Thursday, January 22, 2015

Plaid Cymru, yr SNP a'r Gwyrddion i gael cymryd rhan yn y dadleuon teledu?

Bydd yn ddiddorol gweld ymateb y Blaid Lafur os ydi'r adroddiadau y bydd y Blaid Werdd, Plaid Cymru a'r SNP yn cymryd rhan yn nwy o'r tair dadl deledu.  

Un o'r rhesymau pam nad oedd Cameron eisiau cymryd rhan yn y dadleuon o dan y trefniadau gwreiddiol oedd oherwydd nad oedd yn awyddus i gael UKIP yn ymosod arno o'r Dde, tra nad oedd neb i ymosod ar y Blaid Lafur o'r Chwith.  Byddai'r trefniadau newydd yn sicrhau y byddai tri llais yn beirniadu Llafur o'r Chwith.

Yn ychwanegol at hynny - ac yn bwysicach - bydd y dair arweinyddes yn cael cyfle i bortreadu gweledigaeth wahanol o wleidyddiaeth - un sydd yn herio consensws gwleidyddol / cyfryngol y Deyrnas Unedig.  'Dydi'r consensws hwnnw prin byth yn cael ei herio'n gyhoeddus.

Byddai gweledigaeth felly yn un sy'n gwrthod y mantra bod rhaid dawnsio i don sefydliadau ariannol, bod rhaid torri ar wariant cyhoeddus, bod rhaid cynnal yr anghyfartaledd mewn cymdeithas, bod rhaid wrth bolisi tramor ymysodol, bod rhaid gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar arfau a WMDs.  Byddai'n dangos bod dewis, a byddai hefyd yn dangos yn greulon o glir pam mor debyg ydi Llafur i'r Toriaid mewn gwirionedd.

Os ydi'r adroddiadau yn wir mae gan Miliband cryn broblem i fynd i'r afael a hi.  


1 comment:

  1. Dyfed9:40 pm

    O gofio'r boost gafodd y LibDems ar ôl y dadleuon yn 2010 a'r drwg a wnaethpwyd i bleidiau bach fel Plaid wrth gael eu hanwybyddu mae hwn yn ddatblygiad hynod o dda.

    ReplyDelete