Cyn bod y blog wedi bod wrthi'n cywirio datganiadau sydd yn gl _ _ ahem, gamarweiniol gan wleidyddion (Llafur yn bennaf), a chan bod datganiadau felly yn rhwym o gynyddu fel bydd etholiad mis Mai yn dynesu, waeth i ni ddechrau cyfres fach ar y thema. Bydd pethau'n gweithio fel hyn - byddaf yn dyfynu 'r sawl sydd yn camarwain, cywiro'r camarweiniad a chynnig eglurhad pellach os oes angen.
Mi wnawn ni ddechrau Kevin Madge, cyn arweinydd Llafur yn Sir Gâr. Yn ol y blogiwr o Gastell Newydd Emlyn - Cneifiwr gwnaeth y datganiad canlynol tra'n trafod aildrefnu llywodraeth leol yn y Carmarthenshire Herald wythnos diwetha:
"The Labour Party is not supportive of any reorganisation......If Leanne Wood has been having talks and they involve bringing back Dyfed, they (h.y. y Blaid) need to come clean now."
Does dim angen llawer o eglurhad pellach yma.
(1) Polisi Llafur ydi ad drefnu llywodraeth leol - ac ail gyflwyno'r hen Ddyfed yn y De Orllewin. Mae'r bwriad wedi ei atal gan Blaid Cymru - am y tro o leiaf.
(2). Llywodraeth Lafur - nid un Plaid Cymru - ydi llywodraeth Cymru. Carwyn Jones ydi'r Prif Weinidog, nid Leanne Wood.