Friday, May 30, 2014

Plaid Cymru ac UKIP yn ennill yr etholiad

Iawn - mae'r teitl dipyn bach yn ddi gywilydd ag ystyried mai pedwerydd oedd y Blaid yn etholiadau Ewrop, ond dwi'n meddwl ei bod yn ddigon teg nodi mai'r Blaid enillodd yr ymgyrch ei hun - neu o leiaf i'r Blaid ddod yn ail i UKIP.  Dydan ni ddim yn gorfod edrych yn hir iawn ar y polau i allu gweld hynny.  

Roedd pol YouGov mis Ebrill yn awgrymu'n gryf iawn y byddai'r Blaid yn colli'r sedd - roedd y Blaid ar 11%, UKIP ar 20%, Lib Dems7%, Toriaid 18% a Llafur 39%.  Ar y diwrnod roedd Llafur ar 28% (-11% o gymharu a phol Ebrill), Toriaid 17% (-1%), Lib Dems 4% (-3%), Plaid Cymru 15% (+4%) ac UKIP 28% (+8%).

Pedwar peth sy'n drawiadol - y cwymp enfawr ym mhoblogrwydd Llafur yn ystod yr ymgyrch, haneru poblogrwydd y Lib Dems, cynnydd o 4% yng nghefnogaeth y Blaid (tra'n derbyn yr amheuon a fynegwyd yma am fethodoleg YouGov) a chynnydd o bron i 8% yng nghefnogaeth UKIP.  

Ar ddechrau'r flwyddyn roedd rhai o wleidyddion Llafur yn brolio eu bod am gael 3 sedd, ac roedd disgwyliad clir y byddai Llafur yn cael dwy hyd y diwedd.  Ond - fel rydym wedi son eisoes - roedd ymgyrch Llafur yng Nghymru yn drychinebus o aneffeithiol - anfon eu gohebiaeth allan wedi i lawer o bobl bleidleisio, methu gwneud defnydd o boblogrwydd eu harweinydd Cymreig ac ati.  Os oes yna erioed unrhyw blaid wedi taflu eu gobeithion am sedd Ewrop -dyma'r achlysur.

Ond fyddai methiant Llafur ddim yn ddigon ynddo'i hun wrth gwrs - roedd rhaid i'r Blaid fanteisio ar hynny - a chafwyd ymgyrch llawr gwlad digon effeithiol.  Soniais ar y cychwyn mai ail i UKIP oedd y Blaid o ran ymgyrch - ond ymgyrch gyfryngol oedd un UKIP - ymgyrch llawr gwlad oedd un y Blaid - y ground war y byddwn yn son amdani weithiau.  

Tri achlysur diweddar arall y gallaf feddwl amdano lle enilliodd y Blaid yr ymgyrch llawr gwlad yn hollol glir - is etholiad Ynys Mon, etholiad Cynulliad 99 ac etholiad Cynulliad 2007 Da iawn bawb.

Thursday, May 29, 2014

Cornel grefft

M
Dydi Blogmenai ddim yn ymdrin a chrefftau yn aml, ond dyma flogiad ar y grefft draddodiadol Wyddelig o ddifwyno posteri etholiadol.





















Wednesday, May 28, 2014

Ar wleidydda negyddol

Mae wedi mynd yn rhyw fath o wireb bod mai'r ffordd orau o ymgyrchu yn wleidyddol ydi trwy fod yn 'gadarnhaol'.  'Dwi'n meddwl mai etholiad cyntaf Barak Obama am yr arlywyddiaeth sydd wedi poblogeiddio'r canfyddiad yma, ond dydw i ddim yn siwr.  Rwan y gwir amdani ydi bod ymgyrchu cadarnhaol yn gweithio'n iawn weithiau, ond byddai dyn wedi disgwyl y byddai llwyddiant plaid mwyaf negyddol y DU yn etholiadau Ewrop wedi rhoi lle i bobl ystyried o ddifri os mai dyma'r ffordd orau o ymgyrchu pob tro.

Ar yr ochr yma i'r Mor Celtaidd mae yna lawer - llawer iawn - o ymgyrchwyr cwbl negyddol wedi cael eu hethol i gynghorau ar hyd a lled y wlad. yn ogystal ag i Senedd Ewrop.  Y seren ar hyn o bryd mae'n debyg ydi Luke Ming Flannagan.  Mae gan Ming lawer o gas bethau, dim yn fwy felly na'r ddeddf sy'n ei atal rhag 'smygu canabis.  Cyn iddo gael ei ethol yn TD (Aelod Seneddol) yn 2012 aeth i'r Dail i brotestio gyda rhyw gant a hanner o sbliffs yn ei feddiant - un yn rhodd i pob un o aelodau'r Dail.  Beth bynnag, mae Ming yn casau'r Undeb Ewropeaidd llawer mwy na mae'n casau'r ddeddf cyffuriau.  Y rheswm pennaf am hyn ydi rheoliadau gan yr UE sy'n gwahardd tyrchu mawn mewn llefydd sensitif o ran ecoleg.  Mae Ming o'r farn bod tyrchu mawn yn hawl tragwyddol i'r Gwyddel - tipyn bach fel agwedd llawer o Americanwyr tuag at y gwn.  Mae Ming hefyd yn casau'r heddlu, ac mae wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn 'llygredd' yr heddlu ers blynyddoedd.

Beth bynnag, er gwaethaf agweddau anghonfensiynol Ming, cafodd etholiad dda fel ymgeisydd annibynnol yng Nghanolbarth a Gogledd Orllewin Iwerddon am Senedd Ewrop.  Llwyddodd i gorlanu tros i 124,000 o bleidleisiau cyntaf - mwy na gafodd y Blaid trwy Gymru a mymryn llai na chafodd y Toriaid - er bod poblogaeth ei ranbarth cryn dipyn yn is nag un Cymru.




Ym mhen arall yr ynys roedd hen gyfeillion i Flogmenai yn cael diwrnod gwych.  Mae'r Healy Rays - sy'n galw eu hunain yn ymgeiswyr annibynnol, ond sy 'n ymgeiswyr Healy Ray mewn gwirionedd - wedi llwyddo i ymhel a gwleidyddiaeth yn y ffordd mwyaf sinicaidd bosibl.  Yn ol yn yr hen ddyddiau pan oedd yr hen ddyn - Jackie - yn TD roedd llywodraeth Bertie Ahern yn ddibynol arno i basio deddfwriaeth oherwydd nad oedd ganddynt fwyafrif.  Pob tro y byddai Jackie yn cytuno i'w cefnogi byddai  pris i'w daly - pont yn rhywle yn Ne Kerry, cylchfan, lon wedi ei hail wynebu, gwasanaeth bysus newydd neu beth bynnag.  Fel yma mae gwleidyddiaeth yr Healy Rays yn gweithio.  

Doedd gan y llwyth Healy Ray ddim ymgeisydd ar gyfer Ewrop, ond roedd ganddyn nhw bedwar ymgeisydd ar gyfer cynghorau yn Ne Kerry.  Cafodd y pedwar eu hethol gyda'r ddau brif ymgeisydd - Johnny a Danny Healy Ray   yn cael pleidlais anferthol - dwywaith y cwota roeddynt ei angen ar y cyfri cyntaf.  Roeddynt o'r farn mai 'r hyn oedd yn gyfrifol am faint eu llwyddiant oedd eu hymgyrchu di flino a dewr yn erbyn y gyfraith sy'n atal pobl rhag yfed a gyrru.  



Yn y cyfamser roedd Sinn Fein yn cael coblyn o ddiwrnod hefyd - treblu nifer eu cynghorwyr, cael mwy o bleidleisiau na neb arall ar hyd yr ynys, ethol pedwar Aelod Ewropeaidd a rhoi eu hunain mewn lle cryf i ennill nifer helaeth o seddi yn y Dail nesaf.  

A bod yn deg efo'r Shinners mae yna fwy iddyn nhw na dim ond gwrthwynebu pob dim.  Mae nhw yn gwrthwynebu polisi economaidd y llywodraeth yn ei gyfanrwydd, maen nhw'n gwrthwynebu bron i pob toriad mewn gwariant cyhoeddus, maen nhw'n anghytuno bod hawl gan yr Undeb Ewropeaidd i orfodi polisiau llymder ar lywodraeth Iwerddon, ac maen nhw yn ddi eithriad yn gwrthwynebu rhoi unrhyw rym ychwanegol o unrhyw fath i Brussels.  Serch hynny mae ganddyn nhw naratif gweriniaethol cadarnhaol ynglyn a llywodraeth sy'n trin pawb yn gyfartal a chyda pharch - neges sydd a chryn dipyn o traction yng ngwleidyddiaeth yr Iwerddon gyfoes.


