Diolch i Cneifiwr am luniau o Cambrian News wythnos yma ac wythnos diwethaf.
Fel y gwelwch roedd ffrwyth dychymyg y Cambrian News yr wythnos diwethaf yn cael tudalen flaen gyfan iddi hi ei hun - penderfyniad a allai yn hawdd gael y papur o flaen llys barn.
Yr wythnos yma mae stori sydd yn gysylltiedig a'r un gyntaf - sy'n dangos rhagrith ar raddfa arwrol gan ymgeisydd yng Ngheredigion -sydd heb unrhyw amheuaeth o gwbl ynglyn a'i chywirdeb - sydd yn ymwneud a sylwadau a allai'n hawdd fod yn groes i'r gyfraith. Mae honno'n cael ei chladdu'n dwfn yn y papur gyda phenawd sy'n gydymdeimladol tuag at yr ymgeisydd. Mae'r stori dudalen flaen yn rhywbeth i'w wneud efo Castell Aberteifi.
Roedd y stori gyntaf yn ymwneud ag aelod o Blaid Cymru, roedd yr ail yn ymwneud ag aelod o'r Blaid Lafur a dyna sydd y tu ol i'r gwahaniaeth yn yr ymdriniaeth.
"Would be MP..." yn wyrdd hefyd (Plaid Cymru i bobl sydd ddim yn dilyn y stori). Dim "Labour candidate apologises..."
ReplyDelete