Mae'r etholiad y Cynulliad yn rhyw gychwyn yn gynnar y tro hwn - Golwg yn llawn o luniau anferth o wleidyddion Llafur ddydd Iau diwethaf, a'r Western Mail yn dawnsio'n ufudd i droelli'r Blaid Lafur yr wythnos yma. Mi adawan ni lonydd i Golwg am y tro, mae'r hyn sy'n gyrru'r cylchgrawn hwnnw i boeni'n niwrotig nad yw'n ddigon Llafuraidd tipyn yn wahanol i'r hyn sy'n gwneud i'r Western Mail ysgrifennu nonsens. Dwi'n siwr y byddwn yn dod yn ol at Golwg maes o law.
Ta waeth, ymlaen at y Western Mail. Mae'r Western Mail wedi rhedeg nifer anhygoel o storiau yr wythnos yma ar ganlyniadau hystings Plaid Cymru yng Nghanol De Cymru. Mae rhan o'r hyn sy'n cael ei honni yn wir, tra bod rhan yn sicr ddim yn wir. Gweler yma, yma ac yma er enghraifft.
Esgyrn sychion y stori i'r Cynghorydd Neil McEvoy o'r Tyllgoed, Caerdydd ddod yn agos i guro Leanne i frig y rhestr yn dilyn yr etholiad fewnol am ymgeisyddiaeth rhestr Canol De Cymru. Petai hynny wedi digwydd yna byddai Leanne yn llai tebygol o gael ei hethol i'r Cynulliad yn 2016 - er y byddai dau lwybr yn agored iddi o hyd - gallai gael ei hethol yn y Rhondda, a gallai gael ei hethol fel ail ddetholyn ar y rhestr. Yn wir mae'r ddau lwybr yna'n agored i Neil rwan - yn yr amgylchiadau sydd ohonynt mae Gorllewin Caerdydd yn enilladwy i'r Blaid - Neil ydi ymgeisydd y Blaid yn yr etholaeth honno.
Cyn bod David Taylor - un o arch droellwyr Llafur yng Nghymru - wedi darparu'r Byd a'r Betws efo manylion agosatrwydd y canlyniad mae'n gwbl briodol i'r Western Mail wneud stori o'r peth. Yr hyn sy'n llai priodol fodd bynnag ydi i'r papur ail gynhyrchu'r sbin Llafuraidd o geisio creu naratif o rwygiadau, embaras eithriadol ac ymchwiliadau mewnol. Mae'r rhan yna o'r stori yn gelwydd a dim byd arall.
Dydi hi ddim yn arbennig o anodd egluro'r canlyniad agos mewn termau sy'n cyd fynd yn well a'r hyn ydi'r Blaid. Mae Neil yn gynghorydd hynod effeithiol a charismataidd sydd a phroffeil uchel iawn yng Nghaerdydd. Yn wir, gellir dadlau ei fod o a'r grwp bach iawn o Bleidwyr sydd ar y cyngor wedi dal y weinyddiaeth Lafur i gyfri yn llawer mwy effeithiol na mae'r grwpiau Toriaidd a Dib Lemaidd wedi. Mae'r rhan fwyaf o aelodau Plaid Cymru Canol De Cymru yn byw yng Nghaerdydd, ac yn darllen yn rheolaidd am Neil yn y papurau lleol. Fel arweinydd plaid does gan Leanne ddim cymaint o amser na Neil i wneud yr hyn mae'n rhaid ei wneud i sicrhau bod cefnogwyr yn gwneud eu ffordd i 'r hystings. Roedd yna ganfyddiad y byddai Leanne yn ennill yn hawdd beth bynnag oherwydd ei bod yn arwain y Blaid, felly roedd yna leiafrif o bobl oedd yn gefnogol i Neil ar lefel leol yn teimlo'n rhydd i bleidleisio iddo er mwyn ceisio sicrhau'r ail le. Bu bron iddo ennill y lle cyntaf.
Rwan mae pethau fel hyn yn digwydd mewn etholiadau mewnol - a dyna pam yn ol pob tebyg nad ydi'r Toriaid yn trafferthu efo rhyw nonsens fel democratiaeth fewnol. Mae'n stori fach dda - ond dyna'r cwbl ydi hi.
Beth sydd ddim yn wir fodd bynnag ydi'r naratif bod rhyw hollt fawr yn bodoli, a bod swyddogion candryll y Blaid wrthi bymtheg y dwsin yn cynnal ymchwiliadau er mwyn cael gwybod sut y cafodd David Taylor y wybodaeth am y canlyniad. Does yna ddim ymchwiliad o unrhyw fath yn digwydd - a dwi eto i ddod ar draws swyddog candryll - na hyd yn oed tipyn yn flin.
Pan mae anfodlonrwydd gydag arweinydd plaid, mae hynny'n weddol amlwg i bawb - mae swn y cecru tu ol i ddrysau caedig un treiddio'r waliau ac mae straeon yn cael eu rhyddhau i'r wasg byth a hefyd. Dylai Llafur wybod hyn - mae pob un o'u harweinwyr nhw ers y saith degau (gydag eithriad John Smith) wedi gorfod ymdopi efo cynllwynio a checru mewnol. Does yna ddim rhwyg mewnol ynglyn a'r arweinydd yn y Blaid a does yna ddim ymchwiliad mewnol yn mynd rhagddo i unrhyw beth o gwbl ar hyn o bryd.
Beth sydd gennym fodd bynnag ydi Llafur yn defnyddio naifrwydd y Western Male / Walesonline er mwyn tanseilio arweinydd Plaid Cymru. Dydi hi ddim yn anodd deall pam bod hynny'n digwydd chwaith - mae arweinydd Plaid Cymru yn fwy adnabyddus nag arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, ac mae bron i pob sylwebydd annibynnol yn ei hystyried yn ased sylweddol i'r Blaid. Dyna pam bod arweinydd diog a di fflach Llafur Cymru wedi cael ei anfon ar daith o amgylch Cymru i smalio ei fod yn gwrando ar bobl, a dyna pam yr troelli yn erbyn Leanne.
Gallwn ddisgwyl llawer, llawer mwy o hyn tros y misoedd nesaf. Wedi'r cwbl y peth diwethaf mae Llafur ei eisiau ydi ymladd etholiad ar eu record mewn llywodraeth.
Tystiolaeth bod Llafur mewn lle gwael ydi'r holl droelli mewn gwirionedd.
Y Blaid Lafur mae'n amlwg wedi anghofio etholiad yr arweinyddiaeth ym Medi 2010. Felly, mi wnawn ni eu hatgoffa nhw o'r hyn a ddigwyddodd.
ReplyDeleteDavid Miliband ar y blaen drwy gydol yr etholiad, Ed yn ail,a hynny tan y rownd olaf un. Yna - y canlyniad :
Ed Miliband - 50.65%
David Miliband - 49.35%
Rwan dyna be ydi agos!