A dydan ni ddim yn gorfod edrych ymhell i weld negyddiaeth sylfaenol gwleidyddiaeth Iwerddon ar raddfa fechan.  Mae'r ddau lun yma wedi eu cymryd o ffenest swyddfa post yn Port Magee.  Mae'n nhw'n rhestru TDs Kerry sydd o blaid cau swyddfeydd post, a'r rhai sy'n erbyn gwneud hynny.  



Ac efallai na ddyliwn ni adael eitem ar wleidydda negyddol heb gyfeirio at Johnny Porridge O'Connor.  Ymgeisydd Fine Gael o Killorglin ydi Johnny - nid y byddech chi 'n credu hynny o edrych ar ei ohebiaeth gwleidyddol yn y dref - does yna ddim son am ei blaid, a does yna ddim defnydd o liwiau ei blaid chwaith - ei unig neges yw ei bod yn gwbl anheg nad oes yr un cynghorydd yn dod o Killorglin, tra bod pob tref arall efo cynghorydd.  Yn amlwg mae'n mynd ar ol pleidleisiau ar sail ei blaid wleidyddol yn y trefi eraill.  Yn wahanol i bawb arall yn y blogiad yma methu wnaeth Porridge - llwyddodd i gorlanu 3% o 'r bleidlais yn unig.  Pam?  Wel - roedd yn erbyn yr Healy Rays - ac mae'r rheiny yn well na neb arall am wleidyddiaeth casgen borc - gan gynnwys Johnny druan.


Felly dyna chi - os nad yw llwyddiant UKIP ddydd Iau yn ddigon i 'ch argyhoeddi o lwyddiant gwleidydda negyddol, edrychwch tros y Mor Celtaidd lle mae gwleidydda felly yn gelf gain.  Mae gwleidydda negyddol y. Gweithio - reit?

Tuesday, May 27, 2014

Pleserau betio gwleidyddol.


Fydda i ddim yn gwneud hyn yn aml, ond cyn bod Vaughan yn brolio ei lwyddiant yn darogan y canlyniadau Cymreig ar gyfer etholiad Ewrop yn gywir, waeth i mi wneud yr un peth - yn arbennig cyn ei fod o yn gywir a minnau yn anghywir ynglyn a'r etholiad.  

Dwy fet yn unig oeddwn i'n ddigon hyderus i roi pres arnyn nhw y tro hwn - y byddai Lyn Boylan ar ben y pol yn Nulyn ac y byddai'r Lib Dems yn cael llai na 3.5 sedd.

Diolch i Paddy Power, y PSNI a Nick Clegg yn y drefn yna.

Politics
Irish Politics European Elections: Dublin - To Top The Poll
12:00 23/05
European Parliament Constituencies
Lynn Boylan (SF) @ 4/1
Stake and Return Details
Bet Placed at: 13:59 17/05
Bet type: Single (to Win)
Number of Lines: 1
Stake per Line: £40.00

Number of win Lines: 1
Total Stake: £40.00
Tax: £0.00
Freebets Redeemed: £0.00
Winnings: £200

Result: H
Politics
UK Politics Liberal Democrats - EP Seats
19:00 22/05
EU 2014: Party Seats
Under @ 4/6
Stake and Return Details
Bet Placed at: 14:03 17/05
Bet type: Higher/Lower (to Win)
Number of Lines: 1
Stake per Line: £55.00


Number of win Lines: 1
Total Stake: £55.00
Tax: £0.00
Freebets Redeemed: £0.00
Winnings: £91.67




Etholiad Ewrop

Reit - dwi wedi cael munud neu ddau i ddweud pwt am etholiadau Ewrop.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y canlyniad yn un da - roedd yn gryn gamp i amddiffyn y sedd yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.  Yn fras roedd y Blaid yn ymladd yn erbyn y diffyg sylw cyfryngol arferol ynghyd a dau rym gwleidyddol mawr - y naill ai yn ffenomenon Ewrop gyfan a'r llall yn rhywbeth penodol Gymreig.

Mae'r Dde gwrth Ewropeaidd wedi sgubo ar draws Ewrop (ceir arwyddion o hynny hyd yn oed yma yn yr Iwerddon - ond mwy am hynny mewn blogiad arall) ac roedd y Blaid Lafur mewn sefyllfa i ad hawlio miloedd lawer o bleidleisiau a gollwyd ganddynt yn 2009.  Gallai sedd y Blaid fod wedi ei sgubo i ffwrdd gan y ddau rym yna, ond ddigwyddodd hynny ddim.  Un o'r prif resymau am hynny ydi i'r etholiad gael ei hymladd yn unol a strategaeth briodol i'r etholiad honno.

Mewn etholiad lle mae'r gyfradd bleidleisio yn isel mae'n bwysig iawn i blaid fel Plaid Cymru gael ei phleidlais graidd allan i bleidleisio.  Dydi hi prin yn bosibl ennill carfanau newydd o bleidleiswyr mewn etholiad lle na chaiff nemor ddim sylw cyfryngol, a lle'r ydym y tu hwnt i'r naratif cyfryngol - mae'n rhaid gwneud y mwyaf o'r hyn sydd eisoes ar gael.  Byddai'n dda petai pethau'n wahanol - ond dydyn nhw ddim.  Mae'n rhaid ymladd etholiad sydd o'n blaenau ac nid etholiad yr hoffem ei chael o'n blaenau.  Does yna ddim gwell ffordd o golli etholiad na gwneud hynny.

Felly roedd y strategaeth greiddiol - oedd yn foel a di addurn - hefyd yn hynod effeithiol.  Cafwyd cydnabyddiaeth cynnar o'r posibilrwydd cryf y gallai'r sedd gael ei cholli, tynnwyd sylw at y posibilrwydd y byddai gan UKIP lais ar lefel Ewrop tra nad oedd gan y Blaid un, tynnwyd sylw at y ffaith bod UKIP yn ei hanfod yn anghymreig a chanolbwyntwyd ar gael y bleidlais graidd allan yn ystod yr ymgyrch.  Y ffordd fwyaf effeithiol o annog y bobl hynny i ddod allan oedd edliw enw UKIP.  Roedd gallu dweud wrth y bobl hynny sy'n dweud  'Iawn, Plaid Cymru ydan ni'n fotio yma pob tro'  - 'Cofiwch wneud yn siwr bod pawb yn fotio, mae perygl go iawn i'r sedd' yn erfyn hynod bwerus ar stepan y drws.  Mae'n werth nodi hefyd bod ymosod ar UKIP yn addas oherwydd bod tystiolaeth polio yn dangos yn glir bod cydadran o'n pleidlais ni hefyd ar gael i UKIP.  Dydi hyn ddim yn wir am y Toriaid.

Rwan dwi'n cydnabod bod ambell i gwestiwn i'w ofyn - pam nad oedd y strategaeth yn fwy llwyddiannus? Pam bod rhan o'n pleidlais graidd ni heb bleidleisio? Pam bod rhai o'n pleidleisiau wedi eu colli i  UKIP?  Ond dydw i ddim yn meddwl bod cwestiwn i'w godi ynglyn a llwyddiant y strategaeth.  Roedd yn llwyddiant.

 Roedd y polau wedi awgrymu yn gyson am fisoedd y byddai'r sedd yn cael ei cholli yn eithaf cyfforddus - roedd hyn yn rhannol oherwydd problem efo methodoleg YouGov - ond tua 2% yn unig o dan gyfrifo pleidlais y Blaid mae hynny'n ei awgrymu.  Roedd pleidlais y Blaid ar y diwrnod tua 5% yn uwch nag oedd pol gan YouGov ychydig wythnosau ynghynt yn ei awgrymu.  Llwyddodd y strategaeth i sicrhau bod nifer cymharol fechan o bobl i drafferthu dod allan i bleidleisio - efallai 15,000 o bobl.  Roedd hynny'n ddigon a chadwyd y sedd.

Dylid barnu llwyddiant strategaeth yn unol ag un maen prawf - a lwyddodd i wireddu ei amcan?  Gwnaeth hynny, felly roedd y strategaeth yn llwyddiant.  Roedd yna elfen o lwc wrth gwrs - petai Llafur wedi rhedeg ymgyrch fwy effeithiol ac wedi cael ei phleidlais graidd allan yn y Cymoedd byddai ganddi ymhell tros 30% o'r bleidlais a byddem wedi colli beth bynnag - ond roedd hynny y tu allan i'n rheolaeth ni yn llwyr.  Gwnaethom yr hyn oedd yn bosibl efo'r hyn yr oeddem yn gallu ei reoli.

