Roedd GVA y pen yng Nghymru ar gyfer 2014 yn 71.4% o gyfartaledd y DU. Mae hyn yn ddirywiad o’r ffigwr ar gyfer 2013, oedd yn 72.5%. Felly nid yn unig bod Cymru y tu ol i bob man arall yn y DU - ond mae'n syrthio ymhellach yn ol. Mae'n perfformio yn waeth na Gogledd Iwerddon - rhan o'r DU sydd ond wedi dechrau adfywio wedi degawdau o ryfela.
Mae yna ddau reswm sylfaenol am hyn - y naill yn strwythurol, a'r llall yn ymwneud a llywodraethiant Cymru. I ddechrau efo'r ail - mae Cymru wedi pleidleisio tros Lafur ym mhob etholiad (fwy neu lai) ers 1918 - ac wedi cael ei gwobreuo am hynny efo methiant economaidd parhaus. Ers i Lafur gael ei hun mewn llywodraeth yn 1999 mae'r tan berfformiad wedi gwaethygu yn sylweddol. Mae'r wers i etholwyr Cymru yn un amlwg - a daw cyfle i weithredu ar y wers honno ym mis Mai.
Mae'r ail reswm yn un mwy sylfaenol -mae bod yn rhan o'r DU wedi bod yn drychineb i Gymru - mwy felly nag unrhyw un arall o wledydd y DU. Ond mae'r methiant hwnnw yn ein clymu yn dynnach i'r DU oherwydd ei fod yn creu dibyniaeth sylweddol ar y wladwriaeth Brydeinig - ac mae hynny yn ei dro yn arwain at fwy o dlodi sy'n arwain at _ _ _.
Un ffordd sydd o ddianc o'r cylch dieflig yma - sef cael Cymru i ddechrau creu cyfoeth i'r un graddau a gweddill y DU - ac mae profiad chwerw yn dangos yn glir nad ydi hynny am ddigwydd os ydi Llafur wrth y llyw yng Nghymru.
No comments:
Post a Comment