Wednesday, January 29, 2014

Siart rhyngweithiol statws sosio-economaidd siaradwyr Cymraeg

Yn sgil yr holl gecru am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a dosbarth cymdeithasol mae'n amserol bod Hywel M Jones wedi bod ddigon caredig i anfon linc i siart rhyngweithiol sy'n dosbarthu siaradwyr Cymraeg o pob ward yng Nghymru yn ol eu statws sosio economaidd.

 Dwi wedi gludio pedwar siart o wahanol fathau o lefydd sydd a nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yn byw ynddynt   Ond mae siart Hywel yn caniatau i chi gyferbynnu a chymharu unrhyw wardiau sydd o ddiddordeb i chi.

Diolch Hywel.


 

Gwers fach i Michael Fabricant

Mae'n debyg bod y stori am Aelod Seneddol Litchfield, Michael Fabricant yn beirniadu addysg cyfrwng Cymraeg ar y sail bod 'niwtron' yn air benthyg yn rheswm tros boeni am safon addysg yn ysgolion gramadeg Lloegr.  Addysgwyd Mr Fabricant mewn ysgol felly yn Brighton.  Gair Lladin ydi niwtron wrth gwrs, sydd wedi ei fenthyg gan lawer iawn o ieithoedd.

Yn ol archwiliad a wnaed gan Joseph M. Williams yn The Origins of the English Language (1975)  o 10,000 o eiriau Saesneg a edrychwyd arnynt mewn rhai miloedd o lythyrau busnes roedd gwreiddiau'r geiriau a ddefnyddwyd fel a ganlyn:

Ffrangeg (langue d'oïl), 41%
Saesneg 'cynhenid'  33%
Lladin 15%

Mae yna fwy o fenthyg yma nag a geir yn y Gymraeg - nag yn wir  mewn bron i unrhyw iaith arall.  

Tuesday, January 28, 2014

Ynglyn a'r colofnwyr Cymraeg

Yr hyn sy'n anarferol am y Gymru Gymraeg o ran cyfleoedd i fynegi barn wleidyddol yn gyhoeddus ydi cyn lleied o bobl sy'n cael y cyfle i wneud hynny yn rheolaidd.  Mae gennym ni Dylan Iorwerth, Gwilym Owen a Leighton Andrews yn Golwg a Karen Owen ac Arthur Thomas yn Y Cymro.  Mae colofn Hywel Williams yn Y Cymro yn datgan barn wleidyddol, ond mae yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth San Steffan.

Gall hyn fod yn gryn broblem - does yna ddim llawer o amrywiaeth  o ran yr agweddau sy'n cael eu mynegi (er bod Dylan yn wahanol i'r lleill).  Mae saga diweddar yr iaith Gymraeg a'r dosbarth canol yn esiampl dda o hyn.  Chwi gofiwch i Karen Owen 'sgwennu erthygl faith yn y Cymro oedd yn honni bod y 'dosbarth canol' Cymraeg yn lladd yr iaith trwy yrru pobl dosbarth gweithiol oddi wrthi.  Yr hyn na wnaeth yn yr erthygl (na neithiwr yn Dan yr Wyneb o ran hynny) oedd cyflwyno mewath o dystiolaeth i gefnogi ei damcaniaeth.

Wnaeth hynny ddim atal Gwilym Owen ac Arthur Thomas rhag neidio i'r adwy i gytuno efo hi, ei chanmol am ei dewrder a'i safonau proffesiynol ac ati.  Ond wnaeth yr un o'r ddau ddarparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi damcaniaeth Karen chwaith.  Rydym eisoes wedi nodi bod y dystiolaeth ystadegol yn awgrymu' n gryf iawn bod y gwirionedd hollol groes i ganfyddiad y tri - sef bod y dosbarth gweithiol yn fwy tueddol i gadw ei Gymraeg mewn ardaloedd lle ceir dosbarth proffesiynol Cymraeg ei iaith nag yw mewn ardaloedd lle ceir llai o amrywiaeth o ran dosbarthiadau cymdeithasol.

Dydi'r  ffaith bod y ddamcaniaeth yn gwbl wallus ddim yn atal lled gonsensws rhag datblygu ym myd bach y colofnwyr Cymraeg ei bod yn ddamcaniaeth herfeiddiol a threiddgar nad oes gan neb ond y dywydedig golofnwyr Cymraeg y deallusrwydd i'w deall a'r dewrder i'w mynegi.  Ond y cwbl a geir mewn gwirionedd ydi tri pherson yn myllio yn erbyn pobl nad ydynt yn eu hoffi - swyddogion Cyngor Gwynedd, athrawon, capelwyr, pobl sy'n mynychu cymdeithasau Cymreig, pobl sydd ddim yn darllen Y Cymro, pobl sy'n troi i'r Saesneg ym mhresenoldeb Saeson, ysgolion Cymraeg, protestwyr iaith, pobl sy'n gweithio i fentrau iaith ac ati, ac ati, ac yn priodoli dirywiad y Gymraeg i'r bobl hynny.

Mewn gwirionedd  mae gennym ddealltwriaeth go dda  o'r  hyn sy'n bygwth yr iaith.  Ond petai haneswyr yn y dyfodol yn edrych ar y cyfryngau print Cymraeg yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth arall (nid bod hynny'n mynd i ddigwydd wrth gwrs) byddant yn dod i'r casgliad ein bod yn weddol ddi glem ac yn wir gwallgo.

