Friday, October 30, 2015

Mr Graham a Mr Asghar yn wynebu hystings teg

Mi fydd darllenwyr hir dymor Blogmenai yn gwybod bod y cwestiwn o sut mae'r Toriaid. 'Cymreig' yn dewis eu hymgeiswyr cynulliad rhanbarthol wedi bod yn fater sydd wedi mynd a'r sylw o bryd i'w gilydd. 


Daeth y mater i'r golwg gyntaf pan benderfynodd Mohammad Asghar adael Plaid Cymru ac ymuno efo'r Toriaid oherwydd nad oedd y Blaid yn fodlon gadael iddo gyflogi aelodau o'i deulu - yn wahanol i'r Toriaid.  Ymddengys i Asghar dderbyn sicrwydd bryd hynny y byddai'n cael un o'r ddau le cyntaf ar y rhestr fel gwobr am ddod trosodd at y Toriaid.

Beth bynnag, ar ol hir a hwyr o geisio dod o hyd i sut yn union mae'r Toriaid yn dewis eu hymgeiswyr rhestr, ymddengys bod y sawl sydd eisoes yn aelodau yn cael un o 'r ddau le cyntaf yn awtomatig tra bod pawb arall yn gorfod ymladd am y trydydd a'r pedwerydd lle - hynny yw ymladd am leoliadau nad oes gobaith iddynt gael eu hethol oddi arnynt.  Mi fyddai trefn mor anemocrataidd sy'n hyrwyddo diffyg atebolrwydd yn gryn stori yn unrhyw le arall - ond Cymru ydi Cymru, a'r cyfryngau Cymreig ydi'r cyfryngau Cymreig.

Ond chware teg i Doriaid De Ddwyrain Cymru - maen nhw wedi mynnu cael hystings agored a bydd rhaid i'r ddau AC - Mohammad Asghar a William Graham gymryd eu siawns efo 10 ymgeisydd arall.  

Gall ysbryd democratiaeth dorri i'r wyneb yn y llefydd mwyaf anhebygol!


Thursday, October 29, 2015

Lansio ymgyrch Helen yn Llanelli

Llongyfarchiadau i griw Llanelli ar lansiad arbennig o slic a phroffesiynol.

Wednesday, October 28, 2015

Ynglyn a defnyddio swyddogaeth undeb i bwrpas propoganda pleidiol wleidyddol

Mae'n ddiddorol bod Unsain yn mynnu ymddiheuriad gan y Blaid oherwydd y darllediad gwleidyddol diweddaraf sy'n tynnu sylw at fethiannau treuenus Llafur i gynnig gwasanaethau cyhoeddus effeithiol yng Nghymru.  Gellir darllen y stori gyflawn yma, ac mae'r darllediad wedi ei gyhoeddi ar y blog hwn ychydig ddyddiau yn ol.


Rwan, does 'na neb am wn i yn cymryd bod Unsain yn annibynnol o Lafur mewn unrhyw ffordd ystyriol o gwbl.  Yn wir mae fwy ynghlwm a chorpws llonydd, lleddf, hunan fodlon Llafur Cymru nag ydyw'r un undeb arall.  Ond yn yr achos yma mae yna gysylltiad agosach fyth.  Mi fydd y sawl yn eich plith sy'n gyfarwydd a gwleidyddiaeth etholiadol Arfon yn cofio'r gwr bonheddig yn y llun isod - Martin Eaglestone.


Safodd Martin mewn nifer o etholiadau Cynulliad a San Steffan yn Arfon /Caernarfon i Lafur yn yr etholaeth yn ystod y ddegawd ddiwethaf - gan gael cweir pob tro wrth reswm.  Bryd hynny roedd yn byw efo'i wraig a'i bump o blant yn y Felinheli.  Mae gen i frith gof o ganfasio ei dy yn ddamweiniol mewn rhyw etholiad neu'i gilydd.

Beth bynnag, diflannodd i Gaerdydd yn fuan wedi'r gweir arferol yn 2007 gan ail ymddangos yng Nghaerdydd.  Mae bellach yn byw yng nghyffiniau 'r Brifddinas ac mae'n briod a dynas newydd - Dawn Bowden.  Fel y gwelwch o'i thudalen flaen Trydar, does ganddi ddim cysylltiad o unrhyw fath efo'r Blaid Lafur fel y cyfryw:


Nagoes wir, dynas undeb ydi Dawn - a hi ydi'r swyddog Unsain sy'n gyfrifol am faterion iechyd yng Nghymru.  Hi hefyd sydd wedi bod yn gyfrifol am y myllio a'r tantro hunan gyfiawn sy'n nodweddu'r stori fach yma.

Rwan mae'n bosibl wrth gwrs mai consyrn at ei haelodau sydd yn gyrru sterics Dawn.  Byddai hynny'n rhyfedd braidd gan nad oes unrhyw feirniadaeth o aelodau Unsain - nag unrhyw undeb arall - yn y darllediad.  Beirniadaeth o'r blaid wleidyddol sydd wedi rhoi arweiniad mor ddi ddim a di gyfeiriad tros cymaint o flynyddoedd sydd yna.  Ond dyna fo, mae pobl yn gallu bod yn rhyfedd.

Ar y llaw arall gallai Dawn fod yn defnyddio ei statws o fewn Unsain i gymryd rhan mewn ymarferiad propoganda pleidiol wleidyddol yn dilyn cynllwyn bach a ddeorwyd tros y bwrdd brecwast rhwng dau hac Llafuraidd.

Dwi'n meddwl fy mod yn gwybod pa eglurhad sydd fwyaf tebygol.

