Mae'r stori fach a ddatblygodd ar trydar ddoe yn un bach digon diddorol. Mae'n deillio o drydariad gan ymgeisydd Llafur yn Arfon, y Cyng Sion Jones ei fod yn gynhyrfus iawn ynglyn a buddugoliaeth Jeremy Corbyn yn etholiad arweinyddol y Blaid Lafur, a'i fod wedi cefnogi'r sosialwr o Islington o'r dechrau'n deg.
Cafwyd ymatebion gan y Cyng Dyfrig Jones yn tynnu sylw i Sion ddatgan cefnogaeth i Andy Burnham ym mis Mai.
Ymddengys iddo hefyd wneud yr honiad iddo gefnogi Corbyn o'r cychwyn yn un o'r nifer nid ansylweddol o gyfweliadau mae'n eu cael gan y Bib.
A bod yn deg efo Sion aeth ati i gywirio ei hun yn syth gan ddweud ei fod wedi newid ei feddwl a chefnogi Corbyn yn 'hwyr ym mis Mai'.
Ond mae yna broblem yn aros mae gen i ofn. Cafwyd datganiad gan Sion bod Burnham wedi colli ei gefnogaeth yn sgil sylwadau a wnaeth ynglyn a'r ffordd roedd Llafur wedi ymateb i bleidlais ar dorri budd daliadau. Gwnaeth Burnham y sylwadau hynny ar Orffennaf 21 2015. I'r rhai yn eich plith sydd ddim yn rhy siwr o sut mae'r calendr yn gweithio - mae hynny gryn ddau fis ar ol diwedd Mai. Roedd y cwn ar y palmentydd yn gwybod mai Corbyn fyddai'n ennill erbyn y dyddiad hwnnw.
Rwan, dydan ni ddim yn son am rhyw gelwydd mawr Carmichaelaidd yma. Does yna ddim amheuaeth bod Sion yn cefnogi Corbyn erbyn y diwedd. Does yna ddim amheuaeth chwaith nad oedd yn cefnogi Corbyn o'r cychwyn fel yr honodd. Ar un olwg mae'n ymgais hanner dealladwy - os naif - i wneud ei gysylltiad efo llwyddiant Corbyn yn gryfach nag oedd mewn gwirionedd.
Ond mae dau beth yn codi o'r stori ryfedd. I ddechrau mae'n bwydo i mewn i ymdeimlad o anonestrwydd ymysg gwleidyddion. Mae'n rhesymol i amau y byddai gwleidydd sy'n fodlon dweud celwydd 'golau' bychan, hefyd yn fodlon dweud celwydd mwy sylweddol petai amgylchiadau yn galw am hynny.
Mae yna rhywbeth arall hefyd - rhywbeth sydd yr un mor wir i flogiwr ag yw i wleidydd. Mae hi bron yn unarddeg mlynedd ers i Flogmenai gychwyn - ac mi fedraf ddweud efo fy llaw ar fy nghalon nad oes yna erioed ymgais wedi ei gwneud i gyflwyno rhywbeth sy'n ffeithiol anghywir. Peidiwch a cham ddeall - dydw i ddim yn honni am funud i fod ar rhyw ucheldir moesol - penderfyniad ymarferol ydi osgoi camarwain. Mae'n bwysig i flogiwr bod yr hyn sydd yn ei flog yn gredadwy. Mae cynnwys stwff sydd ddim yn ffeithiol gywir yn tanseilio hynny yn llwyr. Mae'r egwyddor yna yr un mor wir i wleidydd - mae i wleidydd tanseilio ei gredinedd ei hun efo man gelwydd yn hurt.
Dwi'n meddwl bod chdi'n bod rhy ffeind. Cael ei ddal yn deud celwydd so mae o'n deud celwydd arall. Swnio fatha compulsive liar i fi.
ReplyDelete