Mae nifer wedi beirniadu'r ffordd aeth y Blaid ati i ymladd yr etholiad yma gan awgrymu pob math o strategaethau eraill - ymosod ar y Toriaid (fel petai pleidleiswyr Toriaidd yn cymryd eu gorchmynion gan y Blaid), honni ein bod yn debygol o ennill dwy sedd (fel petai hynny ddim yn ein gwneud yn destun gwawd a digrifwch cyffredinol), canu clodydd yr Undeb Ewropeaidd i'r cymylau ac ati.  Byddai'r strategaethau hynny i gyd wedi colli'r sedd i ni.

Felly o safbwynt yr ymgyrch roedd yn llwyddiant - ond mae cwestiynau ehangach yn codi.  Y pwysicaf o'r rhain ydi 'Pam nad ydi'r Blaid wedi llwyddo i apelio at bobl sydd wedi dadrithio efo Llafur - yn arbennig felly yn y Cymoedd?'  Bydd rhaid i'r ateb i'r cwestiwn hwnnw fod wrth wraidd ein strategaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad 2016.  Bydd rhaid i'r strategaeth bryd hynny (a'r flwyddyn nesaf) yn wahanol i'r un ar gyfer etholiad Ewrop 2014.  Mae'n rhaid creu strategaeth ar gyfer yr etholiad sydd o'ch blaen - nid yr un y byddwn yn ddymuno ei chael o'n blaen.
(Ymddiheuriadau am wallau iaith ac ati - mae'r uchod wddi ei sgwennu'n frysiog iawn tros frecwast mewn gwely a brecwast).

Monday, May 26, 2014

Y Ffigyrau yn llawn

Mi gewch chi ddadansoddiad pan ga i funud i feddwl - dwi i fod ar fy ngwyliau.

Cliciwch ar y ddelweddau i'w gweld yn glir.

Dwi wedi dwyn y delweddau gan Welsh not British


Sunday, May 25, 2014

Caerfyrddin

Plaid 15,281, UKIP 12,495, Llaf 11,793, Tori 6,686 Gweddill fim llawer.

Conwy

Plsid 4936 ond pedwerydd

Caerfyrddin

Plaid 1
UKIP 2 - mae'n debyg
Llafur 3

Wrecsam eto

UKIP 1 Llafur 2 yn Wrecsam - yn ol y Bib

Mynwy a Thorfaen

Agos rhwng Toriaid ac UKIP ym Mynwy.

Llafur gyntaf, UKIP yn ail yn Nhorfaen.

Ceredigion

Plaid, UKIP, Llaf, Tori / Lib Dem neu Lib Dem / Tori

Wrecsam

PC wedi cael 3210 yn Wrecsam tua 12%

Ychydig mwy o wybodaeth

Llaf, UKIP, Toris, Plaid, Gwyrdd yng Nghaerdydd.

Ychydig mwy o wybodaeth

Llaf, UKIP, Toris, Plaid, Gwyrdd yng Nghaerdydd.

Penfro

Y bwrdd pellaf ydi'r un UKIP
Spot the UKIP votes - they're going to need a second table in Pembrokeshire ^GT

Sibrydion - eto

Plaid ar y blaen yng Nghaerfyrddin - rhwng Llafur ac UKIP am ail.  

Dim ffigyrau.

Llafur am ddod o flaen y Lib Dems yng Ngheredigion yn ol y Bib.  Canlyniad mwyaf rhyfeddol y noswaith o bosibl.

Sibrydion

Gwynedd - sampl o 3,000

Plaid 44%
UKIP 20%
Llafur 15%
Toris 12%
Pawb arall 8%

Toriaid ac UKIP yn agos ym Mynwy - yn ol y Toriaid.

Sibrydion cynnar iawn

Ymddiheuriadau ar y cychwyn - fyddwch chi ddim yn cael yr un gwasanaeth ag arfer y tro hwn - dwi ymhell, bell oddi wrth pethau yng Nghonemara.

PC ar y blaen o ychydig yng Nghaerfyrddin ond Llafur ac UKIP yn polio'n gryf hefyd.

Llafur ar y blaen yn hawdd ym Mhenybont meddai Carwyn Jones.

Lib Dems yn 6ed yng Nghaerdydd ar ol y Gwyrddion yn ol y Bib.

Plaid yn dweud bod UKIP a Llafur yn agos ar draws Cymru - yn ol y BBC.


Sibrydion cynnar

Son o Gaerfyrddin bod PC ar y blaen o 

Y Bib ac etholiadau yng Nghymru

Roger  Scully ar ei gyfri trydar ddoe oedd yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng ymdriniaeth ar lein BBC Gogledd Iwerddon o'r etholiadau lleol ac ymdriniaeth ein fersiwn ni o'r Bib.  Mae'n gwbl gywir - elfennol iawn ydi'r ymdriniaeth Gymreig tra bod gan BBC Gogledd Iwerddon adnodd rhyngweithiol i'w gynnig.

Ond dydi hwnnw yn  ddim o'i gymharu a'r hyn sydd gan RTE - manylion llawn, enw pob ymgeisydd, ystadegau, graffiau neges trydar pob tro mae rhywun yn cael ei ethol ac ati a phob dim yn cael ei adnewyddu yn syth wedi'r datganiadau o'r canolfannau cyfri.

Llwm iawn oedd ymdriniaeth y Bib o is etholiad Ynys Mon y llynedd wrth gwrs - neb yn cael ei anfon i fyny i ddilyn yr etholiad, dim ymdrech o gwbl i ddilyn y cyfri, dim camerau, dim gohebwyr, dim.  Roedd yr is etholiad yn hynod bwysig wrth gwrs - roedd y cwestiwn o lywodraeth fwyafrifol yn y fantol.  Cafwyd ymdriniaeth byw o gyfrifon dwy is etholiad i Senedd yr Alban gan BBC Scotland tua'r un pryd - er nad oedd fawr ddim ag eithrio'r seddi eu hunain yn y fantol.

Rwan dwi'n sylwi nad oes gan BBC Cymru yr un adnoddau nag RTE na'r Bib yn Llundain.  A dweud y gwir mae gwefan etholiadau RTE yn llawer gwell (a mey drudfawr) nag un y Bib yn ganolog.  Ond byddai dyn yn disgwyl y gallai'r Bib yng Nghymru gynnig gwasanaeth tebyg i un yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Pan mae rhywbeth sy'n bwysig i'r Bib yn Nghymru yn digwydd llwyddir i ddod o hyd i'r adnoddau i ymdrin a fo.  Pan geir ymweliadau brenhinol, jiwbilis brenhinol, taith y fflam Olympaidd ac ati ceir ymdriniaeth llawn.  Yn wir pan oedd fflam Gemau Olympaidd Llundain llwyddwyd i anfon gohebwyr, camerau a'r pariffenalia i gyd i pob twll a chornel o'r wlad er mwyn ceisio adeiladu cefnogaeth hysteraidd i'r digwyddiad Llundeinig.

Y broblem yn y pen draw ydi nad yw'r Bib yn cymryd gwleidyddiaeth Cymru o ddifri.  Mae'n cymryd gwahanol ddigwyddiadau sy'n tanlinellu ein cysylltiad efo'r wladwriaeth Brydeinig yn ddifrifol iawn.  Mae'r Bib yn y pen draw yn ystyried y broses ddemocrataidd yng Nghymru yn is raddol i'r status quo cyfansoddiadol a'i amrywiol symbolau.  Adlewyrchiad o hynny ydi ymdriniaeth bisar a thameidiog y Bib o wleidyddiaeth Cymru.

Saturday, May 24, 2014

Papurau tali

Efallai nad ydi pawb sy'n darllen Blogmenai yn gyfarwydd efo papurau tali.  Papurau ydyn nhw sy'n cael eu defnyddio i nodi sampl o bleidleiswyr fel mae bocsus pleidleisio yn cael eu gwagio.  Mae hyn yn amlwg yn rhoi syniad i bleidiau gwleidyddol o lefel eu cefnogaeth mewn gwahanol wardiau.  Mae'r un yn y llun yn un go iawn a gymerwyd wrth i'r bocsus gael eu gwagio fore Gwener.  

Felly dyma gysyadleuaeth bach i ddarllenwyr Blogmenai.  Sampl o focs ym mha bentref ydi hwn?   Dim gwobr mae gen i ofn - oni bai fy mod yn gallu dwyn perswad ar y Cynghorydd Sion Jones, Bethel i fynd a'r enillydd allan am ginio yn Gors Bach.