Tuesday, October 27, 2015

Felix, Sion a deddfau cyffuriau

Mi glywais i rhyw fymryd o raglen radio Vaughan Roderick y diwrnod o'r blaen.  Ymysg eitemau eraill cafwyd trafodaeth ar gyfreithloni canabis. Vaughan, Felix Aubel, Sion Jones a rhywun arall nad ydw i'n cofio ei henw oedd yn cymryd rhan.   Fel llawer o raglenni mae Felix yn cymryd rhan ynddi roedd yna rhyw gymysgedd rhyfedd o'r boncyrs a'r di niwed o'i chwmpas.  Roedd y pedwar ohonyn nhw yn mynd trwy'i pethau fel petai yna fewath o dystiolaeth bod erlid defnyddwyr canabis wedi lleihau'r defnydd a wneir o'r cyffur.  Roedd Felix yn ein sicrhau bod 'ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl' wedi dangos iddo bod defnyddio'r cyffur meddal hwn gwneud i bobl ymosod ar eu partneriaid, treisio eu plant ac achosi anhrefn ar y strydoedd.  Mae'n amlwg nad yw 'ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl' wedi arwain ato'n cael ei hun mewn sefyllfa lle mae ganddo sbliff yn ei geg.  Roedd Sion yntau'n poeni am y sefyllfa, ac am i 'r awdurdodau fynd ar ol defnyddwyr cyffuriau a'u cosbi 'n llymach o lawer.  Roedd Felix wrth gwrs yn cytuno.

Rwan mae defnyddio cyffuriau yn beth eithaf stiwpid i'w wneud - ond dydi o ddim mor stiwpid ag ydi cred Sion a Felix mai 'r ffordd ymlaen ydi gwneud defnydd hyd yn oed yn fwy llym o'r gyfundrefn droseddol.

Y broblem efo'r cyfreithiau cyffuriau sydd gennym ar hyn o bryd ydi nad ydyn nhw'n gweithio - a dydyn nhw erioed wedi gweithio.  Ers 1971 mae tua £1 triliwn wedi ei wario ar hyd a lled y Byd mewn ymdrech i atal pobl rhag defnyddio cyffuriau trwy wneud defnydd llawdrwm o'r system gyfreithiol. Ac eto mae'r farchnad yn cynyddu a chynyddu, a chynyddu a chynyddu gan greu elw rhyfeddol i ddrwg weithredwyr ar hyd a lled y Byd.   Rydym yn clustnodi amser ac adnoddau di ben draw i fynd i'r afael a'r broblem - yn taflu niferoedd enfawr o bobl i'r carchar - a'r canlyniad ydi bod mwy o gyffuriau ar y stryd a bod mwy o elw yn cael ei wneud gan ddrwg weithredwyr.

Mae yna resymau sy'n ymwneud a grymoedd economaidd sylfaenol yn gyrru hyn oll.  Fel mae'r awdurdodau yn mynd yn fwyfwy llawdrwm ar y drwgweithredwyr sy'n cyflenwi cyffuriau, mae'r sawl sy 'n fodlon cymryd y risg i gyflenwi yn gofyn am fwy o arian - wedyn mae pris cyffuriau yn cynyddu ac wedyn mae'r sawl sy'n ei ddefnyddio yn cael eu hunain yn gorfod torri cyfreithiau eraill er mwyn fforddio talu am gyffuriau.  Mae'r drefn sydd ohoni yn gwthio prisiau cyffuriau i fyny, a'r bobl sydd yn elwa o hynny ydi gangiau o ddrwg weithredwyr sy'n gweithredu ar hyd a lled y Byd - o Gaernarfon i Fogota.  Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng natur cyfreithiau gwrth gyffuriau a'r anhrefn mae cyffuriau yn eu hachosi ar hyd a lled y Byd.  Mae'r fasnach Fyd eang werth tua $300bn.

Mae effaith hyn ar hyd a lled y Byd yn syfrdanol.  Mae'n debyg i tua 100,000 o bobl farw ym Mecsico rhwng 2006 a 2015 oherwydd yr anhrefn mae'r diwydiant cyffuriau ac ymdrechion yr awdurdodau i 'w atal wedi ei greu. Ychydig mwy na 3,000 fu farw yng Ngogledd Iwerddon trwy'r rhyfel hir yno. Ceir carchardai llawn at yr ymylon mewn llawer o wledydd (defnyddwyr cyffuriau ydi mwyafrif carcharorion America - tua 500,000 o bobl). 

Ac eto dydi 'r holl ymdrechion ddim wedi cael unrhyw effaith o gwbl.  Yn ol rhai amcangyfrifon mae traean o oedolion y DU wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ar rhyw bwynt neu'i gilydd yn eu bywydau.  Mae un plentyn mewn chwech rhwng 11ac 15 oed yn defnyddio cyffuriau, mae yna tua 2,000 o bobl yn marw y flwyddyn o ganlyniad i gyffuriau ac mae 'r defnydd o gyffuriau cyfreithlon - legal highs - yn rhemp.

Ac eto (yn y DU) mae tua 500,000 o bobl yn cael eu stopio a'u harchwilio am gyffuriau yn flynyddol yn y DU, ac mae 70,000 o bobl yn cael eu bywydau wedi eu difetha trwy gael record troseddol am ddefnyddio cyffuriau.

Er gwaethaf hyn oll 'dydi'r broblem ddim yn gwella o gwbl.  Yn wir mae ymchwil y Swyddfa Gartref yn dangos yn weddol glir nad oes perthynas rhwng llymder cyfreithiau cyffuriau a faint o bobl sy'n defnyddio cyffuriau.

Mae yna ffyrdd o leihau'r defnydd o gyffuriau - ond nid trwy erlid pobl sy 'n gwneud drwg i neb ag eithrio eu hunain a bwydo cyfrifon banc drwgweithredwyr ar hyd a lled y Byd efo biliynau o bunnoedd mae gwneud hynny.

I'r pesimistiaid iaith

Pwt bach i'r sawl yn eich plith sy'n wylofain ac yn rhincian dannedd yn barhaol am ddyfodol yr iaith.  Yn ol y dudalen yma o wefan Comiwsiynydd y Gymraeg roedd yna ganran uwch o blant 3/4 oed yn siarad Cymraeg yn 2011 nag ar unrhyw adeg ers 1931.  Ar ben hynny wrth gwrs mae grwpiau ifanc o fewn y boblogaeth yn llawer mwy tebygol o siarad y Gymraeg na'r grwpiau hyn.

Dydi hyn oll ddim yn golygu bod yr iaith yn ddiogel wrth gwrs - ond mae angen cyfeirio at y cadarnhaol yn ogystal a'r negyddol.

