Llanelli ydi un o etholaethau mwyaf diddorol - ac ymylol - Cymru ar lefel Cynulliad. Cafwyd pedair etholiad ers sefydlu'r Cynulliad. Roedd y mwyafrifoedd fel a ganlyn:
1999 - Mwyafrif 688 i Blaid Cymru
2003 - Mwyafrif o 21 i Lafur.
2007 - Mwyafrif o 3,884 i Blaid Cymru.
2011 - Mwyafrif o 80 i Lafur.
Mae'r etholaeth wedi pendilio rhwng Llafur a Phlaid Cymru o'r dechrau'n deg. Pan mae'r etholaeth wedi dewis Llafur mae canlyniadau hynny wedi bod yn negyddol - yn lleol ac yn genedlaethol. Cafwyd llywodraethau mwyafrifol Llafur o ganlyniad i fuddugoliaethau'r blaid honno yn Llanelli yn 2003 a 2011. 30 o 60 aelod oedd gan Llafur yn y ddau achos - digon - ond dim ond jyst digon - i reoli ar eu liwt eu hunain. Llanelli wnaeth y gwahaniaeth.
Bydd darllenwyr y blog yma yn gyfarwydd a'r record trychinebus sydd gan Lafur o lywodraethu Cymru ers 1999. Roedd y methiannau hynny ar eu gwaethaf pan roeddynt yn llywodraethu ar eu pen eu hunain. Petai Helen wedi cael ychydig mwy o bleidleisiau yn 2003 a 2011 ni fyddai Llafur wedi cael rhwydd hynt i wneud smonach llwyr o'r meysydd datganoledig roeddynt yn gyfrifol amdanynt yn ystod y cyfnodau hynny. Mae'n bwysig nad ydi'r un peth yn digwydd ym mis Mai. Ni all Cymru fforddio pedair blynedd arall o ddiogi a methu di dor.
Mae'r Blaid yn hynod ffodus bod ganddi dim hynod ymroddgar a gweithgar yn yr etholaeth - ond dydi ymroddiad a brwdfrydedd ddim yn ddigonol ar eu pennau eu hunain. Mae angen pres ar unrhyw ymgyrch lwyddiannus. Dydi pawb ddim mewn sefyllfa i ymgyrchu yn yr etholaeth hanfodol hon - ond mae pawb mewn sefyllfa i wneud cyfraniad ariannol - bach neu fawr. Dydi hi ddim yn bosibl ennill etholiadau heb bres - a dyma eich cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.
Os bydd pethau mor agos ag oeddynt yn 2003 a 2011 gallai ychydig o gyfraniadau unigol wneud gwahaniaeth go iawn. Does yna'r unman yng Nghymru - gydag eithriad posibl Aberconwy - lle y gallai cyfraniad ariannol fod mor ddylanwadol ag y gall fod yn Llanelli. Felly dyma eich cyfle i wneud cyfraniad ariannol mewn modd hynod effeithiol. Peidiwch a gwastraffu'r cyfle - cyfranwch yn hael.
Yr oedd Vaughan Williams yn blogio'n frwdfrydig a gobeithiol iawn yn y Gwanwyn, ond eto, toedd o nunlle'n agos iddi pan ddaeth y canlyniad. Aeth rhywbeth o'i le gyda'r canfasio, ynte Vaughan oedd ychydig dros-ben-llestri (sy'n digwydd weithiau - cofier y llanast wnaethpwyd pan gollwyd Ynys Mon i Albert Owen - ymgeisydd newydd yn Conwy yn denu canfaswyr draw) ? . Credaf fod Llanelli yn rhywle lle gall UKIP wneud difrod i'r blaid, gan nad yw misoedd cyntaf Emlyn Dole fel arweinydd Sir Gaerfyrddin wedi bod y rhai hapusaf, a dweud y lleiaf.
ReplyDeleteMae etholiadau San Steffan a Chynulliad yn greaduriaid gwahanol iawn yng Nghymru. Dydi defnyddio canlyniadau 'r naill i ddarogan y llall erioed wedi bod yn syniad arbennig o wych.
ReplyDeleteO ran Etholiad mis Mai. Newidiodd pethau funud olaf yn sicr. Roedd pobl wedi mynd yn ol i'r Blaid Lafur oherwydd ofn mwy na dim byd arall - "rhaid cefnogi Llafur i gadw'r Toriaid allan" math o beth - celwydd yn amlwg, ond mae ofn yn rhywbeth cryf. Hefyd roedd y busnes SNP yn rheoli efo Llafur wedi ysgogi cefnogwyr Tori sydd yn gallu pleidleisio yn dactegol i gadw at y Ceidwadwyr. Wrth gwrs roeddwn yn frwd yn gyhoeddus ac yn wir tan y funud olaf ond erbyn Dydd Llun cyn yr Etholiad roedd yn amlwg bod llif yn ein herbyn. Doedd gen i ddim dewis ond i beidio a dangos yr un positifrwydd tan y Dydd Iau.
ReplyDeleteMae problem ynglyn a sut mae data hefyd yn cael ei ddehongli a'i chadw ayyb. Ond o ran yr ymgyrch - buck stops with me a fi sy'n gyfrifol am y canlyniad yn y pendraw a neb arall.
Pob lwc i HMJ - mae angen newid yn Llanelli!
Vaughan Williams (ymgeisydd seneddol PC yn Llanelli, 2015)