Chware teg i UNSAIN Ynys Mon am ddangos eu cefnogaeth i Albert Owen yn Etholiad Cyffredinol fis nesaf. Dydi o ddim yn arbennig o glir fodd bynnag sut aeth Unsain ati i ddod i'r penderfyniad, a does yna yn sicr ddim tystiolaeth eu bod wedi ymgynghori efo'u haelodau cyffredin ynglyn a'r mater. A dweud y gwir dydi hi ddim yn eglur o gwbl pwy a wnaeth y penderfyniad a phryd. Os ydi rhai o aelodau UNSAIN ar Ynys Mon eisiau gwybod sut y daethwyd i'r penderfyniad yma ar eu rhan mae'n debyg y gallant ofyn i'w trefnydd sirol, Thelma Parry egluro'r mater.
Rhag ofn nad ydych yn siwr pwy ydi hi, amgaeaf lun ohoni efo rhyw ffrind neu'i gilydd.
Llun Owen Smith yn f'atgoffa o haelioni Alun Pugh tuag at Dai Smith.
ReplyDeletehttp://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/calls-arts-row-minister-resign-2351241