I weld y ddelwedd yn iawn cliciwch yma.


Tudalen olaf fersiwn Gymraeg maniffesto UKIP

Ymddengys bod 'na fersiwn Gymraeg o'r fersiwn Gymraeg.

Monday, October 26, 2015

O Gydweli i Gwmaman

Ac i ffwrdd a ni o Gyngor Tref Cydweli i Gyngor Tref Cwmaman - a chynghorydd Llafur arall.  Collodd maer Llafur Cwmaman Shahid Hussain bleidlais o ddiffyg hyder yn ddiweddar o 11 pleidlais i 1 gyda'r maer yn pleidleisio o'i blaid ei hun, un yn ymatal a phawb arall yn pleidleisio yn ei erbyn.


Mae'r hanes yn ddigon syml yn y bon - gwrthododd Shahid ddatgan diddordeb cyn trafodaeth am gais cynllunio oedd i 'w drafod yn ddiweddarach gan Gyngor Sir Caerfyrddin.  Gan bod cais cynllunio i agor siop gan Shahid ei hun 'doedd hi ddim yn briodol iddo fynegi barn ynglyn a chais Tesco - dylai fod wedi cau ei big a gadael yr ystafell.  Aeth hi'n glamp o ffrae rhwng Shahid a'i gyd gynghorwyr pan ddywedwyd wrtho na ddylai siarad - ac mae'r mater yn debygol o gyrraedd yr ombwdsman.  Mae'n dra phosibl mai Shahid ydi'r unig faer yn hanes Cyngor Cwmaman i golli ei swydd o ganlyniad i bleidlais o ddiffyg hyder.

Ymddengys nad dyna'r tro cyntaf i Shahid fethu a datgan diddordeb mewn mater oedd yn sicr o ddiddordeb iddo.  Mewn cyfarfod cyhoeddus  ar ddyfodol lleoliad y Swyddfa Post a gadeirwyd gan Shahid gwrthwynebodd symud Swyddfa Bost i'r ganolfan gymuned heb ddatgan  ei fod am i 'r Swyddfa Post fynd i'w garej ei hun.  Pan ddywedodd ein hen gyfaill Kevin Madge wrtho y dylai ddatgan diddordeb ymddengys iddo ddweud  This is a load of fucking shit.

Yr hyn sydd gan Shahid a Ryan ydi bod y ddau wedi eu dewis gan Lafur i fod yn gynghorwyr tref iddynt yn Sir Gaerfyrddin.  Mae Ryan wedi ei ddi arddel a'i ail arddel. Dydi hi ddim yn ymddangos bod Llafur yn arbennig o ddethol ynglyn a phwy maent yn eu dewis i 'w cyflwyno gerbron yr etholwyr.


Ymgeisydd Llafur yn is etholiad Cydweli

Mae nifer wedi eu synnu at ddewis Llafur o ymgeisydd ar gyfer yr is etholiad yma sydd i'w chynnal ar Dachwedd 19 yn dilyn marwolaeth Keith Davies (Llafur).


Ryan Thomas, cyn is faer Cydweli ydi'r ymgeisydd.  Daeth Ryan i sylw cyhoeddus yn gynharach eleni pan benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ollwng  achos llys yn ei erbyn ar y bore pan oedd yr achos i fod i fynd rhagddo, wedi iddo ymddiheuro i ddynas ifanc iawn am gyffwrdd a'i bronnau mewn digwyddiad meddw yn ystod seremoni codi maer newydd i Gydweli yn ol ym mis Mai 2014.  Er nad ydi hi'n bosibl enwi'r ddynas o dan sylw am resymau cyfreithiol, mae hi a'i theulu yn adnabyddus iawn yn yr ardal.

Ta waeth, canlyniad byr dymor hyn i gyd oedd i Ryan gael ei esgymuno o'r Blaid Lafur dros dro, ac ymddiswyddodd oddi ar y Cyngor Tref.  Ond mae'n ymddangos mai'r canlyniad yn y tymor ychydig yn llai byr ydi iddo gael ei dderbyn yn ol i freichiau'r Blaid Lafur a'i gyflwyno ger bron etholwyr Cydweli fel ymgeisydd is etholiad Cyngor Sir.  

Rwan dwi'n gwybod bod Ryan yn ifanc, dwi'n gwybod bod ambell i seremoni codi maer yn gallu bod yn bethau rhyfeddol o feddw, dwi'n gwybod bod stwff yn digwydd pan mae pobl o dan effaith y ddiod gadarn, a dwi 'n gwybod am natur y diwylliant Llafuraidd yng Nghymru.  

Efallai y byddai'n briodol i Lafur ganiatau i Ryan ail afael yn ei yrfa wleidyddol ar ol cyfnod rhesymol ar y cyrion - ond does yna ddim cyfnod rhesymol wedi mynd rhagddo.  Ychydig fisoedd yn unig sydd ers ei ymddiheuriad.  

Mae'r 'maddeuant' hynod frysiog yma yn anfon negeseuon cwbl anaddas ynglyn a difrifoldeb ymddygiad rhywiol amhriodol gan ddynion tuag at ferched - ac mae'n awgrymu bod Llafur Cymru -  er gwaetha'r gwaharddiad byrhoedlog - yn cymryd y mater yn weddol ysgafn yn y bon.  

Cofiwch, efallai bod mwy iddi na hynny hefyd - mae yna straeon ar led bod Llafur wedi bod yn e bostio aelodau  newydd oedd wedi ymuno a'r blaid yn sgil ymgeisyddiaeth Corbyn yn yr etholiad arweinyddol a cheisio eu perswadio i sefyll - gan gynnwys rhai sy'n byw ymhell o Gydweli.  Efallai nad oedd fawr neb arall yn fodlon sefyll iddynt - sefyllfa sydd yn gyfarwydd iawn yma yng Ngwynedd.  Os felly, byddai peidio a chynnig ymgeisydd wedi bod yn ddewis callach 
a mwy cyfrifol yn yr amgylchiadau hyn.

Gellir gweld mwy o fanylion yma.  

Sunday, October 25, 2015

Tudalen flaen y diwrnod

Beth ddylai ddigwydd ar ol etholiad y Cynulliad?

