Fel y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn gwybod, rhyddhawyd Adolygiad o'r Defnydd o'r Iaith Gymraeg Rhwng 2013 a 2015 yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Mae mwy o ddata ar gael ar y We na sy'n ymddangos yn uniongyrchol yn yr adroddiad wedi ei ryddhau ar Statiaith - ac mewn mannau eraill.. Dwi'n bwriadu cyhoeddi peth o'r wybodaeth yna o bryd i'w gilydd, gan efo cymariaethau rhwng awdurdodau lleol.
I ddechrau cip ar y canrannau absoliwt sy'n siarad y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru.
A rhuglder y sawl dy'n dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn ol awdurdodau lleol.
Beth sydd i gyfrif am y gwahaniaeth mawr rhwng yr ystadegau hyn ac ystadegau'r cyfrifiad? 73% yn siarad y Gymraeg yng Ngwynedd yn ol y rhain, ond 67% yn ol y cyfrifiad.
ReplyDeleteMae"r cwestiwn cyfrifiad yn fwy amrwd - ti'n siarad neu ti ddim. Os ti'n gofyn am amrediad o allu siarad Cymraeg ti 'n siwr o gael ffigyrau uwch.
ReplyDeletesampl y cyfrifiad ydi'r boblogaeth gyfan
ReplyDeletesampl yr astudiaeth hon ydi mil o bobl neu rywbeth felly
gwelaf fod sampl yr arolwg yn amrywio o 3,500 i 14,000 nid 1,000
ReplyDelete