Tic, tic

Reit - gair neu ddau am etholiadau Ewrop.  Dydi'r canlyniad yr etholiad ddim yn glir eto.  Mae'r etholiadau lleol yn Lloegr yn rhoi syniad go glir i ni o'r hyn sydd.yn debygol o ddigwydd - ond mae yna ddau beth i'w ddweud am hynny.  

Mae yna rhai - John Stevenson ar Pravda Cymru y bore 'ma er enghraifft yn ein sicrhau ni'n llawen bod canlyniadau Llafur yn 'barchus iawn' yn etholiadau lleol Lloegr.  Os ydi'r Blaid Lafur eisiau meddwl hynny, rhyngddyn nhw a'u pethau, ond y gwir ydi bod y canlyniad yn un sal iddyn nhw.  Mae gan y Blaid Lafur hen hanes o ganmol tywydd braf yn y bore - a gwneud hynny cyn crenshan y data.  31% fyddan nhw wedi ei gael mewn etholiad cyffredinol.   Roedd y Toriaid ar 29%.  Dydi buddugoliaethau ar lefel San Steffan ddim yn cael eu hadeiladu gan wrthbleidiau ar berfformiad fel hyn flwyddyn cyn etholiad.

O son ar ddata mi awn ati i edrych ar Gymru.  Does yna ddim data.  Does yna ddim un pleidlais wedi ei chyfri  - ond mae yna ddarlun tameidiog yn dechrau ymddangos.  Cafodd y pleidleisiau eu dilysu fore ddoe - a phan fydd hynny yn digwydd mae cynrychiolwyr y pleidiau yn mynd i sbecian, a gellir dod i gasgliadau o hynny.  Peidiwch a fy ngham ddeall i rwan - dydi'r ymarferiad ddim mor gywir a thalio arferol yn ysdod y cyfri - mae'r dilyswyr i fod i guddio'r pleidleisiau.  Mae rhai yn fwy llwyddiannus na'i gilydd am wneud hynny.  

Yn ol Jonathan Edwards ar trydar mae'n ymddangos i'r Blaid ennill ym mhob ward yn Nwyrain Caerfyrddin.  Mae'r patrwm yn debyg yng Ngwynedd efo'r Blaid ar y blaen yn gyfforddus ar y blaen yn y rhan fwyaf o wardiau Gwynedd ac nid y Blaid Lafur oedd yn ail mewn llawer iawn ohonynt - er gwaethaf eu 'llwyddiant' honedig yn Lloegr.  Mae'r Blaid Lafur yng Ngwynedd yn cydnabod yn breifat iddyn nhw wneud yn wael.  Gwynedd ydi Gwynedd wrth gwrs a Dwyrain Caerfyrddin ydi Dwyrain Caerfyrddin, ond mae'r ddau awgrym - a dyna ydyn nhw ar hyn o bryd - yn awgrymu bod y Blaid wedi bod yn well o lawer am gael ei phleidlais allan na Llafur.  Mae'n ddigon posibl felly y bydd perfformiad y Blaid yn well na'r hyn a awgrymwyd gan y rhan fwyaf o bolau YouGov. Mae'n bosibl hefyd mai Vaughan Roderick oedd yn darogan yn gywir trwy'r amser. Ac mai 1/1/1/1 fydd y canlyniad unwaith eto.  Yr unig beth sydd yn gwneud i mi ddal fy nhafod braidd ydi'r ffaith mai ychydig iawn o bleidleisiau Toriaidd oedd i'w gweld yng Ngwynedd yn ol y son.

Wednesday, May 21, 2014

Tuesday, May 20, 2014

Cip arall ar fyd bach cul a chwerw'r Blaid Lafur yn Arfon

Doeddwn i ond newydd sgwennu'r blogiad am negyddiaeth neges etholiadol Llafur yn Arfon ddoe pan ddaeth stori arall i law am naratif etholiadol y blaid leol ar y stepan drws - mae pleidlais i Blaid Cymru yn wastraff o bleidlais oherwydd nad oes ganddyn nhw dim ond tri aelod.

Rwan os ydi rhywun yn eistedd yn ol a meddwl am oblygiadau gweithredu ar y canfyddiad na ddylid ond pleidleisio tros bleidiau efo niferoedd mawr o aelodau etholedig, mae'n amlwg y byddai'r goblygiadau yn - wel lloerig.  Er enghraifft mae'n amlwg nad ydi Plaid Lafur Arfon yn credu y dylai pobl bleidleisio i ymgeiswyr Llafur i Gyngor Gwynedd - pedwar aelod sydd ganddynt ac ni fyddant byth yn trafferthu cyflwyno llawer o ymgeiswyr gerbron yr etholwyr.  Mae'n flynyddoedd maith ers i neb sefyll yn enw'r blaid yn rhannau helaeth o'r sir.  Yn wir fedra i ddim cofio ymgeisydd yn sefyll yn Nwyfor erioed. 

Ymddengys hefyd bod Llafur Arfon yn credu na ddylai neb bleisleisio i ymgeiswyr Llafur ar gynghorau Mon, Ceredigion, Powys na Phenfro chwaith.  Bychan iawn ydi eu cynrychiolaeth ar pob un o'r cynghorau hynny. 

Nid yn unig hynny ond mae'n ymddangos nad ydi'r Blaid Lafur yn Arfon yn credu y dylai'r Blaid Lafur fod wedi dod i fodolaeth o gwbl.  0.2% o'r bleidlais a dau aelod  gafodd y Blaid Lafur bryd hynny.  Mae'n debyg y byddai Llafur Arfon wedi mynd o gwmpas Merthyr a Derby yn yr etholiad ganlynol yn ceisio dwyn perswad ar bobl i bleidleisio i'r Rhyddfrydwyr yn hytrach nag i Kier Hardy a Richard Bell oherwydd mai dim ond dau aelod oedd gan Lafur bryd hynny.

Yn wir os ydi Plaid Lafur Arfon yn credu'r hyn maent yn ei ddweud go iawn yna maent o'r farn y dylai strwythurau etholiadol gael eu ffosileiddio am byth, byth bythoedd - y dylai gwleidyddiaeth y DU fod yn frwydr dragwyddol rhwng y Toriaid a'r Whigs. 

Ond wrth gwrs dydyn nhw ddim yn credu yr hyn maent yn ei ddweud.  Esiampl arall ydyw o'u negyddiaeth a'u tlodi syniadaethol.  Does ganddyn nhw ddim oll sy'n gadarnhaol i'w ddweud, does ganddyn nhw ddim record o lwyddiant i gyfeirio ati.  Yr unig beth sydd ganddynt i'w gynnig ydi'r ddadl mwyaf elfennol a di ddychymyg y gellid meddwl amdani - dydan ni ddim yn Doriaid ac mae yna lawer ohonon ni. 

Monday, May 19, 2014

Pol Cymreig arall - y gwersi i'w cymryd

  • Dwi ddim yn meddwl bod manylion pol diweddaraf YouGov ar gael eto  (mewn cyd weithrediad ag ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru y tro hwn), ond wele'r canfyddiadau isod.
Petai pawb yn pleidleisio byddai'r canlyniadau fel a ganlyn.   

  • Llafur 33% (-6)
  • UKIP 23% (+5)
  • Toriaid 16% (-1)
  • Plaid Cymru 15% (+3)
  • Lib Dems 7% (dim newid)
  • Eraill 8% (+1)
Mae margin for error+\- 3% ar y ffigyrau hyn - felly maent yn awgrymu tri chanlyniad posibl - 2 Llaf, 1 UKIP ac 1 Tori neu 2 Llafur, 1 UKIP ac 1 Plaid Cymru, neu un sedd yr un i Lafur, Toriaid, UKIP a Phlaid Cymru.

Ag ystyried y bobl sy'n dweud eu bod yn sicr o bleidleisio, mae sefyllfa Plaid Cymru yn cryfhau, ond mae'r stori sylfaenol (ar margin for error o +\- 4% y tro hwn) yn aros yr un peth - yr un cyfuniad o ganlyniadau sy'n bosibl. 

  • Llafur 32%
  • UKIP 22%
  • Toriaid16%
  • Plaid Cymru 17%
  • Lib Dems 7%
  • Eraill 5%
Felly mae negeseuon sylfaenol yr ymarferiad yn gwbl glir - mae Llafur ac UKIP yn siwr o gael un sedd,  mae'r frwydr am y sedd olaf rhwng Plaid Cymru, Llafur a'r Toriaid.  Dydi hi ddim yn bosibl i'r Lib Dems gael sedd a dydi hi ddim yn bosibl i'r Blaid Werdd gael sedd. Mae pethau yn dyn iawn, iawn am y sedd olaf.