Mae'r sgwrs ynglyn a'r hyn ddylai ddigwydd yn dilyn yr etholiad Cynulliad eisoes wedi dechrau - er ein bod misoedd maith i fynd rhagddynt cyn yr etholiad.  Mae'n sicr nad Llafur fydd yn llywodraethu am byth - mae hyd yn oed llywodraethau sy'n perfformio'n dda yn syrthio yn y diwedd - record ddi dor o fethiant sydd gan Lafur Cymru.  Dydi hi ddim yn glir os mai yn 2016 y bydd hynny'n digwydd - ond dyna pryd y dylai ddigwydd.  

O safbwynt y Blaid mae yna hierarchiaeth o bosibiliadau.  Dwi'n eu rhestru nhw isod.

Y peth gorau allai ddigwydd ydi mwyafrif llwyr i Blaid Cymru.
Yr ail beth gorau allai ddigwydd fyddai llywodraeth lleiafrifol Plaid Cymru.  
Y trydydd peth gorau fyddai llywodraeth glymblaid o dan arweiniad Plaid Cymru.

Ond beth petai Llafur efo mwy o ACau a Phlaid Cymru, ond ddim digon i ffurfio llywodraeth - yna beth wedyn?  Mae nifer yn teimlo na ddylai'r Blaid byth gadw Llafur mewn grym - gweler yma er enghraifft.  



Mae yna resymeg etholiadol y tu ol i'r ddadl yma.  Mi fydd y Blaid wedi bod wrthi am fisoedd yn tynnu sylw at record alaethus Llafur mewn llywodraeth -record sydd gyda'r gwaethaf yn Ewrop.  Gallai mynd i lywodraeth efo nhw wedyn ymddangos yn rhagrithiol.  

Serch hynny fyddwn i ddim yn cyn belled ag i wrthod y posibilrwydd yn llwyr.  Tra bod Llafur wedi methu ym mhob maes bron - y tri prif fethiant ydi iechyd, addysg a datblygu'r economi.  Byddai'n anghyfrifol caniatau i Lafur gael y tri phortffolio yna am bum mlynedd arall i wneud llanast pellach ohonynt, os oes unrhyw ffordd o osgoi hynny.  Y tal y dylid ei godi am glymbleidio efo Llafur ydi'r tri portffolio yna - dim llai.  Mae pobl Cymru yn haeddu gwell darpariaeth na'r shambyls parhaus a pharhaol sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.  

Os na fyddai hynny yn dderbyniol i Lafur gallant ddewis rhwng glymbleidio efo UKIP neu'r Toriaid, neu geisio rhedeg llywodraeth leiafrifol.  Go brin y byddant yn gwneud yn waeth na maent wedi ei wneud hyd yn hyn.

Araith Adam


Cynhadledd Hydref 2015

Newydd gyrraedd adref o'r Gynhadledd - ac un arbennig o dda oedd hi hefyd - digon o bobl yn mynychu, wedi ei threfnu'n dda, llawn brwdfrydedd a hwyl.  Mae gan y Blaid pob rheswm i edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.  



Atodaf araith Leanne isod - a byddaf yn postio rhai o'r areithiau eraill hefyd fel maent yn ymddangos ar youtube.



O.N diolch i'r cynadleddwyr hynny o'r Gogledd oedd ddigon caredig i bleidleisio trostof fel un o gynrychiolwyr y Gogledd ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.  Roedd eich pleidleisiau yn ddigon i'm hethol. 

Mae'r parti drosodd


Saturday, October 24, 2015

Friday, October 23, 2015

Wednesday, October 21, 2015

Beth sydd gan Janet Finch Saunders mewn golwg ynglyn a Golwg

Mae'r sgwrs fach yma ar gyfryngau cymdeithasol rhwng Aelod Cynulliad Aberconwy, Janet Finch Saunders ac ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, Trystan Lewis.  Cyfeirio mae Trystan at erthygl a ymddangosodd yn Golwg yn ddiweddar oedd yn honni nad oedd gan Janet fawr o glem am beth y byddai hi'n hoffi ei weld yn digwydd i gynghorau lleol Cymru.  Er mai hi ydi llefarydd swyddogol y Toriaid ar lywodraeth leol, ni ddylai fod fawr o syndod i neb sydd wedi dilyn ei gyrfa nad oes ganddi lawer o glem ynglyn a manylion ei phortffolio ei hun - dydi eglurder na llygad am fanylder ddim yn nodweddion sydd ymysg ei chryfderau.



Serch hynny mae ei hymateb yn ddiddorol - nad ydi Golwg yn gynrychioladol o'r wasg ehangach ac nad ydi newyddiadurwyr Cymraeg yn gynrychioladol o newyddiadurwyr yn gyffredinol.  Rwan mae hi'n bosibl bod Janet yn darllen Cymraeg yn ddigon da i ddarllen Golwg, a'i bod wedi dod i'r casgliad bod ymdriniaeth yr wythnosolyn cyfrwng Cymraeg  o faterion y dydd yn sylfaenol wahanol i ymdriniaeth gweddill y wasg.  Dydi hi erioed wedi dangos gallu o unrhyw fath i gyfathrebu yn y Gymraeg hyd y gwn i.

Ar y llaw arall efallai mai'r unig beth mae yn ei wybod am Golwg ydi ei gyfrwng a'i bod yn cymryd bod yna rhywbeth yn sylfaenol wahanol am rhywbeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg.  Rhagfarn yn hytrach na barn fyddai hynny wrth gwrs.

Monday, October 19, 2015

Radio Cymru a Carwyn Jones

Dwn i ddim os mai fi ydi o, 'ta oes yna rhywbeth yn amhriodol am ymddangosiadau Carwyn Jones ar y Bib yn ddiweddar?  Ymddangosodd 'ein hannwyl Brif Weinidog' (a benthyg term Gwilym Owen) ar Raglen Dylan Jones y bore 'ma i drafod y ffrae wneud rhyngddo a Stephen Crabb.  Cafodd gwpl o gwestiynau bach digon syml a di niwed gan Dylan Jones, cyn i'r ddau fynd ati i sgwrsio am rygbi.  Dwi'n eithaf sicr mai dyma'r ail waith i hyn ddigwydd tros yr wythnosau diwethaf - cyfweliad gwleidyddol bach hawdd yn troi yn gyfle i Carwyn gymryd arno i fod yn un o'r hogia (neu'r bois efallai) trwy baldaruo am chwaraeon.  