Ar un olwg mae hyn oll yn eithaf di niwed, ond mae  agwedd digon sur i'r peth i gyd.  Mae argyfwng go iawn yn wynebu'r Gymraeg ac mae camau sy'n bwysig i ni eu cymryd i'w harbed.  Ar y gorau dydi cymylu'r dyfroedd efo nonsens a mymbo jymbo ddim o gymorth i ni gymryd y camau hynny.  Ar y gwaethaf mae defnyddio argyfwng y Gymraeg fel pastwn i golbio unigolion a grwpiau nad ydym yn eu hoffi yn beth digon anymunol i'w wneud. 

Monday, January 27, 2014

Polau heno a goblygiadau posibl i'r Alban

Mae yna ddau bol piniwn sydd wedi eu cyhoeddi heno sy'n awgrymu bod goruwchafiaeth hir Llafur yn y polau Prydeinig o dan cryn fygythiad.   Mae pol dyddiol YouGov yn awgrymu mai o 2% yn unig maent ar y blaen tra bod ComRes yn awgrymu bod pethau yn nes fyth.


Mae yna pob math o oblygiadau i newid o'r math yma yn y tirwedd etholiadol, ond yr un pwysicaf ydi'r hyn a allai ddigwydd yn yr Alban.  Does yna'r un rhan o'r DU mor wrth Doriaidd a'r Alban.  Petai'r rhagolygon ar gyfer etholiad cyffredinol 2015 yn awgrymu mai'r Toriaid ac nid Llafur fydd yn ennill, bydd mwy o bobl yn debygol o bleidleisio tros annibyniaeth.  



Sunday, January 26, 2014

Y pol annibyniaeth diweddaraf o'r Alban

Mae yna ddau eglurhad posibl am y pol ICM a gyhoeddwyd heddiw yn yr Alban  sy'n awgrymu y gallai'r farn ynglyn ag annibyniaeth fod yn llawer nes nag a awgrymwyd gan bolau blaenorol.  Gallai fod yn outrider - pol achlysurol sy'n ymddangos sy'n hollol wahanol i pob un arall.  Bydd hynny'n digwydd o bryd i'w gilydd ym myd polio.

Ond gall hefyd fod yn arwydd bod y farn gyhoeddus yn troi yn yr Alban yn sgil cyhoeddiad y Papur Gwyn ar annibyniaeth yn ddiweddar.  Mae yna hanes o newidiadau disymwth yn y farn gyhoeddus yn yr Alban.  Digwyddodd hynny ddiwethaf yn 2011 pan newidiodd y polau yn gyflym iawn oddi wrth Lafur a thuag at yr SNP gan sgubo'r blaid genedlaetholgar yn ol i rym yn Hollyrood.  Mae'r tabl isod o hynt y polau piniwn bryd hynny wedi ei 'ddwyn' o'r wefan betio wych politicalbetting.com.

Gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod yn rhai hynod ddiddorol.

Friday, January 24, 2014

Y papurau dyddiol Cymreig

Efallai bod y diwrnod pan benderfynodd y Daily Post roi'r gorau i ddosbarthu yn y De yn gystal cyfle a''r un i atgoffa ein hunain o cyn lleied o bobl sy'n darllen y papurau dyddiol Cymreig.  Rhestraf isod y cylchrediadau diweddaraf:

Wrexham Leader - 14,300
Western Mail - 23,720
Daily Post - 28,300
South Wales Argus - 19,700
South Wales Echo - 27,700
South Wales Evening Post - 33,500
Wales on Sunday - 23,400

Mae'r ffigyrau hyn yn anhygoel o isel mewn gwirionedd.  Mae yna 126 o bobl yng Nghymru am pob copi o'r Western Mail sy'n cael ei gynhyrchu yn ddyddiol.  Ymddengys bod y papur hwnnw yn ystyried ei hun yn bapur cenedlaethol i Gymru.

Ffigyrau oddi yma.

Thursday, January 23, 2014

Ynys Mon a Cowdenbeath

O gymharu ag is etholiad Ynys Mon ar gyfer y Cynulliad yn yr haf, mae is etholiad Cowdenbeath am sedd yn Senedd yr Alban yn ddigon diflas.  Doedd yna ddim hanesion am stitch up hen ffasiwn wrth i'r ymgeiswyr gael eu dewis, dydi mwyafrif i'r llywodraeth ddim yn ddibynol ar y canlyniad, does yna   neb enwog yn sefyll, does yna ddim ffrae fewnol mewn unrhyw blaid ynglyn a materion niwclear.

Serch hynny bydd y canlyniad yn cael ei ddarlledu yn fyw ar BBC yr Alban.  Wnaeth hynny ddim digwydd yng Nghymru yn achos is etholiad Ynys Mon.  Roedd rhaid i'r rhan fwyaf o'r sawl oedd am wybod y canlyniad yn sydyn ddefnyddio gwefannau cymdeithasol - er i wasanaeth newyddion 24 awr y Bib adrodd ar y canlyniad (ond gan gam ynghanu enw'r etholaeth ac enw'r enillydd).

Pam y gwahaniaeth?  Dydan ni ddim yn gwybod wrth gwrs - ond mi fyddwn i yn awgrymu bod yr ateb yn rhywbeth i'w wneud efo pwysigrwydd cymharol bywyd gwleidyddol yr Alban a Chymru i'r Bib.

Tuesday, January 21, 2014

Sylwadau ar gynlluniau'r Comisiwn Williams

Sylw neu ddau - gweddol ddi ffocws - sydd gen i ynglyn ag argymhellion Comisiwn Williams ar gyfer ail strwythuro llywodraeth leol yng Nghymru.

