Rwan efallai fy mod i yn hen ffasiwn, ond dwi wedi ymwneud a rhyw etholiad neu'i gilydd trwy gydol fy mywyd fel oedolyn. Yn ystod yr amser hwnnw dwi'n rhyw feddwl fy mod wedi dod i ddeall rheolau sylfaenol ymladd etholiad cyffredinol yn weddol dda. Maen nhw'n sylfaenol syml.
1). Mae'r etholiadau cyffredinol yn ymwneud a materion economaidd - rhaid i pob neges sylfaenol ymwneud a materion bara menyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
2). Mae rhaid i naratif pleidiol mewn etholiad cyffredinol gysylltu a'r naratif ehangach. Mae hyn yn dod a ni'n ol i faterion economaidd.
3). Mae'n rhaid ymdrin a'r presennol - does yna ddim pwynt ymladd brwydrau'r gorffennol na'r dyfodol.
4). Mae'n rhaid gwneud y defnydd mwyaf effeithiol posibl o'r adnoddau sydd ar gael.
5). Mae'n rhaid cadw ffocws tan y diwedd.
6). Mae'n hanfodol adnabod cefnogwyr a sicrhau eu bod yn pleidleisio ar y diwrnod.
Mae ymgyrch Llafur yn Arfon wedi llwyddo i dorri pob un o'r rheolau yna tros y dyddiau diwethaf. Ychydig iawn o adnoddau sydd ganddyn nhw ar lawr gwlad, ac mae hi'n benwythnos olaf ymgyrch etholiadol ffyrnig. Penderfynodd tim ymgyrchu Llafur mai'r ffordd orau o dreulio eu dydd Sadwrn olaf oedd trwy wisgo fel anifeiliaid gwyllt, a dilyn bws etholiadol y Blaid o gwmpas yr etholaeth. Felly tra'r oedd actifyddion y Blaid yn dosbarthu miloedd o daflenni, roedd tim ymgyrchol Llafur yn dawnsio mewn cylchfannau lle'r oedd y bws yn pasio.
Mae'n anodd bod yn siwr pam eu bod yn ymddwyn mewn modd mor bisar, ond fel strategaeth etholiadol roedd yn esiampl o idiotrwydd di glem o'r math gwaethaf. Duw a wyr pwy sy'n gyfrifol am eu hymgyrch, ond petai'n aelod o'r Blaid byddai wedi cael y sac yn syth oherwydd diffyg proffesiynoldeb a chrebwyll o sut i ymladd etholiad. Mae'n hanfodol i blaid wleidyddol ymddangos fel plaid ddifrifol a chyfoes, ac nid fel grwp pwyso ymylol. Mae'r Blaid wedi hen ddysgu'r wers honno.
Mae'n bosibl bod antics Llafur yn rhywbeth i'w wneud efo Deddf Hela, 2004 - neu o bosibl Deddf Atal Creulondeb i Anifeiliaid 1911 - pwy a wyr? Dydi'r naill ddeddf na'r llall yn ddim oll i'w wneud efo'r etholiad yma. Gwnaeth Plaid Lafur Arfon iddyn nhw eu hunain edrych fel grwp protest ymylol heddiw.
Onid yw Leanne Wood wedi newid polisi PC yn ddiweddar ar ladd moch daear bethbynnag ?
ReplyDeletehttp://syniadau--buildinganindependentwales.blogspot.co.uk/2015/04/question-marks-over-plaids-policies.html
Tydi o ddim yn fater sy'n poeni mymryn arnaf i, na trwch etholwyr Arfon, fe dybiwn i. Mae'n bosib fod y bobl yma'n gwneud y camgymeriad ymgyrchu clasurol o goelio fod mater sy'n bwysig iawn i chi'n bwysig i bobl eraill.
Yr unig sylwadau glywes i, Cai, oedd ''Pennau bach'. Arwydd un ai eu bod nhw wedi rhoi'r fffidil y y to, neu eu bod nhw'n ymgyrchwyr anobeithiol. Dw i'n amau mae'r ola sy'n wir. Pwy goblyn ydy'r dwl-al sy'n gyfrifol am eu hymgyrch nhw?
ReplyDeleteMae'r arolygon barn heno yn awgrymu tebygolrwydd uwch o fwyafrif Llafur . Yn rhwystredig, gallai'r SNP a PC gael etholiad llwyddiannus, ond heb gael math o ddylanwad wedyn. Buasai'r gwrthdaro rhwng Caeredin a San Steffan werth ei weld, ond er mwyn i PC elwa yn 2016, buasai'n rhaid i Gymru ddioddef (fwy byth) o dan Sosialaeth.
ReplyDeleteanon 10:12 -Does gan Llafur ddim gobaith o gwbl o gael mwyafrif llwyr.
ReplyDelete