Rwan wnaeth Dylan Jones ddim holi gwestai nesa'r rhaglen - Gareth Davies - am ei ddamcaniaethau ynglyn a materion gwleidyddol y dydd ar ol dweud ei bwt am Bencampwriaeth Rygbi'r Byd.  Mae Gareth yn gwybod ei stwff am rygbi, hyd y gwn i dydi o ddim yn gwybod rhyw lawer am wleidyddiaeth.  Dydi Carwyn Jones ddim yn gwybod llawer am rygbi na phel droed chwaith - beth ydi pwrpas ei holi am y pynciau hynny? 

'Dwi'n gwybod bod BBC Cymru'n hapus bod Carwyn wedi dechrau cymryd diddordeb ynddyn nhw yn fwyaf sydyn, ac efallai eu bod nhw'n teimlo'r angen i ddangos eu diolchgarwch iddo trwy lobio cwpl o gwestiynau hawdd i'w gyfeiriad a gadael iddo baldaruo am chwaraeon.  Ond mae gen i ofn mai faint bynnag o actio'r ci bach ffyddlon ddaw o gyfeiriad BBC Cymru, bydd Carwyn yn colli diddordeb ynddynt yn syth ar ol Etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  

Sunday, October 18, 2015

Cynhadledd Plaid Cymru 2015




Cofiwch am Gynhadledd Flynyddol y Blaid yn Aberystwyth ddydd Gwener a dydd Sadwrn.  Bydd y digwyddiad yn digwydd yn naw degfed blwyddyn y Blaid, ac mae'n ddigon posibl mai hon fydd y Gynhadledd fwyaf yn ei hanes o ran y nifer o bobl fydd yn mynychu.  Dewch os ydi hi o gwbl yn bosibl.

Fel y gwelwch o'r amserlen isod bydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn annerch y Gynhadledd ddydd Gwener - ond mae yna siaradwyr arbennig o dda eraill trwy gydol y Gynhadledd.  






Mi gaiff aelodau sy'n mynychu'r Gynhadledd gyfle anarferol i bleidleisio tros awdur Blogmenai os ydynt eisiau gwneud hynny ac os ydyn nhw'n aelodau yn y Gogledd.  Dwi'n sefyll i fod yn un o ddau gynrychiolydd y Gogledd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid.  Rwyf wedi cyflawni'r rol honno am y ddwy flynedd diwethaf.  Y ddau ymgeisydd arall ydi Vaughan Williams, Caergybi a Carrie Harper, Wrecsam.

Mae yna nifer o etholiadau cystadleuol eraill yn cael eu cynnal, gan gynnwys:

Cyfarwyddydd Polisi ac Addysg Wleidyddol
Cynrychiolydd Rhanbarthol Canol De Cymru
Pwyllgor Llywio’r Gynhadledd

Bydd ymgeiswyr y Blaid am Gomisiynwyr yr Heddlu yn cael eu dewis yno hefyd.

Beth bynnag am etholiadau, prif arwyddocad y Gynhadledd fydd ei hamseriad - mae'n cael ei chynnal fel mae ymgyrchoedd Cynulliad ar hyd a lled Cymru yn cychwyn o ddifri.  Mae'n bwysig mai'r Blaid ac nid Llafur fydd yn arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.  Mae'r blaid honno wedi methu a methu eto ers ennill grym yn y Cynulliad yn 1999.  Ymhellach mae Cymru wedi pleidleisio i Lafur ym mhob etholiad fwy neu lai ers 1918 - ac rydym yn cael ein gwobreuo efo lleoliad ar waelod bron i pob tabl economaidd am wneud hynny.  

Byddai cynhadledd lwyddiannus yn fan cychwyn da ar yr ymgyrch anodd ond posibl i ddod a'r hunllef hir o oruwchafiaeth Llafur yng Nghymru i ben.

Tudalen bapur newydd y diwrnod


Saturday, October 17, 2015

Is etholiadau cyngor sydd ar y gweill

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn cofio am yr holl stwr pan enilliodd Llafur is etholiad Cadnant yn Arfon ychydig wythnosau cyn mynd ymlaen i gael cweir yn yr Etholiad Cyffredinol.  Gellir gweld cyfeiriad yma er enghraifft - er bod sawl un arall hefyd.

Cynhyrfodd Llafur Arfon, Gwilym Owen a llu o seibr filwyr yn lan gan dybio bod hyn yn arwydd pendant bod Llafur am gipio Arfon yn yr etholiad cyffredinol.  Heb frolio - Blogmenai oedd yn gywir ynglyn a'r mater hwn a'r amrywiol sylwebyddion oedd yn anghywir.  Mae is etholiadau cyngor ac etholiadau Cynulliad neu San Steffan yn greaduriaid tra gwahanol.  

Serch hynny mae yna berthynas rhwng y ddau fath o etholiad.  Gall cyfres o fuddugoliaethau - neu golledion - mewn is etholiadau cyngor yn y cyfnod sy'n arwain at etholiad fwy greu canfyddiad o lewyrch etholiadol neu ddiffyg llewyrch.  Mewn geiriau eraill gallant greu, neu lesteirio ar fomentwm ymgyrchu.

Felly mae'n ddiddorol bod cyfres o is etholiadau cyngor eisoes ar y gweill yng Nghymru - pob un ohonynt mewn ward enilladwy i'r Blaid.  

Ceir tair ar Dachwedd 19 - yn wardiau Dewi (Bangor) a Llanaelhaearn yng Ngwynedd a Chidwely yng Nghaerfyrddin.  Ac mae dwy arall lle nad oes dyddiad wedi eu penu ar eu cyfer eto - De Pwllheli yng Ngwynedd ac Eglwys Bach yng Nghonwy.  

