Mae Abel McWalkies yn gwneud honiad diddorol yn ei dudalen Gweplyfr - sef bod ymgeisydd Llafur yn Arfon, Alun Pugh wedi derbyn £1,000 o bunnoedd o bres budur Tony Blair. Gallwch weld y neges yn ei chyfanrwydd yma.
Rwan, dwi ddim yn gwybod os wnaeth Alun gymryd y pres yma, ac yn anffodus fedra i ddim gofyn iddo fo'n hawdd iawn - dwi wedi cael fy mlocio o'i gyfrif trydar ers talwm. Mae'r cwestiwn yn un perthnasol iawn i Arfon - mae yna draddodiad o heddychiaeth yng Ngogledd Orllewin Cymru sy'n mynd yn ol ymhell, ac mae llawer o'r bobl sydd wedi symud i'r ardal yn ystod y degawdau diwethaf hefyd yn arddel yr un gwerthoedd.
Serch y ffaith na allaf i ofyn trwy drydar i Alun, efallai bod y trydarwyr yn eich plith eisiau gofyn iddo fo os ydi o wedi derbyn pres budur Blair. Gellir dod o hyd iddo ar @Alun_Pugh. Dwi 'n gwybod nad oes rhaid i mi atgoffa yr un ohonoch i holi'n gwrtais - er bod y pwnc yn un hynod emosiynol.
Mae'n ddrwg gyda fi. Alla i ddim gofyn i Alun chwaeth. Dw i wedi cael fy mlocio hefyd. Wn i ddim pam?
ReplyDeleteFfordd ryfedd i gyfathrebu ag etholwyr.
Credaf fod yr ymgeiswyr i gyd yn Neuadd y Penrhyn, Bangor, nos Fercher (Ddim yn siwr). CYTUN Bangor yn trefnu, felly mae'n siwr y gallai unrhyw Gristion o heddychwr godi pwynt perthnasol iawn.
ReplyDelete