Tuesday, January 13, 2015

Y wers i'w chymryd o bleidlais heddiw yn San Steffan

Yn anffodus dim ond 18 o Aelodau Seneddol bleidleisiodd yn erbyn toriadau gwariant cyhoeddus a chynnydd mewn treth ychwanegol y llywodraeth o £75bn, gyda thri yn unig o'r rheiny yn dod o Gymru. Mae hyn yn gyfystyr a thua £3.5bn yng Nghymru.


 Gyda Chymru yn fwy dibynnol na'r un rhan arall o'r DU ar wariant cyhoeddus byddai rhywun wedi disgwyl ychydig o gicio yn erbyn y tresi gan ASau Cymreig - ond aelodau seneddol Plaid Cymru yn unig bleidleisiodd yn erbyn - dim un Tori, dim un Dib Lem a dim un Llafurwr. Mi fydd y toriadau hyn yn cael effaith sylweddol a negyddol ar fywydau pobl ar hyd a lled y wlad - yn arbennig felly y bobl dlotaf a'r lleiaf abl i edrych ar ol eu hunain.

 Mae yna wers amlwg i'w chymryd ym Mis Mai. Un blaid yn unig sydd am roi Cymru'n gyntaf a gorchmynion y chwipiaid Llundeinig yn ail, a Phlaid Cymru ydi honno.  Y peth gorau allai ddigwydd i Gymru yn etholiad Mis Mai ydi bod gan Blaid Cymru ddylanwad ar y llywodraeth. Un ffordd sydd o sicrhau hynny - trwy bleidleisio i Blaid Cymru.

Rhestraf y sawl bleidleisiodd Na isod.

Abbott, Ms Diane
Clark, Katy
Durkan,Mark
Edwards, Jonathan
Godsiff, Mr Roger
Hosie Stewart
Llwyd,  Mr Elfyn
Long, Naomi
Lucas, Caroline
MacNeil, Mr Angus Brendan
McDonnell, Dr Alasdair
Mitchell, Austin Ritchie,
Ms Margaret Robertson,
Angus Shannon,
Jim Skinner, Mr Dennis
Weir, Mr Mike
Whiteford, Dr Eilidh
Pete Wishart
Hywel Williams

3 comments:

  1. Dim golwg o Nia Griffith ar y rhestr yna. Fawr o sioc. Bydd pobl Llanelli yn cael gwybod.
    Ymlaen!

    ReplyDelete
  2. Y rheswm nad ydi hi ar y rhestr Vaughan ydi oherwydd iddi bleidleisio i orfodi toriadau gwariant anferth ar bobl Prydain, Cymru a zllanelli.

    ReplyDelete
  3. Doedd Albert Owen ddim wedi trafferthu mynd! Roedd yn Beffro! Drychwch ar ei gyfri Twitter!

    ReplyDelete