Gwynedd a Mon i ddechrau.  Mae yna gyfle a bygythiad o safbwynt y Gymraeg yma.  Byddai awdurdod efo polisi iaith Gwynedd (gweinyddiaeth mewnol yn y Gymraeg) yn gryn gam ymlaen o safbwynt Ynys Mon, ond byddai dilyn polisi iaith Mon (gweinyddu mewnol Saesneg i pob pwrpas) yn gam enfawr yn ol yng Ngwynedd.  Yr etholiadau cyntaf fydd yn ethol y bobl sy'n sefydlu polisi iaith y cyngor newydd.  Go brin y bydd y polisi  yn cael ei newid wedi iddo gael ei sefydlu, felly mae'n bwysig bod pobl sydd yn cymryd dyfodol y Gymraeg yn y Gogledd Orllewin o ddifri yn rheoli. Mae hanes diweddar yn awgrymu mai'r unig ffordd o wneud hynny ydi trwy ethol cyngor sy'n cael ei reoli gan Blaid Cymru.

Eto o safbwynt y Gymraeg yn y De Orllewin mae'r penderfyniad i gyfuno Penfro a Cheredigion yn drychinebus.  Roedd gobaith y byddai cyfuno Caerfyrddin a Cheredigion wedi agory ffordd i ethol cyngor a fyddai'n cynnal yr iaith yn hytrach na'r ddau gyngor presenol sydd yn hanesyddol wedi bod yn niweidiol iawn i'r iaith - yn arbennig felly Cyngor Caerfyrddin.  Bydd y trefniant newydd yn sicrhau mai cynghorwyr annibynnol o Sir Benfro fydd y dylanwad cryfaf ar y cyngor arfordirol newydd.  Er bod rhai unigolion o'r grwp yma wedi dangos cefnogaeth clodwiw i'r Gymraeg, mae'r grwp yn ei gyfanrwydd wedi bod yn ddi hid.

Yng Nghaerfyrddin mae'r grwpiau Annibynnol a Llafur yn ymylu at fod yn elyniaethus tuag at yr iaith.  Petai'r glymblaid yma yn colli grym gallai pethau wella, a byddai ymuno a Cheredigion wedi gwneud hynny'n haws.

Mae'r datblygiadau eraill yn y Gogledd - cyfuno Dinbych a Chonwy ar yr un llaw a Wrecsam a Fflint ar y llall yn ymddangos yn rhesymegol.  Dwi ddim mor siwr am gadw Powys fel ag y mae.  Y ddadl tros ail strwythuro ydi effeithlonrwydd ariannol - mae'n anodd eisoes i gyngor efo poblogaeth cymharol isel ond arwynebedd anferth ddarparu gwasanaethau mewn modd effeithiol.  Bydd rhaid i Bowys wynebu toriadau'r blynyddoedd nesaf heb yr arbedion fydd yn dod o uno.

Dwi ddim yn adnabod y De cystal a dwi'n 'nabod y Gogledd a'r Canolbarth, ond mae'n debyg gen i y bydd rhai ym Mro Morgannwg yn poeni am gael eu traflyncu i grombil awdurdod fydd a bron i hanner miliwn o boblogaeth.  Bydd yr un peth yn wir i raddau llai ym Merthyr - bydd yn cael ei lyncu gan gymydog poblog iawn - ond o leiaf mae'n gymdeithasegol debyg i RCT ac yn wynebu problemau tebyg.  Hyd y gallaf farnu mae'r datblygiadau eraill yn y De yn synhwyrol.

Mae'r ymarferiad o ail strwythuro yn rhoi cyfle i leihau'r nifer o gynghorwyr yn sylweddol.  Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr bod y rhan fwyaf o gynghorau Cymru efo mwy o aelodau na sydd yna o Aelodau Cynulliad.  Nid yw mabwysiadu trefn o ethol cynghorwyr trwy drefn STV efo wardiau aml aelod fel y gwneir yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban o dan ystyriaeth - ond dyna fyddai'r drefn fwyaf teg o ethol cynghorwyr.

Yn absenoldeb hynny dylid defnyddio trefn Caerdydd neu Ynys Mon - wardiau mawr aml aelod a threfn ethol cyntaf i'r felin.  Byddai hynny'n ei gwneud yn anos i bobl sy'n nabod pawb yn eu wardiau ond sydd a fawr ddim arall i'r gynnig gael eu hethol.  Dydi hyn ddim yn beth poblogaidd i'w ddweud - ond dylid talu mwy i gynghorwyr hefyd er mwyn gwneud y swydd yn atyniadol i amrediad ehangach o bobl.  Mae'n bryd i oes y gombin annibynnol ddod i ben. 

Saturday, January 18, 2014

Rant Karen Owen yn y Cymro - sylw neu ddau

Rhyw ymateb ydi'r isod i rant hirfaith Karen Owen yn Y Cymro oddi tan y teitl Ai snobyddiaeth sy'n lladd yr iaith.

Er gwaetha'r teitl mae'r erthygl yn crwydro i bob man gan gyfeirio at gyfarfod a gynhalwyd heddiw yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, ac yn beio dwyieithrwydd, ysgolion Cymraeg, cyflogau swyddogion Cyngor Gwynedd, mentrau iaith, ymgyrchwyr iaith ac ati.  Mae hefyd wrth gwrs yn beio'r dosbarth canol Cymraeg.  Ym mydysawd cyfochrog Karen mae 'ton ar ol ton' o ffrindiau Coleg Cymraeg eu hiaith yn cyrraedd trefi fel Caernarfon, Aberystwyth a Chaerfyrddin ac yn gorthrymu'u Cymry Cymraeg cynhenid dosbarth gweithiol.  Mae'r canfyddiad yma - gadewch i ni ei alw yn y thesis Gwilym Owen - yn gyfangwbl wallus.  Gadewch i ni edrych ar ffeithiau:


Mae'r hyn sy'n bygwth yr iaith ar lefel demograffaidd yn sylfaenol syml:

1). Mewnfudo o lefydd lle nad ydi pobl yn siarad y Gymraeg.
2). Cymry Cymraeg yn symud i fyw i Loegr.
3)  Pobl yn gwrthod trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant.