Un fforwm rhyngwladol sydd gan Gymru mewn gwirionedd - Ewrop.  Byddai'n drychineb i Gymru petai'r wlad yn cael ei chynrychioli ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw gan genhadon y rwdlan senoffobaidd, cyntefig rydym wedi ei glywed o gyfeiriad UKIP ar pob lefel - o'r arweinydd i aelodau cyffredin - tros yr wythnosau diwethaf - tra bod llais cenedlaetholdeb goddefgar, eangfrydig a blaengar y Blaid wedi ei ddiffodd.  Byddai'r wlad yn edrych yn wirion ar lwyfan rhyngwladol.  

Gan bod pethau mor dyn mae yna gryn dipyn y gellir ei wneud i atal hynny rhag digwydd.  Gan mai oddeutu 30% yn unig fydd yn pleidleisio mae eich pleidlais werth ddwywaith cymaint mewn etholiad Ewrop na mewn etholiad San Steffan.  Pleidleisiwch, i'r Blaid ac anogwch bobl eraill sy'n casau senoffobiaeth cul UKIP i wneud hynny hefyd.

Un gair bach gobeithiol cyn gorffen - yn ystod dyddiau olaf ymgyrch etholiadol mae cyfeiriad newidiadau polio yn aml yr un mor bwysig na'r ffigyrau eu hunain.  Mae cyfeiriad y newidiadau mae'r pol yma yn ei ddangos yn gadarnhaol iawn o safbwynt y Blaid ac yn negyddol iawn o safbwynt Llafur. 


Ymgyrchu cadarnhaol Llafur

Difyr oedd clywed am arddull canfasio Alun Puw - ymgeisydd Llafur yn Arfon ar gyfer etholiad San Steffan 2015.  Aeth i dy yng Nghaernarfon yn ddiweddar a dywedwyd wrtho bod y sawl sy'n byw yno yn pleidleisio i Blaid Cymru.  'Iawn' meddai Alun 'fotiwch i Blaid Cymru yn etholiad Ewrop, ond  rhowch fenthyg eich pleidlais i ni y flwyddyn nesaf er mwyn cael gwared o'r Toriaid'.

Rwan dwi'n gwybod bod canfaswyr yn ei thrio hi - ond mae'n adrodd cyfrolau am dlodi neges Llafur yng Nghymru mai'r unig strategaeth sydd gan ei hymgeiswyr i ennill pleidleisiau cefnogwyr Plaid Cymru ydi dweud nad ydynt yn Doriaid.

Byddwn yn clywed y term 'ymgyrchu cadarnhaol' yn cael ei ddefnyddio dragwyddol gan wleidyddion Llafur.  Does yna ddim oll yn gadarnhaol am y neges fach drist a di uchelgais yma - yn arbennig o gofio bod pobl Cymru wedi bod yn pleidleisio i Lafur ym mhob etholiad bron ers 1922 i 'gadw'r Toriaid allan' .  Canlyniad dilyn y cyngor hynod negyddol yma a phleidleisio i Lafur ydi tlodi cymharol parhaus a chynyddol cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth, degawd ar ol degawd a blwyddyn ar ol blwyddyn.

Sunday, May 18, 2014

Cyfweliad trychinebus Farage ar LBC





Newydd weld hon ar trydar

Rydych yn dra anhebygol o weld y graff arbennig yma ar bamffledi etholiadol UKIP

Friday, May 16, 2014

Darogan canlyniadau etholiadau Ewrop

Gan i Iain Dale - blogiwr enwog o Dori wneud ymgais i ddarogan canlyniadau etholiadau Ewrop ym mhob etholaeth yn y DU, dwi am wneud ymgais i wneud yr un peth.  Mae'n uffernol o anodd dod i gasgliadau ystyrlon y tro hwn oherwydd bod y polau ar hyd y lle - ac felly mae'n amhosibl cael sail data effeithiol.  Serch hynny dwi wedi dewis is set  un pol - y sawl sydd wedi dweud eu bod yn 100% sicr o bleidleisio yn y pol Ewrop ComRes diweddaraf - fel sail i fy narogan ar gyfer pob etholaeth Seisnig.  Mae hyn yn rhoi pleidlais uwch o lawer i UKIP na mae'r rhan fwyaf o ffyrdd o fynd ati yn ei awgrymu -  ac un is i Lafur.  Ond dwi'n credu ei bod yn hanfodol cymryd tebygrwydd i bleidleisio i ystyriaeth mewn etholiad lle bydd llai na thraean yn pleidleisio.  Fy ngwybodaeth (neu ddiffyg gwybodaeth) dwi wedi ei ddefnyddio wrth ddarogan y canlyniadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Canlyniad 2009 sy'n dod gyntaf pob tro, wedyn darogan Iain Dale ac wedyn fy un i.  

Gogledd Iwerddon
Dwi'n eithaf siwr bod ID yn anghywir am hon.  Mae'r dull pleidleisio yma'n wahanol i'r hyn a geir yng ngweddill y DU - STV yn hytrach na D'Hont.  Mae hyn yn ei gwneud yn haws o lawer i'w darogan - yn achos Gogledd Iwerddon o leiaf.  Mae'r ddwy sedd gyntaf yn gwbl ddiogel - bydd SF yn cael y gyntaf tra bydd y DUP yn cael yr ail.  Dwi'n disgwyl i'r UUP gadw eu sedd a dod yn drydydd.  Mi fydd y drydydd sedd yn mynd naill ai i'r SDLP neu i SF yn y dyfodol - ond rydym rhyw ddegawd yn rhy fuan am fwyafrif cenedlaetholgar ar y gofrestr pleidleisio.  Mae'n bosibl i'r TUV - plaid unoliaethol sy'n gwrthwynebu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith gael y drydydd sedd, ond posibilrwydd bach ydi hwnnw.  Mae yna rhai yn honni bod arestio Adams gan y PSNI yn debygol o annog mwy o genedlaetholwyr i bleidleisio, a byddai hynny'n rhoi gobaith i'r SDLP.  Ond yn fy marn bach i bydd yr anghydfod baneri ym Melffast yn llusgo mwy o unoliaethwyr allan hefyd.
2009
UUP 1
DUP 1
Sinn Fein 1

2014 (ID)
Sinn Fein 1
DUP 1
SDLP 1


2014 (CL)
Sinn Fein 1
DUP 1
UUP 1
Swydd Efrog a Glannau'r Humber

Dwi'n cytuno efo ID ar hon - y BNP a'r Lib Dems yn colli eu seddi ac UKIP a Llafur yn eu cymryd.
Con 2
Lab 1
LibDem 1
UKIP 1

BNP 1

2014 (ID)
Con 2
Lab 2
UKIP 2


2014 (CL)
Con 2
Lab 2
UKIP 2

Yr Alban

Mae ID yn gywir i ddarogan y bydd yr SNP yn cymryd trydydd sedd, ond dydw i ddim mor siwr y bydd y Toriaid yn cael un.  Dwi'n gwybod nad ydi UKIP yn boblogaidd yn ol y gwybodysion yn yr Alban, ond mae'r gwynt yn eu hwyliau, a gallant yn hawdd ddod o flaen y Toriaid, er ei bod yn debygol o fod yn agos. Mae yna beth tystiolaeth polio sy'n awgrymu hynny hefyd. Mae fy mhres i ar UKIP - ond heb lawer iawn o hyder.
2009
SNP 2
Llaf  2

LibDem 1
Tori 1
2014 (ID)
SNP 3
Llaf 2
Tori 1


2014 (CL)
SNP 3
Llaf  2

UKIP 1

Gogledd Ddwyrain Lloegr

Mae ID yn honni bod hon yn hawdd ac y bydd UKIP, Llafur a'r Toriaid yn cael um yr un.  Dwi'n meddwl ei fod yn anghywir ac y bydd UKIP a Llafur yn cael mwy na dwywaith pleidlais y Toriaid - sy'n golygu y bydd pa bynnag un ohonynt ddaw'n gyntaf yn cael dwy sedd.  Llafur sy'n debygol o wneud hynny.
2009
Tori 1
Llaf 1
LibDem 1


2014 (ID)

Llaf 1
Tori 1
UKIP 1

2014 (CL)
Llaf 2
UKIP 1
Gogledd Orllewin Lloegr

Dwi'n meddwl bod ID yn gywir ar hon.  Dim byd i'r Lib Dems a'r BNP.  Y Toriaid yn colli un, UKIP yn ennill 2 a Llafur yn ennill un.
2009
Tori 3
Llaf 2
UKIP 1
LibDem 1
BNP 1
2014 (ID)
Tori 2
Llaf 3
UKIP 3



