Mae natur sefydliadol a theyrngarwch BBC Cymru / Wales i sefydliadau Prydeinig - ac i'r ffordd mae'r sefydliad hwnnw yn edrych ar y Byd - wedi bod yn thema cyson ar y blog hwn tros y blynyddoedd. Mae'r fideo sydd y tu ol i'r linc yma yn cwmpasu agweddau yma i'r dim.
Jason 'McCarthy' Mohammad sydd yn holi Leanne Wood am y storm fawr am ddim byd a godwyd gan y cyfryngau yn sgil sylwadau gan rhyw gynghorydd o Dori ynglyn a'r ffaith bod Neil McEvoy - arweinydd y Blaid ar Gyngor Caerdydd - wedi dewis peidio a chanu y ryfelgan o anthem sydd gan Lloegr yn ystod seremoni Sul y Cofio yng Nghaerdydd y diwrnod o'r blaen.
O ddeall na fyddai Leanne yn canu'r gan chwaith mae Jason yn cael eu hun mewn dipyn o stad ac yn ein sicrhau ei fod o ei hun yn falch iawn o fod yn 'Brit' (chwedl yntau) ac yn datgan ei ganfyddiad plentynaidd a chwerthinllyd bod y mater yn un o bwys mawr fel ffaith.
Mae Sul y Cofio eleni wedi bod yn un mwy McCarthiaidd na'r un ydw i'n ei chofio yn y gorffennol, gyda phobl yn cael eu beirniadu am beidio gwisgo Pabi, ac am beidio a chanu'r ryfelgan gyda digon o arddeliad. Mae'n ddigon naturiol bod BBC Wales eisiau arwain y gad yn hyn o beth.
Beth bynnag - un neu ddau o ffeithiau i Jason, y Bib a gweddill y criw cynyddol anoddefgar sy'n meddwl bod ganddynt hawl dwyfol i ddweud wrth bobl eraill beth i'w feddwl a beth i'w wneud:
Mae Cymru yn draddodiadol ryddfrydig. Golyga hynny bod parch at safbwyntiau eraill yn rhan o wead y wlad. Mae ceisio gorfodi pobl i rannu ein barn ni'n hunan trwy wneud eu barn nhw yn un 'amharchus' neu anghyfansoddiadol yn rhywbeth sylfaenol anghymreig i'w wneud.
Mae yna nifer o hunaniaethau gwahanol yng Nghymru - yn yr ystyr yna mae Cymru yn wlad gymharol gymhleth. Mae yna bobl sydd efo hunaniaethau sydd wedi eu gwreiddio y tu allan i'r DU, mae yna bobl sydd a'u hunaniaeth wedi ei seilio ar grefydd, mae yna bobl sydd efo hunaniaeth Gymreig, hunaniaeth Seisnig, hunaniaeth Brydeinig a hunaniaeth o ran arall o Ynysoedd Prydain. Mae yna bobl sydd hefyd efo cyfuniad o'r hunaniaethau hyn. Dydi llawer o bobl sydd a hunaniaeth llwyr Gymreig ddim yn ystyried bod canu anthem Lloegr yn gydnaws a'u hunaniaeth. Dwi erioed wedi canu 'r gan am y rheswm hwnnw, a fydda i ddim yn gwneud hynny o dan unrhyw amgylchiadau yn y dyfodol chwaith.
Mewn sefyllfa o gymhlethdod hunaniaethol fel hyn mae'n bwysig bod pob hunaniaeth yn cael parch, neu bydd pris i'w dalu o ran cydlynedd cymdeithasol. Un o brif achosion y gwrthdaro maith yng Ngogledd Iwerddon oedd bod un hunaniaeth yn cael ei thrin fel un cwbl dderbyniol tra bod un arall yn cael ei thrin fel un cwbl anerbyniol - roedd y Bib ynghanol hynny wrth gwrs. Dydi hi ddim yn addas nag yn dderbyniol i ddarlledwr gwladwriaethol geisio cornelu'r sawl maent yn eu holi am ymddwyn mewn ffordd sy'n gyson a'u hunaniaeth nhw. Nid bod Y Bib am gwestiynu hunaniaethau eraill wrth gwrs.
Os daw Mark Reckless neu Neil Hamilton yn aelodau cynulliad ym mis Mai, gallwch fod yn siwr na fyddant yn cael eu plagio gan Jason am beidio gwisgo cenhinen neu beidio dysgu geiriau'r anthem Gymreig. Chaiff pobl sydd a hunaniaeth egsgliwsif Seisnig ddim y broblem fach honno.
Felly plis bois - calliwch a thyfwch i fyny. Mae Cymru a'r DU yn ehangach yn llawer llai goddefgar heddiw nag oeddynt ugain mlynedd yn ol, ac mae yna rhywbeth gwirioneddol drist am ddarlledwr gwladwriaethol yn hyrwyddo'r diffyg goddefgarwch hwnnw.
Clywch, clywch.
ReplyDeleteA fydd fath cwestiynau digwydd pam na fydda VIP's Cymreig canu "Hen Wlad fy nhadau" . Dim ond John Redwood sydd wedi cael ei damio am hynny a roedd o trio o fath?!?!?!
ReplyDelete