Mae 'n ddiddorol bod y wasg prif lif wedi dechrau trafod y syniad o glymblaid rhwng y Blaid Lafur a'r Toriaid yn dilyn etholiad cyffredinol 2015. Mae'n ddiddorol hefyd nad ydi'r naill blaid na'r llall wedi datgan nad oes posibilrwydd i glymblaid o'r fath.
A dweud y gwir o gymryd cam yn ol ac edrych ar bethau yn wrthrychol mae 'r syniad yn gwneud synnwyr i'r ddwy blaid. Maent yn honni eu bod yn casau ei gilydd, ond maent mewn gwirionedd yn ddwy blaid geidwadol (c fach) sy'n debyg iawn i'w gilydd.
Byddai arweinyddiaeth y ddwy blaid yn gyfforddus efo'i gilydd oherwydd eu cefndir - addysgwyd Cameron, Miliband, Balls ac Osborne yn Rhydychen.
Mae trwch aelodaeth y ddwy blaid yn byw yn Ne Ddwyrain Lloegr.
Mae'r ddwy blaid yn eilyn addoli'r diweddar Margaret Thatcher.
Mae'r ddwy blaid yn credu mewn torri ar wariant cyhoeddus, ac felly mewn torri gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r ddwy blaid eisiau torri budd daliadau.
Mae'r ddwy blaid eisiau gwario mynyddoedd o bres yn adnewyddu Trident.
Mae'r ddwy blaid yn hoff o ryfeloedd tramor.
Mae gan y ddwy blaid hanes diweddar o gyd ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth i'r Alban.
Mae ffocws y ddwy blaid fel ei gilydd ar ddatblygu economi De Ddwyrain Lloegr.
Mae'n debyg mai'r cyfuniad yma ydi'r un mwyaf naturiol mewn gwirionedd - mae Llafur a'r Toriaid yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydi'r naill na'r llall i unrhyw blaid wleidyddol arall yn y DU.
Ydi hi'n ebrill y 1af yn barod?? Mae'n ymddangos fod Plaid yn gwrthwynebu untlrhyw doriad mewn gwariant cyhoeddus. Dwi heb fodd bynnag, weld na chlywed sut y byddai PC yn ymdrin nid yn unig a'r diffyg, ond hefyd dyled strwythurol y DU? Mae'n hawdd iawn gwrthwynebu pethau pan nad ydych chi'n gyfrifol am ddelio hefo'r canlyniadau!
ReplyDeleteSylwadau diddorol. Ac rwyt yn berffaith iawn, mae'r tebygrwydd rhwng y ddwy blaid yn hynod. Ond cyfyd hyn glamp o gwestiwn - pam mewn difrif, felly, bod arweinyddion Plaid yn awgrymu y gellid clymbleidio efo Llafur ar ôl yr etholiad?
ReplyDeleteStrategaeth od ar y naw a ninnau yn gogledd orllewin yn trio ennill yn erbyn Llafur!
Anon - mae'r ffordd ti'n edrych ar bethau - a'r pleidiau San Steffan yn afresymegol. Mae polisiau llymder wedi methu ers 2008 ym mhob man o Iwerddon i Hwngari, felly beth ydi'r ateb? - mwy o lymder. Duw a wyr pam eich bod yn credu bod gwneud yr un peth am ddod a canlyniadau gwahanol.
ReplyDeleteDyfed - Dwi'n derbyn na fedri di gael papur sigaret rhwng Llafur a'r Toriaid ar y rhan fwyaf o faterion, ond dydi hi ddim yn bosibl i'r Blaid gydweithredu efo'r Toriaid - mae'r blaid honno'n cael ei chasau mewn rhannau helaeth o Gymru
O edrych ar y post dwetha, dwi wedi rhoi ffigyrau mewn i excell, a dyma ganlyniad Ynys Mon os basa'r sir yn dilyn yr un trywydd y phawb arall (as if..!)
ReplyDeleteCanlyniad YouGov Ynys Mon 2015 ..!
9752 Llaf
7520 Toriaid
6624 UKIP
8789 Plaid Cymru
608 Dib Lems
971 Gwyrddion
0 Roger Rodgers
163 Christian
Ambell i nodyn.
1) Swing Lib dems - 2.5% i Ceid, UKIP a Gwyrdd, 8.8% i llafyr (1)
2) Swing Llafur - 1.8% i Gwyrdd, 7.2% i UKIP
3) Pleidlais Rodgers wedi ei ranu rhwng UKIP a Ceid.
4) Swing PC - 0.1% i Gwyrdd, Ceid a Llafur
5) Swing Ceid i UKIP
6) Dwi'n cymeryd y bydd y Gwyrddion yn sefyll..??
(1) http://www1.politicalbetting.com/index.php/archives/2014/11/01/labours-melting-firewall-almost-a-third-of-ld-switchers-have-since-left-since-2012/