2014 (CL)

Tori 2
Llaf 3
UKIP 3

Dwyrain y  Midlands

Mae hon yn un anodd iawn.  Dwi'n cytuno y bydd y Lib Dems yn colli sedd i UKIP, ond cael a chael fydd hi os bydd y Toriaid yn colli eu sedd nhw i Lafur.  Gallai hynny ddigwydd yn hawdd iawn, ond dwi am fynd efo ID ar hon - y Toriaid i aros ar 2 a Llafur i aros ar 1.
2009
Tori 2
UKIP 1
Llaf 1
LibDem 1

2014 (ID)
Tori 2
Llaf 1
UKIP 2


2014 (CL) 
Tori 2
Llaf 1
UKIP 2

Gorllewin y Midlands:

Mae hon yn un eithaf syml.  Mae UKIP yn debygol o fod yn gyfforddus o flaen Llafur a'r Toriaid felly nhw fydd yn cael sedd ychwanegol.  Mae'r Toriaid yn debygol o ddod y tu ol i Lafur a bydd y Lib Dems yn perfformio'n sal iawn.  
2009
Con 3
UKIP 2
Lab 1
LibDem 1

2014 (ID)
Con 2
Lab 2
UKIP 3



2014 (CL)

Tori 2
Lab 2
UKIP 3

De Orllewin Lloegr

Bydd UKIP yn dod ymhell o flaen pawb arall yma, ac maent yn debygol iawn o gael tair sedd.  Dwi ddim yn cytuno y bydd y Lib Dems yn cael sedd, mae'n fwy tebygol o fynd i Lafur - er bydd yn agos.  
2009
Tori 3
UKIP 2
LibDem 1

2014 (ID)
LibDem 1
Tori 2
UKIP 3



2014 (CL)

Llafur 1
Tori 2
UKIP 3

Llundain

Dwi'n cytuno efo ID yma - er y bydd pethau yn agos iawn rhwng y Gwyrddion a'r Lib Dems am y sedd olaf.
2009
Tori 3
UKIP 1
Llaf 2
LibDem 1
Gwyrdd 1

2014 (ID) 
UKIP 2
Tori 2
Llaf 3
Gwyrdd 1



2014 (CL) 


UKIP 2
Tori 2
Llaf 3
Gwyrdd 1


De Ddwyrain Lloegr

Mae'r fathemateg yu dyn iawn yma am y sedd olaf, ond mae'n ddigon posibl bod ID yn gywir ac y bydd y Lib Dems yn colli'r ddwy sedd.  Os ydynt yn ei chadw bydd naill ai ar draul Llafur neu'r Gwyrddion.  Os bydd y Lib Dems yn cadw sedd yma y bydd hynny'n digwydd.  

2009
Tori 4
UKIP 2
Llaf 1
LibDem 2
Gwyrdd 1

2014 (ID)
UKIP 4
Tori 3
Llaf 2
Gwyrdd 1



2014 (CL)

UKIP 4
Tori 3
Llaf 2
Gwyrdd 1

East Anglia

Dwi'n tueddu i gytuno efo ID ar hon - er y gallai'r sedd olaf lawn mor hawdd fynd i'r Toriaid neu Lafur.


2009
Tori 3
UKIP 2
Llaf 1
LibDem 1
2014 (ID)
UKIP 3
Tori 2
Llaf 1
Gwyrdd 1


2014 (CL)

UKIP 3
Tori 2
Llaf 1
Gwyrdd 1


Cymru

Dwi wedi dweud o'r cychwyn y bydd Llafur yn cael dwy sedd yng Nghymru, ond dydw i ddim mor siwr erbyn hyn.  Fyddai ddim yn syndod mawr i mi petaent yn methu cyrraedd 30%.  Mae polau YouGov yn awgrymu mai sedd y Blaid sydd mewn perygl gyda'r diweddaraf yn awgrymu lefel o 11% - ni fyddai hyn yn ddigon o gefnogaeth i gadw'r sedd.  Dwi'n eithaf siwr bod hyn yn rhy isel - byddai'n awgrymu mwy o gwymp yng nghefnogaeth y Blaid yng Nghymru nag yng nghefnogaeth y Lib Dems a'r Toriaid tros Brydain.  Fedra i ddim meddwl am unrhyw naratif fyddai'n egluro hynny.  Dwi'n disgwyl i'r Blaid gael o leiaf 15% o'r bleidlais. Byddai llai na hynny yn gryn siom i mi.  Bydd pleidlais UKIP yn cynyddu - fel ym mhob man arall - a byddant yn cadw eu sedd.  Dwi'n gweld y Toriaid yn syrthio o'r safle cyntaf i'r pedwaredd ac yn ol pob tebyg yn colli'r sedd.  Mae'r canfyddiad yma yn rhannol wedi ei seilio ar fethiant parhaus y Toriaid i gael eu pleidlais allan mewn cyfres hir o is etholiadau yng Nghymru tros gyfnod o ddwy flynedd.  
2009
Llaf 1
Tori 1
Plaid Cymru 1
UKIP 1

2014 (ID)
Llaf 1
Plaid 1
Tori 1
UKIP 1


2014 (CL)

Llaf 2
Plaid 1
Tori 0
UKIP 1


O edrych yn ol tros yr uchod dwi'n synnu o sylwi nad ydw i'n rhoi unrhyw sedd i'r Lib Dems - hyd yn oed yn Ne Ddwyrain Lloegr lle mae ganddynt ddwy ar hyn o bryd.  Petawn yn gywir byddai ganddynt lai o gynrychiolaeth yn Ewrop na Llafur, UKIP, y Toriaid, y Gwyrddion, Plaid Cymru, SNP, SF, DUP a UUP.  Fel rwyf wedi nodi o'r blaen mae'r fathemateg am y sedd olaf yn aml yn hynod o dyn - ac mae mor debygol iddynt gael 3 sedd nag yw iddynt gael dim un.  Byddwn yn rhyfeddu petaent yn cael mwy na hynny.  




Thursday, May 15, 2014

Monday, May 12, 2014

Hwre!

Wedi'r holl aros daeth pamffled Llafur o'r diwedd - ddim i fy nghartref ond i fy man gwaith. Mae'n rhy hwyr i ddylanwadu llawer ar y bleidlais bost wrth gwrs, ond gwell hwyr na hwyrach.

Pamffled wedi ei anelu'n benodol at Gymru oedd o hefyd - yn wahanol i un UKIP. Mae llun mawr sinistr yr olwg braidd o Ed Miliband tros y tu blaen, sydd yn benderfyniad rhyfedd ag ystyried bod Ed yn llawer llai poblogaidd na'i blaid (hyd yn oed ag ystyried ffigyrau polio trychinebus Llafur heno), tra bod Carwyn Jones yn fwy poblogaidd na'i blaid yng Nghymru.  Ond dyna fo, mae 'n rhaid gen i bod yr hogiau yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud.

Er mwyn dathlu llwyddiant Llafur i gychwyn eu hymgyrch yng Nghymru o'r diwedd dwi'n cyflwyno'r fideo isod i'ch sylw - conglfaen eu llwyddiant ysgubol yn 2009 ac 'ennyd Obama' Llafur yn ol Peter Hain.  Eluned Morgan ydi perchenog y llais hyfryd (newydd sylwi nad ydi'r gampwaith yn gweithio ar ipad - os mai dyna rydych yn ei defnyddio, dewch o hyd i PC - bydd werth yr ymdrech i chi).


Ar y llaw arall _ _ _

_ _ _ ymddengys bod Llafur Llundain mwy o gwmpas eu pethau.  Pamffled Yiddish wedi ei anelu at Iddewon uniongred.  Gobeithio mai yn Golder's Green y cafodd ei ddosbarthu a nad oes neb wedi ei ddosbarthu yn Tower Hamlets yn ddamweiniol - y math o beth y byddai Llafur Cymru wedi ei wneud.


Sunday, May 11, 2014

Lle mae Llafur?

Digwydd siarad efo fy rhieni oeddwn i y prynhawn yma pan gododd y pwnc o ohebiaeth gwleidyddol ar gyfer etholiadau Ewrop.  Doedd fy rhieni na ni ddim wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan Lafur - trwy'r post na fel arall.  Ffoniais fy mrawd - sy'n byw yn Arfon fel ninnau, a doedd o ddim wedi cael dim byd chwaith.  Cymrais mai rhyw broblem leol oedd hi, ond wedi holi fy chwaer sy'n byw yn Llanelli ac un o'r meibion sy'n byw yng nghanol Caerdydd, doedden nhw heb dderbyn dim byd chwaith.  Rwan mae'n bosibl bod teulu'r Larseniaid wedi eu blaclistio gan Lafur fel rhyw fath o gosb am ymgyrchu yn eu herbyn am dair cenhedlaeth, ond dydw i ddim yn meddwl rhywsut.