Mae'r ffigyrau gennym ar gyfer llawer o hyn - diolch i'r cyfrifiad:

  • Mae 27% o bobl Cymru wedi eu geni y tu allan i'r wlad gydag 20% yn ndod o Loegr.
  • Mae 500,000 obobl Lloegr efo hunaniaeth Gymreig, ac mae'n bosibl bod 150,000 o Gymry Cymraeg yn byw yno.
  • Er bod trosglwyddiad iaith yn gymharol dda at ei gilydd mae'r drosglwyddiad honno yn peri gofid mewn rhai llefydd - yn arbennig felly yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin a Gorllewin yr hen Sir Forgannwg - ardaloedd dosbarth gweithiol.  Ond mae trosglwyddiad iaith yng Ngwynedd yn rhyfeddol effeithiol - mae tua 69% o'r cohort 25 - 39 oed yn siarad yr iaith tra bod 73% o'r cohort 3 - 4 oed yn ei siarad.  Hynny yw mae'r cohort 3 - 4 yn fwy Cymraeg o ran iaith na chohort eu rhieni - a hynny'n annibynnol o ddylanwad y sector addysg.


O safbwynt cymdeithasegol gallwn ychwanegu thema ganolog sesiwn y bore 'ma yng Nghanolfan Uwchgwyrfai - ideoleg dwyieithrwydd a'r anghyfartaledd sydd ynghlwm a hynny.

Dydi'r ffaith bod yna ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn y Gymru Gymraeg (fel ym mron i pob man arall) ddim yn fygythiad i'r iaith - i'r gwrthwyneb.  Fel rydym wedi gweld mae'r bygythiadau i'r Gymraeg yn hawdd iawn i'w harenwi a dydyn nhw ddim oll i'w wneud efo dosbarth cymdeithasol. 

 Cyn bod Karen yn arenwi Caernarfon, Caerfyrddin ac Aberystwydd fel mannau lle mae'r hen bobl dosbarth canol drwg 'na yn gwneud cam a'r dosbarth gweithiol waeth i ni gyfeirio at y lleoedd hynny ddim. Dwi yn gyfarwydd iawn a Chaernarfon ond dydw i ddim mor gyfarwydd ag Aberystwyth a dydw i ddim yn gyfarwydd o gwbl a Chaerfyrddin.  Mae'n wir bod yna ddosbarth canol Cymraeg ei iaith sylweddol yng Nghaernarfon a'r pentrefi cyfagos, mae'r un peth yn wir ond i raddau llai o lawer yn ardal Aberystwyth - ond gyda'r gwahaniaeth bod y dosbarth canol Saesneg ei iaith yn fwy na'r un Cymraeg ei iaith yn yr ardal honno.  Dwi'n cymryd bod dosbarth canol Cymraeg ei iaith yng Nghaerfyrddin - ond eto byddwn yn betio bod yna ddosbarth canol Saesneg ei iaith llawer mwy yno.

Gadewch i ni edrych ar batrwm ieithyddol Caernarfon.  Mae mwyafrif  pobl dosbarth canol Caernarfon yn byw yng Ngogledd y dref - ward Menai.  Ychydig o dai cyngor sydd yn yr ward - ceir ardal o hen dai preifat canol tref yn Nhwthill ac mae'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cynnwys tai preifat drud.  Mae'r boblogaeth hefyd yn llawer hyn nag ydyw yng ngweddill y dref.  Mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yno yn uchel - 83.4%.


Ond uchel neu beidio, dyma'r ward lle mae'r Gymraeg wanaf yn y dref.  Mae'r iaith ar ei chryfaf yn ardal Peblig - 87.4%.  Mae mwyafrif llethol trigolion yr ward yma yn byw mewn tai cymunedol ar stad dai sylweddol Sgubor Goch - ward mwyaf difreintiedig y Gogledd Orllewin.  Wedyn daw Cadnant - 86.2%.  Mae'r rhan fwyaf o dai Cadnant ar stad dai cymunedol Maesincla.  Wedyn daw Seiont - 85.3%.  Seiont ydi'r ward mwyaf poblog yng Nghaernarfon ac mae'n fwy cymysg na'r lleill - ceir ardaloedd canol tref, ardaloedd gwledig, ardaloedd tlawd iawn a datblygiadau newydd ar gyrion y dref.  Mae rhai o strydoedd dosbarth gweithiol yr ward yma yn Gymreiciach o ran iaith nag unrhyw le arall yng Nghymru.

Mae yna ddosbarth canol mawr Cymraeg ei iaith yng Nghaernarfon - ac mae yna ddosbarth gweithiol Cymraeg ei iaith sylweddol hefyd.  Mae'r ddau yn cyd redeg.

Yn y cyfamser mae'r Gymraeg yn cyflym gilio yng nghymoedd Dwyrain Caerfyrddin a Gorllewin yr hen Sir Forgannwg.  Does yna ddim dosbarth canol mawr yn y llefydd yna mwy nag oes  yn y cymoedd sy'n bellach i'r Dwyrain - ardaloedd sydd wedi colli'r iaith un ar ol y llall - gan weithio o'r Dwyrain i'r Gorllewin - tros y ganrif ddiwethaf.

