O diar - dydi UKIP 'Cymru' ddim yn cynnal eu cynhadledd yn Abertawe. Y rheswm hynod anarferol ydi bod yna gynhadledd Wanwyn, felly does yna ddim angen cynhadledd yn ystod yr hydref.
Eglurhad arall ydi bod y rhagolygon yn awgrymu y byddai yna erwau o seddi gwag yn y neuadd, ac y byddai'r digwyddiad yn edrych fel rhywbeth wedi ei drefnu gan y Dib Lems. Roedd e bost yn egluro pam bod y digwyddiad wedi ei ganslo gan y cwmni dosbarthu - Ticketsource - yn dweud yn glir mai diffyg gwerthiant oedd y rheswm.
Dewiswch chi pa un ydi'r eglurhad mwyaf tebygol.
"UKIP has cancelled its Welsh autumn conference in Swansea in a fortnight.
ReplyDeleteThe party said the event was not needed following a decision to hold the main UK conference in Llandudno next spring." Gwefan y BBC. Felly..
1. Plaid eilradd, israddol ydi UKIP Cymru felly.. medd UKIP Cymru.
2. Does dim angen llais, polisiau, ymgeiswyr Cymreig - fe fydd UKIP UK yn sortio hynny allan yn y gynhadledd Wanwyn.
3. Pam felly aethpwyd ati i drefnu cynhadledd 'Gymreig' ym mis Hydref ?
4. Beth am etholiadau'r cynulliad ? Pwy fydd yn dewis a dethol y polisiau i'w rhoi gerbron ? O ia Mark Reckless, un a wrthodwyd gan ei bobl ei hun ym mis Mai.
5. Yn olaf, pam felly ar wyneb y ddaear mae gan UKIP Cymru arweinydd ?
O ia, fe gafodd Nathan Gill y job gan Farage, mewn rhyw araith, rhyw dro, yn rhywle neu'i gilydd. Dim enwebiadau, dim etholiad arweinyddol. Jyst cyhoeddiad.
Shambyls o blaid os bu un erioed.
Dim polisiau, dim democratiaeth, dim clem!
Jyst colbio Johnnie Fforinar. Mae hynny'n ddigon o negas.