Friday, October 16, 2015

Araith Liz ar foddi Capel Celyn

Wele linc i araith Liz Saville Roberts yn Neuadd Westminster am un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol y ganrif ddiwethafyng Nghymru - boddi Capel Celyn hanner canrif yn ol.  Gwliwch hi - mae'n un o'r areithiau hynny oedd angen ei thraddodi


Thursday, October 15, 2015

Y polio diweddaraf o'r Alban

Yn ol y pol diweddaraf o'r Alban mae'n ymddangos bod goruwchafiaeth yr SNP tros y pleidiau eraill mor gryf ag erioed.  Mae'n gas gen i ddweud hyn - ond ar y ffigyrau yna mae yna bosibilrwydd eithaf mai'r ail blaid o ran nifer seddi yn yr Alban ar ol yr etholiad Holyrood nesaf fydd y Toriaid ac nid Llafur.



Wednesday, October 14, 2015

Llafur Arfon - gwirio ffeithiau rhan 2

Dwi'n gwybod bod blogiadau gyda'r geiriau'Llafur Arfon' a 'celwydd' ynddynt yn mynd yn ddiflas braidd i ddarllenwyr o rannau eraill o Gymru, ond - gan fentro colli mwy o ddarllenwyr- dyma un arall ar y ffordd.

Bu tipyn o storm yn lleol yn gynharach heddiw yn dilyn hysbyseb gan gwmni o Loegr sydd wedi prynu Plas Glynllifon ger Caernarfon oedd yn awgrymu'n gryf bod y cwmni hwnnw wedi rhoi enw Saesneg ar yr adeilad hanesyddol.


Codwyd y mater yn syth bin gan nifer o wleidyddion lleol.  Dwi'n credu mai'r gwleidydd cyntaf i godi'r mater oedd Sian Gwenllian - ymgeisydd y Blaid yn Arfon yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf - yn dilyn trydariad gan Guto Dafydd.  Cafodd gefnogaeth gan gynghorwyr annibynnol a Llais Gwynedd lleol.  Yn sgil y feirniadaeth chwyrn cafwyd tro  bedol gan y cwmni, a chafodd Plas Glynllifon ei enw gwreiddiol yn ei ol.

Ond yn ol Llafur Arfon, doedd y tro bedol yn ddim oll i'w wneud efo'u gwrthwynebwyr lleol - roedd y cwmni wedi newid eu meddyliau cyn unrhyw feirniadaeth gan Sian a'r gwleidyddion eraill.  Does yna ddim eglurhad pam y byddai'r cwmni yn newid eu meddyliau yn ddi ofyn.



Ond yn ol y Daily Post y feirniadaeth ddaeth gyntaf, a'r tro bedol wedyn.  Felly mae rhywun yn camarwain - Dail y Post neu Lafur Arfon.  Ag ystyried record alaethus Llafur Arfon mewn perthynas a geirwiredd, ac o ystyried bod ganddynt pob gymhelliad i ddweud celwydd (atal gwrthwynebwyr gwleidyddol rhag cael clod), ac  o ystyried nad oes gan Dail y Post hanes o gwbl o gynhyrchu straeon camarweiniol, ac o ystyried llinell amser riportio'r Bib, dwi'n gwybod pwy dwi'n ei gredu.

Gan bod y trydariad wedi ei gyfeirio at brif weinidog Cymru mae cwestiwn diddorol yn codi.  Rydym yn gwybod bod Llafur yn fwy na pharod i gam arwain yr etholwyr - ond ydi hi'n bosibl bod yna ddiwylliant o gam arwain ei gilydd?  Mae'n ymddangos bod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yn un cadarnhaol.

Rydym wedi sefydlu eisoes nad ydi Llafur yn parchu'r etholwyr - 'dydi pobl ddim yn dweud celwydd wrth y sawl rydym yn eu parchu.  Ond ymddengys nad ydi aelodau Llafur hyd yn oed yn cefnogi ei gilydd.



Tuesday, October 13, 2015

Ynglyn a sacio Jenny Rathbone

Hanes sacio Jenny Rathbone fel cadeirydd un o bwyllgorau'r Cynulliad am godi llais yn erbyn y cynllun i wario'r rhan fwyaf o'r pres cyfalaf sydd ar gael i Gymru ar ychydig filltiroedd o darmac ochrau Casnewydd sy'n dominyddu'r cyfryngau cymdeithasol Cymreig heno. 





Mae'n demtasiwn i gael tipyn o hwyl yn tynnu sylw at y ffraeo mewnol cyffredinol sy'n amgylchu'r Blaid Lafur ar hyd y DU ar hyn o bryd, ac awgrymu bod yr hogiau yn cystadlu i weld pwy ydi'r gorau am ffraeo.  Ond mae yna bwynt mwy difrifol i'w wneud.

Mae unrhyw un sydd wedi treulio amser yn canfasio yng Ngogledd Cymru yn gwybod mai un o'r prif bethau sy'n poeni etholwyr ydi'r canfyddiad na chaiff y Gogledd chwarae teg ym Mae Caerdydd.  Os ydi'r canfyddiad yn un cywir neu beidio, mae'n fater sydd ar flaen meddyliau pobl.  

Mae'n ddiddorol felly mai Llafurwraig o Gaerdydd sy'n meiddio cicio yn erbyn y tresi mewn perthynas a gwariant gorffwyll Brynglas.  Dim gair gan Ken Skates, na Carl Sargeant na Sandy Mewies na Ann Jones na Lesley Griffiths. Mae'n well ganddyn nhw sefyll yn gadarn tros eu bosus gwleidyddol na thros y sawl sydd wedi eu hethol nhw.  

Mae yna ymdeimlad rhanbarthol cryf iawn yng Ngogledd Cymru - mae diffyg dewrder aelodau Cynulliad y Gogledd pan mae'n dod i sefyll tros fuddiannau eu hetholwyr am fod yn broblem i pob un ohonyn nhw fydd yn sefyll pan ddaw etholiadau'r gwanwyn nesaf.


Sunday, October 11, 2015

Llafur Arfon - gwirio ffeithiau rhan 1

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai yn cofio i gryn dipyn o amser gael ei dreulio yn ystod yr ymgyrchEtholiad  Cyffredinol ddiwethaf yn cywiro gwahanol ymgeisiadau gan Blaid Lafur Arfon i gam arwain etholwyr Arfon.  