Yr eglurhad mwy tebygol o lawer ydi bod y Blaid Lafur yng Nghymru yn hwyr yn cael eu gohebiaeth etholiadol allan.  Fyddai hyn ddim llawer o ots ugain mlynedd yn ol - ond mae natur etholiadau wedi newid yn sylweddol ers hynny.

Dwi'n meddwl bod sylw perchenog y blog politicalbetting.com, Mike Smithson yn mynd tipyn bach yn rhy bell pan mae'n honni y bydd bron i hanner y pleidleisiau wedi eu bwrw erbyn dydd Llun, ond mae ei bwynt cyffredinol yn un digon dilys.  Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn pleidleisio trwy'r post, mae pobl sydd a phleidlais bost yn llawer mwy tebygol na phobl sydd heb un i bleidleisio, isel fydd y ganran sy'n pleidleisio wythnos i ddydd Iau, ac mae'r sawl sy'n pleidleisio trwy'r post yn tueddu i wneud hynny yn syth bin.  Cefais brawf uniongyrchol o'r gosodiad olaf ddoe wrth ffonio cefnogwyr y Blaid sydd a phleidlais bost ym Mangor i'w hatgoffa i'w defnyddio ddoe.  Roedd y rhan fwyaf o ddigon ohonynt eisoes wedi ei dychweld.  Ddydd Gwener roeddynt wedi ei derbyn.

Rwan, dydw i ddim yn gwybod os ydi methiant Llafur i gael eu papurau allan yn nodweddiadol o'i hymgyrch tros Gymru gyfan - ond os yw mae'n smonach etholiadol o'r radd flaenaf.  Erbyn y bydd y stwff wedi ei ddosbarthu bydd mwyafrif llethol y sawl sy'n ei dderbyn naill ai ddim am bleidleisio neu eisoes wedi gwneud hynny.  Mae'n anodd meddwl am well ffordd o wastraffu arian rhywsut.  O diar.

Oes yna unrhyw un wedi derbyn gohebiaeth Llafur - yn arbennig felly yr anerchiad sy'n dod trwy'r post?

Saturday, May 10, 2014

Betio gwleidyddol efo Paddy Power.

Un o'r gwefannau gorau ar gyfer betio gwleidyddol ydi un y bwci Gwyddelig, Paddy Power.  Maen nhw'n cynnig prisiau ar hyn o bryd ar gyfer nifer o etholaethau Cymreig yn etholiadau San Steffan, 2015.

Gall dilyn prisiau betio fod  yn ffordd effeithiol o ragweld sut mae pethau'n mynd o safbwynt etholiadol.  Tra mai'r bwci sy'n gosod y prisiau cychwynol, faint o bres sy'n mynd ar yr ymgeiswyr sy'n gyrru'r prisiau wedyn.  Gan nad ydi y rhan fwyaf o bobl yn rhoi eu pres i ffwrdd ar chwarae bach, gellir mentro bod pobl wedi meddwl am sut maent yn betio.

Dyna pam y gall prisiau betio roi cystal darlun o'r tirwedd etholiadol a pholau piniwn.






Thursday, May 08, 2014

Darlledu yn y Wyddeleg a honiad rhyfedd Arwel Ellis Owen

Dydi dod ar draws rhywbeth hollol hurt yn Golwg ddim yn brofiad arbennig o anarferol wrth gwrs - ond mae yna glasur yn y rhifyn cyfredol.  Perchenog y clasur hwnnw ydi Arwel Ellis Owen, cyn bennaeth rhaglenni'r Bib yng Ngogledd Iwerddon.  Mae'n ymddangos bod Arwel yn credu nad oedd unrhyw raglenni yn y Wyddeleg yn unrhyw ran o'r Iwerddon nes iddo fo nes iddo fo lawnsio rhaglen wythnosol ar Radio Ulster.  Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o'r ffasiwn honiad.

Mae Arwel yn gywir i nodi mai yn ei amser o wrth y llyw y sefydlwyd y rhaglen Wyddeleg cyntaf ar Radio Ulster.  Erbyn heddiw ceir rhaglen dduddiol o'r enw Blas ar y sianel.

Ond mae'r gred nad oedd darlledu cyfrwng Gwyddelig yn y Weriniaeth yn gwbl gyfeiliornus.  Roedd yr orsaf radio cyfrwng Gwyddeleg Raidió na Gaeltachta (RnaG) wedi bod yn darlledu ers 1972.  Doedd yr orsaf ddim yn darlledu ar hyd yr ynys bryd hynny, ond roedd yn darlledu yn ddyddiol.  Nid yn unig hynny ond roedd rhai rhaglenni Gwyddeleg ar y brif sianel - y newyddion er enghraifft.  Roedd rhaglenni Gwyddeleg ar y teledu hefyd.  Yn wir byddai methiant gan RTE i sicrhau darpariaeth cyfrwng Gwyddelig yn groes i'r gyfraith - roedd Deddf Darlledu 1960 yn mynegi'n glir bod disgwyl i'r darlledwr cenedlaethol wneud defnydd o'r Wyddeleg.  

Ond roedd darlledu cyfrwng Gwyddeleg yn mynd yn ol i flynyddoedd cynnar sefydlu'r wladwriaeth, i ddechrau ar 2RN wedyn ar Radio Éireann ac yna ar RTÉ.  Yn wir roedd hyd yn oed Hitler yn darlledu trwy gyfrwng y Wyddeleg.  Dechreuwyd ddarlledu rhaglenni yn yr iaith yn 1939, a pharhawyd i wneud hynny hyd  ddiwedd y rhyfel.  Darlledwyd  rhaglen dair gwaith pob nos.  

Dwi ddim yn amau i Arwel wneud gwasanaeth i'r Wyddeleg yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn y Gogledd, ond mae'r honiad 'nad oedd RTE yn y Weriniaeth, nag unrhyw ddarlledwr arall ar ynys Iwerddon, yn darlledu dim yn y Wyddeleg ar y pryd' yn esiampl o rhywun yn dyrchafu ei gyfraniad ei hun yn llawer, llawer uwch na mae'n ei deilyngu.  

Monday, May 05, 2014

Y PSNI a Gerry Adams

Waeth i mi ddweud pwt am stori fawr yr ychydig ddyddiau diwethaf - arestio a rhyddhau arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams.  Mae'n weddol amlwg bellach bod y penderfyniad yn gamgymeriad sylweddol o ran y PSNI - camgymeriad a allai'n hawdd fod a goblygiadau pell gyrhaeddol.

I ddechrau gair neu ddau am yr amseriad.  Cafodd Adams ei arestio  dair wythnos cyn etholiadau lleol ac Ewropiaidd ar draws yr ynys, a thri diwrnod wedi i bol piniwn awgrymu symudiad sylweddol i gyfeiriad SF yn y Weriniaeth.  Mae yna hen hanes - yn y De a'r Gogledd fel ei gilydd o ymgeisiadau gan yr heddlu i ymyryd mewn etholiadau trwy arestio pobl yn ystod yr wythnosau cyn etholiadau.  Hyd yn oed os nad oedd ymgais yn cael ei gwneud i effeithio ar yr etholiadau does yna neb yn credu nad oedd cysylltiad, ac o ganlyniad bydd y canfyddiad o blismona gwleidyddol - sy'n bodoli eisoes - yn cael ei atgyfnerthu.  Anaml iawn y bydd ymyraethau o'r fath yn llwyddo, ac mae'n rhyfeddol nad ydi'r wers byth yn cael ei dysgu.

Pen draw hyn oll oedd Adams yn eistedd wrth fwrdd - yn gwneud y busnes urddas, grafitas a rhesymoldeb mae mor dda am ei wneud - gydag ymgeiswyr am etholiadau sydd ar fin digwydd yn eistedd y naill ochr a'r llall iddo yn derbyn cyhoeddusrwydd Byd eang - cyhoeddusrwydd fyddai wedi costio cannoedd o filoedd i'w brynu - petai modd prynu cyhoeddusrwydd o'r fath. Ond mae'r holl stori yn codi cwestiynau ehangach na thyptra'r PSNI - rhai sy'n mynd i graidd yr holl wrthdaro yn y Gogledd.

