Rwan wnaeth Dylan Jones ddim holi gwestai nesa'r rhaglen - Gareth Davies - am ei ddamcaniaethau ynglyn a materion gwleidyddol y dydd ar ol dweud ei bwt am Bencampwriaeth Rygbi'r Byd. Mae Gareth yn gwybod ei stwff am rygbi, hyd y gwn i dydi o ddim yn gwybod rhyw lawer am wleidyddiaeth. Dydi Carwyn Jones ddim yn gwybod llawer am rygbi na phel droed chwaith - beth ydi pwrpas ei holi am y pynciau hynny?
'Dwi'n gwybod bod BBC Cymru'n hapus bod Carwyn wedi dechrau cymryd diddordeb ynddyn nhw yn fwyaf sydyn, ac efallai eu bod nhw'n teimlo'r angen i ddangos eu diolchgarwch iddo trwy lobio cwpl o gwestiynau hawdd i'w gyfeiriad a gadael iddo baldaruo am chwaraeon. Ond mae gen i ofn mai faint bynnag o actio'r ci bach ffyddlon ddaw o gyfeiriad BBC Cymru, bydd Carwyn yn colli diddordeb ynddynt yn syth ar ol Etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.
yawn
ReplyDeleteAi Dylan Jones ei hun fuasai'n gyfrifol am benderfynu'r cynnwys ? Gwn ei fod wedi gwneud gradd mewn gwleidyddiaeth yn y coleg, felly nid yw'n ffwl ei hun. Pwy yw golygydd y rhaglen ?
ReplyDeleteBe sydd trist ydi gofynnwch i mwyafrif o poblogaeth Cymru pwy ydi Carwyn Jones a na fydda nhw dim syniad. Dyna yr effaith arweinyddol mae wedi cael a'r y gwlad am dros 6 mlynedd! Roeddwn deall fod dyn y cefndir ond mae Prif Wenidog y papur wal!
ReplyDelete