Cam arwain trwy adrodd ffeithiau cywir ond peidio rhoi cyd destun iddynt sydd gennym o dan sylw heddiw. Alun Pugh wrth gwrs sydd yn gyfrifol am y camarwain efo'r trydariad isod. Mae'n tynnu sylw at y ffaith nad ydi Cyngor Gwynedd yn talu cyflog byw i bawb, a'r ffaith bod rhai o'r staff yn cael eu cyflogi ar delerau sero awr. Byddwn yn edrych ar y camarwain sero awr mewn blogiad diweddarach, Edrychwn ar y camarwain cyflog byw yn y blogiad hwn.
I'r sawl sy'n anghyfarwydd a chyflog byw, cyflog o fwy na £7.85 yr awr yw. Er nad yw'n gyflog uchel, mae'n uwch na'r lleiafswm swyddogol. Dydi'r rhan fwyaf o gyflogwyr ddim yn cytuno i dalu'r cyflog byw - ond mae yna leiafrif bach yn gwneud hynny. Bydd y craff ei lygaid yn eich plith yn sylwi nad ydi'r Blaid Lafur Gymreig yn eu plith.
Dydi Cyngor Gwynedd ddim ymhlith y cyflogwyr sy'n cynnig cyflog byw chwaith. Un cyngor sydd ar y rhestr - Cyngor Caerffili. Dydw i ddim yn hollol siwr pam nad ydi Cyngor Caerdydd ar y rhestr. Aeth y cyngor hwnnw ati i ddatgan yn groch eu bod yn gyflogwr cyflog byw. Efallai mai'r rheswm ydi bod cymaint o swyddi 'r cyngor hwnnw wedi eu contractio allan i'r sector breifat sydd ddim yn talu cyflog byw. Cyngor Llafur ydi Cyngor Caerdydd wrth gwrs. Mae yna dri chyngor (hyd y gwn i) arall sy'n cynnig mwy na'r isafswm cyflog, a sy'n gweithio tuag at gyrraedd y cyflog byw - Mynwy, Abertawe a Gwynedd. Gwynedd sydd efo 'r lleiaf o adnoddau ar gael iddi o ddigon.
Mae yna 11 cyngor sy'n cael eu rhedeg gan Lafur yng Nghymru. Mae yna dri ohonynt sy'n ymdrechu i gynnig cyflog byw - gydag un wedi cyrraedd y nod. Mae Mr Pugh yn dewis beirniadu cyngor sydd yn ymgyraedd tuag at gyflog byw, tra'n peidio a chydnabod nad ydi'r rhan fwyaf o gynghorau Llafur hyd yn oed yn gwneud ymgyrch, ac nad ydi'r Blaid Lafur Cymreig yn cael ei gydnabod fel cyflogwr felly chwaith. Dydi o ddim yn son chwaith mai lleiafrif bach iawn o gyflogwyr sy'n cynnig cyflog byw. Wna i ddim dweud bod y darn yma o anonestrwydd di gywilydd yn peri syndod i mi.
£7.85 yr awr!
ReplyDeleteDwi wedi trio dro ar ol tro yn Wrecsam ond mae'r Blaid Lafur pan oeddant mewn grym wedi gwrthod bob tro.
Diolch syr - wedi ei gywiro.
ReplyDeleteBe ddigwyddod i rhan 3?
ReplyDelete