IUn o'r cwestiynau sy'n cael ei godi'n aml yn sgil llwyddiant ysgubol yr SNP tros y blynyddoedd ddiwethaf ydi - Pam bod Cymru'n wahanol?
Mae sawl ateb i'r cwestiwn hwnnw - ac mae'n fater cymhleth. Thema ar gyfer blogiad arall o bosibl. Ond un rheswm ydi bod yna hollt yng Nghymru nad yw'n bodoli yn yr Alban - un ieithyddol. Oherwydd bod cefnogaeth Plaid Cymru yn gryfach yn y Gorllewin yn gyffredinol a'r Gorllewin Cymraeg ei iaith yn benodol mae wedi bod yn weddol hawdd portreadu cenedlaetholdeb Cymreig fel rhywbeth sy'n perthyn i siaradwyr Cymraeg. Gan mai tua phumed o 'r boblogaeth sy'n siarad yr iaith, mae'r canfyddiad yma'n cael negyddol ar hynt etholiadol y Blaid.
Tra'n cydnabod nad ydym fel plaid wedi gwneud digon i wrth wneud y canfyddiad yma yn y gorffennol, mae hefyd yn wir i ddweud bod y pleidiau unoliaethol wedi defnyddio'r iaith yn eithaf di drugaredd i lesteirio ar dwf y Blaid yn yr ardaloedd di Gymraeg. Os ydi'r Blaid am ddatblygu i fod yn brif blaid Cymru - ac mae'n bwysig er lles y wlad bod hynny'n digwydd yn gynt yn hytrach na'n hwyrach - mae'n hanfodol bod y canfyddiad ffug mai rhywbeth i Gymry Cymraeg yn unig ydi cenedlaetholdeb Cymraeg yn cael ei ddad wneud yn llwyr.
Does yna ddim ffordd well i wneud hyn na thrwy ennill sedd Cynulliad ddinesig - un y tu allan i'r Gymru Gymraeg, ac yn wir y Gymru Gymreig. Does yna ddim gwell cyfle i gyflawni'r gamp honno na'r cyfle a ddaw yng Ngorllewin Caerdydd y flwyddyn nesaf.
Fel mae'r enw'n awgrymu mae'r etholaeth yn cwmpasu Gorllewin y brifddinas - wardiau Caerau, Treganna, Creigiau/Sain Ffagan, Trelai, Tyllgoed, Llandaf, Pentyrch, Radyr, a Glan yr Afon i'r sawl yn eich plith sy'n adnabod y ddinas yn dda.
Ar yr olwg gyntaf nid dyma'r etholaeth fwyaf enilladwy yng Ngymru. Trydydd oedd y Blaid yn etholiadau San Steffan 2015 a Cynulliad 2011, dwy sedd cyngor sydd ganddi yn yr etholaeth (y ddwy yn y Tyllgoed) ac ni lwyddwyd i ennill yr un o'r is etholiadau a gafwyd yn yr etholaeth ers 2011.
Ond o graffu mae'r rhagolygon yn well - yn well i lawer. Er enghraifft o graffu ar berfformiad 2015 dwblodd y Blaid ei phleidlais gan symud ymlaen 6.9% - y trydydd perfformiad gorau yng Nghymru o ran cynyddu canran y bleidlais. Dim ond yn y Rhondda ac Arfon y cafwyd mwy o gynnydd. Cafwyd cwymp hefyd ym mhleidlais y dair blaid unoliaethol draddodiadol.
O edrych ar y gyfres o is etholiadau a gafwyd ers 2011 mae'n amlwg bod y Blaid - pan rydym y tu hwnt i amgylchiadau arbennig etholiad cyffredinol - yn rhedeg yn ail, ac ail cryf. Mae'r blog yma wedi rhybuddio yn erbyn darllen gormod i is etholiad unigol yn y gorffennol - ond mae yna batrwm amlwg iawn yma. Wele is etholiadau Glan yr Afon (dwy ohonynt,), Treganna a Phentyrch.
Ac mae yna ffactorau eraill sydd o gymorth i'r Blaid yma hefyd. Fel mae'r blog yma wedi croniclo - mae'r argyfwng yng ngrwp Llafur Cyngor Caerdydd yn mynd o ddrwg i waeth - gyda'r grwp bellach yn cael ei fonitro gan y Blaid Lafur 'Gymreig'. Mae Mark Drakeford yr aelod cynulliad presenol yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd - y methiant gwaethaf o holl fethiannau llywodraeth Cymru.
Mae amgylchiadau ehangach hefyd yn milwrio yn erbyn Llafur - mae cyfuniad o'r ffraeo di ddiwedd ymysg arweinwyr y Blaid Lafur Brydeinig, record dreuenus y Blaid Lafur Gymreig mewn llywodraeth a'r teimlad o lywodraeth wedi blino llywodraethu. Bydd datganiadau polisi'r Blaid tros y misoedd nesaf yn cymharu'n ffafriol iawn efo'r diffyg uchelgais a dychymyg sy 'n nodweddu cyfeiriad llywodraeth Carwyn Jones. Dwi ddim yn meddwl bod y Toriaid wedi mynd ati i ddewis ymgeisydd eto chwaith.
Ac wedyn mae yna bersenoliaethau'r prif ymgeiswyr. Mae Neil McEvoy - ymgeisydd y Blaid - yn hynod adnabyddus ar lawr gwlad (neu lawr stryd efallai) Gorllewin Caerdydd. Mae'n gyn ddirprwy arweinydd y cyngor, yn gynghorydd lleol yn y Tyllgoed, ac wedi cymryd rhan mewn nifer dirifedi o ymgyrchoedd lleol - bach a mawr - yng Ngorllewin Caerdydd. Nid yn aml y gellir dweud bod gweinidog yn y llywodraeth yn llai adnabyddus yn ei etholaeth ei hun nag ymgeisydd sy'n sefyll yn ei erbyn - ond dyma un eithriad.
Mae yna gyfle gwirioneddol i'r Blaid wneud rhywbeth sydd heb ei wneud o'r blaen yma - cael gynrychiolaeth genedlaethol mewn ardal ddinesig. Yn wir ychydig iawn o gynghorwyr sydd wedi eu hethol ar ran y Blaid mewn dinasoedd tros y degawdau.
Felly gwnewch rhywbeth i helpu. Os ydych yn byw yng Nghaedydd cymrwch ran yn yr ymgyrch. Mae yna sesiwn bamffledu yn cychwyn am 10:30 o siopau Wilson Road yn Nhrelai er enghraifft. Os nad ydych mewn sefyllfa i ymgyrchu, beth am wneud cyfraniad trwy Crowdfunder?
Os na fedrwch chi wneud hynny chwaith, gallwch ddarparu linc i'r wefan codi arian ar eich gwefannau cymdeithasol.
Mae'n gyfle gwych i gyfranu i ganlyniad hanesyddol.
No comments:
Post a Comment