Dwi'n meddwl bod Peter Hain (cyfweliad BBC dydd Sul) yn anghywir i awgrymu y gallai'r penderfyniad i arestio Adams gael goblygiadau i'r sawl oedd yn gyfrifol am lofruddiaethau Bloody Sunday.  Er bod enwau'r sawl oedd yn gyfrifol am y llofruddiaethau hynny yn hysbys i'r awdurdodau, mae'r ffaith iddynt roi tystiolaeth i ymchwiliad Saville am y digwyddiad yn ei gwneud yn anodd i ddod ac achos yn eu herbyn - roedd yn un o amodau tystio yn yr ymchwiliad hwnnw na allai'r dystiolaeth gael ei ddefnyddio mewn llys barn.  Byddai'n anodd gwahanu'r hyn a gododd yn ymchwilad Saville oddi wrth dystiolaeth sy'n annibynnol o'r ymchwiliad hwnnw.  Dyna, gyda llaw pam nad yw'n debygol y bydd Martin McGuiness yn ymddangos o flaen ei well ar gyhuddiad o aelodaeth o'r IRA - mae eisoes wedi cyfaddef i hynny yn ymchwiliad Saville.

Serch hynny mae yna ddigon o achosion eraill lle y gellid dod a chyhuddiadau yn erbyn milwyr Prydeinig.  Mae enw Jean McConville yn adnabyddus oherwydd ei fod yn cael ei godi yn yr wythnosau sy'n arwain at pob etholiad yn yr Iwerddon - traddodiad gwleidyddol o chwifio amdo bellach.  Ond lladdwyd 400 o bobl eraill yn 1972 - ac mae bron i pob un o'r marwolaethau hynny wedi mynd yn angof i bawb ond teuluoedd yr ymadawedig.  Y flwyddyn flaenorol lladdwyd mam arall.  Joan Conolly - nid bod prin i neb yn gwybod ei henw.  Saethwyd wyneb Mrs Connolly i ffwrdd gan aelod o 2Paras oedd y tu mewn i orsaf Henry Taggart yn Ballymurphy, wedi iddi fynd allan i chwilio am ei phlant yn ystod cyfnod o saethu rhwng gwahanol garfannau yn yr ardal.  Lladdwyd pump o sifiliaid eraill ar yr un noson gan filwyr oedd yn saethu o'r tu mewn i Henry Taggart neu o adeiladau cyfagos - un ohonynt yn dad i ddeg o blant, ac un arall yn offeiriad.  Gadawodd Mrs Connolly wr ac wyth o blant.  Ei gwallt coch oedd yr unig ffordd oedd gan ei theulu o'i hadnabod.  Daeth rhai o'r plant i wybod am farwolaeth eu mam tra'n gwylio'r newyddion.  Mae'r PSNI yn gwybod enw'r sawl a'i saethodd - a'r sawl a saethodd y pump arall - ond dydyn nhw ddim wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn dod a chyhuddiadau.

A bod yn deg byddai'r achos yma - fel un Jean McConville - yn gymharol gymhleth  gan i gymaint o flynyddoedd fynd rhagddynt ers y digwyddiad, ond mae yna rhai symlach.  Er engraifft aeth nifer o gyn filwyr Prydeinig ati i frolio mewn rhaglen Panorama cymharol ddiweddar iddynt ddienyddio nifer o bobl gan gynnwys sifiliaid.  Byddai dyn yn disgwyl - os ydi Adams yn cael ei holi am lofruddiaeth a ddigwyddodd deugain a dwy o flynyddoedd yn ol y byddai codi pobl i'w holi am gyfaddefiadau cwbl agored a diweddar iawn yn llawer haws.  Bydd y cyhuddiad o blismona
gwleidyddol yn sefyll tan y bydd y PSNI yn mynd i'r afael a'r materion yma hefyd (rhywbeth sy'n anhebygol iawn o ddigwydd)  neu tan y bydd  cytundeb call yn dod i fodolaeth ynglyn a sut i fynd i'r afael a'r gorffennol.

Canfyddiad bod strwythurau'r wladwriaeth yn ffafrio un ochr o'r hollt diwylliannol ac yn erlid y llall oedd un o'r prif achosion tros y rhyfel hir yng Ngogledd Iwerddon.  Mae'r ffordd drwsgl aeth y PSNI ati'r wythnos diwethaf yn dangos i lawer o bobl nad ydi'r sefyllfa wedi newid yn sylfaenol.  Mae hynny yn niweidiol i'r PSNI - ac mae'n debygol o fod yn etholiadol fanteisiol i Sinn Fein.  Os nad ydych yn fy nghredu ynglyn a charedigrwydd y PSNI tuag at SF edrychwch ar y llun isod - rali etholiad Ewrop y blaid heno ym Melfast - roedd yna 800 o bobl yno yn gwrando ar Adams.



Saturday, May 03, 2014

Gair neu ddau am Mr Clarkson

Ag ystyried darllenwyr tybygol Golwg360 mae dipyn yn rhyfedd bod eu rhestr o bechodau Jeremy Clarkson yn cynnwys dweud y dylai pobl sy'n mynd ar streic gael eu saethu, dweud rhywbeth neu'i gilydd sydd i'w wneud efo pobl o Japan a mynegi'r farn bod y sawl sy'n dewis cyflawni hunan laddiad trwy neidio o flaen tren yn hunanol.  Does yna ddim son am fynych sylwadau gwrth Gymraeg Clarkson - megis ei ddamcaniaeth ddiddorol y dylai'r iaith gael ei dileu.  Tystiolaeth bod naratif hyd yn oed y cyfryngau cyfrwng Cymraeg yn cael ei yrru gan naratif ehangach Seisnig o bosibl.

Ta waeth, pwynt arall sydd gen i mewn gwirionedd - neu o bosibl yr un pwynt ar wedd arall. Mae'n ddiddorol bod y Bib yn bygwth sacio Clarkson oherwydd iddo wneud defnydd o'r gair nigger, a bod Clarkson ei hun yn teimlo'r angen i - am unwaith yn ei fywyd - ymddiheuro.  Mae'r ddau beth yn gysylltiedig wrth gwrs.

Mae'r term yn gwbl anerbyniol, ond mae'r stori yn cefnogi dadl sydd wedi ei gwneud ar y blog hwn yn fynych. Mae'r sawl sydd yn gwneud sylwadau gwrth Gymraeg yn gyhoeddus yn aml yn bobl fyddai wrth eu bodd - petaent yn gallu - yn gwneud sylwadau dilornus cyhoeddus am bobl o hilau neu gefndiroedd crefyddol eraill.  Dydyn nhw ddim yn gwneud hynny am nad ydynt yn cael gwneud hynny, felly maent yn mynd ar ol yr unig grwpiau lleiafrifol sydd ar gael o bosibl  - Cymry a Chymry Cymraeg.  Dydi'r Bib ddim yn awyddus i fygwth sacio neb am sylwadau gwrth Gymreig wrth gwrs, felly dydi Clarkson ddim yn  trafferthu ymddiheuro.

Adlewyrchiad ydi hyn  o hierarchiaeth answyddogol sydd ynghlwm a'r diwylliant ehangach Prydeinig.  Mae'r grwpiau na ellir eu pardduo yn rhan o gymdeithas ehangach yn Lloegr.  Mae caniatau ymysodiadau cyhoeddus arnynt yn bygwth cydlynedd cymdeithasol yn Lloegr.  Felly dydi ymysodiadau o'r fath ddim yn cael eu caniatau.  Dydi Cymry - Cymraeg na fel arall - ddim yn rhan o gymdeithas yn Lloegr, felly dydi eu pardduo ddim yn bygwth cydlynedd cymdeithasol yn Lloegr, Felly mae'n lled dderbyniol.  Diwylliant Seisnig ydi diwylliant Prydeinig yn y pen draw, ac ystyriaethau Seisnig sy'n bwysig.


Friday, May 02, 2014

Trosglwyddiad iaith - map rhyngweithiol

Diolch unwaith eto i Hywel Jones am ddarparu adnoddau sydd o ddiddordeb i'r sawl sydd a diddordeb yn yr iaith Gymraeg.  Map rhyngweithiol sy'n dynodi trosglwyddiad iaith ar lefel ward y tro hwn.  Dilynwch y linc a cliciwch ar y ward o'ch dewis.  Mae'n dda gen i nodi fy mod yn byw ym Menai, Caernarfon - un o 'r wardiau efo'r trosglwyddiad mwyaf effeithiol yng Nghymru.  Efallai y caf nodi - er cof am hen ddadl - bod y cyfraddau trosglwyddiad yn ardaloedd dosbarth canol a dosbarth gweithiol Caernarfon yn debyg iawn i'w gilydd.  

Dwi'n postio'r map isod - ond mae'n rhaid i chi ddilyn y linc i gael map rhyngweithiol wrth gwrs.