Dydi o ddim yn syndod wrth gwrs bod y Toriaid eisiau parhau gyda'r broses o ddad berfeddu S4C a gychwynwyd ganddynt yn ol yn 2010. Dydi o ddim yn syndod chwaith bod Tori o Sais yn ei hystyried yn 'rhesymol' i S4C gymryd toriad cyffelyb i un y Bib - er mai un sianel Gymraeg sydd yna yn y Byd, tra bod yna gymaint o rai Saesneg nes ei bod yn nesaf peth i amhosibl i'w cyfri. Wedi'r cwbl dydi dyfodol y Gymraeg yn golygu dim i bobl fel Mr Wittingdale.
Cyn lleied o syndod ag ydi agwedd y Toriaid at S4C a'r Gymraeg, o'r ochr yma i Glawdd Offa mae'n amlwg ddigon bod y penderfyniad yn un pwysig iawn o safbwynt dyfodol darlledu cyfrwng Cymraeg, a thrwy estyniad dyfodol y Gymraeg ei hun. Dydi hi ddim yn briodol nag yn rhesymol bod dyfodol rhywbeth sydd mor bwysig i ddiwylliant Cymru yn nwylo aelod seneddol Maldon.
Yn yr amgylchiadau sydd ohonynt mae'n amlwg y dylid datganoli'r gyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru i Gaerdydd. Mae'n bosibl y byddai'r toriadau yn digwydd beth bynnag, ond byddai'r penderfyniad yn un fyddai wedi ei wneud yng Nghymru gan Gymry. Byddai'n benderfyniad fyddai wedi ei wneud yng nghyd destun disgwrs gwleidyddol Cymreig a chan bobl sy'n ymwybodol o werth y Gymraeg ac o bwysigrwydd S4C i'w dyfodol.
Ar hyn o bryd mae S4C yn cael ei diberfeddu'n fyw gan bobl sydd a dim dealltwriaeth o gwbl o'i phwysigrwydd diwylliannol. Mae hynny'n drychineb cenedlaethol.
No comments:
Post a Comment