Thursday, January 08, 2015

Cameron, yr SNP a'r Blaid Werdd

Felly dydi Cameron ddim am gymryd rhan yn y dadleuon cyhoeddus am nad ydi'r Blaid Werdd yn cael cymryd rhan - ond dim gair am yr SNP.  Cymharwch sefyllfa gyfredol y Blaid Werdd, UKIP a'r SNP.

Mae gan y Blaid Werdd 27,600 o aelodau, un AS ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu mai un aelod fydd ganddi ar ol mis Mai.
Mae gan UKIP 40,000 o aelodau, dau AS, ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu mai 9 sedd fydd ganddi ar ol mis Mai.
Mae gan yr SNP 95,000 o aelodau, 6 AS ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu y bydd ganddi 30 sedd ar ol mis Mai.

9 comments:

  1. Simon Brooks1:30 am

    Ond bydd Plaid Cymru yn cael ei chynrychioli gan y Blaid Werdd yn rhan o'r anti-austerity alliance. Dengys hyn wendid strategaeth bresennol Leanne Wood o ymddwyn fel pe bai'r Blaid yn gangen o'r rhan honno o'r Chwith Brydeinig sy'n 'progressive' yn hytrach nag yn fudiad cenedlaethol.

    ReplyDelete
  2. R Tyler7:00 am


    Cytuno cant y cant

    ReplyDelete
  3. Mae gen i ofn dy fod wedi cam ddeall datganiad OFCOM, natur y dealltwriaeth rhwng y Blaid, yr SNP a'r Blaid Werdd, strategaeth etholiadol y Blaid a'r trefniadau ar gyfer y dadleuon cyhoeddus yn 2010 Simon.

    ReplyDelete
  4. Meddwl basa ti'n licio gweld be fasa canlyniad Arfon o ddilyn y system "Proportional Allocated Loss" (yn lle UNS). Eto, dwi'n defniddio'r pol YouGov diweddar.

    Llafur: 7532 (-0.82%)
    Toriaid: 3939 (-1.83%)
    UKIP: 3660 (11.4%)
    Plaid Cymru: 9133 (-0.96%)
    Lib Dems: 860 (-10.77%)
    Gwyrddion: 951 (3.64%)

    Fasa'r ffordd yma ddim yn gweithio ar gyfer Ceredigion. Mae pob system proportional yn enwog am roi figyrau isel i'r Lib Dems pan mae eu pol yn wael...

    ReplyDelete
  5. Ac Aberconwy:

    Llafur: 7929 (1.97%)
    Toriaid: 9054 (-5.61%)
    UKIP: 5155 (15.09%)
    Plaid Cymru: 5199 (-0.48%)
    Lib Dems: 1358 (-14.78%)
    Gwyrddion: 1131 (3.77%)

    ReplyDelete
  6. Cywiriad:

    Yn Arfon,
    Llafur: 7532 (-1.52%)

    ReplyDelete
  7. Diolch Ioan, mi bloncia i nhw ar y dudalen flaen pan gaf funud.

    ReplyDelete
  8. Anonymous10:58 am

    https://glynadda.wordpress.com/2015/01/09/breuddwyd-tyrcwn-wrth-eu-hewyllys/

    Sylw craff arferol perthnasol i Arfon gan Dafydd Glyn.

    ReplyDelete
  9. Does yna nesa peth i ddim myfyrwyr ar y gofrestr etholwyr yn Arfon y tro hwn.

    ReplyDelete