddon fydd yn cael eu cynnal eleni. Er nad ydi'r etholiad wedi ei galw eto, bydd rhaid ei chynnal erbyn y gwanwyn, ac mae'r ymgyrch i bob pwrpas wedi cychwyn. Mi gychwynwn ni efo pwt am y cefndir gwleidyddol yn gyntaf.
Dwy blaid sydd wedi dominyddu yn Iwerddon ers degawdau - Fianna Fail a Fine Gael. Erbyn heddiw mae'r ddwy blaid yn debyg iawn o ran gwleidyddiaeth - Centre Right fyddai'r term yn y Saesneg mae'n debyg. Ffurfiodd y naill blaid o'r ochr a enilliodd y Rhyfel Cartref (FG), a datblygodd y llall o'r ochr a gollodd (FF). Yn eironig ddigon daeth yr ochr a gollodd y rhyfel i ddominyddu'r heddwch - gyda Fianna Fail yn dod i fod yn blaid fwyaf Iwerddon am ddegawdau lawer. Doedd y gwahaniaeth rhwng y pleidiau ddim yn fawr - roedd FF yn fwy ceidwadol mewn materion cymdeithasol, ond yn fwy hyblyg, popiwlistaidd a phragmataidd na FG mewn materion economaidd. Roedd hefyd yn fwy gweriniaethol a chenedlaetholgar.
Ffurfiodd gwleidyddiaeth modern Gweriniaeth Iwerddon yn y blynyddoedd wedi'r Rhyfel Cartref o gwmpas yr hollt chwerw a agorwyd mewn cymdeithas Gwyddelig gan y trawma cenedlaethol hwnnw - ac yna rhewodd. Ciliodd y Rhyfel Cartref yn y cof ddegawd wrth ddegawd - ond arhosodd y wleidyddiaeth Rhyfel Cartref. Daeth ambell i blaid ac yna diflannu, roedd y Blaid Lafur yno o'r dechrau bron - ond rhyw hanner plaid oedd hi mewn gwirionedd - yn cael ei hun ddigon cryf i gyngrheirio efo FG i gadw FF allan o rym o bryd i'w gilydd.
Roedd y gyfundrefn wleidyddol - gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref - yn edrych yn ddi symud - yn anorchfygol. Ond yna - daeth yr argyfwng ariannol mawr ym mlynyddoedd diwethaf y ddegawd diwethaf - a meiriolodd y gyfundrefn wleidyddol tros nos. Collodd FF lawer o'i chefnogaeth gwledig i FG a'i chefnogaeth trefol i Lafur. Symudodd Sinn Fein yn ei blaen rhywfaint - plaid sy'n cyn ddyddio'r lleill ond sydd a'i gwreiddiau diweddar yn ymwthio o'r ffin a rhyfel diweddarach o lawer - ac enilliodd gwahanol grwpiau annibynnol gefnogaeth sylweddol iawn hefyd. Roedd Etholiad Cyffredinol 2011 yn drychineb i FF. Wele'r canlyniadau:
Mae'r polau diweddaraf yn awgrymu y bydd y ddwy blaid lywodraethol - Llafur a FG yn colli cefnogaeth - ac yn arbennig felly Llafur. Serch hynny mae FG yn dal yn glir ar y blaen. Bydd FF yn cynyddu eu cefnogaeth rhyw gymaint - ond heb ddod yn agos at eu cefnogaeth flaenorol, a bydd SF yn dwblu eu cefnogaeth. Bydd y gwahanol grwpiau annibynnol yn cynyddu eu cefnogaeth hyd yn oed yn fwy na hynny. Dwi'n tueddu i gredu bod y polau yn debygol o gael eu gwireddu i raddau helaeth ond gyda SF yn gwneud ychydig yn well na maent yn awgrymu a Llafur yn waeth. Mae'r data creiddiol yn rhoi SF yn llawer nes at FG na'r data terfynol, ac mae hefyd yn awgrymu y bydd Llafur yn gwneud yn salach.
Dau beth sy'n ddiddorol mewn gwirionedd ac mae'r ddau yn ymwneud a SF mewn gwirionedd.
Mae'n amlwg mai FG fydd yn arwain y llywodraeth nesaf, ond mae pwy fydd yn brif wrthblaid yn bwysig. Petai 'n SF yn hytrach na FF byddai gwleidyddiaeth y Rhyfel Cartref o'r diwedd wedi dod i ben go iawn. Petai FG yn cael eu gorfodi i glymbleidio efo FF - (maent yn dweud nad ydynt yn fodlon gwneud hynny - ond rhifau nid egwyddorion sy'n penderfynu pethau fel hyn yng ngwleidyddiaeth Iwerddon) - byddai diflaniad y wleidyddiaeth honno hyd yn oed yn fwy disymwth.
Mae'r ail fater o ddiddordeb yn ymwneud a gwleidyddiaeth y Chwith. Mae yna bleidlais Chwith go sylweddol yn yr Iwerddon erbyn hyn, ond mae wedi ei gwasgaru rhwng SF, Llafur (er ei bod yn amheus y gellir ystyried y blaid honno yn blaid adain Chwith bellach) a nifer o bleidiau / unigolion sy'n cael eu cyfri ymysg yr annibynwyr. Mae'n sicr y bydd y bleidlais yn wasgaredig ar ddiwrnod yr etholiad, ond yr her i SF wedi hynny fydd i grisialu'r Chwith o 'u cwmpas. Os digwydd hynny bydd gwleidyddiaeth y Weriniaeth yn y dyfodol yn dra gwahanol i'r hyn a gafwyd ers sefydlu'r wladwriaeth.
No comments:
Post a Comment