Yn ddi amau bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol i Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru Nia Griffith bleidleisio ychydig fisoedd yn ol tros £30bn o doriadau mewn gwariant cyhoeddus. Y toriadau hyn - ynghyd a rhai blaenorol - sydd yn gyfrifol am y toriadau milain mewn gwariant sy 'n brathu ar hyd y sector gyhoeddus ar hyn o bryd - toriadau y byddwn yn gweld tystiolaeth o 'u heffaith pob tro y byddwn yn rhoi'r newyddion ymlaen.
Ond tybed faint sydd yn gwybod am yr holl faterion pwysig nad ydi Nia'n teimlo 'n ddigon cryf trostynt i fentro bwrw ei phleidlais?
Penderfynodd Nia atal ei phleidlais yn San Steffan ar y materion canlynol:
Ariannu Cymru yn deg - hy ar sail angen.
Atal toriadau i bensiynau sector gyhoeddus.
Torri cyfradd uchaf treth incwm.
Lleihau treth ar ynni mewn ardaloedd gwledig.
Caniatau i lywodraeth Cymru bennu ei blaenoriaethau ei hun mewn gwariant ar is adeiledd.
Datganoli grym tros brosiectau ynni sylweddol i Gymru.
Caniatau Cymru i reoli ei hadnoddau naturion eu hunain.
Atal ffracio hyd bod sicrwydd am ddiogelwch y broses wedi ei sefydlu.
Capio budd daliadau y bobl dlotaf mewn cymdeithas.
No comments:
Post a Comment