Wnawn ni ddim trafferthu llawer efo datganiadau fwyfwy anhygoel Alun Pugh. Ymddengys ei fod bellach yn addo cael gwared o'r dreth llofftydd ddydd Gwener nesaf os caiff ei ethol yn aelod seneddol Arfon.
Ond yn fwy diddorol bydd yr hyn ddywedodd Ed Miliband ddoe, a'r hyn mae aelodau seneddol Llafur wedi bod yn ei ddweud heddiw ynglyn a chyd weithio efo'r Blaid a'r SNP yn debygol o roi Llafur mewn sefyllfa amhosibl.
Ystyrier y canlynol. Mae'r marchnadoedd betio yn symud tuag at y Toriaid, ac yn awgrymu mai rhywbeth fel hyn fydd yn digwydd.
Rwan o edrych ar y ffigyrau yna dydi'r Toriaid na Llafur ddim am fod mewn lle i gyrraedd y 325 sedd sydd angen iddynt i lywodraethu ar eu pennau eu hunain. Unig bartneriaid tebygol y Toriaid ydi'r DUP (tua 8 sedd, y Dib Lems ac UKIP. Mae hynny yn eu gadael yn brin.
Mae Llafur angen mwy o gefnogaeth. Rwan bod y Blaid a'r SNP allan o bethau eu hunig bosibiliadau nhw ydi'r Dib Lems, DUP, yr SDLP (hyd at 3 sedd), Sylvia Hermon a George Galloway. Wnawn ni ddim holi pam bod yr SDLP - plaid sydd eisiau darnio'r DU - yn dderbyniol, tra bod yr SNP a'r Blaid yn anerbyniol am yr un rheswm. Dydi hyn ddim yn dod a nhw yn agos at y trothwy, ac mae nifer o'r man bleidiau / unigolion a restrwyd uchod yn casau ei gilydd efo casineb perffaith.
Felly beth fydd yn digwydd? Wel y peth cyntaf ddigwyddith ydi y bydd Cameron yn cael gwahoddiad i ffurfio llywodraeth, ond bydd y llywodraeth hwnnw yn methu wrth geisio croesi'r clwyd cyntaf - Araith y Frenhines. Yna bydd Miliband yn cael cyfle. Yn ol pob tebyg bydd yn llwyddo i ffurfio llywodraeth leiafrifol - ond bydd rhaid i'r SNP a'r Blaid fotio tros Araith y Frenhines Llafur. Bydd Miliband yn ffurfio llywodraeth - ond y llywodraeth efo'r seiliau mwyaf tila yn hanes diweddar yn hanes y DU. Ac yna bydd yr hwyl a'r sbri yn cychwyn.
Bydd Llafur yn disgwyl cefnogaeth y Blaid a'r SNP ond heb drafferthu hyd yn oed siarad efo'r ddwy blaid genedlaetholgar. Cyn ein bod yn byw yn y byd go iawn fydd hynny ddim yn digwydd. Dydi pleidiau gwleidyddol ddim yn ufuddhau yn ddi gwestiwn i bleidiau eraill yn absenoldeb cytundeb o rhyw fath. Mi fydd y Blaid a'r SNP yn pleidleisio efo Llafur pan maent yn bod yn flaengar - cael gwared o gytundebau sero awr ac ati. Pan maent yn ymddwyn fel Toriaid - torri ar wariant cyhoeddus ac ati - byddant yn gorfod dibynnu ar gefnogaeth y Toriaid. A phan fydd hynny'n digwydd bydd y pleidiau cenedlaetholgar yn gwneud yn siwr fod pawb yn gwybod bod y Toriaid a Llafur yn gweithio law yn llaw. Bydd delwedd Llafur ymysg eu pobl eu hunain yn cael ei ddryllio - ac ar ben hynny bydd y gwrthbleidiau yn gallu dymchwel y llywodraeth ar amser sy'n anffafriol i Lafur.
Ac wrth gwrs byddai unrhyw aelod seneddol Llafur yn cael eu chwipio i ebargofiant gan eu plaid eu hunain.
ReplyDeleteIs Alun Pugh mentally ill? I'm not making light of this, but that tweet is disturbing.
ReplyDelete