Bu'n rhaid dechrau'n gynnar ar gyfer ethol Etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  Rydym eisoes wedi dod ar draws nifer o ymgeisiadau i gamarwain yr etholwyr gan gynnwys celwydd noeth a di addurn bod Cyngor Gwynedd newydd roi 10% o godiad cyflog i Brif Weithredwr y cyngor.  Felly waeth i ni gychwyn cyfres o flogiadau i gywiro'r celwydd fel mae'n cael ei gyflwyno.

Wele ymgais arall i gam arwain yr etholwyr heddiw.  Ymddengys bod gan Plaid Cymru gynllun i atal myfyrwyr Cymreig rhag astudio y tu allan i Gymru.


Mae'n anodd gwybod yn iawn beth sydd y tu ol i'r ymgais yma i gamarwain yr etholwyr.  Mae myfyrwyr o pob rhan o'r Byd yn astudio yn Lloegr.  Hyd yn oed petai Cymru'n wlad annibynnol sy'n cael ei rheoli gan Blaid Cymru, ni fyddai'n bosibl atal pobl rhag astudio yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropiaidd - byddai hynny'n gwbl groes i gyfraith Ewrop.  

Mae'n wir bod gan y Blaid gynlluniau i leihau neu ddiddymu ffioedd myfyrwyr i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru mewn rhai pynciau fel meddyguniaeth.  Y rheswm am hynny ydi bod prinder meddygon yng Nghymru ac mae yna cryn dipyn o dystiolaeth bod myfyrwyr yn tueddu i aros yn yr ardal maent wedi mynd i goleg ynddo ar ol gadael coleg.  Mewn geiriau eraill mae'n ymgais i gynnig anogaeth i fyryfwyr mewn pynciau dethol i aros yng Nghymru er mwyn delio efo prinderau yn y gweithlu yng Nghymru.

Rwan mae cynnig anogaeth ariannol yn fater hollol wahanol i orfodi pobl i wneud pethau.  Mae'n weddol gyffredin i lywodraethau gynnig anogaeth ariannol i bobl ymddwyn mewn ffordd arbennig.  Un esiampl ymysg llawer ydi'r camau mae llywodraeth y DU a Chymru yn eu cymryd i ddwyn perswad ar unigolion a chwmniau ynni i ymddwyn mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol.  Does yna neb yn ei Iawn bwyll hyd y gwn i yn honni bod y camau hyn yn ymgais gan lywodraethau i orfodi pawb i roi paneli solar ar ben ei dy, neu i brynu car efo injan fach, neu i roi melin wynt yn sownd yn eu simdde, neu i beidio a defnyddio bagiau plastig.  Does yna neb yn ei lawn bwyll chwaith yn dehongli'r ffaith nad oes rhaid talu treth ar gyfraniadau elysennol fel ymgais i orfodi pawb i gyfrannu i elusen.  

Ond fel hyn mae'r ddisgwrs wleidyddol yn Arfon mae gen i ofn.  Roedd ymgyrch Alun Pugh yn gymysgedd rhyfedd o geisiadau i gamarwain etholwyr,  drama a hysteria - ond wnaeth hynny ddim ennill unrhyw bleidleisiau iddo. Un o'r rhesymau am hynny ydi bod y rhan helyw o bobl yn deall pan mae gwleidyddion yn ceisio eu cam arwain, ac yn cymryd hynny fel tystiolaeth o ddiffyg parch llwyr gan y gwleidyddion hynny tuag atynt.  'Dydi pobl ddim yn ceisio cam arwain y sawl maent yn eu parchu. 

Mae'n ymddangos nad ydi'r Blaid Lafur yn Arfon wedi dysgu unrhyw wersi o'u methiant llwyr ym mis Mai.  

Tudalen bapur newydd y diwrnod

Mae hon yn mynd ol ymhell - i 1993 a bod yn fanwl gywir - ond mae'n adrodd cyfrolau am sut mae agweddau'r cyfryngau at bobl yn cael eu llywio gan eu canfyddiad o leoliad y bobl hynny mewn perthynas a buddiannau'r wladwriaeth.


Saturday, October 10, 2015

Friday, October 09, 2015

Oes unrhyw un yn chwilio am 'fargen'?


Cofiwch fynychu'r Gynhadledd


Perlau Gwereniaethol - rhan 1

A hithau'n dymor dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad arlywyddol America roeddwn yn meddwl  y byddai'n hwyl edrych ar rhai o'r datganiadau cwbl orffwyll mae'n rhaid i'r ymgeiswyr Gwereniaethol eu gwneud er mwyn apelio at y sawl sy'n pleidleisio yn ystod y broses ddewis.  Mi wnawn ni ddechrau efo hon gan Ben Carson.


Gofal cymdeithasol i bawb tros 65 oed


Thursday, October 08, 2015

Dim cynhadledd i UKIP

O diar - dydi UKIP 'Cymru' ddim yn cynnal eu cynhadledd yn Abertawe.  Y rheswm hynod anarferol ydi bod yna gynhadledd Wanwyn, felly does yna ddim angen cynhadledd yn ystod yr hydref. 



Mi fedrwch chi gredu'r stori honno os mynnwch chi.  

Eglurhad arall ydi bod y rhagolygon yn awgrymu y byddai yna erwau o seddi gwag yn y neuadd, ac y byddai'r digwyddiad yn edrych fel rhywbeth wedi ei drefnu gan y Dib Lems.  Roedd e bost yn egluro pam bod y digwyddiad wedi ei ganslo gan y cwmni dosbarthu - Ticketsource - yn dweud yn glir mai diffyg gwerthiant oedd y rheswm.

Dewiswch chi pa un ydi'r eglurhad mwyaf tebygol.   


Monday, October 05, 2015

Etholiad Glan yr Afon ddydd Mercher

Mae gan y Blaid gyfle gwirioneddol o ennill sedd Gorllewin  Caerdydd yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  Mae yna nifer o bethau'n dod at ei gilydd i wneud hynny'n bosibl.  Byddai buddugoliaeth mewn is etholiad yn ward ymylol Glan yr Afon yn gam pwysig tuag at sicrhau mai Neil McKevoy yn hytrach na Mark Drakeford fydd yn cynrychioli'r etholaeth y tro nesaf.