Ym mydysawd cyfochrog Karen mae yna lawer iawn o Gymry Cymraeg anllythrenog ac unieithog ym Methesda, Ffestiniog (dwi'n cymryd mai cyfeirio at y Blaenau mae hi), Dyffryn Nantlle, Dyffryn Aman a Chaergybi sydd yn bobl bwysig iawn, ond sydd ddim yn cael dweud eu dweud.  Mae'r canrannau sy'n siarad yr iaith yn uchel yn yr ardaloedd llechi, ond mae'n isel yng Nghaergybi ac mae'n syrthio fel carreg yn Nyffryn Aman.  Does yna ddim dosbarth canol gwerth son amdano yn nhref Caergybi - mae'r Gymraeg wedi cilio yno oherwydd na throsglwyddwyd yr iaith gan drigolion ardaloedd dosbarth gweithiol fel Morawelon ddwy genhedlaeth yn ol.  Dim oll i'w wneud efo dylanwad pobl dosbarth canol Cymraeg eu hiaith.

Ond fel y gwelsom ynghynt -  lle ceir dosbarth canol Cymraeg ei iaith yn y rhan fwyaf o Wynedd mae'r trosglwyddiad iaith yn  effeithiol.  Mae'r rheswm am hynny i'w ganfod yn y rhesymau am y dirywiad sylweddol yn y Gymraeg yng Nghymoedd y De ac mewn ardaloedd fel Caergybi.  Ni throsglwyddwyd yr iaith oherwydd ei bod yn cael ei chysylltu efo tlodi, ac yn cael ei gweld fel rhywbeth oedd yn 'dal pobl yn ol' yn economaidd.  Lle roedd statws cymdeithasol yr iaith yn uwch, a lle nad oedd gwrthdaro rhwng siarad y Gymraeg a bod eisiau gwella statws economaidd personol nid oedd yna gymhelliad i beidio a throsglwyddo'r iaith.  Canfyddiad bod siarad y Gymraeg yn gysylltiedig a chynyddu cyfleoedd yn y farchnad waith ydi un o'r ffactorau sy'n gyrru'r adfywiad yn hanes y Gymraeg yn rhannau o'r De Ddwyrain ar hyn o bryd.

Mae ceisio trosglwyddo tynged yr iaith i fframwaith deallusol y Chwith hen ffasiwn - gweld pob problem gymdeithasol yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio mewn gwleidyddiaeth dosbarth cymdeithasol - yn ffordd gyfangwbl gyfeiliornus o ddeall yr hyn sy'n bygwth y Gymraeg. Mae hefyd yn ganfyddiad a fyddai - petai pobl yn ei chymryd o ddifri - yn gryn fygythiad ynddi ei hun i ddyfodol yr iaith.





Tuesday, January 14, 2014

Ydi Carwyn Jones yn credu ei stori ei hun ynglyn a doctoriaid cyflenwi?


Mae'r defnydd o ddoctoriaid cyflenwi mewn adrannau damweiniau yn fater cynhenus yng Nghymru a Lloegr oherwydd ei fod yn ddull costus o gynnig gofal brys.  Mae'n debyg hefyd bod mwy o risg i'r claf ynghlwm efo'r arder.  Pan ofynwyd i Carwyn Jones yn ddiweddar am y defnydd o ddoctoriaid llanw mewn adrannau damweiniau, dyma oedd ei ateb.  

When it comes to locums, the NHS in Wales has relied on locums probably for many, many, many years. Many of those locums are very effective. Many of them are people who don’t want permanent positions. For various reasons they don’t want to work full time, but they are still exceptionally effective as A&E specialists. So to suggest somehow that locums in some way are second-class doctors is certainly not the case. That’s not the way that A&E specialists have presented this to me.

Pan ofynwyd yr un cwestiwn y bore 'ma i Andy Burnham  ar Today - gweinidog iechyd cysgodol y Blaid Lafur yn San Steffan dyma beth oedd ei ymateb.

My diagnosis is that the full consequences of the government's reorganisation of the NHS are now being felt.  Three years ago, the government was explicitly warned about this problem by the College of Emergency Medicine, but they have described feeling like John the Baptist in the wilderness. The government simply was not listening because it was completely focused – obsessed, in fact – on its reorganisation.

Rwan does yna ddim byd o'i le mewn sefyllfa lle mae'r Blaid Lafur yng Nghymru yn anghytuno efo'r Blaid Lafur yn Llundain wrth reswm.  Ond cyn bod y mater yn un hynod bwysig byddai'n ddiddorol gwybod os ydi Carwyn Jones wedi gwneud ymdrech i argyhoeddi   Burnham ei fod ar gyfeiliorn.  Os nad yw wedi gwneud hynny gallwn gymryd nad ydi Carwyn Jones yn credu'r hyn mae o ei hun yn ei ddweud ynglyn a'r mater.

Sunday, January 12, 2014

Pwy ydi cwmni mwyaf rhagfarnllyd y DU?

Mae'n ymddangos bod yna gystadleuaeth chwyrn rhwng Morrisons Bangor a chwmni tacsis Hampden yn Glasgow am y teitl o fusnes mwyaf rhagfarnllyd y DU.  Dwi ddim yn siwr pa un fydd yn cael fy mhleidlais i.  

Saturday, January 11, 2014

Newidiadau arfaethedig y Comisiwn Etholiadol

Dwi'n meddwl ein bod wedi trafod hyn o'r blaen - ond efallai nad ydi hi'n syniad drwg i wneud hynny eto.  Cyfeirio ydw i at gynlluniau'r Comisiwn Etholiadol i orfodi pleidleiswyr i ddod a dogfennau adnabod i'r orsaf bleidleisio.  Mae hyn yn ychwanegol at gamau eraill i orfodi pawb i gofrestru yn annibynnol yn hytrach na chaniatau i un person gofrestru pawb sy'n byw mewn ty.  Y rheswm am yr ymyraeth yma ydi bod y Comisiwn eisiau atal twyll etholiadol - nid bod yna lawer iawn o dwyll etholiadol yn y DU.

Mae'r camau hyn eisoes wedi eu cymryd mewn rhan o'r DU - yng Ngogledd Iwerddon.  Y rheswm bryd hynny oedd twf ym mhleidlais y pleidiau 'eithafol' - y DUP a Sinn Fein.  Roedd y Comisiwn o'r farn mai un eglurhad am hyn oedd twyll etholiadol - er nad oedd yna ddim tystiolaeth bron o dwyll etholiadol bryd hynny chwaith.  Arweiniodd y newid yn y rheolau cofrestru at gwymp sylweddol yn y nifer o bobl oedd wedi eu cofrestru i bleidleisio - ac roedd y cwymp hwnnw yn fwy amlwg mewn wardiau Pabyddol, mewn wardiau tlawd ac mewn wardiau trefol.

Y disgwyl oedd y byddai hyn yn arwain at gwymp ym mhleidlais y PUP, y DUP ac yn arbennig SinnFein.  Ond nid dyna ddigwyddodd - y pleidiau 'cymhedrol' a welodd canran eu pleidlais yn syrthio trwy'r llawr, tra bod canrannau SF a'r DUP wedi cynyddu'n sylweddol.  Dydan ni ddim yn siwr pam ddigwyddodd hyn - ond y rheswm mwyaf tebygol ydi bod gwell trefniadaeth mewnol a mwy o aelodau o lawer gan y pleidiau 'eithafol'.  Felly roeddynt mewn gwell sefyllfa i adnabod eu cefnogwyr a thrwy hynny sicrhau eu bod yn cofrestru yn briodol ac yn mynd a'r dogfennau angenrheidiol i'r orsaf bleidleisio.  The Law of Unforseen Consequences ydi'r term Saesneg.

Mae'n ddigon posibl y bydd hanes yn ail adrodd ei hun ac y bydd yna ganlyniadau sydd heb eu rhagweld yng ngweddill y DU hefyd.


Tuesday, January 07, 2014

Pleidleisiau gweithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru - etholaethau ymylol

Un o'r pethau diddorol i godi yn y pol Michael Ashcroft diweddar ydi'r ffaith bod nifer fawr o weithwyr sector cyhoeddus wedi troi eu cefnau ar bleidiau'r Gynghrair.  Dwi'n rhestru isod rhai etholaethau Toriaidd neu Lib Dems sydd a mwyafrifoedd bach, ond llawer o weithwyr sector cyhoeddus yn byw ynddynt.  Mwyafrif yn gyntaf, gweithwyr sector cyhoeddus yn ail:

Gogledd Caerdydd 194 / 22,500
Trefaldwyn 1,184 / 6,000
De Penfro / Gorll Caerfyrddin 3,423 / 12,200
Brycheiniog a Maesyfed 3,747 / 9,600
Bro Morgannwg 4,307 / 7,700
Aberconwy 3,398 / 5,800
Canol Caerdydd 4,576 / 19,200

Mi fydd canfyddiadau pol Ashcroft yn peri cryn ofid  i aelodau seneddol pob un o'r etholaethau uchod ag eithrio Glyn Davies ym Maldwyn - mae'r exodus gweithwyr cyhoeddus yn fwy niweidiol i'r Lib Dems nag i'r Toriaid.

Data o Left Foot Forward


Monday, January 06, 2014

Lleoliad yr wardiau 70%+


Dwi wedi cymryd y daenlen uchod o bwt o gyflwyniad rhoddais at ei gilydd sy'n ymdrin a daearyddiaeth y Gymru Gymraeg.  Rhestr yw o'r wardiau sydd a mwy na 70% yn siarad y Gymraeg, wedi eu gosod yn eu trefn, gan gychwyn efo Llanrug a gorffen efo Gwyngyll.

Rwan does yna ddim byd newydd am y ffigyrau, ond 'dwi wedi  lliwio enwau'r wardiau yn unol a'u lleoliad daearyddol - Arfon coch, Dwyfor gwyn, Mon melyn, Meirion glas, Conwy melyn tywyll. Yr hyn sy'n ddiddorol ydi cymharu efo ffigyrau mwy cyffredinol o siroedd / rhanbarthau'r Gogledd Orllewin.  O ystyried y rheiny byddai rhywun yn credu bod y Gymraeg mewn gwell lle yn Nwyfor nag yn unman arall.


Efallai bod hynny'n wir ar un olwg - ond does yna ddim llawer o'r wardiau 80%+ yn y rhanbarth - Dwyrain Porthmadog.  Mae'r gweddill i gyd yn Arfon neu ar Ynys Mon.  Mae hefyd yn drawiadol bod nifer o wardiau 70%+ Dwyfor yn isel eu poblogaeth gyda Chlynnog, Tudweiliog, Aberdaron a Botwnnog efo llai na 1,000 o boblogaeth.  Y broblem efo hynny ydi eu bod yn fwy bregus na wardiau gyda phoblogaeth uwch oherwydd y gallai symudiadau poblogaeth gweddol fach achosi newid canrannol sylweddol.