Felly os ydych yn byw yng Nglan yr Afon gwnewch yn siwr eich bod yn pleidleisio.  Os ydych yn 'nabod rhywun sy'n byw yno, rhowch air da tros yr ymgeisydd Ruksana Begum.  Gallai buddugoliaeth yno fod yn gam pwysig tuag at ganlyniad trawiadol y flwyddyn nesaf.

Cofiwch mai ddydd Mercher - nid dydd Iau - mae'r etholiad.




Sunday, October 04, 2015

Llafur a phres y non doms

Dydi Blogmenai ddim yn dyfynu'r Daily Mail yn aml iawn - am resymau amlwg - ond mae'r stori yma yn un digon diddorol.  Ymddengys bod Tom Watson - dirprwy arweinydd y Blaid Lafur - wedi derbyn £40,000 tuag at ei ymgyrch gan Max Mosley.  Byddwch yn cofio nad ydi Max yn arbennig o hoff o'r papurau newydd yn sgil hacio ffonau a chyhoeddusrwydd i sut mae'n treulio ei amser - ahem - hamdden.

Rwan mae'r swm yma'n un enfawr i'r math yma o etholiad, ac mae'n esiampl arall o sut mae pobl gyfoethog yn gwario eu harian i geisio dylanwadu ar y broses ddemocrataidd yn y DU.  Fel yr Arglwydd Ashcroft - oedd yn ol pob tebyg yn disgwyl i'w gyfraniadau enfawr i'r Toriaid brynu'r weinidogaeth amddiffyn iddo - dydi Max Mosley ddim yn byw yn y DU i bwrpas talu cyn lleied o dreth a phosibl.  

Mae'r ddwy blaid fawr unoliaethol a'u gwleidyddion yn derbyn swmiau sylweddol o bres gan bobl sydd ddim eisiau talu cyfraniad teg yn eu trethi.  Dweud y cyfan am natur y pleidiau hynny mewn gwirionedd. 

Jeremy gelwyddog

A bod yn gwbl deg efo Llafur Arfon dydyn nhw ddim ar ben eu hunain yn eu tueddiad anffodus i ddweud celwydd yn barhaus - mae dweud celwydd yn rhan o ddiwylliant Llafur o'r bon i'r brig.  Wele'r arweinydd yn rhaffu celwydd ar raglen Andrew Marr yr wythnos ddiwethaf.

Dyma sut i hoelio gwleidyddion celwyddog.

Gwyliwch y fideo drwyddi.


Saturday, October 03, 2015

Y Blaid a'r cwestiwn annibyniaeth

Dydw i ddim yn llwyr gytuno efo blogiad Jason ynglyn a Question Time y diwrnod o'r blaen - doedd y rhaglen ddim mor wael a hynny - ac roedd yr amrediad o safbwyntiau oedd yn cael eu cyflwyno yn ehangach o lawer nag oedd yn wir am y rhan fwyaf o'r rhaglenni cyn etholiad cyffredinol mis Mai.



Serch hynny mae ganddo bwynt ynglyn ag ymdriniaeth y Blaid o gwestiwn annibyniaeth.  Yn ol Jason yr hyn ddylai Leanne fod wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiwn ar annibyniaeth oedd y canlynol (yn hytrach na dweud bodi economi'r wlad yn rhy wan ar hyn o bryd):

Yr hyn y dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.

Cyn mynd ymlaen, efallai y dyliwn ychwanegu i Leanne ddweud yn glir ar y cychwyn bod annibyniaeth yn rhywbeth mae'r Blaid ei eisiau - doedd llefarwyr y Blaid ddim yn dweud hynny'n aml cyn iddi ennill yr arweinyddiaeth.

Serch hynny mae llawer o'r hyn mae Jason yn ei ddweud yn gywir - ond byddwn i'n mynd gam ymhellach na Jason - mae angen gwneud mwy na thynnu sylw at y ffaith bod tlodi Cymru yn ganlyniad uniongyrchol i'w dibyniaeth llwyr ar wlad arall i'w rheoli a cham reoli treuenus y Blaid Lafur Gymreig ers 1999.  

Dylid mynd ati i ddweud bod gwella'r economi yn rhywbeth y byddai'r Blaid mewn llywodraeth yn rhoi calon ac enaid i'w wireddu - yn rhannol oherwydd ei bod yn credu bod pobl Cymru yn haeddu gwell na'r arlwy treuenus sydd yn cael ei chyflwyno ger eu bron ar hyn o bryd, ac yn rhannol oherwydd ei chred y dylai Cymru reoli ei hun - yn union fel y rhan fwyaf o wledydd normal eraill.

Nid gwrthwynebiad athronyddol  ydi'r prif faen tramgwydd i annibyniaeth - sylweddoliad nad oes gan Cymru'r gallu i godi'r trethiant digonol i gynnal ei gwasanaethau cyhoeddus presenol ydi'r broblem.  Dylid cydnabod mai'r unig ffordd i fynd i'r afael a thlodi Cymru ydi cael gwared o'r  llywodraeth drychinebus, di glem sydd ganddom am hyn o bryd.  

Byddai mynd ati i wneud hyn yn niwtraleiddio'r honiad Llafur arferol bod gan y Blaid obsesiwn efo annibyniaeth a materion cyfansoddiadol yn hytrach na rhai economaidd.  Gellid dadlau wedyn mai'r gred mewn annibyniaeth sy'n rhoi'r ffocws i'r Blaid i wella'r economi.  Dim ond trwy wella un y gellir cyflawni'r llall.  Mae cyfoethogi Cymru yn angenrheidiol i'r Blaid os yw am sicrhau annibyniaeth i Gymru.  Mae cadw Cymru'n dlawd yn angenrheidiol i 'r Blaid Lafur os yw am wireddu ei obsesiwn cyfansoddiadol hithau - cadw Cymru'n rhan fach a di ddylanwad o endid cyfansoddiadol llawer mwy.