Gall ffigyrau manwl ddweud stori wahanol i ffigyrau cyffredinol weithiau.

Sunday, January 05, 2014

Caredigion y Gymraeg sydd ddim yn ei throsglwyddo i'w plant

Rhyw ddilyn sgwrs ar Trydar oeddwn i neithiwr am y ffaith i Wyn Roberts – dyn sy’n cael ei glodfori fel rhywun a wnaeth lawer i hyrwyddo’r Gymraeg – fethu a throsglwyddo’r iaith i’w blant ei hun, a hynny er gwaethaf y ffaith ei fod ef a’i wraig yn siaradwyr rhugl.  

Dydi’r math yma o beth ddim mor anghyffredin a hynny – dwi ddim yn gwybod os y dylid poeni nad ydi’r gweinidog sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn gallu dwyn perswad ar ei blant ei hun i ddefnyddio’r Gymraeg – er a bod yn deg a Charwyn Jones mae’n eu hanfon i ysgol Gymraeg.  Wnaeth ei gyn fos – Rhodri Morgan – ddim trosglwyddo’r iaith i’w epil ei hun, pan oeddynt yn blant o leiaf er ei fod yn fab i’r Athro T J Morgan.  Mae rhywun yn cymryd nad y Gymraeg ydi mamiaith ei arch elyn o fewn y Blaid Lafur – Alun Michael  - ond aeth hwnnw ati i sicrhau bod ei blant yn siarad y Gymraeg.  

Mark Drakeford oedd olynydd Rhodri Morgan fel AC Gorllewin Caerdydd – mae Mark yn siarad y Gymraeg ac yn ymddiddori mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ond fyddech chi byth yn credu hynny o siarad a’i ferch.  Penderfynodd y Bib ddilyn pedwar ymgeisydd Aberconwy yn ystod Etholiad Cyffredinol 2005 ond roedd un yn llawer llai rhugl ei Gymraeg na’r disgwyl – Gareth Roberts, mab yr Arglwydd Roberts.  Doedd yna fawr neb mwy di flewyn ar dafod yn ei gefnogaeth o’r Gymraeg na’r bardd Saesneg RS Thomas, ond doedd y gefnogaeth ddim yn ymestyn i drosglwyddo’r Gymraeg i’w fab.  Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen.

Rwan fyddwn i ddim yn disgrifio’r un o’r uchod fel pobl sy’n wrthwynebus i’r Gymraeg  - mae nifer ohonynt wedi gwneud cryn dipyn o waith i gynnal yr iaith yn eu bywydau cyhoeddus - ond eto maen nhw i gyd (oni bai am Alun Michael a Carwyn o bosibl) wedi gweithredu yn eu bywydau preifat mewn modd hynod niweidiol i'r iaith.  Petai pawb yn dilyn eu hesiampl byddai'r iaith yn farw gelain.  

Felly beth ydi'r eglurhad am yr ymddygiad anghyson yma?  Mae'n debyg y byddech yn cael ateb gwahanol gan pob un ohonynt petaech yn holi - ond efallai bod yr ateb yr un peth ar eu cyfer nhw i gyd mewn gwirionedd.  Pan rydym yn gweld rhywbeth fel cysyniad haniaethol ond ddim yn ei fyw gall y cysyniad fod yn bwysig i ni ond mewn ffordd sydd ddim yn treiddio'n bywydau mewn gwirionedd.  Nid cysyniad haniaethol ydi iaith - mae'n rhywbeth sy'n rhan o'n byw a'n bod.  Os nad ydym yn ei defnyddio yn ein bywydau pob dydd gall droi'n gysyniad - yn rhywbeth i'w chefnogi - ond ddim i'w chefnogi yn y ffordd bwysicaf un.  Dydi o ddim ots pa mor gefnogol ydym i'r iaith rydym yn negyddu'r gefnogaeth honno os nad ydym yn ei defnyddio a'i byw.





Thursday, January 02, 2014

Efa Gruffudd Jones MBE - ambell i sylw.

Mi geisiwn ni wneud hyn mewn ffordd - ahem - mor addfwyn a phosibl.  Roedd Efa Gruffudd Jones yn anghywir i dderbyn MBE gan y sefydliad Prydeinig.  Wna i ddim dadlau nad oedd ganddi hi hawl i dderbyn yr 'anhrydedd' na bod rhywbeth yn anfoesol am ei dderbyn, na'i bod yn bradychu unrhyw beth - materion goddrychol ydi'r rheini - efallai bod agweddau gwleidyddol gwaelodol Ms Jones yn wahanol i fy rhai fi, ac mae ganddi cymaint o hawl i'w barn wleidyddol a sydd gen i.  Mi wna i ddadlau serch hynny bod yr hyn a wnaeth - ag ystyried ei gwaith a'r rhesymau pam y cafodd yr 'anhrydedd' - yn rhyfeddol o ansensitif.  Y rheswm am hyn ydi bod yr hyn ddigwyddodd yn syrthio i batrwm lle mae ffrwd wleidyddol leiafrifol yn cael ei hymylu a'i hynysu.  Fel mae'n digwydd 'dwi'n cael fy hun yn rhan o'r ffrwd honno, ac fel mae'n digwydd mae llawer o bobl eraill sy'n uniaethu efo'r mudiad mae Ms Jones yn brif weithredwr arno yn perthyn i'r traddodiad hwnnw.

Mae 'anrhydeddau' y sefydliad Prydeinig yn rhan o rwydwaith o symbolau, naratifau a chredoau sydd yn cynnal y cysyniad o Brydeindod.  Dydi o ddim ots wrth gwrs bod y symbolau a chredoau sydd wrth wraidd Prydeindod yn nonsens llwyr - mai'r ffordd orau o ddewis pen i'r wladwriaeth ydi dewis rhywun o deulu Almaeneg penodol sydd wedi eu claddu o dan fynydd o bres  cyhoeddus, clymu un sect crefyddol i'r wladwriaeth, creu heiorarchiaeth lled ffiwdal o farchogion, arglwyddi, ieirll, barwnau, dugesau ac yn fwy diweddar MBEs ac OBEs..  Dydi o ddim ots chwaith bod llawer o symboliaeth Prydeindod yn sentimentaleiddio a mawrygu ymerodraeth a achosodd fwy o ddioddefaint dynol na bron i unrhyw sefydliad arall yn hanes dynoliaeth.

Mae'r llwyth yma o mymbo jymbo cyntefig yn cael ei ystyried yn normalrwydd gwrthrychol gan y cyfryngau torfol a dyna pam bod y BBC Cymru,y Western Mail ac ati yn ffrwydro mewn llawenydd ecstatig pan mae yna benblwydd neu enedigaeth brenhinol.  Maen nhw'n credu eu straeon tylwyth teg eu hunain, ac yn cymryd yn ganiataol bod pawb arall yn eu credu nhw hefyd.  Neu o leiaf does ganddyn nhw ddim mymryn o ots am ddaliadau y sawl nad ydynt  yn eu credu - caiff rheiny eu hanwybyddu yn llwyr.

Rwan dydi pawb yn y DU ddim yn credu'r stwff yma wrth gwrs.  Ychydig iawn o bolio fydd yn digwydd, ond mae'n fwy na thebyg bod agweddau tuag at y frenhiniaeth a sefydliadau Prydeinig yn gyffredinol yn amrywio - maen nhw'n fwy poblogaidd pam mae yna ymgyrch gyfryngol i'w poblogeiddio.  Mae elfennau o'r Chwith wedi tueddu i gael problemau efo mytholeg Prydeindod, ond lleiafrif ydynt yn nheulu'r Chwith.  Ond mae'r diwylliant gwleidyddol unoliaethol yn gefnogol, a dydi'r Blaid Lafur ddim yn eithriad.  Mae'r setliad sy'n dal y Blaid Lafur at ei gilydd yn sicrhau bod elfennau gwrthnysig y Chwith yn cadw'n dawel am faterion cyfansoddiadol.

Mae'r ffrwd honno yn bodoli yng Nghymru wrth gwrs - mae yna draddodiad Chwith gwrth sefydliadol yng Nghymru.  Ond mae yna draddodiad rhyddfrydig Gymreig gwrth sefydliadol yn bodoli hefyd - a'r Mudiad Cenedlaethol ydi etifedd y traddodiad hwnnw y dwthwn hwn.  Mae naratif wleidyddol y Mudiad hwnnw yn wahanol i un y traddodiadau unoliaethol, mae'r mytholegau a'r symbolau mae'n ymgysylltu a nhw hefyd yn wahanol.  Yn wir mae yna elfen o zero sum game yn perthyn i wleidyddiaeth Cymru - mae naratifau a symbolau unoliaethol a rhai cenedlaetholgar yn tynnu'n groes i'w gilydd.  Mae coleddu symbolau un traddodiad yn awgrymu gwrthod rhai'r llall.

Dydi'r Bib a'r cyfryngau yn ehangach ddim yn trafferthu cydnabod bodolaeth y traddodiad amgen hwn wrth gwrs - mae digwyddiadau Prydeinig / Brenhinol yn cael eu trin fel pe na bai unrhyw anghytundeb o gwbl ynglyn a'u priodoldeb.  Mi'r ydan ni'n disgwyl hynny - sefydiadau Prydeinig ydyn nhw wedi'r cwbl.  Ond dydan ni ddim yn disgwyl i'r Urdd geisio ein sgubo ni o dan y carped.  Mae penderfyniad Ms Jones yn creu'r argraff nad ydi'r Urdd yn deall bod yna draddodiad gwleidyddol ac ideolegol gwahanol yng Nghymru, neu o leiaf bod yr Urdd yn derbyn ei fod yn draddodiad y gellir ei anwybyddu - yn union fel y BBC.  Mae'n rhoi'r argraff ei bod yn gweld yr ideoleg sy'n rhoi bodolaeth iddi hi ei hun yn israddol.

A bod yn deg efo Ms Jones, mae hi mewn cwmni da - mae cenedlaetholwyr  Cymreig wedi bod a thueddiad i blygu i Brydeindod a neidio'n ddiolchgar ar unrhyw beth a deflir i'w cyfeiriad ers ffurfio'r Mudiad Cenedlaethol - a chyn hynny.  Diffygion yn natur sylfaenol y syniadaeth genedlaetholgar sydd wrth wraidd hyn - rhywbeth sydd wedi ei drafod ar y blog yma yn y gorffennol sawl gwaith - yma er enghraifft.


Wednesday, January 01, 2014

Mae'n flwyddyn Newydd Dda i Alun Cairns o leiaf

Alun Cairns (@AlunCairns)
Llongyfarchiadau I Efa @Yr_Urdd am dderbyn MBE wrth y Frenhines. Falch I weld y Cymry Cymraeg yn dod yn rhan o'r sefydliad Prydeinig!